UWB Crest

Ysgol y Gyfraith

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Delwedd o fyfyrwyr yn gadael Prif Adeilad y Celfyddydau

Yn sgil y newidiadau gwleidyddol a chyfundrefnol yng Nghymru, nod Ysgol y Gyfraith ym Mangor yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i raddedigion allu gweithredu ym maes y gyfraith yn y Gymru sydd ohoni.

Rydym yn cynnig tiwtorialau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg ar gyfer pob modiwl craidd sy’n cyfrannu at sylfaen o ddealltwriaeth gyfreithiol:

  • Cyflwyniad i’r Gyfraith a Systemau Cyfreithiol
  • Cyfraith Gyhoeddus I – Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol
  • Cyfraith Eiddo I – Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
  • Cyfraith Breifat I – Cyfraith Contract
  • Cyfraith Droseddol
  • Cyfraith Gyhoeddus II – Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
  • Cyfraith Gyhoeddus II – Cyfraith Camweddau
  • Cyfraith Eiddo II – Eiddo Teuluol ac Olyniaeth
  • Ymchwil Gyfreithiol - Traethawd Hir
  • Cyfraith Eiddo III – Cyfraith Tir

Mae datblygiadau cyfreithiol diweddar, yn cynnwys dyfodiad datganoli i Gymru, wedi arwain at gynnydd enfawr yn y galw am gyfreithwyr dwyieithog, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Er mwyn ymateb i’r galw hwn, mae Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn cynnig gradd LLB newydd, sef Y Gyfraith gyda'r Gymraeg Mae’r radd hon, yr unig un o’i bath, yn gyfle rhagorol i fyfyrwyr gyfuno astudio’r gyfraith â rhai modiwlau perthnasol yn Ysgol y Gymraeg i gael gradd ymgymhwyso yn y gyfraith. Bydd y modiwlau hyn, yn cynnwys modiwl ar sgiliau cyfieithu, yn rhoi'r holl sgiliau cyfreithiol ac ieithyddol y mae ar fyfyrwyr eu hangen mewn proffesiwn cyfreithiol cwbl ddwyieithog.

Mae dau fodiwl ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg:

  • Y Gyfraith yn Gymraeg
  • Cymru’r Gyfraith

Mae’r Gyfraith yn Gymraeg wedi ei lunio i feithrin sgiliau cyfreithiol ar y cyd â sgiliau yn y Gymraeg. Bydd yn cynnwys elfen gref o ddulliau ymchwil cyfreithiol er mwyn i fyfyrwyr allu ee drafftio llythyrau cyfreithiol a drafftio deddfwriaeth yn y Gymraeg.

Modwl arbenigol yw Cymru’r Gyfraith sy’n canolbwyntio ar hanes cyfreithiol Cymru ac agweddau ar ddatganoli yng Nghymru. Bydd yn cynnwys astudio’r gyfraith yng nghyd-destun y llywodraeth, y teulu, eiddo, contractau ac ati, yn cynnwys system gyfreithiol Cymru, drafftio deddfwriaeth a gwaith cyfreithwyr yng Nghymru.