Mae'r radd hon yn helpu diwallu'r galw am arbenigwyr sy'n meddu ar gymwysterau da a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd mewn amryw o gyd-destunau. Bydd dewisiadau'n agored i chi yn eich gyrfa mewn meysydd fel addysg, seicoleg, cymdeithaseg a phroffesiynau perthynol yn y sector cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymunedol. Os oes gennych ddiddordeb mewn addysg gynradd, rydych yn siŵr o gyfweliad gyda ni ar gyfer y cwrs hyfforddi athrawon cynradd TAR, os byddwch yn cyflawni'r gofynion mynediad.
Mae cyflogadwyedd yn thema allweddol yn y rhaglen Plentyndod ac Ieuenctid , ac rydym wedi cynnwys nifer fawr o gyfleoedd yn ein gradd i sicrhau bod gan ein graddedigion CV cryf. Mae rhai o'r cyfleoedd sydd ar gael i chi ar hyn o bryd yn cynnwys cwrs Makaton, dod yn llysgennad i amrywiol elusennau a chymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol. Mae llawer o'n myfyrwyr wedi creu cryn argraff ar leoliadau nes iddynt gael cynnig gwaith ar ôl iddynt orffen eu graddau.
Mae gyrfaoedd diweddar ein graddedigion yn cynnwys:
- gyrfaoedd mewn gwasanaethau plant
- rheoli
- dysgu
- gwaith cymdeithasol
- cwnsela
- darparu therapi
- rolau cyfraith sy'n ymwneud â phlant
- gwaith elusennol
Mae natur amlddisgyblaethol y rhaglen hefyd yn rhoi set ragorol o wybodaeth a sgiliau i chi fynd rhagoch i astudiaethau ôl-radd mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol, y gyfraith, neu ddatblygiad rhyngwladol.