Trosolwg o'r Cynllun
Os oes gennych chi dros ddwy flynedd o brofiad addysgu ym maes Addysg Uwch, gallwch ennill Cymrodoriaeth yr AAU a chydnabyddiaeth o'ch arbenigedd addysgu o dan Gynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Prifysgol Bangor. Mae'r cynllun hwn fel arfer ar gyfer darlithwyr profiadol sy'n gallu bodloni holl feini prawf Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU. Dyma lwybr annibynnol i achrediad gyda sesiynau cymorth un-i-un wythnosol ar gael. Gellir ymgeisio yng nghanol mis Mehefin a chanol mis Rhagfyr.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos:
- eu profiad mewn gwahanol feysydd o weithgaredd addysgu
- gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu a dysgu
- ymrwymiad i werthoedd proffesiynol academydd addysgu ym maes addysg uwch
Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch
Mae ennill Cymrodoriaeth yr AAU yn dangos eich bod yn gymwys i addysgu ym maes Addysg Uwch a'ch ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol. Mae hon yn wobr addysgu hynod uchel ei pharch a gydnabyddir yn genedlaethol, ac mae Prifysgol Bangor wedi'i hachredu gan Advance HE i ddyfarnu Cymrodoriaethau’r AAU i aelodau staff a myfyrwyr PHD. Mae pedwar categori o Gymrodoriaeth AAU yn dibynnu ar ba mor brofiadol ydych chi:
- Cymrawd Cyswllt: Yn addas ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â rhai cyfrifoldebau addysgu, fel myfyrwyr PhD neu ymchwilwyr ôl-ddoethurol; y rhai sy'n newydd i addysgu ym maes addysg uwch gyda phortffolio cyfyngedig; neu staff cymorth fel llyfrgellwyr neu dechnegwyr sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb addysgu.
- Cymrawd: Yn addas ar gyfer academyddion ar ddechrau eu gyrfa; y rhai mewn swyddi cymorth academaidd gyda chyfrifoldebau addysgu sylweddol; academyddion profiadol sy'n newydd i addysg uwch; neu addysgwyr yn y gweithle.
- Uwch Gymrawd: Yn addas ar gyfer academyddion profiadol sy'n arwain ar drefnu rhaglenni dysgu; y rheini sy’n brofiadol yn mentora athrawon newydd neu faes pwnc; neu staff profiadol sydd â chyfrifoldebau addysgu.
- Prif Gymrawd: Yn addas ar gyfer academyddion profiadol iawn mewn swyddi arweinyddiaeth strategol; llunwyr polisi addysg; uwch staff y mae eu heffaith strategol yn ymestyn y tu hwnt i'w sefydliad eu hunain.
Dysgwch Fwy
Os hoffech ddysgu mwy am y Cynllun Cydnabod DPP neu os oes gennych ddiddordeb cyflwyno cais, e-bostiwch celt@bangor.ac.uk i fynegi diddordeb. Cewch eich ychwanegu at safle Blackboard Cymrodoriaethau'r AAU, ble gallwch weld gwybodaeth ychwanegol ynghylch gwneud cais am Gymrodoriaeth yr AAU trwy'r Cynllun Cydnabod DPP, gan gynnwys llawlyfr y Cynllun, arweiniad a ffurflenni cais. Mae'r safle’n cynnwys cyhoeddiadau am ddyddiadau cau'r ceisiadau a dyddiadau'r sesiynau cymorth un i un wythnosol yn ystod y tymor, sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan Dr Caroline Bowman. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl edrych ar safle Blackboard neu os hoffech wneud cais am Gymrodoriaeth yr AAU drwy’r Cynllun Cydnabod DPP, cysylltwch â’r Athro Caroline Bowman.
Adborth gan Gyfranogwyr
Dr James Waggitt, Ysgol Gwyddorau Eigion, Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Dyfarnwyd cymrodoriaeth yr AAU imi’n gynharach eleni. Ymunais â Phrifysgol Bangor fel swyddog ymchwil yn 2015. Symudais ymlaen at ddarlithyddiaeth am gyfnod penodol yn 2017, ac yna at ddarlithyddiaeth lawn amser yn 2019. Ers imi ddechrau dysgu, datblygais ddulliau y dylanwadodd syniadau ac arddulliau personol arnynt, yn ogystal ag adborth ac awgrymiadau ar y cyd gan gydweithwyr a chyfoedion yn y brifysgol. Dros y 6 blynedd diwethaf, bûm yn ddigon ffodus i dderbyn cyngor gan gydweithwyr mwy profiadol ac arsylwi’r cydweithwyr hynny yn y dosbarth ac yn y maes. Credaf ei bod yn hanfodol deall dulliau ac athroniaethau amrywiol.
Mae’n fodd datblygu arddull unigryw sy'n manteisio ar eich cryfderau a'ch brwdfrydedd, ond sydd hefyd yn cydnabod y datblygiadau a'r cynnydd a wnaed gan eraill. Mae fy ymchwil gwyddonol yn canolbwyntio ar waith maes, a datblygu cwestiynau a damcaniaethau’n seiliedig ar fy arsylwadau. Rwy'n cynllunio sesiwn addysgu ar sail y cysyniadau craidd hynny, gan annog myfyrwyr i wylio anifeiliaid in- situ, a meddwl ynglŷn ag ymateb anifeiliaid i'r amgylchedd. Rwy'n gobeithio y bydd y dulliau hynny’n fodd datblygu chwilfrydedd ac archwilio unigol. Rwyf hefyd yn gobeithio y byddaf yn dangos sut mae diwallu diddordebau unigol trwy archwilio’r arfordiroedd, canfod safleoedd astudio, casglu setiau data, ateb cwestiynau, a rhoi prawf ar ddamcaniaethau. Rwy'n gobeithio y bydd fy mrwdfrydedd yn annog myfyrwyr Prifysgol Bangor i ddilyn gyrfaoedd sy'n rhoi mwynhad a boddhad personol iddynt.
Dr Edward Jones, Ysgol Busnes Bangor, Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
Rwyf bob amser yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu’n broffesiynol, a bûm yn awyddus i wneud hynny’n benodol yn y byd academaidd. Bûm yn siarad â chydweithwyr amrywiol, mi wnes i fy ymchwil fy hun, a phenderfynais mai gwneud cais am Uwch Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (SFHEA) oedd y cam rhesymegol nesaf imi. Byddai’n fodd imi dyfu fel gweithiwr proffesiynol, a byddai hefyd yn fy ngalluogi i feincnodi fy ymarfer yn ôl y safonau proffesiynol.
Bu proses ymgeisio SFHEA yn gyfle imi adfyfyrio ar fy addysgu a'r gwahanol rolau sydd gennyf yn yr Ysgol Busnes, ystyried yr hyn a gyflawnais a meddwl sut i fynd gam ymhellach. Roedd y broses ymgeisio’n un heriol. Fodd bynnag, trwy’r gefnogaeth a gefais gan gydweithwyr ledled y Brifysgol deallais yr hyn yr oedd ei angen a bu’n fodd imi lwyddo yn fy nghais cyntaf. fynd drwy’r broses o ysgrifennu’r cais cefais adfyfyrio ar fy nhaith broffesiynol. Bu ysgrifennu’r cais yn ddisgyblaeth imi, a gwnaeth imi sylweddoli pa mor bell a ddeuthum i ddeall addysgu a dysgu. Rhoddodd well dealltwriaeth imi hefyd o effaith fy ngwaith ar gydweithwyr a myfyrwyr.
Rhoddodd SFHEA yr hyder imi yn yr hyn y gallaf ei gyflawni a newidiodd fy agwedd hefyd at rai elfennau o'm gwaith. Rwyf bellach yn fwy ymwybodol o'r angen i adfyfyrio ac asesu'n feirniadol yr hyn rwy'n ei wneud. Bu’n gyfle da, er yn heriol, i adfyfyrio’n feirniadol a chynllunio’r camau nesaf, a byddwn yn ei gymeradwyo’n fawr i bawb yn y Brifysgol. Wrth imi ddod drwy'r broses teimlwn ei fod yn brofiad gwirioneddol gwerth chweil ac nid yn unig o ran cyrraedd y nod.
Dr Gemma Griffith, Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
“Rwyf wrth fy modd o ennill cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Ar yr olwg gyntaf, mae llenwi ffurflen gais hir a dwyn ynghyd eich addysgu a'ch ymarfer proffesiynol yn dasg frawychus. Fodd bynnag, erbyn diwedd y cyfnod syndod imi oedd gweld sut y caniataodd proses ymgeisio PFHEA imi adfyfyrio am fy ngwaith mewn ffordd na wneuthum o’r blaen. Bu’n fodd imi weld faint o fy ngwaith sy'n cyd-daro â phwnc iechyd a lles. Mae bod yn Gyfarwyddwr y radd Meistr mewn Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi fy arwain i a’r tîm i ddatblygu addysgeg o ran y ffordd orau o hyfforddi athrawon yr ymwybyddiaeth ofalgar, gan gynnwys model y grŵp tu chwith allan, offeryn ymarfer myfyriol o'r enw MBI: TLC, a dau lyfr diweddar o'r enw 'Essential Resources for Mindfulness Teachers’ and ‘Teaching Mindfulness-Based groups: Y model tu chwith allan'. Roedd yn cynnwys hefyd fy rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Iechyd a Lles yn 2020-2022 – bu’r swydd honno’n fodd imi fod yn rhan o dîm iechyd a lles gwych a gweithredu mentrau i’r brifysgol gyfan megis hyrwyddwyr lles y staff.
“Astudiais Seicoleg am y tro cyntaf yn 2004 gyda'r gobaith y byddwn i ryw ddydd yn gallu sicrhau effaith gadarnhaol. Bu’r PFHEA yn fodd imi bwyso a mesur y bwriad gwreiddiol hwnnw, a bu’n help imi weld yn glir sut mae’r addysgu a’r ymchwil a wnawn yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymarfer yr Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ymledu ymhell y tu hwnt i Fangor.