Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Ffair Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnal Ffair Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn ystod semester un. Mae'r Ffair yn gyfle rhagorol i gwrdd â chyflogwyr, dysgu mwy am interniaethau, cynlluniau graddedigion a swyddi, a rhoi syniad o'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Mae'r clinig CV galw heibio yn cynnig cyngor gwerthfawr am sut i wella eich CV.  

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Bwriad cynllun Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yw gwella rhagolygon gyrfaol myfyrwyr Bangor, ar hyn o bryd ac yn y tymor hir. Mae'n galluogi myfyrwyr i adeiladu ar eu sgiliau trosglwyddadwy trwy ennill cydnabyddiaeth am y gweithgareddau maent wedi cymryd rhan ynddynt yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.

Mwy am Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor yn darparu ystod eang o adnoddau i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau fel graddedigion. Maent yn cynnig lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, gwaith rhan-amser a chyfleoedd i wirfoddoli a mentora.

Mwy am Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Bangor.

Profiad Gwaith

Mae Ysgol Busnes Bangor yn hysbysebu interniaethau a swyddi'n rheolaidd i fyfyrwyr, ac mae'r brifysgol hefyd yn cynnig cynllun interniaeth i israddedigion a chyfleoedd i wirfoddoli. Bwriad yr opsiynau hyn yw rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad gwaith gwerthfawr, datblygu sgiliau allweddol a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mwy am interniaethau a phrofiad gwaith

Gyrfaoedd ein Graddedigion

I ble mae graddedigion Ysgol Busnes Bangor yn mynd unwaith mae nhw wedi graddio? Dyma flas i chi o sut swyddi mae ein graddedigion wedi eu cael ar ôl gadael y Brifysgol. 

Mwy am swyddi ein graddedigion

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?