Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth
Ein nod yw darparu cyfleusterauac adnoddau Technoleg Gwybodeth o'r safon uchaf ar eich cyfer.
Rydym yn cynnig
- Dros 1000 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr
- Naw o ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Ym mhob ystafell wely yn y neuaddau preswyl y mae mynediad i'r rhyngrwyd, sy'n gyflymach na band eang cartref lleol.
- Mae mannau cysylltiedig â’r rhwydwaith di-wifr yn yr holl lyfrgelloedd ac mae amrywiaeth o fannau cyffredin ac astudio yn y mwyafrif o’r adeiladu dysgu.
- Amrywiaeth eang o feddalwedd arbenigol sydd ar gael yn ein holl ystafelloedd cyfrifiadur, a’r mwyafrif helaeth ar gael hefyd i’w defnyddio o’ch cyfrifiadur unrhyw fan lle mae gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd.
- Ystod eang o dechnoleg addysgol yn cynnwys Blackboard (rhith-amgylchedd dysgu masnachol), byrddau trafod, tudalennau cyhoeddiadau a llawer mwy
- Desg gymorth a gwasanaeth cynghori i’ch helpu i ddefnyddio TG – ar gael dros y ffôn, mewn person neu ar ebost
- Argraffu laser du a gwyn o’r holl ystafelloedd cyfrifiaduron ac argraffu lliw mewn amrywiaeth o feintiau, o A4 arferol i faint poster A0
- Gwasanaethau ar-lein i arbed amser i chi (pa fodiwlau ydw i’n eu hastudio? Beth yw fy marciau? etc)
- Uned argraffu a rhwymo ar gyfer argraffu swmpus ac i rwymo’ch project/thesis
- Y gorau posib i fyfyrwyr ag anableddau: gall y Brifysgol eich cynorthwyo i wneud cais am Lwfans Myfyriwr Anabl i'ch helpu i gael gafael ar y dechnoleg gynorthwyol a'r gefnogaeth fydd eu hangen arnoch yn eich astudiaethau. Rydym hefyd yn darparu dwy ystafell Technoleg Gynorthwyol arbenigol i fyfyrwyr anabl neu i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol. Mae'r ystafelloedd yn cynnwys cyfrifiaduron sy'n rhedeg amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyol, argraffydd Braille, sganiwr Rainbow, chwyddwr CCTV a dodrefn y gellir newid eu huchder.
- Staff cyfrwng Cymraeg ar gael drwy’r adeg
- Porwr gwe Cymraeg
- Gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg (wedi’i ddatblygu ym Mangor)
Darllenwch ein tudalennau ar Wasanaethau Technoleg Gwybodaeth am fanylion pellach
Gwasanaethau llyfrgell ac archif
Mae gan y Brifysgol ystod eang o adnoddau dysgu nodedig. Mae gennym gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Hefyd, mae gennym gronfeydd data, fideos a CDs; defnydd micro ffurf a chyfleusterau argraffu; casgliad arbennig o lawysgrifau a chatalogau ar-lein i gael mynediad at e-lyfrau, cylchgronau electronig, hen bapurau arholiad, canllawiau i bynciau ac amryw o adnoddau dysgu eraill.
Ewch i'n tudalennau ar Wasanaethau Llyfrgell ac Archifau am fanylion pellach