Gwobrau'r Brifysgol
MSc trwy Ymchwil wedi ei gyllidio yn llawn i gychwyn 1 Hydref ar sail llawn amser. Bydd y cyllid yn talu am ffioedd, tâl o £16,000, a ffi mainc am ymchwil/hyfforddiant ayyb o hyd at £5,000. Mae'n agored i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch Dr Emma Green fydd yn rheoli'r broses ymgeisio.
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Rhaid i'r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig ymchwil yn y Celfyddydau neu'r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.
Darperir Ysgoloriaethau Price Davies (sydd hefyd yn cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad Price Davies) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.
Cymhwyster
- Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.
- Yr ymgeisydd sydd, ym marn Senedd Prifysgol Bangor, fwyaf teilwng ar sail perfformiad yn yr arholiadau gradd
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
- Yr ysgoloriaethau i’w dal am un flwyddyn academaidd o ddyddiad y dyfarniad ond gellir eu hadnewyddu am ail a thrydedd flwyddyn academaidd, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
Dylid cyflwyno ceisiadau i'r Ysgol Ddoethurol (pgr@bangor.ac.uk) erbyn 31 Awst 2024 fan bellaf.
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...
Gall myfyrwyr DU (gan eithrio myfyrwyr o Gymru a myfyrwyr sydd wedi eu hariannu gan y GIG) fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o'r canlynol tra'n fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academiaeth 2023-24 neu'n ddi-waith cyn cychwyn cwrs ol-radd yn Brifysgol Bangor.
- Grant Cynhaliaeth
- Benthyciad Cynhaliaeth
- Bwrsariaeth Foyer
- Bwrsariaeth phrofiad gofal
- Gymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith/ Credyd Cynhwysol
Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.
Dyfernir bwrsariaeth o £1000 i:
- fyfyrwyr oedd yn derbyn cyllid myfyrwyr mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion yn ystod 2023-24.
- fyfyrwyr oedd yn ddi-waith yn union cyn cychwyn eu cwrs ôl-radd
Dyfernir bwrsari o £500 i:
- fyfyrwyr oedd yn israddedigion yn 2023-24 ac yn derbyn cyllid myfyrywyr rhannol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol.
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae nifer o ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o rai grwpiau. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg.
Beth mae'n ei gynnwys?
Taliad tuag at ffioedd dysgu cwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil am un flwyddyn (neu am ddwy flynedd os yr astudir y cwrs yn rhan amser). Bydd terfyn uchaf o £9,500.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â athenaswan@bangor.ac.uk
Mae cynllun Ysgoloriaeth Chwaraeon Bangor yn bwriadu cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon. Nid yw'r Ysgoloriaethau, sy'n werth £3,000 y flwyddyn, wedi'u cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol nac i fyfyrwyr ar unrhyw gyrsiau penodol.
Ariannu Strwythurol
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth PhD ac Ymchwil Meistr wedi'i gyllido mewn cydweithrediad â busnes neu bartner gwmni gweithredol. Fe'i hariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, a arweinir gan Brifysgol Bangor.
Ysgoloriaethau ar gael yma.
Allanol
Bwrsariaeth 'Leverhulme Trade Charities Trust'
Mwy o wybodaeth ar gael yma
FindaMasters.com Ysgoloriaeth
Mae FindaMasters.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaMasters.com. Cofrestrwch yma.
FindaPhD.com Ysgoloriaeth
Mae FindaPhD.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaPhD.com. Cofrestrwch yma.
Ymholiadau am Astudio Ol-radd ym Mangor
- Gwybodaeth ar Gyfer Darpar Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd-
- Cyfarwyddwyr Astudiaethau Ôl-radd yr Ysgolion
- Cyllid Myfyrwyr
- Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd
- Gwasanaethau Myfyrwyr
Cyrsiau Wedi'u Hariannu
Mae nifer o gyfleoedd ariannu ar gael. Cysylltwch â'r ysgol academaidd i wybod mwy am y cyllid sydd ar gael.
Cofiwch bod rhai ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eu pynciau. Ewch i'r dudalen ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau neu dudalennau'r ysgolion academaidd i gael mwy o wybodaeth.
Ysgoloriaethau a Gwaddoliadau
- Ysgoloriaethau Myfyrwyr Pantyfedwen
- British Council
- British Council
- Chevening
- Commonwealth Scholarship Commission
- Nuffield Foundation - Undergraduate Research Bursaries
Benthyciadau
Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd
Mae'r Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllid - yn enwedig elusennau - a all ddyfarnu cyllid (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag a fo ei (d)dinasyddiaeth.
Mae'r Arweiniad Amgen Ar-lein â chronfa ddata enfawr o gyfleoedd i gael cyllid, arweiniad cynhwysfawr ac offer niferus i'ch helpu i baratoi cais sy'n mynd i ennill grant ichi. I gynorthwyo ein myfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi prynu trwydded ar gyfer yr Arweiniad, fel ei fod am ddim i holl fyfyrwyr a staff Bangor ei ddefnyddio! Mewngofnodwch Yn Awr!
Os ydych yn ddarpar-fyfyriwr ac wedi gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor, anfonwch e-bost er mwyn cael PIN mynediad.
PostgraduateStudentships.co.uk
- Gwefan yw PostgraduateStudentships.co.uk sy'n dod â'r holl wahanol fathau o gyllid sydd ar gael i ddarpar ôlraddedigion at ei gilydd mewn un lle. Felly, gellwch weld beth sydd ar gael o ffynonellau cyffredinol, yn ogystal â chyfleoedd a chyllid o'r brifysgol ei hun.
Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gynnig efrydiaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithas Cymru (WGSSS) (ESRC DTP) a ariennir yn llawn, gan ddechrau ym mis Hydref 2024 ym meysydd pwnc y llwybrau canlynol.
- Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth
- Seicoleg
- Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- Troseddeg a’r Gyfraith
- Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Gwyddor Data, Iechyd a Lles
- Addysg
- Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
- Economeg
- Rheolaeth a Busnes
- Cynllunio amgylcheddol
Hyd yr astudiaeth:
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a fydd yn cael eu hasesu trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu Cychwynnol ar y cam ymgeisio a Dadansoddiad Anghenion Datblygu Llawn cyn dyfarnu os yn llwyddiannus.
Gall hyd yr astudiaeth amrywio o - 3.5 i 4.5 blwyddyn llawn amser (neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan amser).
Gall hyn gynnwys:
- rhaglen 1+3.5 – cefnogaeth ar gyfer meistr hyfforddiant ymchwil a PhD, yn enwedig lle nodir hynny gan nodau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac Ehangu Cyfranogiad Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithas Cymru
- yn achos Economeg, rhaglen 2+2.5 – cyllid i dalu am radd meistr estynedig, ac yna rhaglen PhD fyrrach
Lleoliad ymchwil mewn ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithas Cymru gwblhau lleoliad ymchwil mewn ymarfer a ariennir dros gyfanswm o dri mis. Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Meini Prawf Mynediad:
I dderbyn cyllid efrydiaeth Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithas Cymru, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr o sefydliad ymchwil academaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr â chefndir academaidd anhraddodiadol wneud cais.
Dylai ysgolion gynnwys gofynion iaith Saesneg sy'n benodol i'r sefydliad
Cymhwysedd:
Mae ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithas Cymru ar gael i fyfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth mewn ffioedd rhwng y gyfradd Deyrnas Unedig a’r gyfradd ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion mynediad UKRI.
Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithas Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau o’r gymuned fyd-eang, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.
Asesu:
Atgoffir ymgeiswyr i gyflwyno'r holl ddogfennau perthnasol (trawsgrifiadau, datganiad ategol, ac ati) erbyn y dyddiad cau. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Gwahoddir ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer am gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel yn gyson ag ymarfer blaenorol ar y llwybr yn ystod Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru, ac a arweinir gan ymrwymiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithas Cymru.
Gellir cynnal cyfweliadau yn y cnawd, ond dylent hefyd fod ar gael trwy Zoom/Teams i bob myfyriwr sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno.
Gall ymgeiswyr ddisgwyl clywed canlyniad eu cyfweliad fel rheol o fewn 3-4 wythnos.
Sut i wneud cais:
Dylid derbyn ceisiadau ddim hwyrach na 12/1/24 gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol.
Dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio’r dolenni canlynol (defnyddiwch y cyfeiriad e-bost cywir ar gyfer y llwybr a gyflwynir i:
Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth – bilingwgsss@bangor.ac.uk
Seicoleg – psychwgsss@bangor.ac.uk
Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer – spexwgsss@bangor.ac.uk
Troseddeg a'r Gyfraith – crimwgsss@bangor.ac.uk
Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg - socwgsss@bangor.ac.uk
Gwyddor Data, Iechyd a Lles – dshwbwgsss@bangor.ac.uk
Addysg eduwgsss@bangor.ac.uk
Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol – socialworkwgsss@bangor.ac.uk
Economeg - econwgsss@bangor.ac.uk
Rheolaeth a Busnes businesswgsss@bangor.ac.uk
Cynllunio Amgylcheddol envirowgsss@bangor.ac.uk
Dylech gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:
1) Llythyr eglurhaol (hyd at ddwy dudalen)
Rhaid i'r llythyr eglurhaol gynnwys y pwyntiau bwled canlynol fel is-benawdau:
- Nodi eich rhesymau a’ch cymhelliant dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Bangor, a’r llwybr perthnasol (gweler y llwybrau uchod).
- Rhowch fanylion am eich dealltwriaeth, a'ch disgwyliadau o wneud astudiaeth ddoethurol.
- Rhowch fanylion am eich diddordebau academaidd yn gyffredinol, ac yn arbennig y rhai sy'n gysylltiedig â'r ymchwil arfaethedig.
- Trwy dynnu ar eich cefndir (yn cynnwys eich profiadau bywyd, taith i/drwy'r brifysgol, profiadau gwaith neu wirfoddoli) rhowch grynodeb o pam eich bod yn barod i wneud PhD yn awr a sut y byddwch yn ffynnu o ganlyniad i gyllid PhD. Gallent gynnwys, er enghraifft, heriau personol rydych wedi’u goresgyn neu lwyddiannau rydych yn falch ohonynt yn eich profiadau gwaith, astudio neu fywyd a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn rhaglen PhD. Gallai heriau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, nodweddion gwarchodedig, statws economaidd-gymdeithasol a bod yn ddarpar fyfyriwr cenhedlaeth gyntaf neu sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Gan adfyfyrio ar eich cefndir a/neu agwedd arfaethedig at astudio PhD a’r cyfleoedd y bydd yn eu cyflwyno, sut byddwch yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn y gymuned PhD
2) CV academaidd (hyd at ddwy dudalen)
3) Cynnig ymchwil
Dylai'r cynnig fod hyd at 1000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaethol. Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio'r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil:
- Teitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil;
- Trosolwg byr o’r llenyddiaeth academaidd sy'n berthnasol i'ch maes;
- Cynllun/dulliau arfaethedig;
Cyfleoedd Ôl-raddedig fesul Maes Pwnc
Mae'r Ysgolion Academaidd yn cynnig nifer o ysgoloriaethau, ysgoloriaethau a bwrsariaethau Ôl-raddedig. Mae modd gweld y cyfleoedd fesul maes pwnc.
- Gwyddorau Addysgol
- Busnes
- Cerddoriaeth
- Cyfryngau
- Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig
- Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
- Gwyddorau Eigion
- Gwyddorau Iechyd
- Gwyddorau Meddygol
- Gwyddorau Naturiol
- Hanes, Treftadaeth ac Archaeoleg
- Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth
- Seicoleg
- Y Gyfraith, Troseddeg a Gwyddorau Cymdeithas
- Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd