Croeso i'r Gwasanaeth Cyflogadwyedd
Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich potensial o ran gyrfa yn ystod eich cwrs ac ar ôl graddio.
Dyma rai o'r adnoddau a'r gwasanaethau sydd ar gael:
- dod o hyd i gyfleoedd gwaith rhan amser
- gwybodaeth am gyfleoedd profiad gwaith a dod o hyd iddynt, gan gynnwys lleoliadau ac interniaethau
- gweld amserlen ein gweminarau a’n gweithdai, gan gynnwys sgyrsiau gan gyflogwyr, ac archebu lle arnynt
- gweld beth y gallwch ei wneud gyda'ch gradd
- cael arweiniad un i un gan Ymgynghorydd Cyflogadwyedd
- chwilio am swyddi i raddedigion
- gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar lunio CV a gwneud ceisiadau am swyddi
- cyngor a chefnogaeth ar ddechrau busnes
-
gweithio tuag at gyflawni Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Gellir dod o hyd i ystod eang o wybodaeth ac adnoddau yn y Ganolfan Gyflogadwyedd. Gallwch hefyd ddod o hyd i gyfleoedd a gwneud cais amdanynt, a threfnu apwyntiadau a gweithdai ar ein llwyfan TARGETconnect
E-bostiwch cyflogadwyedd@bangor.ac.uk i wneud ymholiad cyffredinol. Gallwch ddarganfod mwy am y timau amrywiol, gan gynnwys ein rhestr gyswllt staff.
Os ydych yn ystyried neu'n bwriadu astudio ym Mangor, os ydych wedi graddio o Brifysgol Bangor, neu os ydych yn gyflogwr, edrychwch ar ein tudalennau pwrpasol i gael rhagor o wybodaeth.
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Enw |
Swydd |
Rheolwr Recriwtio Graddedigion a Phrofiad Gwaith |
|
Rheolwr Cyflogadwyedd |
Dilynwch Ni!
@PBcyflogadwyedd
@PBcyflogadwyedd
@pbcyflogadwyedd
Cyflogadwyedd Prifysgol Bangor