Cyrsiau iaith Tsieinëeg ar-lein
HSK1 Gwybodaeth am y Cwrs Mandarin
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin i ddechreuwyr ar lefel HSK1 trwy Zoom. Mae’r cwrs wedi ei deilwra i ddechreuwyr pur ac mae wedi ei rannu'n ddwy ran: Rhan A a Rhan B, sy’n para deg wythnos yr un. Gall cyfranogwyr ddewis cofrestru yn y naill adran neu'r llall, gan ddarparu ar gyfer pobl sydd eisiau cwblhau hanner y cwrs yn unig.
Ffi ar gyfer Rhan A a B: £60
HSK 1 Rhan A
Sesiynau: Dydd Mawrth 10 x 1 awr yr un o 6 tan 7 pm
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024
Dyddiad gorffen: 3 Rhagfyr 2023
Rhagofynion: Dim
Ffi: £30
HSK 1 Rhan B
Sesiynau: Dydd Mawrth 10 x 1 awr yr un o 6 tan 7 pm
Dyddiad dechrau: 14 Ionawr 2025
Dyddiad gorffen: 18 Mawrth 2025
Rhagofynion: HSK 1 Rhan A
Ffi: £30
Treial am ddim: Dechreuwch gydag wythnos gyntaf am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol.
Disgrifiad o'r Cwrs: Mae'r cwrs Mandarin hwn wedi'i deilwra ar gyfer dechreuwyr sy'n awyddus i feithrin sgiliau sgwrsio bob dydd sylfaenol ac ymgyfarwyddo â llythrennau Tsieineaidd sylfaenol. Mae’r cwricwlwm cynhwysfawr yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys cyfarchion, rhifau, cyflwyniadau, cenedligrwydd, proffesiynau, amserlenni dyddiol a gwaith, hoff a chas bethau, archebu bwyd a diod syml, teulu, tywydd a thymhorau, siopa, dulliau teithio, a mwy. Bydd ein tiwtor ymroddedig yn rhoi pwyslais ar fireinio galluoedd siarad a gwrando ac arwain myfyrwyr i adnabod llythrennau Tsieineaidd sylfaenol ar yr un pryd. Erbyn diwedd y cwrs, bydd dysgwyr wedi cael eu paratoi i gyfathrebu'n effeithiol mewn Mandarin ac ymdrin ag amrywiol sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, rydym yn rhagweld y bydd myfyrwyr wedi ennill y sgiliau angenrheidiol i roi cynnig ar Arholiad HSK 1 yn hyderus. Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cadw i fyny'n effeithiol â deunydd y cwrs, rydym yn argymell yn gryf neilltuo lleiafswm o 2 awr i astudio'n annibynnol bob wythnos. Bydd yr ymrwymiad hwn i ddysgu'n annibynnol yn hanfodol i lwyddiant myfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen tuag at gyflawni eu nodau hyfedredd iaith.
Deilliannau dysgu: Disgwylir i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â 178 o lythrennau a dysgu 150 o eiriau Tsieineaidd a ddefnyddir mewn cyd-destunau bob dydd.
Deunyddiau dysgu: Mae ein hyfforddwr wedi rhoi'r holl ddeunyddiau addysgu at ei gilydd yn ofalus iawn, gan ddefnyddio llyfr HSK 1 a ffynonellau atodol eraill. Gellwch fod yn dawel eich meddwl; bydd deunyddiau dysgu cynhwysfawr yn cael eu darparu i fyfyrwyr drwy gydol y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ôl cyflwyno'r ffurflen gofrestru (a ddarperir isod), bydd eich tiwtor cwrs dynodedig yn cysylltu â chi'n brydlon ac yn darparu dolen cyfarfod Zoom ar gyfer eich gwersi sydd i ddod. I gymryd rhan, a fyddech cystal â chofrestru i gael cyfrif Zoom am ddim.
Yn ogystal, bydd cwrs adolygu dwys yn cael ei gynnig ym mis Mai-Mehefin i baratoi myfyrwyr sydd â diddordeb mewn sefyll arholiad HSK 1. Bydd y cwrs ychwanegol hwn yn gyfle i adolygu ac ailadrodd i wella hyder a pharodrwydd myfyrwyr ar gyfer yr arholiad.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Gallwch fynychu wythnos gyntaf y cwrs yn rhad ac am ddim. Os dymunwch barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol, gallwch wneud taliad YMA i sicrhau eich cofrestriad.
HSK 2 - Gwybodaeth am y cwrs
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin HSK2 trwy Zoom. Mae'r cwrs wedi ei rannu'n ddwy adran, Rhan A a Rhan B, sy’n cael eu cynnal dros ddeng wythnos. Mae gan gyfranogwyr yr hyblygrwydd i gofrestru ar y naill ran neu'r llall yn unol â'u dewis, gan ddarparu ar gyfer eu hanghenion dysgu unigol a'u hamserlenni.
Rhagofynion: Cwblhau cwrs HSK 1
Ffi ar gyfer Rhan A a B: £80
HSK 2 Rhan A
Sesiynau: Dydd Mawrth 10 x 1.30 awr o 7.15-8.40pm
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024
Dyddiad gorffen: 3 Rhagfyr 2024
Rhagofyniad: HSK 1
Ffi: £40
HSK 2 Rhan B
Sesiynau: Dydd Mawrth 10 x 1.5 awr 7.15-8.40pm
Dyddiad dechrau: 14 Ionawr 2025 7.15 - 8.40pm
Dyddiad gorffen: 18 Mawrth 2025 7.15 - 8.40pm
Rhagofyniad: HSK 2 Rhan A
Ffi: £40
Treial am ddim: Dechreuwch gydag wythnos gyntaf am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol.
Disgrifiad o'r Cwrs: Mae'r cwrs 'ôl-ddechreuwyr' hwn yn pwysleisio canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando mwy datblygedig mewn Mandarin. O dan arweiniad ein tiwtor, bydd myfyrwyr hefyd yn dod yn hyddysg wrth ysgrifennu ac adnabod llythrennau Tsieineaidd sylfaenol. Mae'r cwricwlwm cynhwysfawr yn ymdrin â phynciau ymarferol amrywiol, gan gynnwys gofyn am gymorth, trafod tywydd a hinsawdd, mynd i'r afael â phryderon iechyd ac ymweld â meddyg, trin arian a phrisiau, disgrifio gweithgareddau dyddiol, archwilio lliwiau, chwaraeon, ac ymarfer corff, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau siopa.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, disgwylir i fyfyrwyr feddu ar y cymhwysedd angenrheidiol i roi cynnig ar Arholiad HSK 2 yn hyderus. Er mwyn sicrhau cynnydd effeithiol drwy gydol y cwrs, rydym yn argymell neilltuo lleiafswm o 3 awr i astudio’n annibynnol bob wythnos. Bydd yr ymrwymiad hwn i ddysgu'n annibynnol yn hybu hyfedredd iaith myfyrwyr ac yn eu galluogi i ragori yn eu taith iaith.
Deilliannau dysgu: Disgwylir i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â 349 o lythrennau a dysgu 300 o eiriau Tsieineaidd a ddefnyddir mewn cyd-destunau bob dydd.
Deunyddiau dysgu: Mae ein tiwtor ymroddedig wedi rhoi'r holl ddeunyddiau addysgu at ei gilydd yn ofalus iawn, gan gynnwys llyfr HSK 2 fel sylfaen a defnyddio ffynonellau atodol eraill. Gellwch fod yn dawel eich meddwl; bydd deunyddiau dysgu cynhwysfawr yn cael eu darparu i fyfyrwyr drwy gydol y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ôl cyflwyno'r ffurflen gofrestru (a geir isod), bydd eich tiwtor cwrs penodedig yn cysylltu â chi’n brydlon, gan ddarparu dolen cyfarfod Zoom ar gyfer eich gwersi sydd i ddod. Cofiwch gofrestru i gael cyfrif Zoom am ddim i gymryd rhan yn y cwrs.
Yn dilyn y cwrs hwn, bydd cwrs adolygu dwys ym mis Mai-Mehefin, wedi’i lunio’n benodol i baratoi myfyrwyr at sefyll yr arholiad HSK2 os ydynt yn dewis gwneud hynny. Bydd y cwrs ychwanegol hwn yn canolbwyntio ar adolygu ac atgyfnerthu cynhwysfawr, gan sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda ac yn hyderus ar gyfer yr arholiad.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Gallwch fynychu wythnos gyntaf y cwrs yn rhad ac am ddim. Os dymunwch barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol, gallwch wneud taliad YMA i sicrhau eich cofrestriad.
HSK3 Gwybodaeth am y Cwrs Mandarin
Dewch i ddysgu Mandarin canolradd gyda Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor, sydd bellach ar gael ar-lein trwy Zoom! Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn wedi ei gynllunio i wella eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu mewn Tsieinëeg Mandarin. P'un a ydych am ddilyn y cwrs llawn neu ddim ond rhan A neu ran B, mae hwn yn addas i chi! Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i wella eich sgiliau Mandarin ac ehangu eich gorwelion diwylliannol. Cofrestrwch yn awr!
Strwythur y Cwrs:
HSK 3 Rhan A: Adran 10 wythnos
HSK 3 Rhan B: Adran 10 wythnos
Rhagofynion:
I HSK 3 Rhan A: Cwblhau cwrs HSK 2.
I HSK 3 Rhan B: Cwblhau HSK 3 Rhan A.
Ffioedd y Cwrs:
HSK 3 Rhan A & Rhan B (Cwrs Llawn): £100
HSK 3 Rhan A (Unigol): £50
HSK 3 Rhan B (Unigol): £50
HSK 3 Rhan A
Sesiynau: Dydd Mawrth, 1.5 awr yr wythnos.
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 3 Rhagfyr 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
HSK 3 Rhan B
Sesiynau: Dydd Mawrth, 1.5 awr yr wythnos.
Dyddiad dechrau: 14 Ionawr 2025, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 18 Mawrth 2025, 6:00 pm - 7:30 pm
Treial am ddim: Dechreuwch gydag wythnos gyntaf am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol.
Trosolwg ar y cwrs Yn y cwrs lefel ganolradd hwn, byddwn yn canolbwyntio ar feistroli sgiliau iaith uwch. Gallwch ymchwilio i bynciau amrywiol, gan gynnwys gwneud galwadau ffôn, cynllunio digwyddiadau, siopa, trafod diodydd, disgrifio unigolion, rhannu profiadau a digwyddiadau, a llawer mwy.
Nod: Erbyn diwedd y cwrs, dylai myfyrwyr deimlo'n ddigon hyderus i roi cynnig ar arholiad HSK 3. Rydym yn argymell neilltuo o leiaf 4 awr yr wythnos i astudio’n annibynnol er mwyn gallu cadw i fyny â’r cwrs.
Amcanion Dysgu: Trwy'r cwrs, byddwch yn ymgyfarwyddo â 623 o gymeriadau ac yn adeiladu geirfa o 600 o eiriau Tsieinëeg a ddefnyddir yn gyffredin mewn sefyllfaoedd bob dydd. Dysgu sut i gymryd rhan mewn sgyrsiau cymhleth mewn Mandarin.
Deunyddiau Astudio: Mae ein hathrawon profiadol wedi paratoi deunyddiau’r cwrs yn ofalus gan ddefnyddio’r llyfr HSK 3 ac adnoddau atodol eraill. Bydd gennych fynediad i'r holl ddeunyddiau dysgu trwy gydol y cwrs.
Dysgu ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru, bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda dolen Zoom i’ch gwers. Dylech sicrhau fod gennych gyfrif Zoom am ddim i gofrestru.
Paratoi Pellach: Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall myfyrwyr sydd â diddordeb sefyll arholiad HSK 3 ymuno â'n cwrs adolygu dwys ym mis Mai-Mehefin 2024. Bydd y rhaglen ychwanegol hon yn sicrhau eich bod wedi paratoi'n dda at yr arholiad.
Ymunwch â ni ac ewch â'ch sgiliau Mandarin i'r lefel nesaf! Achubwch ar y cyfle i gyfathrebu'n effeithiol ac yn hyderus mewn Tsieinëeg Mandarin. Cofrestrwch yn awr i ddechrau ar y daith ddysgu ddifyr hon gyda ni.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Gallwch fynychu wythnos gyntaf y cwrs yn rhad ac am ddim. Os dymunwch barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol, gallwch wneud taliad YMA i sicrhau eich cofrestriad.
HSK 4 Gwybodaeth am y Cwrs Mandarin
Croeso i gwrs HSK 4 Mandarin a gynigir gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor, sydd bellach ar gael trwy Zoom. Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn wedi ei gynllunio i wella eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu mewn Tsieinëeg Mandarin. P'un a ydych yn dewis dilyn y cwrs llawn neu ddewis rhan A neu ran B, rydym wedi ei deilwra i gyd-fynd â’ch anghenion dysgu.
Strwythur y Cwrs:
HSK 4 Rhan A: Adran 10 wythnos
HSK 4 Rhan B: Adran 10 wythnos
Rhagofynion:
I HSK 4 Rhan A: Cwblhau cwrs HSK 3.
I HSK 4 Rhan B:Cwblhau HSK 4 Rhan A.
Ffioedd y Cwrs:
HSK 4 Rhan A a Rhan B (Cwrs Llawn): £160
HSK 4 Rhan A (Unigol): £80
HSK 4 Rhan B (Unigol): £80
HSK 4 Rhan A
Sesiynau: Ddwywaith yr wythnos, dydd Llun a dydd Iau, 1.5 awr yr un.
Dyddiad dechrau: 30 Medi 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 4 Rhagfyr 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
HSK 4 Rhan B
Sesiynau:Ddwywaith yr wythnos, dydd Llun a dydd Iau, 1.5 awr yr un.
Dyddiad dechrau: 13 Ionawr 2025, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 19 Mawrth 2025, 6:00 pm - 7:30 pm
Treial am ddim: Dechreuwch gyda sesiwn am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol.
Disgrifiad o'r Cwrs: Mae'r cwrs lefel ganolradd hwn yn canolbwyntio ar wella sgiliau iaith uwch. Mae'n cwmpasu 20 o bynciau amrywiol, gan ymchwilio i 100 o bwyntiau gramadegol allweddol a strwythurau brawddegau.
Nod: Erbyn diwedd y cwrs, dylai myfyrwyr deimlo'n ddigon hyderus i roi cynnig ar arholiad HSK 4. Er mwyn cadw i fyny â’r cwrs a dysgu cymaint â phosib, rydym yn argymell neilltuo o leiaf 6 awr yr wythnos o astudio’n annibynnol.
Deilliannau Dysgu: Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â 1200 o gymeriadau neu eiriau Tsieinëeg a ddefnyddir yn gyffredin mewn cyd-destunau bob dydd. Byddwch yn dysgu mwy am strwythurau gramadeg, cymryd rhan mewn sgyrsiau mwy cymhleth, a datblygu sgiliau cyfathrebu ehangach mewn Mandarin.
Deunyddiau Dysgu: Mae ein hathrawon profiadol wedi llunio'r holl ddeunyddiau addysgu yn ofalus gan ddefnyddio llyfr HSK 4 a ffynonellau atodol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Dysgu ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru, bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda dolen Zoom i’ch gwers. Dylech sicrhau fod gennych gyfrif Zoom am ddim er mwyn gallu cofrestru.
Paratoi Pellach: Yn dilyn y cwrs, rydym yn cynnig cwrs adolygu dwys ym mis Mai-Mehefin i baratoi myfyrwyr sydd â diddordeb mewn sefyll arholiad HSK 4. Bydd y rhaglen ychwanegol hon yn sicrhau eich bod yn hyderus ac yn barod at yr arholiad.
Dechrau ar y daith gyffrous hon i feistroli Tsieinëeg Mandarin ac ymgolli yng nghyfoeth diwylliant Tsieina. Cofrestrwch yn awr i sicrhau eich lle ar y cwrs Mandarin HSK 4 a chynyddu eich sgiliau iaith.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Gallwch fynychu wythnos gyntaf y cwrs yn rhad ac am ddim. Os dymunwch barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol, gallwch wneud taliad YMA i sicrhau eich cofrestriad.
HSK 5 Gwybodaeth am y Cwrs Mandarin
Dechreuwch ar daith iaith drawsnewidiol gyda’r cwrs Mandarin HSK 5 a gynigir gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor. Bellach ar gael ar-lein trwy Zoom, mae'r cwrs hwn yn llwyfan perffaith i feistroli sgiliau iaith uwch. P'un a ydych yn dewis y cwrs llawn neu'n dewis Rhan A neu Ran B yn unig, mae gennym ddewisiadau wedi eu cynllunio i gyd-fynd â’ch dewisiadau dysgu.
Strwythur y Cwrs:
HSK 5 Rhan A: Adran 10 wythnos
HSK 5 Rhan B: Adran 10 wythnos
Rhagofynion:
I HSK 5 Rhan A: Cwblhau cwrs HSK 4.
I HSK 5 Rhan B: Cwblhau HSK 5 Rhan A.
Ffioedd y Cwrs:
HSK 5 Rhan A a Rhan B (Cwrs Llawn): £200
HSK 5 Rhan A (Unigol): £100
HSK 5 Rhan B (Unigol): £100
HSK 5 Rhan A
Sesiynau: Ddwywaith yr wythnos, dydd Llun a dydd Mercher, 1.5 awr yr un.
Dyddiad dechrau: 30 Medi 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 4 Rhagfyr 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
HSK 5 Rhan B
Sesiynau:Ddwywaith yr wythnos, dydd Llun a dydd Mercher, 1.5 awr yr un.
Dyddiad dechrau: 13 Ionawr 2025, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 19 Mawrth 2025, 6:00 pm - 7:30 pm
Treial am ddim: Dechreuwch gyda gwers gyntaf am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol.
Disgrifiad o'r Cwrs: Gallwch wella eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu gyda'n cwricwlwm cynhwysfawr. Mae’n cynnwys 36 o bynciau difyr, gan gynnwys deall bywyd, trafod digwyddiadau’r gorffennol a’r presennol, a deall straeon a hanesion, byddwch yn dysgu dros 100 o bwyntiau gramadegol hanfodol wedi eu hintegreiddio yn yr ymadroddion hyn.
Nod: Erbyn diwedd y cwrs, dylai myfyrwyr deimlo'n ddigon hyderus i roi cynnig ar arholiad HSK 5. Rydym yn argymell neilltuo o leiaf 6 awr yr wythnos i astudio’n annibynnol er mwyn dysgu cymaint â phosib.
Gweithgareddau Academaidd: I'r rhai sy'n ystyried parhau â'u hastudiaethau yn Tsieina, mae'n hanfodol nodi bod arholiad HSK 5 ar hyn o bryd yn rhagofyniad ar gyfer ceisiadau gradd meistr mewn prifysgolion yn Tsieina.
Deilliannau Dysgu: Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â 2500 o gymeriadau neu eiriau Tsieinëeg a ddefnyddir yn gyffredin mewn cyd-destunau bob dydd. Gallwch wella eich sgiliau cyfathrebu llafar i sgyrsiau cymhleth a datblygu hyfedredd o ran darllen ac ysgrifennu brawddegau ac erthyglau cymhleth. Byddwch yn magu hyder yn eich galluoedd cyfieithu hefyd.
Deunyddiau Dysgu: Mae ein hathrawon profiadol wedi llunio'r holl ddeunyddiau addysgu yn ofalus gan ddefnyddio llyfr HSK 5 a ffynonellau atodol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Dysgu ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru, bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda dolen Zoom i’ch gwers. Dylech sicrhau fod gennych gyfrif Zoom am ddim er mwyn gallu cofrestru.
Paratoi Pellach: Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall myfyrwyr sydd â diddordeb sefyll arholiad HSK 5 ymuno â'n cwrs adolygu dwys ym mis Mai-Mehefin 2024. Bydd y rhaglen ychwanegol hon yn sicrhau eich bod yn hyderus ac yn barod at yr arholiad.
Agorwch y drws ar hyfedredd iaith Mandarin uwch a dealltwriaeth ddiwylliannol. Cofrestrwch yn awr i sicrhau eich lle ar gwrs Mandarin HSK 5 a dysgu am gyfleoedd cyffrous yn y byd Tsieinëeg.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Gallwch fynychu wythnos gyntaf y cwrs yn rhad ac am ddim. Os dymunwch barhau â gweddill y cwrs ar ôl y sesiwn gychwynnol, gallwch wneud taliad YMA i sicrhau eich cofrestriad.
Dechreuwch ar daith gyfareddol i fyd hudolus llythrennau Tsieinëeg (Hanzi) trwy ddilyn cwrs nos difyr 10 wythnos a gynigir gan Sefydliad Confucius. P'un a ydych yn ddechreuwr neu eisoes wedi ymddiddori, mae croeso i bawb fod yn rhan o'r profiad cyfoethog hwn. Dewch i ddysgu am harddwch a chywreindeb llythrennau Tsieinëeg mewn amgylchedd dysgu cynnes a deniadol.
Mae ymchwil yn dangos bod dysgu Tsieinëeg yn gallu ysgogi'r ymennydd yn sylweddol fwy na dysgu ieithoedd eraill, a briodolir yn bennaf i natur gywrain llythrennau Tsieinëeg. Mae meistroli'r grefft o ysgrifennu llythrennau Tsieinëeg hefyd yn gwella sgiliau echddygol a chydnabyddiaeth weledol, gan roi manteision gwybyddol gwerthfawr i ddysgwyr. At hynny, mae dechrau astudio Tsieinëeg yn cynnig cipolwg unigryw ar esblygiad hanesyddol yr iaith hynafol hon.
Manylion y cwrs: 6:00pm ar nos Lun trwy Zoom (10 dosbarth x 50-munud)
Dyddiadau'r cwrs: 15 Ionawr- 18 Mawrth 2024
Ffi: AM DDIM
Bydd y dosbarthiadau’n cynnwys y canlynol:
- Categorïau sylfaenol llythrennau Tsieinëeg
- Strociau sylfaenol a threfn y strociau
- 50+ o lythrennau allweddol (mae gan Tsieinëeg dros 20,000 o lythrennau a ddefnyddir bob dydd, ond mae 200 o’r llythrennau yn ffurfio blociau adeiladu tua 40% o Tsieinëeg sylfaenol)
Deunyddiau Dysgu: Mae'r holl ddeunyddiau addysgu yn cael eu datblygu a'u darparu gan ein tiwtor.
Dolen ymuno: Ar ôl cofrestru, bydd eich tiwtor cwrs yn cysylltu â chi ac yn darparu’r ddolen Zoom i’r cyfarfod.
Cofrestrwch YMA
Ymunwch â n ii ymarfer eich sgiliau llafar Tseiniaidd ar-lein drwy TEAMS mewn gofo anffurfiol
Lefel Dechreuwyr/Canolradd Isel
9 Ionawr– 28 Mai 2024
Nosweithiau Mawrth 6.30pm-7.30pm
AM DDIM
Lefel Canolradd/Uwch
11 Ionawr–30 Mai 2024
Nosweithiau Iau 6.30pm-7.30pm
AM DDIM
Ceiff y linciau cyfarfod TEAMS eu danfon i fynychwyr cofrestredig.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Pynciau Wythnosol
Dechreuwyr/Canolradd Isel |
Themâu’r gwersi |
Canolradd/Uwch |
09/01/2024 |
Dealltwriaeth Ddiwylliannol: Archwilio Arwyddocâd y Sidydd Tsieineaidd 文化探析:探索中国十二生肖的重要意 |
11/01/2024 |
16/01/2024 |
Ymholi Am Dywydd Yfory: Beth allwn ni ei ddisgwyl o ran y tywydd yfory? 询问天气:明天天气怎么样? |
18/01/2024 |
23/01/2024 |
Trafod Ymarfer Corff: A yw'n well gennych wneud ymarfer corff yn yr awyr agored neu dan do? 讨论运动: 你喜欢户外运动还是室内运动? |
25/01/2024 |
30/01/2024 |
Sgwrsio am Ddiddordebau: Oes gennych unrhyw hobïau? 谈论兴趣:你有什么爱好吗? |
01/02/2024 |
06/02/2024 |
Dealltwriaeth Ddiwylliannol: Archwilio Arwyddocâd Gŵyl y Gwanwyn 文化探析:探索春节的重要意义 |
08/02/2024 |
13/02/2024 |
Ymholi'n Gwrtais am Wahaniaeth mewn Oedran: A gaf i ofyn faint yn hŷn yw ef na fi? 询问年龄:请问,他比我年长几岁? |
15/02/2024 |
20/02/2024 |
Delio ag Emosiynau: Deall Ehangder "Teimladau Cymhleth". 驾驭情绪:理解什么叫“复杂的心情”。 |
22/02/2024 |
27/02/2024 |
Cyfarwyddiadau Triniaeth Feddygol: Cymerwch ddwy dabled deirgwaith y dydd fel y rhagnodir. 生病就医:一日三次,一次两粒。 |
29/02/2024 |
05/03/2024 |
Dealltwriaeth Ddiwylliannol: Deall Arwyddocâd y 24 Tymor Solar 文化探析:探索中国二十四节气的重要意义 |
07/03/2024 |
12/03/2024 |
Siopa Ar-lein yn Tsieina: Llywio'r Dirwedd Adwerthu Ddigidol 网上购物:走进数字化时代的网上购物 |
14/03/2024 |
19/03/2024 |
Gofyn am Wasanaeth ar ôl Gwerthu: Esgusodwch fi, hoffwn ddychwelyd y nwydd hwn os gwelwch yn dda. 售后服务:你好,我想申请退货。 |
21/03/2024 |
26/03/2024 |
Elfennau Diddorol o Lythrennau Tsieineaidd (Radicalau Tsieineaidd): Archwilio Elfennau Diddorol mewn Llythrennau Tsieineaidd 引人入胜的汉字偏旁: 探索汉字中的有趣元素 |
28/03/2024 |
09/04/2024 |
Dealltwriaeth Ddiwylliannol: Taith Goginio drwy Tsieina 文化探析:美食之旅 —— “舌尖上的中国” |
11/04/2024 |
16/04/2024 |
Antur Goginio: Ymunwch â mi i baratoi'r pryd clasurol o wyau wedi'u sgramblo gyda thomatos! 烹饪冒险:和我一起制作经典的西红柿炒鸡蛋吧! |
18/04/2024 |
23/04/2024 |
Blasu Diodydd: Archwilio Diwylliant Modern Te a Choffi yn Tsieina. 品尝饮料:探索现代中国的茶和咖啡文化。 |
25/04/2024 |
30/04/2024 |
Gwneud Cais am Swydd: Rwy’n mynegi fy niddordeb mewn gwneud cais am y swydd. 工作申请:我对这个职位很感兴趣。 |
02/05/2024 |
07/05/2024 |
Dysgu am Broffesiynau Newydd: Diwrnod ym Mywyd Gyrrwr Dosbarthu Bwyd yn Tsieina. 探索新兴职业:中国外卖员的一天。 |
09/05/2024 |
14/05/2024 |
Dealltwriaeth Ddiwylliannol: Ymchwilio i Ddramâu Tylwyth Teg Tsieineaidd 文化探析:走进中国仙侠剧 |
16/05/2024 |
21/05/2024 |
Dealltwriaeth Ddaearyddol: Dysgu am Dirwedd Amrywiol Tsieina 地理探析:探索幅员辽阔的中国 |
23/05/2024 |
28/05/2024 |
Dealltwriaeth Ddiwylliannol: Arwyddocâd Gŵyl Cychod y Ddraig 文化探析:端午节的重要意义 |
30/05/2024 |
Mae’r cwrs hwn ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus wedi’i deilwra ar gyfer addysgwyr sydd â diddordeb brwd mewn meistroli Mandarin a chyfrannu at integreiddiad parhaus yr iaith yn eu sefydliadau addysgol. Trwy’r rhaglen hon, bydd athrawon yn caffael sgiliau iaith Mandarin sylfaenol, gan eu galluogi i hwyluso pynciau hollbwysig yn eu hystafelloedd dosbarth yn hyderus. Yr amcan paratoi athrawon ysgol gyda'r hyfedredd iaith angenrheidiol i gefnogi a hyrwyddo addysg Mandarin yn y tymor hir.
8 Ebrill- 10 Mehefin 2024
Bob dydd Llun
7.30-8.30 pm
ar-lein trwy Zoom
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Fandarin
- Gweithgareddau Diwylliannol
- Tystysgrif Presenoldeb
- Nid oes arholiadau
Cofrestrwch YMA
A ydych yn gobeithio sefyll arholiad HSK 1 ond yn ansicr sut i baratoi? Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs 5 wythnos AR-LEIN i baratoi at arholiadau a fydd yn dechrau ar 14 Mai 2024.
Manylion y cwrs: 6 o’r gloch nos Fawrth ar Zoom (pum dosbarth 1 awr o hyd)
Dyddiadau'r cwrs: 14 Mai - 11 Mehefin 2024
Rhagofynion: Cwrs HSK 1
Ffi: £40*
* Am ddim i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cwrs HSK 1 cyfredol a'r rhai sydd wedi cofrestru i sefyll arholiad HSK 1 trwy Sefydliad Confucius ym Mangor.
Dolen i dalu: HSK 1 Online Revision Course | Prifysgol Bangor University
Disgrifiad o'r Cwrs: Dyma gwrs Mandarin sy'n addas i fyfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1 sydd bellach yn paratoi i sefyll arholiad HSK 1. Bydd ein Tiwtor yn canolbwyntio ar feistroli’r eirfa 150 gair yn systematig drwy adolygu strwythurau brawddegau a chwestiynau a rhoi adborth ac anogaeth!
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio arholiad HSK 1.
Rydym yn argymell bod y myfyrwyr yn gwneud o leiaf 2 awr o astudio annibynnol bob wythnos i sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu dilyn cyflymder y cwrs.
Y Deilliannau Dysgu:
- cynefindra â strwythur arholiadau HSK 1 a mathau o gwestiynau
- meistrolaeth ar ramadeg a geirfa HSK 1
- hyder mewn dysgu hunan-gyfeiriedig
Y Deunyddiau Dysgu: Caiff yr holl ddeunyddiau addysgu eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 1 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu.
Dolen ymuno: Ar ôl cofrestru (isod), bydd eich tiwtor cwrs yn cysylltu â chi drwy ddolen cyfarfod Zoom. Cofrestrwch gyda Zoom i gael eich cyfrif am ddim.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
A ydych yn gobeithio sefyll arholiad HSK 2 ond yn ansicr sut i baratoi? Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs 5 wythnos AR-LEIN i baratoi at arholiadau a fydd yn dechrau ar 14 Mai 2024.
Manylion y cwrs: 7.15 o’r gloch nos Fawrth ar Zoom (pum dosbarth 1 awr o hyd)
Dyddiadau'r cwrs: 14 Mai - 11 Mehefin 2024
Rhagofynion: Cwrs HSK 2
Ffi: £50*
* Am ddim i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cwrs HSK 2 cyfredol a'r rhai sydd wedi cofrestru i sefyll arholiad HSK 2 trwy Sefydliad Confucius ym Mangor.
Dolen i dalu: HSK 2 Online Revision Course | Prifysgol Bangor University
Disgrifiad o'r Cwrs: Dyma gwrs Mandarin sy'n addas i fyfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1 a HSK 2 sydd bellach yn paratoi i sefyll arholiad HSK 2. Bydd ein Tiwtor yn canolbwyntio ar feistroli’r 349 nod yn systematig, sefydlu geirfa o 300 o eiriau Tsieinëeg a ddefnyddir mewn cyd-destunau beunyddiol, a chynnig adborth ac anogaeth!
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio arholiad HSK 2.
Rydym yn argymell bod y myfyrwyr yn gwneud o leiaf 2 awr o astudio annibynnol bob wythnos i sicrhau bod y myfyrwyr yn gallu dilyn cyflymder y cwrs.
Y Deilliannau Dysgu:
- cynefindra â strwythur arholiadau HSK 2 a mathau o gwestiynau
- meistrolaeth ar ramadeg a geirfa HSK 2
- hyder mewn dysgu hunan-gyfeiriedig
Y Deunyddiau Dysgu: Caiff yr holl ddeunyddiau addysgu eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 2 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu.
Dolen ymuno: Ar ôl cofrestru (isod), bydd eich tiwtor cwrs yn cysylltu â chi drwy ddolen cyfarfod Zoom. Cofrestrwch gyda Zoom i gael eich cyfrif am ddim.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin AR-LEIN AM DDIM trwy Zoom i baratoi at arholiad. Bydd y cwrs ar gael mewn rhannau dros 5 wythnos (awr a hanner yr wythnos).
Sesiynau: Bob dydd Lau, 5.00-6.30 o’r gloch
Dyddiad dechrau: 9 Mai 2024
Dyddiad gorffen: 6 Mehefin 2024
Rhagofynion: HSK 1, HSK 2, HSK 3
Ffioedd: £60*
* Am ddim i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cwrs HSK 3 cyfredol a'r rhai sydd wedi cofrestru i sefyll arholiad HSK 3 trwy Sefydliad Confucius ym Mangor.
Dolen i dalu: HSK 3 Online Revision Course | Prifysgol Bangor University
Disgrifiad o'r Cwrs: Mae'r cwrs Mandarin hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1, HSK 2, a HSK 3 ac sydd bellach yn barod i adolygu a pharatoi i sefyll arholiad HSK 3. Bydd ein tiwtor yn canolbwyntio ar eich cynorthwyo i feistroli tua 600 o nodau/geiriau yn systematig i sefydlu geirfa o dros 600 gair. Byddwch yn meithrin gwybodaeth gadarnach o’r pwyntiau gramadegol a ddefnyddiwyd yn y tri llyfr HSK cyntaf, ac yn cymryd rhan mewn ymarferion gwrando a deall mwy cymhleth mewn Mandarin.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio’r arholiad HSK 3.
Rydym yn argymell bod myfyrwyr yn gwneud o leiaf awr o astudio annibynnol bob dydd i sicrhau eu bod yn gallu dilyn cyflymder y cwrs.
Deilliannau dysgu: Yn gyfarwydd â strwythur arholiadau HSK3 a’r mathau o gwestiynau; dealltwriaeth fwy manwl o ramadeg a geirfa Tsieinëeg; hyder mewn dysgu iaith Tsieineaidd ar eu liwt eu hunain.
Deunyddiau dysgu: Mae'r holl ddeunyddiau addysgu yn cael eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 3 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru (isod) bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda chyswllt cyfarfod Zoom eich gwers. Bydd angen i chi gofrestru gyda Zoom i greu cyfrif rhad ac am ddim.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin AR-LEIN AM DDIM trwy Zoom i baratoi at arholiad. Bydd y cwrs ar gael mewn rhannau dros 5 wythnos (awr a hanner yr wythnos).
Sesiynau: Bob nos Iau, 7.00-8.30 o’r gloch
Dyddiad dechrau: 16 Mai 2024
Dyddiad gorffen: 13 Mehefin 2023
Rhagofynion: HSK 1, HSK 2, HSK 3, HSK 4
Ffioedd: £90*
* Am ddim i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cwrs HSK 4 cyfredol a'r rhai sydd wedi cofrestru i sefyll arholiad HSK 4 trwy Sefydliad Confucius ym Mangor.
Dolen i dalu: HSK 4 Online Revision Course | Prifysgol Bangor University
Disgrifiad o'r Cwrs: Dyma gwrs Mandarin sy'n addas i fyfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1, HSK 2, HSK 3 ac HSK 4 ac sydd bellach yn barod i adolygu a pharatoi i sefyll arholiad HSK 4. Bydd ein tiwtor yn canolbwyntio ar feistroli’n systematig tua 1200 o gymeriadau/geiriau Tsieineaidd a ddefnyddir mewn cyd-destunau bob dydd, deall y strwythurau gramadeg a ddysgwyd o’r gwersi blaenorol, cynnal ymarferion a sgyrsiau gwrando a deall mwy cymhleth, a chyfathrebu ehangach mewn Mandarin gyda dywediadau cyffredin neu ymadroddion diwylliannol.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio arholiad HSK 4.
Rydym yn argymell bod y myfyrwyr yn gwneud o leiaf awr o astudio annibynnol bob dydd i sicrhau eu bod yn gallu cadw at gyflymder y cwrs.
Deilliannau dysgu: Yn gyfarwydd â strwythur arholiadau HSK4 a’r mathau o gwestiynau; dealltwriaeth fwy manwl o ramadeg, geirfa, ac ymadroddion cyffredin Tsieinëeg; hyder mewn dysgu iaith Tsieineaidd ar eu liwt eu hunain.
Deunyddiau dysgu: Caiff yr holl ddeunyddiau addysgu eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 4 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru (isod) bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda chyswllt cyfarfod Zoom eich gwers. Bydd angen i chi gofrestru gyda Zoom i greu cyfrif am ddim.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin AR-LEIN AM DDIM trwy Zoom i baratoi at arholiad. Mae’r cwrs yn cynnwys unedau dros 5 wythnos (tair awr yr wythnos).
Sesiynau: Bob nos Lun a nos Fercher, 6.00-7.30 o’r gloch
Dyddiad dechrau: 6 Mai 2024
Dyddiad gorffen: 5 Mehefin 2024
Rhagofynion: Cyrsiau HSK 1, HSK 2, HSK 3, HSK 4, HSK 5
Ffioedd: £100.
* Am ddim i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cwrs HSK 5 cyfredol a'r rhai sydd wedi cofrestru i sefyll arholiad HSK 5 trwy Sefydliad Confucius ym Mangor.
Dolen i dalu: HSK 5 Online Revision Course | Prifysgol Bangor University
Disgrifiad o'r Cwrs: Dyma gwrs Mandarin sy'n addas i fyfyrwyr a gwblhaodd gyrsiau HSK 1, HSK 2, HSK 3, HSK 4 a HSK 5 ac sydd bellach yn barod i adolygu a pharatoi i sefyll arholiad HSK 5. Bydd y Tiwtor yn mynd ati’n systematig i feistroli tua 2500 o nodau/geiriau Tsieineaidd mewn cyd-destunau beunyddiol a rhai deunyddiau darllen. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymarferion gwrando a deall mwy cymhleth a chyfathrebu llafar yn ystod y cwrs. Mae disgwyl hefyd i’r myfyrwyr ddarllen ac ysgrifennu brawddegau cymhleth a darnau byrion hyd at 100 o nodau/geiriau, yn ogystal â gallu gwneud rhywfaint o gyfieithu.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylai myfyrwyr fod yn barod i basio arholiad HSK 5.
Rydym yn argymell bod y myfyrwyr yn gwneud o leiaf awr o astudio annibynnol bob dydd i sicrhau eu bod yn gallu cadw at gyflymder y cwrs.
Deilliannau dysgu: Yn gyfarwydd â strwythur arholiadau HSK5 a mathau o gwestiynau; dealltwriaeth fanylach o ramadeg, geirfa, dywediadau ac/neu idiomau Tsieinëeg a gwybodaeth ddiwylliannol; hyder i ddysgu’r iaith Tsieinëeg ar eu menter eu hunain.
Deunyddiau dysgu: Caiff yr holl ddeunyddiau addysgu eu datblygu gan ein hathrawon gan ddefnyddio cwrs safonol HSK 5 a ffynonellau ychwanegol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru (isod) bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu â chi gyda chyswllt cyfarfod Zoom eich gwers. Bydd angen i chi gofrestru gyda Zoom i greu cyfrif am ddim.
I sicrhau eich lle, ewch ymlaen â'r broses gofrestru trwy glicio ar y botwm YMA.
Adnoddau Ar-lein
Diwylliant Tsieiniaidd
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig rhai fideos ynglŷn â Caligraffeg Tsieineaidd ar YouTube. Dyma gyfle gwych i ddysgu ac ymarfer crefft Tsieineaidd hynafol.
Mwynhewch ein gwersi fideo yma