Croeso i Ysgol Fusnes Albert Gubay
Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.
Gall fod yn anodd i bobl ddeall sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Yn Ysgol Busnes Bangor, rydym yn credu gallwch ysgogi newid cadarnhaol ar draws y byd gyda’r addysg a’r sgiliau cywir.
Rydym yn hyderus o hyn, oherwydd mae ein staff ymchwil a'n graddedigion yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd.
Cymryd heriau busnes y byd go iawn i’w dwylo eu hunain.
P’un a yw hynny’n defnyddio dadansoddeg data i roi hwb i effeithlonrwydd y stryd fawr yn lleol, datblygu polisïau cynaliadwy cadarn ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r berthynas rhwng brandiau a sbwriel, er enghraifft, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n well i’w hiechyd a’r amgylchedd.
Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.
Ysgol Busnes Bangor yw lle mae traddodiad yn cwrdd ag arloesi.
Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel ein terfynellau Bloomberg dim ond taith fer o’r Ddarllenfa Shankland.
Nid damwain yw twf a datblygiad yr Ysgol Busnes.
Rydyn ni'n un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.
Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.
Rydym yn gweithio amrywiaeth o fusnesau ac elusennau, yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd.
Gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd darparu addysg ragorol trwy teithiau maes a dysgu am arbenigedd amrywiol diwydiannau.
Darparu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd.
Mae Ysgol Busnes Bangor yn fwy na lle i astudio, mae'n le i arweinwyr y dyfodol cael eu ffurfio, lle mae arloesedd yn ffynnu, a lle ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau byd-eang.
Ni yw'r ysgol sy'n golygu busnes, a hoffem chi ymuno â ni i gyd-lunio’r dyfodol.
Ein Meysydd Pwnc
Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni israddedig, ôl-radd hyfforddedig ac ôl-radd ymchwil, gyda dewisiadau astudio llawn-amser a rhan-amser hyblyg i gyd-fynd â’ch anghenion chi.
Cartref Newydd i Addysg Fusnes yng Ngogledd Cymru - Yn Agor 2026
Mae rhodd o £10.5m gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay yn dod ag Ysgol Fusnes newydd, o'r radd flaenaf i Ogledd Cymru.
Bydd yr adeilad newydd yn ganolfan fodern i ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes.
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gartref i ddwy ganolfan ymchwil ddeinamig sy'n dod ag arbenigwyr, myfyrwyr a phartneriaid ynghyd i fynd i'r afael â heriau mawr a chreu effaith yn y byd go iawn.
Ewch i’r dolenni isod i ddarganfod mwy am eu gweithgareddau, eu cyflawniadau a'u cyfleoedd i gymryd rhan.
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gartref i ddwy ganolfan ymchwil ddeinamig sy'n dod ag arbenigwyr, myfyrwyr a phartneriaid ynghyd i fynd i'r afael â heriau mawr a chreu effaith yn y byd go iawn.
Ewch i’r dolenni isod i ddarganfod mwy am eu gweithgareddau, eu cyflawniadau a'u cyfleoedd i gymryd rhan.
Newyddion Diweddaraf Ysgol Fusnes Albert Gubbay
Gweld MwyDigwyddiadau Ysgol Fusnes Albert Gubay
DILYNWCH NI
Cadwch lygad ar y newyddion, y digwyddiadau a’r straeon ysbrydoledig diweddaraf gan ein cymuned myfyrwyr, a chael cipolwg y tu ôl i’r llenni ar fywyd, dysgu ac arloesi yn yr ysgol.
Albert Gubay Business School, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG