Myfyrwyr mewn neuadd ddarlithio

Datblygu Ymyriadau Newid Ymddygiad Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC)

Dr Rosemary Smith

Rosemary ar y traeth, yn gwisgo band gwallt

Mae cefndir Dr Rosemary Smith ym maes addysg, cymell a mentora, ac arweinyddiaeth, i ddechrau yn y maes awyr agored fel hyfforddwr ac addysgwr hyfforddwyr, ac am y 10 mlynedd ddiwethaf, yn addysgu ar raglenni ôl-radd ac israddedig mewn Addysg Uwch. Mae gan Rosemary MEd mewn Ymarfer Proffesiynol mewn Addysg Uwch, ac EdD (Doethur mewn Addysg), ac mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Mae diddordebau ymchwil Rosemary mewn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, dysgu a chymell, yn ogystal ag ymchwil flaenorol i brofiadau merched yn yr awyr agored.

Yr Athro John Parkinson

Llun o'r Athro John Parkinson

Seicolegydd ymddygiadol yw John ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng gwybyddiaeth ac emosiwn, yn enwedig o ran hybu iechyd ac atal salwch. Mae ganddo ddiddordeb mewn sut mae signalau cymhellol yn cael eu cynhyrchu, sut maent yn rhyngweithio â phrosesau gwybyddol parhaus a sut mae hyn yn effeithio ar ymddygiad. Mae integreiddio theori proses ddeuol ag ymagweddau cyfoes at ymddygiad (megis COM-B) o ddiddordeb arbennig iddo. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y canlynol: dylanwad cyflyrau cymhellol ar brosesau gwybyddol megis sylw, cof a gwneud penderfyniadau; effaith cyflyrau emosiynol cadarnhaol ar wybyddiaeth; rôl a natur ymddygiadau a achosir gan ysgogiad (gan gynnwys cyffroad cymhellol a chwant mewn ymddygiadau caethiwus). John yw Cyfarwyddwr Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ac mae’n cydweithio ag Uned Gwyddorau Ymddygiadol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae John yn aelod o'r grŵp ymchwil Seicoleg Ymddygiadol, Seicoleg Iechyd a Seicoleg Glinigol a’r grŵp ymchwil Niwrowyddoniaeth Gymdeithasol.

Yr Athro John Parkinson

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?