Yn dangos desg gan gynnwys taflen gyfrifeg, sbectol, cyfrifiannell a beiro.

Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Darganfyddwch ein Pynciau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Dod o hyd i gwrs

Myfyrwyr yn sgwrsio tu allan i Pontio

YSGOL BUSNES BANGOR YN LLWYDDIANNUS YN AROLWG PTES 2023

Gwelodd Arolwg Profiad Ôl-raddedigion Hyfforddedig (PTES) 2023 diweddar Ysgol Busnes Bangor ganlyniadau rhagorol. Roedd Busnes a Rheolaeth yn 3ydd (allan o 85) ar gyfer y mesur Cyffredinol ac yn 4ydd (allan o 84) ar gyfer y mesur Addysgu. Daeth cefnogaeth i fyfyrwyr hefyd i'r amlwg gyda'r ysgol yn dod yn 4ydd (allan o 71) ar gyfer y mesur cefnogaeth.
 

Pam Astudio Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Rydym yn falch iawn o'r amgylchedd addysgu a dysgu yn Ysgol Busnes Bangor. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn adnoddau dysgu arloesol, cefnogaeth dechnolegol, gofal bugeiliol a phrofiad myfyrwyr. Mae ein perfformiad cryf ar y llwyfan byd-eang yn dyst i'n hymrwymiad i ddarparu profiad heriol a thrwyadl i'n holl fyfyrwyr. Mae ein rhaglenni ôl-radd Cyfrifeg, Bancio a Chyllid yn darparu gwybodaeth werthfawr iawn a sgiliau trosglwyddadwy sy'n eich paratoi chi at amrywiaeth eang o yrfaoedd posib. Cewch brofiad o amrywiaeth o adnoddau a thechnegau cyfrifyddu a chyllid ynghyd â sylfaen academaidd drylwyr.  Rydym yn cynnig amrywiaeth o brojectau amgen dros yr haf fel rhan o raglenni hyfforddedig, sy'n rhoi cyfle i chi deilwra eich gwaith traethawd hir tuag at eich nodau gyrfa penodol. Gallwch wneud defnydd o'r sgiliau a ddatblygir ar y rhaglenni hyn ar unwaith wrth ailafael yn eich gyrf.

Llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig)

Mae llawer o’n rhaglenni gradd yn rhoi'r cyfle i ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr). Erbyn hyn, y CFA yw’r cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch ym maes cyllid yn y byd i gyd.

Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn yn astudio modiwl newydd o'r enw Ymchwil Ariannol a Chyfres CFA yn ystod yr haf. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ymchwil ym mis Mehefin ac yna’n cael hyfforddiant arbenigol i’w paratoi at yr arholiad CFA Lefel 1 a ddarperir gan Fitch Learning, sy'n ddarparwr addysg CFA cydnabyddedig ac achrededig. Bydd y dysgu’n cynnwys dau ddiwrnod o seminarau ymchwil ym mis Mehefin a phum bloc deuddydd o hyfforddiant, ynghyd â dau floc ychwanegol o adolygu yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd asesiadau yn dilyn y seminarau a'r hyfforddiant CFA.

Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn.

Ond bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda’r CFA Institute a thalu er mwyn sefyll yr arholiad. Telir ffioedd cofrestru ac arholiad i'r CFA Institute.

Gallwch gofrestru ar y llwybr CFA hwn ar ôl i chi gyrraedd Bangor. Os hoffech wneud ymholiadau ymlaen llaw, cysylltwch ag owain.apgwilym@bangor.ac.uk.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i swyddi yn y sectorau preifat a chyhoeddus, mewn marchnadoedd a banciau ariannol rhyngwladol neu mewn busnesau lleol a rhyngwladol. Mae ein graddedigion yn gadael Bangor wedi eu paratoi'n drylwyr at gyfleoedd cyflogaeth difyr a gwerth chweil yn y dyfodol.

Mae ein rhaglenni ôl-radd hyfforddedig mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid yn cael eu cydnabod gan sefydliadau uchel eu parch gan gynnwys Sefydliad y Bancwyr Siartredig (CBI) a'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Er enghraifft, mae ein MBA Banciwr Siartredig yn gymhwyster byd-eang unigryw sy'n cyfuno trylwyredd academaidd â chydnabyddiaeth broffesiynol. Rydym hefyd yn cynnig llwybrau i baratoi graddedigion at yr arholiadau Dadansoddwr Ariannol Siartredig (CFA) a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae'r cysylltiadau hyn â byd cyllid proffesiynol yn cynnwys manteision enfawr a fydd yn caniatáu ichi gamu ymlaen yn eich gyrfa. Mae ein rhaglenni yn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr at ddisgwyliadau cyflogwyr yn y sector cyfrifeg a bancio byd-eang a marchnadoedd ariannol rhyngwladol.

Ein Hymchwil o fewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Mae Bangor wedi datblygu enw da yn rhyngwladol ym maes ymchwil Cyfrifeg, Bancio a Chyllid dros sawl degawd. Mae gan staff gysylltiadau gweithredol â sefydliadau rhyngwladol fel Banc Canolog Ewrop (ECB) a'r Bank for International Settlements (BIS). Ymhlith y themâu ymchwil cyfredol a ystyrir gan ein staff mae Undeb Bancio Ewrop, polisi cyfradd llog negyddol, iawndal gweithredol, moeseg ariannol a statws credyd. Mae myfyrwyr Cyfrifeg yn gallu manteisio ar ein hacademyddion a'n hymchwilwyr sy'n arbenigwyr mewn cyfrifeg ariannol a rheoli, trethiant, archwilio a dadansoddi ariannol. Mae staff academaidd yn gwneud gwaith ymchwil ar lefel uchel i sefydliadau allanol yn gyson, fel y Comisiwn Ewropeaidd, Banc y Byd a Thrysorlys y DU. Mae dysgu dan arweiniad ymchwil yn ffynnu yn yr ysgol ac mae wedi arwain at gynllunio a darparu rhaglenni arloesol ym maes Cyfrifeg, Bancio a Chyllid.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?