Cymorth Ariannol
Rydym am i’ch amser yn y Brifysgol fod yn bleserus a buddiol, ac felly mae Prifysgol Bangor yn darparu’r wybodaeth a’r gefnogaeth i’w myfyrwyr fydd yn eich galluogi i gael y gorau o’ch profiad yn y Brifysgol. Yn benodol, mae’n bwysig na ddylai eich amser yma gael ei ddifetha gan bryderon ariannol diangen.
Sut gallwn ni eich helpu
Os ydych yn poeni am arian, yna mae’r Uned Cymorth Ariannol yma i helpu. Gall ein cynghorwyr eich helpu i asesu’ch sefyllfa ariannol a’ch cefnogi i greu cyllideb wariant a fydd yn bodloni eich anghenion hanfodol. Gallwn sicrhau eich bod yn derbyn eich cyllid myfyrwyr llawn a’ch hawliau i fwrsariaeth brifysgol yn ogystal ag edrych ar ffyrdd y gallwch arbed ar gostau.
Beth bynnag am eich pryderon ariannol, mae ein Cynghorwyr Ariannol yma i’n helpu, ffoniwch ni ar 01248 38 3566/3637 neu anfonwch e-bost cymorthariannol@bangor.ac.uk.
Gwybodaeth Bellach
Mae’r Uned Cymorth Ariannol yn rhan o dîm Cefnogi Myfyrwyr a gall ein staff profiadol ddarparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd o gyllid myfyrwyr gan gynnwys:
- Cyllid israddedig ar gyfer cyrsiau llawn amser a rhan amser
- Cyrsiau Israddedig wedi eu cyllido gan y GIG
- Cyllid ôl-raddedig
- Cyllidio ar gyfer cyrsiau Diploma Addysg Uwch ac MSc GIG
- Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Prifysgol
- Cyllid i Fyfyrwyr Presennol
- Cronfa Caledi a Grantiau Argyfwng
- Cyllidebu
- Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio
- Cefnogi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr
Ble i ddod o hyd i’r Uned Cymorth Ariannol
Mae’r Uned ar y Llawr Cyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF.
Adeilad rhif 70 ar fap y Brifysgol ydi Neuadd Rathbone
Ydych chi’n fyfyriwr Prifysgol Bangor mewn lleoliad tu allan i Fangor?
Dim ots ble yr ydych yn astudio mae croeso i chi wrth gwrs dderbyn yr un gefnogaeth gan yr Uned Cymorth Ariannol. Ffoniwch ni ar 01248 38 3566 / 3637 neu gyrrwch neges atom i cymorthariannol@bangor.ac.uk yn y lle cyntaf a byddwn yn trefnu beth sydd orau i chi.
Ffôn: 01248 38 3566 / 3637
Ebost: cymorthariannol@bangor.ac.uk
Eich Adborth
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o’r canlynol:
Enw | Swydd |
---|---|
Maria Lorenzini | Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Danielle Barnard | Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr |