UWB Crest

Y Ganolfan Rheolaeth

Croeso i Y Ganolfan Rheolaeth

Lleoliad o’r safon uchaf un ar gyfer cyrsiau hyfforddiant preswyl a chynadleddau

Mae’r Ganolfan Rheolaeth yn cyfuno’r elfennau gorau o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat er mwyn darparu addysg, hyfforddiant a datblygiad arloesol sy’n ysbrydoli.

Mae ein darlithwyr a’n hwyluswyr yn cynnwys amrywiaeth o staff parhaol ac ymwelwyr, sydd i gyd yn brofiadol iawn ac yn uchel eu parch sy’n dod ynghyd er mwyn cynorthwyo rheolwyr yn yr ardal a thu hwnt i ddatblygu’n rheolwyr o'r radd flaenaf.

Cymwysterau wedi eu cynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus

Gan ei bod yn rhan o Ysgol Busnes Bangor, sy'n uchel ei chlod, mae’r Ganolfan Rheolaeth yn cynnig cymwysterau ôl-radd a phroffesiynol a rhaglenni pwrpasol ym maes rheolaeth, arweinyddiaeth a chyllid a phecynnau hyfforddi wedi eu cynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Gellir gwneud y rhaglenni a'r cymwysterau i gyd yn y Ganolfan, gan fanteisio ar yr amrywiaeth o ystafelloedd dysgu ac ystafelloedd cyfarfod sydd ar gael, gwneud y mwyaf o'r dechnoleg gwybodaeth a gweledol diweddaraf sydd ar gael. Gallwn hefyd gynnal cyrsiau mewn unrhyw leoliad addas arall, yn ôl eich anghenion.

Ystafelloedd gwely 'ensuite' eithriadol

Mae llety dros nos o ansawdd gwesty ar gael am bris ffafriol i bobl sydd wedi eu cofrestru ar gyfer unrhyw un o’n rhaglenni.  Am fwy o wybodaeth, gweler yr adran ar lety dros nos.