Mae'r Gronfa Galedi yn darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr 'cartref'
sy'n cael anhawster wrth gwrdd â'u costau byw am ba bynnag reswm,
boed oherwydd eu hamgylchiadau personol (e.e. myfyrwyr hyn, neu fyfyrwyr
anabl), neu oherwydd eu bod yn disgyn i galedi yn annisgwyl. Rhoddir cymorth
ar ffurf grant nad yw'n ad-daladwy.
Yn unol â'r rheoliadau a osodwyd gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch,
mae'n rhaid i fyfyriwr gwrdd â'r meini prawf canlynol i fod yn gymwys
i roi cais i'r Gronfa Galedi;
Mae'n rhaid iddo/iddi fod yn fyfyriwr cartref* (neu'n fyfyriwr gyda statws
ffoadur) sydd wedi cofrestru ar gwrs amser llawn neu ran-amser (yn hafal
I 50% neu fwy o gwrs llawn-amser) ar lefel israddedig neu uwchradd. Mae'n
rhaid i fyfyriwr hefyd fod wedi byw yn y DU am dair blynedd cyn dechrau'r
cwrs.
* Myfyriwr cartref yw myfyriwr sy'n cwrdd ag amodau penodol cymhwyster
am fenthyciad myfyrwyr fel y nodwyd yn Rheoliadau Cefnogi Myfyrwyr 2011/12.
Bwriedir Cronfeydd Caledi ar gyfer helpu â chostau byw ac ni ellir
eu dyrannu i gynorthwyo â thalu Ffioedd Hyfforddi, ac eithrio pan
fo myfyriwr cymwys rhan-amser wedi dod yn ddi-waith ar ôl dechrau'r
cwrs.
Grwpiau Blaenoriaeth; Oherwydd natur gyfyngedig y cronfeydd, rhoddir blaenoriaeth
i'r myfyrwyr canlynol:
- Myfyrwyr gyda phlant, yn arbennig rhieni sengl
- Myfyrwyr eraill, yn arbennig myfyrwyr sydd âg ymrwymiadau ariannol, gan gynnwys dyledion blaenoriaethol
- Myfyrwyr sydd angen cymorth â chostau gofal plant.
- Myfyrwyr anabl, yn arbennig rhai nad ydynt yn gymwys i dderbyn y Lwfans
Myfyrwyr Anabl
- Myfyrwyr Blwyddyn Olaf sydd mewn trafferth ariannol (gan gynnwys rhai sydd methu gweithio oherwydd pwysau academaidd)
- Rhai sy'n gadael gofal
- Myfyrwyr mewn gofal a myfyrwyr digartref eraill
Sut ydw i'n gwneud cais, a phryd?
Gall myfyrwyr wneud cais unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn academaidd. Rhaid
i'r holl geisiadau fod ar ffurflen ddilys gyda'r holl ddogfennau perthnasol
wedi'u llungopïo. Unwaith yn unig y mae'n rhaid i fyfyrwyr wneud
cais am y flwyddyn academaidd gyfredol, oni bai bod newid mewn amgylchiadau.
Sut y telir yr arian?
Bydd eich arian o'r Gronfa Galedi fel arfer yn cael ei gyfrifo ar gyfer
y flwyddyn academaidd gyfan a byddwch yn derbyn dau randaliad yn uniongyrchol
yn eich cyfrif banc; un yn y semester cyntaf ac un arall yng nghanol yr
ail semester (cadarnheir yr union ddyddiad drwy lythyr). Mae'n hanfodol
rhoi'r manylion cywir ar y ffurflen gais hon, gan na all Brifysgol dderbyn
cyfrifoldeb dros unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy'n methu â
rhoi manylion banc cywir. Mae'n rhaid rhoi gwybod am unrhyw newidiadau
i fanylion cyfrif a roddir ar y ffurflen gais hon yn ysgrifenedig o leiaf
bedwar diwrnod a ddeg cyn y dyddiad y mae i'w dalu. Fe roddir gwybod ichi
os yw eich taliad yn un unwaith-yn-unig. Hysbysir yr holl ymgeiswyr o'r
penderfyniadau drwy lythyr, p'un a fyddant yn llwyddiannus ai peidio.
Sylwch: Bydd yn bosibl trefnu taliad siec trydydd parti, er enghraifft,
i'r Feithrinfa neu eich Landlord, os gofynnwch am hynny. Fodd bynnag,
dim ond ar ffurf siec yn unig y gellir gwneud taliad. Siaradwch â'ch
Cynghorwr Ariannol os ydych yn dymuno ystyried y dewis hwn.
Y Ffurflen Gais
Ar gyfer dibenion dyrannu grantiau o'r Gronfa Galedi, asesir myfyrwyr
ar dystiolaeth diffyg yn eu hincwm a'u gwariant. Mae felly'n hanfodol
eich bod yn rhoi dadansoddiad clir a chywir o'ch holl ffynonellau incwm
ac ymrwymiadau cyllidol cyfreithlon. Mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r
ffurflen mor drwyadl ag y bo modd ac yn rhoi'r holl dystiolaeth ddogfennol
angenrheidiol y gofynnwyd amdani i'n galluogi i brosesu'ch cais yn llwyddiannus.
Er mwyn cael ffurflen gais, dewch i’r Uned Cymorth.
Apeliadau
Mae gan bob ymgeisydd hawl i apelio os nad ydynt yn hollol fodlon â
chanlyniad eu cais i'r Gronfa Galedi. Fodd bynnag, ystyrir apeliadau ond
yn unig lle mae tystiolaeth bellach o amgylchiadau personol myfyriwr.
Gall myfyrwyr geisio am adolygiad yn y lle cyntaf, a dylent drefnu i gyfarfod
â'r Cynghorwr Ariannol i drafod tystiolaeth bellach o amgylchiadau
personol. Os yw'n briodol, bydd cais adolygedig yn cael ei ystyried gan
Grwp Dyrannu yn eu cyfarfod nesaf. Rhoddir gwybod penderfyniad y Grwp
Dyrannu i fyfyrwyr trwy lythyr.
Dylid gwneud unrhyw apêl bellach trwy lythyr at Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, a fydd yn ei anfon ymlaen at Uwch Swyddog annibynnol yn y Brifysgol
i'w ystyried. Rhoddir gwybod y penderfyniad i fyfyrwyr cyn gynted ag y
bo modd.
Mae pob croeso i chi alw heibio i'r Uned Cymorth Ariannol os oes gennych
unrhyw ymholiadau, neu os ydych angen cymorth gydag unrhyw ran o'r ffurflen.