Mathau a hyd y cyrsiau
Graddau trwy ddysgu
Fel arfer wrth ddilyn Diplomâu Ôl-raddedig a Graddau Meistr, ceir 12 mis o astudiaeth lawn-amser. Mae’r elfen gwaith cwrs yn cymryd 8 mis ac ar ôl hynny, gellir dyfarnu Diploma Ôl-raddedig Prifysgol Cymru. Os cyrhaeddwch safon uchel yn asesiad y Diploma, cewch gyfle i wneud project ymchwil a chyflwyno traethawd hir (dros gyfnod o 4 – 7 mis fel arfer) tuag at radd Meistr (MA, MSc, Mth, MMus). Mae’n bosib dewis lefel Diploma Ôl-raddedig ar y rhan fwyaf o gyrsiau Meistr.
Mae’r cyrsiau Meistr yn debyg i gyrsiau Israddedig gan eu bod nhw’n cynnwys darlithoedd, projectau ac aseiniadau. Gall y cyrsiau fod yn ddwys iawn gyda darlithoedd yn parhau trwy’r dydd, a’r galw am nifer o draethodau drwy’r cwrs ynghyd â’r project ymchwil terfynol.
Graddau ymchwil
Graddau ymchwil yw MPhil a PhD. Mae’r rhain yn cael eu dyfarnu yn dilyn astudiaeth thesis a gyflwynir wedi cyfnod o waith ymchwil.
Mae MPhil yn dangos bod gennych y sgiliau angenrheidiol i gynnal ymchwil dan oruchwyliaeth drwy ddadansoddiad systematig o ddata sydd eisoes yn bod
Mae PhD yn dangos bod gennych y gallu a’r sgiliau ymchwil methodoleg i gynnal ymchwil wreiddiol. Bydd yn astudiaeth annibynnol, sy’n defnyddio data newydd, i ddatblygu ein dealltwriaeth ac yn ehangu ffiniau’r pwnc.
Tra bo’r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn graddau ymchwil yn llawn-amser, mewn rhai amgylchiadau mae’n bosib eu cynnig yn rhan-amser. Gellwch gofrestru ar y graddau yma ar gychwyn unrhyw fis. Y cyfnod arferol ar gyfer graddau ymchwil yw:
Llawn-amser: MPhil 2 flynedd / PhD 3 blynedd
Rhan-amser: MPhil 3 blynedd / PhD 5 mlynedd
Mae’n bosib i chi gwblhau MPhil ar ôl astudio am un flwyddyn yn llawn-amser neu am ddwy flynedd yn rhan-amser. Os ydych chi’n ymgeisydd PhD gyda gradd berthnasol neu o leiaf dwy flynedd o brofiad perthnasol, mae’n bosib y bydd eich cyfnod astudio yn ddwy flynedd yn llawn-amser yn unig neu’n dair blynedd yn rhan-amser. Bydd rhaid cytuno ar y trefniant yma gyda Phennaeth yr Ysgol a’ch goruchwyliwr cyn cychwyn ar eich gwaith ymchwil. Disgwylir i fyfyrwyr PhD gynhyrchu a chyflwyno thesis ar gyfer asesiad o fewn pedair blynedd o gychwyn rhaglen tair blynedd.
DClinPsy
Mae’r rhaglen yma, sy’n dair blynedd yn llawn-amser, yn arwain at y radd Doethur mewn Seicoleg Glinigol (Doctor in Clinical Psychology). Mae’r radd yn cynnwys cyrsiau trwy ddysgu, lleoliadau clinigol a chynnal projectau ymchwil. Y 'Clearing House for Postgraduate Courses in Clinical Psychology' sy'n gyfrifol am geisiadau DClinPsy, ac nid y Brifysgol. Cysylltwch drwy
Ffonio 0113 343 2737
Ffacsio 0113 243 0908
E-bostio chpccp@leeds.ac.uk
Anfon llythyr i’r
Clearing House for Postgraduate Courses in Clinical Psychology
15 Hyde Terrace
Leeds
LS2 9LT
Ewch i’r wefan am fanylion a dyddiadau cau: http://www.leeds.ac.uk/chpccp
Rhaglen Graddedigion
Rydym yn cynnig cyfres o gyrsiau i ddatblygu eich sgiliau ac ehangu’ch portffolio ar y Rhaglen Graddedigion. Os ydych chi’n cofrestru ar radd uwch drwy ymchwil yn llawn-amser a heb dderbyn unrhyw hyfforddiant mewn methodoleg ymchwil na dilyn cwrs Meistr o’r blaen a oedd yn cynnwys elfennau methodoleg yna, bydd disgwyl i chi ddilyn y cyrsiau yma yn ystod eich dwy flynedd gyntaf i gyflawni isafswm o 30 credyd. Os casglwch chi 60 credyd, dyfarnir Tystysgrif Cyrhaeddiad Ôl-raddedigion i chi.
Rydych yn cofrestru ar gyrsiau sgiliau ar gychwyn eich rhaglen radd ar ôl trafod gyda’ch goruchwyliwr. Mae’r dewis o gyrsiau yn dibynnu ar natur eich rhaglen ymchwil a pha bynciau wnaethoch chi yn eich gradd gyntaf ac ar ôl hynny.
Dyma restr o’r holl gyrsiau sgiliau sydd ar gael i fyfyrwyr ymchwil ym mhob ysgol:
- Sgiliau Rheoli: Iechyd a Diogelwch yn y Labordy
- Cymraeg sgyrsiol i Ddechreuwyr
- Sgiliau Cyflwyno
- TG Rhagarweiniol a’r defnydd o Brosesydd Geiriau
- Defnyddio TG i drin data
- Sgiliau Cyfathrebu TG
- Sgiliau Chwilio am Wybodaeth
- Cyflwyniad i Gronfeydd data gydag ORACLE a SQL
- Ystadegau Cymhwysol
- Cynllunio Arbrofol
- Ystadegau Uwch
- Materion mewn Cynllunio a Dadansoddi Ymchwil
- Ysgrifennu er mwyn Cyfathrebu
- Cyflwyniad i raddedigion i Wyddorau Biolegol
- Modelu Newidiol Cudd
- Ieithoedd i an-arbenigwyr: Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg
- Cwblhau a Chyhoeddi Papurau Academaidd
- Dysgu mewn Addysg Uwch
- Cychwyn projectau ymchwil Ôl-raddedig
- Datblygu Projectau Ymchwil Ôl-raddedig mewn Iechyd
- Sgiliau Rheoli Gyrfa
- Sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd
- Entrepreneuriaeth
- Paratoi ar gyfer gyrfa mewn Ymchwil
Cynhelir ysgol haf fer hefyd, Cydnabod Potensial Academaidd: cyflwyno a chyhoeddi papurau academaidd a gwyddonol. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dilyn y cwrs yma ar ddiwedd eich blwyddyn olaf ond un.
Fforwm Tiwtoriaid ac Ôl-raddedigion
Bydd pob myfyriwr yn derbyn cefnogaeth academaidd, cyngor a chyfarwyddyd yn ystod eu cwrs Ôl-raddedig. Mae pob ysgol wedi penodi aelod o staff academaidd fel uwch-diwtor personol.
Mae’r Fforwm i Ôl-raddedigion yn gyfle i chi drafod eich barn. Cymdeithas o Ôl-raddedigion ydyw a gafodd ei sefydlu gyda chefnogaeth y Brifysgol i ddarparu llais i nodi anghenion arbennig myfyrwyr ymchwil.Mae pob ysgol wedi’i chynrychioli ar y fforwm, sy’n golygu eu bod nhw’n cael eu cynrychioli ar y Pwyllgor Ôl-raddedig sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglenni ymchwil.