UWB Crest

Ysgol y Gymraeg

Sion Hughes - Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg

Sion Elwyn HughesMae Siôn Elwyn Hughes, 19 oed, o Fethel ger Caernarfon yn gyn ddisgybl Ysgol Brynrefail, Llanrug. Cafodd A* mewn Cymraeg a dwy A mewn Cerdd a Hanes yn ei Lefel A. Mae Sion nawr yn ei flwyddyn gyntaf o gwrs gradd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mangor.

Pam dewis Bangor?

A minnau’n byw ychydig filltiroedd o Fangor, roeddwn yn gwybod am y Brifysgol ac wedi treulio nifer o gyrsiau preswyl yno. Dewisais Brifysgol Bangor, nid yn unig oherwydd fy mod yn awyddus i aros yn yr ardal, ond oherwydd mai ym Mangor, yn fy marn i, y mae’r Adran Gymraeg orau yng Nghymru.

Y Cwrs...

Rydw i’n mwynhau’n fawr hyd yn hyn. Rydw i’n hoffi’n benodol y cwrs Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol dan ofal Dr Jason Walford Davies gan ei fod yn gwneud i ni edrych ar farddoniaeth Gymraeg mewn ffordd hollol wahanol.

Ennill yr Ysgoloriaeth...

Mae ennill yr Ysgologiraeth Rhagoriaeth yn deimlad gwych, ond hefyd mae’n braf meddwl nad oes angen poeni gymaint am gostau’r flwyddyn gyntaf, â’r ysgoloriaeth hon y tu ôl i mi.

Bywyd ym Mangor...

Rwy’n mwnhau bywyd ym Mangor yn fawr iawn ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd, sy’n dilyn y cwrs Cymraeg a’r tu hwnt. Rydw i wedi ymaelodi efo Canolfan Hamdden Maes Glas ac rydw i’n aelod o Aelwyd JMJ. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y tair blynedd nesaf yn dilyn Wythnos y Glas arbennig o ddifyr a hwyliog!