Mae gennym arbenigedd proffesiynol ac academaidd mewn amrywiol feysydd megis hawliau plant, cyfraith y teulu, dwyieithrwydd, addysg, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, llythrennedd, anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant. Mae'r amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol sydd yma'n nodwedd unigryw o'r cwrs, ac mae'n gyfle i chi astudio plentyndod ac Ieuenctid o nifer o safbwyntiau.
- 1af am ragolygon gyrfa (Guardian Good University Guide 2022)
- 10 Uchaf am ansawdd ymchwil (Times Good University Guide 2022)
- Mae'n darparu'r wybodaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau ymarferol a wnaiff ganiatáu i chi fynd i'r afael â heriau cymdeithas gyfoes, weithgar mewn gwlad ddwyieithog
- Cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mi wnaiff y lleoliadau ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant
- Amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol sy'n cyfoethogi ac yn atgyfnerthu'ch dysgu
Mae strwythur unigryw ein cwrs yn eich galluogi i ymchwilio i faterion o dri safbwynt allweddol: y cymdeithasegol, yr addysgol a'r seicolegol. Byddwch chi'n dechrau'ch astudiaethau trwy ddilyn modiwlau yn yr holl feysydd yma, ac wrth i'r cwrs fynd rhagddo, bydd dewisiadau'r modiwlau'n caniatáu i chi fireinio'ch diddordebau a dechrau arbenigo yn y meysydd sydd o'r diddordeb mwyaf i chi.
Rydym yn bartneriaid allweddol yn Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, sy'n rhoi cyfle unigryw i chi weithio gyda phlant fel ymchwilwyr. Cewch hefyd gynorthwyo staff sy'n gweithio gydag ysgolion lleol a gwasanaethau plant i gefnogi uwchgynadleddau plant ac ieuenctid mewn materion sy'n peri pryder i blant a phobl ifanc. Mae'r materion hynny'n cynnwys y newid yn yr hinsawdd ac iechyd meddwl, ac felly byddwch chi'n ennill profiad ymarferol o'r materion amserol hynny
Er mwyn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn ffyrdd cefnogol, credwn fod angen i chi ddysgu oddi wrthynt, gwrando arnynt a deall y byd maent yn byw ynddo. Sail ein BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yw'r ymrwymiad i gydraddoldeb, cynhwysiant, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol pob plentyn a pherson ifanc, sy'n rhoi cipolwg i chi o'r theori a'r arfer o wneud i hynny ddigwydd mewn amrywiaeth o yrfaoedd.