UWB Crest

Ysgol Busnes Bangor

Ysgoloriaethau Ôl-radd: Ysgol Busnes Bangor

Llun o'r Hen Goleg

Ysgoloriaethau Aur ac Arian

Mae gan Ysgol Busnes Bangor (YBB) ddau gynllun ysgoloriaeth, sy’n rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr llawn-amser ar yr holl raglenni MSc, MA ac MBA (darganfyddwch fwy am ein rhaglenni ôl-radd):

  • Ysgoloriaeth Aur YBB gwerth £5,000 y flwyddyn
  • Ysgoloriaeth Arian YBB gwerth £2,000 y flwyddyn.

Mae nifer yr Ysgoloriaethau Aur ac Arian yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond, fel rheol, nifer fach o Ysgoloriaethau Aur a mwy o Ysgoloriaethau Arian sydd ar gael. Mae gan yr holl fyfyrwyr hawl i wneud cais am y ddau fath o Ysgoloriaeth; fodd bynnag, un ysgoloriaeth yn unig y bydd myfyrwyr yn ei derbyn. Nid ydym yn ystyried gwlad enedigol ymgeiswyr wrth ddewis y rhai a fydd yn derbyn Ysgoloriaeth.

I fedru gwneud cais am Ysgoloriaeth, rhaid eich bod yn gwneud cais am le neu eisoes wedi cael cynnig lle ar un o’r rhaglenni ôl-radd hyfforddedig isod:

  • MA / MSc Bancio a Chyllid
  • MA / MSc Cyllid
  • MA / MSc Rheolaeth a Chyllid
  • MA/MSc/MBA Bancio a Chyllid Islamaidd
  • MA/MSc Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr
  • MSc Bancio Rhyngwladol a Chyllid Datblygu
  • MSc Cyfrifeg a Chyllid
  • MA Busnes a Marchnata
  • MA Bancio a’r Gyfraith
  • MBA Marchnata
  • MBA Bancio a Chyllid
  • MBA Rheolaeth
  • MBA Bancio a’r Gyfraith
  • MBA Y Gyfraith a Rheolaeth
  • MBA Rheolaeth Gwybodaeth

Caiff yr holl ymgeiswyr wybod trwy e-bost am ganlyniad eu ceisiadau am fynediad ar raglen academaidd. Bydd ceisiadau sydd wedi cael cynnig lle yn derbyn y Pecyn Ymgeisio am Ysgoloriaeth o Ysgol Busnes Bangor yn yr un neges e-bost. Byddwn yn anfon llythyr at y rai nad ydynt wedi nodi cyfeiriad e-bost ar eu ffurflenni cais. Bydd y Pecyn Ymgeisio am Ysgoloriaeth yn cynnwys:

  • manylion am y cynllun ysgoloriaethau aur ac arian
  • manylion am sut i wneud cais
  • ffurflen gais am ysgoloriaeth

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr roi manylion am eu cyraeddiadau academaidd a’u campau personol, gan roi eu rhesymau dros wneud cais am ysgoloriaeth gan Ysgol Busnes Bangor. Byddwn yn dyfarnu ysgoloriaethau ar sail cryfder y ceisiadau a ddaw i law. Er bod cyrhaeddiad academaidd yn faen prawf allweddol, byddwn yn ystyried rhychwant eang o hanes academaidd yr holl ymgeiswyr, ynghyd â’u profiad gwaith a’r hyn y maent wedi’i gyflawni mewn bywyd. NODWCH: ni dderbynnir ffurflen gais HEB gopi o CV.

Mae yna ddau ddyddiad cau ar gyfer ymgeisio:

  • Dyddiad cau interim: 1 Mawrth
  • Dyddiad cau terfynol: 1 Gorffennaf

Llwythwch y ffurflen gais i lawr (NODWCH: rhaid cynnwys copi o’ch CV gyda’ch ffurflen cais. Ni dderbynir cais HEB CV.)

Ysgoloriaeth Ôl-radd Cyfrwng Cymraeg: Cyfrifeg

Mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ôl-radd cyfrwng Cymraeg mewn Cyfrifeg i ddechrau 1 Hydref 2011. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Mae cyllid ar gael am hyd at bum mlynedd, yn cynnwys tair/pedair blynedd fel myfyriwr ymchwil am ddoethuriaeth a blwyddyn ychwanegol fel cymrawd dysgu.  Bydd yr ysgoloriaeth ôl-radd yn cynnwys costau hyfforddi’r brifysgol (y gyfradd  gyfredol i fyfyrwyr cartref/UE  yw £3,466) a hefyd grant gynnal (y gyfradd gyfredol yw £13,590 y flwyddyn). Gwahoddir ceisiadau gan ddarpar ymchwilwyr gyda chefndir yn unrhyw faes gwyddorau cymdeithas ac sydd â diddordeb mewn archwilio’r materion cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach a godir gan dechnolegau cyfrifo ac ymddygiad sefydliadol.  Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgolion sydd yn y Coleg  fel un o amodau'r ysgoloriaeth.  Ystyrir blwyddyn olaf yr ysgoloriaeth yn flwyddyn gymrodoriaeth pryd y bydd yr ymrwymiadau dysgu’n cynyddu.  

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau/cryfderau canlynol:

  • Gradd ail ddosbarth uwch/dosbarth cyntaf neu gymhwyster ôl-radd neu gymhwyster proffesiynol mewn maes perthnasol.  I fedru derbyn yr ysgoloriaeth, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod wedi graddio o sefydliad addysg uwch cydnabyddedig, neu'n fyfyriwr israddedig sy'n disgwyl graddio cyn 31 Gorffennaf 2011.  
  • Medru siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
  • Dangos y gallu a’r dyfalbarhad sydd eu hangen i gwblhau PhD trwy ymchwil o fewn cyfnod yr ysgoloriaeth.
  • Paratoi amlinelliad o’i syniadau ar gyfer y project ymchwil arfaethedig.
  • Bod mewn sefyllfa i gyflawni dyletswyddau dysgu cyfrwng Cymraeg i’r Ysgolion sydd yn y Coleg.   Disgwylir i’r deiliad wneud cyfraniad pwysig tuag at ddysgu cyfrwng Cymraeg a thuag at ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd.

Dylai ymgeiswyr anfon llythyr cais yn cynnwys amlinelliad o’u syniadau ar gyfer y project ymchwil arfaethedig (dim mwy na 1,000 o eiriau), copi cyfredol o’u CV, ynghyd ag enwau dau ganolwr sy’n gyfarwydd â’u gwaith academaidd, at:
Yr Athro Phil Molyneux, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG;
e-bost: p.molyneux@bangor.ac.uk; ffôn: 01248 382170

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin 2011. Caiff ymgeiswyr eu cyfweld ar gyfer yr ysgoloriaeth hon fel rhan o’r broses ddewis.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Doris Merkl-Davies
ebost: abs213@bangor.ac.uk; ffôn: 01248 382120.

Ysgoloriaethau Ffioedd Hyfforddi Llawn y DU / UE

Mae’r cynllun ysgoloriaeth hwn yn rhoi cefnogaeth ariannol, sy’n gyfwerth â’r ffi hyfforddi ar gyfer myfyrwyr y DU / UE, i fyfyrwyr â chymwysterau uchel ar raglenni dethol MSc ac MA yn Ysgol Busnes Bangor.

I fod yn gymwys i gael eich ystyried am Ysgoloriaeth Ffioedd Hyfforddi Llawn y DU / UE, rhaid i chi fodloni pob un o’r meini prawf canlynol:

  • wedi cael eich dosbarthu fel myfyriwr y DU / UE at ddibenion statws ffioedd hyfforddi
  • wedi derbyn gradd BA/BSc o fewn y tair blynedd cyn Medi 2008, gyda dosbarth 2.1 neu uwch (neu gyfwerth gan brifysgol y tu allan i Brydain).
  • wedi cofrestru fel myfyriwr llawn-amser
  • wedi cael cynnig lle ar un o’r rhaglenni ôl-radd hyfforddedig canlynol yn Ysgol Busnes Bangor:
    • MSc Cyfrifeg a Chyllid
    • MA / MSc Bancio a Chyllid
    • MA / MSc Rheolaeth a Chyllid
    • MA Busnes a Chyllid 
    • MA / MSc Cyllid
    • MSc Bancio Rhyngwladol a Chyllid Datblygu
    • MA / MSc Bancio a Chyllid Islamaidd

Mae nifer yr ysgoloriaethau yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, ond disgwylir y bydd rhwng pump a deg ysgoloriaeth ar gael eleni.

Mae yna ddau ddyddiad cau ar gyfer ymgeisio:

  • Dyddiad cau interim: 1 Mawrth
  • Dyddiad cau terfynol: 1 Gorffennaf

Llwythwch y ffurflen gais i lawr(NODWCH: rhaid cynnwys copi o’ch CV gyda’ch ffurflen cais. Ni dderbynir cais HEB CV.)

Nid yw’r ysgoloriaeth hon yn berthnasol i unrhyw raddau Meistr eraill a gynigir yn gyfan gwbl, neu’n rhannol, gan Ysgol Busnes Bangor ac y rhoddir gwybod amdanynt yn ein taflenni hysbysrwydd ac ar ein gwe-dudalennau.

Gostyngiadau teyrngarwch i raddedigion o Fangor

Os ydych yn un o Alumni Prifysgol Bangor (p’un a fyddoch wedi graddio’n ddiweddar, ynteu wedi astudio gyda ni lawer o flynyddoedd yn ôl) yna mae gennych hefyd hawl i gael gostyngiad ar eich ffioedd os dewiswch astudio ar gyfer eich cymhwyster ôl-radd gydag Ysgol Busnes Bangor. Os ydych yn ymgeisydd Rhyngwladol, byddwn yn rhoi gostyngiad i chi o £1,500 ar eich ffioedd, a gostyngiad o £1,000 ar eich ffioedd os ydych yn fyfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Yn ogystal â’r  ysgoloriaethau a’r dewisiadau o ran lleihau ffioedd sydd wedi’u hamlinellu uchod, efallai y cewch hefyd fod y wybodaeth isod yn ddefnyddiol o ran cyllido eich astudiaethau gyda ni;

  • Efallai y bydd gennych hawl i gael Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddech, tra oeddech yn israddedig, yn derbyn Grant Dysgu gan y Cynulliad, Bwrsariaeth Gyfleoedd, Bwrsariaeth Foyer, neu Grant Gadael Gofal.

Mae manylion pellach i’w cael ar we-dudalennau Cyllid Myfyrwyr Ôl-radd.

Os dymunwch, gellwch gysylltu â Bethan Hamilton-Hine am unrhyw newyddion cyfredol a fo gennym ynglŷn â’n cynllun Ysgoloriaethau;

Bethan Hamilton-Hine
Ysgol Busnes Bangor
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
b.hamilton@bangor.ac.uk