Wrth i nifer yr achosion o anhwylderau tymor hir a morbidrwydd lluosog gynyddu, mae canolbwyntio ar iechyd ataliol yn hytrach na dim ond ar wella salwch yn dod yn bwysicach nag erioed.
Rydym yn canolbwyntio ar helpu pobl i fod yn iach, yn hapus ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd, nid dim ond eu trin pan fyddant yn sâl. Nid yn unig y mae’r dull hwn o fudd i unigolion ond hefyd i deuluoedd, i gymunedau, i’r gymdeithas ehangach ac i’r gwasanaethau iechyd.
Mae’r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant yn rhan o rwydwaith newydd o Academïau Dysgu Dwys a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rhwydwaith ydyw o ganolfannau ar gyfer datblygu sgiliau ac arbenigedd, rhannu gwybodaeth a throi ymchwil yn ganlyniadau ymarferol.