Image of Crib Goch mountain with clouds and slate

Tirwedd Llechi

Manteisio ar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO y Dirwedd Lechi a datblygu twristiaeth gynaliadwy ac adfywiol yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Ariannwyd y project hwn gan Wobr Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor.

Trosolwg o’r Project

Mae’r project hwn yn archwilio sut y gall cymunedau lleol, a’r genhedlaeth iau elwa ar Statws Treftadaeth y Byd UNESCO ar gyfer Tirwedd Llechi Cymru.

  • Deall sut mae statws Treftadaeth y Byd y Dirwedd Lechi yn effeithio ar y genhedlaeth iau
  • Archwilio teimladau pobl ifanc leol o ymlyniad tuag at le a hunaniaeth lle mewn perthynas â'r safle
  • Archwilio barn pobl ifanc leol ar dwristiaeth gynaliadwy ac adfywio yn yr ardal
  • Archwilio effeithiau cyfryngau cymdeithasol a chynnwys ar-lein arall ar agweddau ymwelwyr a chael dealltwriaeth o sut mae’r safleoedd llechi yn cael eu hadlewyrchu ar-lein.
  • Cynhaliwyd 20 cyfweliad a grŵp ffocws gyda phobl leol 18-25 oed o bob rhan o’r ardal Tirwedd Llechi (e.e. Dyffryn Nantlle, Bethesda, Abergynolwyn)
  • Dadansoddi cyfryngau cymdeithasol a pheiriannau chwilio/ 'Netnograffeg'

Nodwyd nifer o themâu trwy ein hymwneud â phobl ifanc, megis Hanes y Safle a Llechi, Agweddau Hamdden a Chymdeithasol i'r Safle, Gwerthoedd Diwylliannol a Threftadaeth a Chyflogaeth.

Dyfyniadau o'r cyfweliadau

“When I was at school, everyone's parents and grandparents had worked in the quarry”

“Economically, you do need more skilled workers in the area... we've got a massive brain drain in the area”

“The UNESCO status gives us the recognition across the world” 

“Llyn Padarn…fy hoff le..dwi di byw yma erioed a genai lot o atgofion yma. Lot o hanes a dwi’n prowd o’r lle”

 “You’ve got the pride in the heavy industry, in the quarry, pride in the great strike and the heroic failure”

“I enjoy Slate surfing risk of breaking your legs 

Safbwyntiau ar Dwristiaeth Gynaliadwy gan y cyfranogwyr

“Mae’r cyfleon yn cynnwys mwy o swyddi i bobol lleol a cyfle i hybu’r Gymraeg”

“twristiaeth cynaliadawy…yn feddwl cadw swyddi yn lleol a lleihau effaith twristiaeth ar yr economi”

“needs to be like a symbiosis between the community and the business and the environment.” 

“Being resourceful (as a tourist) ...perfect for the environment.” 

“Creating areas that bring in visitors. But within a kind of boundary so that the area doesn't get destroyed.”

“Sustainable tourism is a kind of tourism that considers sustainability issues sustainability of the environment, sustainability of the economic system, local community there and so on.”

Y Tîm Ymchwil

Prif Ymchwilwyr

Cyd-ymchwilwyr

Llun staff o Thora Tenbrink

Thora Tenbrink

Image of Hayley Roberts

Hayley Roberts

Image of Einir Young

Einir Young

a landscape image of the sea,mountain and a sunset

Leena Farhat

Staff Image Thalia

Thalia Eccleston

Map Gwres

Map Gwres yn nodi lleoedd poblogaidd yn yr ardal Tirwedd Llechi, yn seiliedig ar ddadansoddiad cyfryngau cymdeithasol (lleoliadau wedi'u 'tagio' ar Instagram).

Image of heat map

Geiriau allweddol poblogaidd 'Tirwedd Llechi'

Allweddair/Term Chwilio (Mwy na 300 o grybwylliadau ar Twitter ac Instagram)

  • Blaenau Ffestiniog Quarry
  • Chwarel
  • Cwm pennant
  • Dinorwic slate quarry
  • Dinorwig quarry
  • Dyffryn Nantlle
  • Llanberis Quarry
  • Llechi Cymru
  • Llyn Padarn
  • Nantlle Ridge
  • Nantlle Valley
  • Penrhyn Quarry
  • Slate Landscape
  • Slate Mines of Wales
  • Slate Mining
  • Slate quarry
  • Snowdonia Slate Trail

Edrych ymlaen/Syniadau ymchwil ar gyfer y dyfodol

  • Archwilio canfyddiadau’r gymuned fusnes leol o’r Dirwedd Lechi ac i ba raddau y mae wedi rhoi hwb i’r economi leol.
  • Archwilio safbwynt cenedlaethau hŷn yr ardal Tirwedd Llechi a’i Statws Treftadaeth y Byd newydd.
  • Cymharu lefelau ymlyniad lleoedd tuag at bedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru, ynghyd â’u llwyddiannau canfyddedig gan gymunedau lleol a’u heffeithiau ar dwristiaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â ni, cysylltwch â Sara (s.parry@bangor.ac.uk) neu Sonya (s.hanna@bangor.ac.uk).

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?