/sites/default/files/styles/16x9_1920w/public/2024-02/psychology.png?h=08a848bd&itok=xP3NNy2L

Seicoleg

Mae Seicoleg ym Mangor yn gyson ymhlith y gorau yng Nghymru 10 uchaf yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, am foddhad cyffredinol myfyrwyr. Gyda dros 1,000 o fyfyrwyr, rydym hefyd yn un o'r adrannau mwyaf yn y DU.

Ar y dudalen yma:
Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Seicoleg

 

 

5 rheswm i astudio Seicoleg ym Mangor

Mae seicoleg yn ein helpu ni ddeall cymhlethdodau'r meddwl dynol ac ymddygiad. Mae'n fodd inni ddeall pam mae pobl yn gwneud y pethau maen nhw'n eu gwneud, a sut gall ein meddyliau a'n teimladau effeithio ar ein hymddygiad.

Ym Mangor, mae gennym ddiddordeb mewn deall seicoleg yr ymennydd a'r meddwl trwy gydol oes. Ein diddordeb yw:

  • datblygu
  • rhagdueddiad i anhwylderau meddwl
  • prosesau gwybyddol
  • dealltwriaeth ieithyddol
  • heneiddio'n iach
  • deallusrwydd artiffisial
  • newid ymddygiad

I ateb rhai o’r cwestiynau mawr hynny, yn gyntaf oll mae angen inni ddeall SUT mae'r ymennydd yn gweithio - ffisioleg y meddwl, a ffyrdd o gefnogi a hyrwyddo lles meddyliol.

Ym Mangor, mae gan ein labordai a'n cyfleusterau addysgu dechnolegau o'r radd flaenaf. Byddwch yn ennill profiad yn y labordai ymchwil, fel cyfranogwr ac ymchwilydd, a byddwch yn defnyddio technolegau fel Potensial Digwyddiad-Berthynol (ERP), meddalwedd tracio’r llygaid, ac Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS).

Ni hefyd yw un o’r unig adrannau seicoleg yn y Deyrnas Unedig sydd â’n sganiwr MRI ein hunain ar gyfer ymchwil i weithrediad a ffisioleg yr ymennydd. Rydym hefyd yn arwain y maes ymchwil a hyfforddiant mewn technegau therapiwtig megis yr ymwybyddiaeth ofalgar, therapi ymddygiad gwybyddol, a therapi ymddygiad dialectig.

 

Trwy astudio Seicoleg ym Mangor, byddwch:

  • yn dysgu am ymddygiad dynol a phrosesau meddyliol
  • yn darganfod sut mae'r meddwl a'r corff yn rhyngweithio i ddylanwadu ar ymddygiad
  • yn archwilio'r datblygiadau diweddaraf mewn seicoleg
  • yn defnyddio cyfleusterau a labordai o'r radd flaenaf

Fel adran seicoleg, rydym yn falch o ddarparu ymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol yn ogystal â darparu profiad myfyriwr eithriadol dan arweiniad ymchwil.

Fel myfyriwr israddedig ym Mangor, cewch gyfleoedd i brofi'r cyfleusterau a'r labordai o Flwyddyn 1 ymlaen fel cyfranogwr ymchwil. Yna, ym Mlwyddyn 3, byddwch yn dod yn ‘ymchwilydd’ ac yn casglu eich data eich hun ar gyfer eich traethawd hir mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf. Yn ogystal, mae modiwl 'Ymennydd a Meddwl' Blwyddyn 1 yn rhoi cyfle unigryw i afael mewn ymennydd dynol.

 

Mae gradd mewn Seicoleg yn eich galluogi i ddysgu sut mae dadansoddi data gwyddonol a datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau.

Mae Prifysgol Bangor yn un o’r prifysgolion gorau ar gyfer Seicoleg yn y Deyrnas Unedig, ac mae ganddi hanes hirsefydlog o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil. Mae ein hymchwil (86% gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol - REF 2021) yn bwydo’n uniongyrchol i’r addysgu. Cewch brofiad dysgu bywiog gydag academyddion o’r radd flaenaf yn fyd-eang.

Mae’r dosbarthiadau’n fach a bydd sesiynau ymarferol a sesiynau galw heibio rheolaidd ar gyfer ystadegau a sgiliau academaidd. Byddwch yn elwa o gysylltiad clos â’r staff academaidd sy'n arbenigwyr yn eu maes ymchwil.

Mae ein Sesiynau Ymarfer Cyflwyno Llafar ym Maes Seicoleg yn unigryw a gyda’r gorau yn y sector. Byddant yn  eich helpu chi ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu. Byddwch yn ennill yr hyder i ddweud wrth y byd am yr ymchwil y byddwch yn ei gynhyrchu!

 

Mae dealltwriaeth well o seicoleg yn fuddiol mewn amrywiaeth o wahanol lwybrau gyrfaoedd, megis gwaith cymdeithasol, gofal iechyd ac addysgu. Fel myfyriwr seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, cewch gyfle i gymryd rhan mewn projectau ymchwil, a fydd yn fodd i chi ehangu eich sgiliau meddal wrth astudio. Mae 85% o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio neu astudio o fewn 15 mis i’r cwrs (Discover Uni).

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig amrywiol gyrsiau seicoleg, gan gynnwys graddau BSc, MSc a PhD. Cewch deilwra'ch gradd yn ôl eich diddordebau a'ch dyheadau o ran eich gyrfa. Mae llawer o’n graddau’n llwybrau at astudiaethau pellach, fel ein gradd MSc mewn Cwnsela, cyrsiau ôl-radd yn yr Ymwybyddiaeth Ofalgar, Therapi Ymddygiad Dialectig, neu ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol. A wyddech chi mai rhaglen hyfforddiant Doethurol Bangor oedd y gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig?

Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth ardderchog gyda gyrfaoedd. Rhown fynediad i’r myfyrwyr at gyfleoedd rhwydweithio a chyngor un-i-un.

Trwy astudio Seicoleg, byddwch yn dod i ddeall y ffyrdd amrywiol y mae pobl yn meddwl, yn teimlo, ac yn ymddwyn, a sut y gall y gwahaniaethau hynny effeithio ar ein bywydau.

Dysgu parchu a chydymdeimlo â phobl sydd â chredoau, gwerthoedd a chefndiroedd gwahanol, a gwerthfawrogi'r safbwyntiau unigryw a ddaw yn eu sgîl. Gall yr wybodaeth hon ein helpu ni werthfawrogi a deall ein hunaniaeth ninnau, yn ogystal â hunaniaethau eraill. Bydd hefyd yn rhoi mwy o werthfawrogiad i chi o amrywiaeth.

Mae Prifysgol Bangor yn ymrwymo i hyrwyddo cynhwysoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar fywyd y brifysgol. Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo parch at bawb waeth beth fo’u:

  • rhywedd
  • rhywioldeb
  • hil
  • hethnigrwydd
  • anabledd
  • oed
  • crefydd
  • statws

Mae gan Seicoleg wobr Efydd Athena Swan a thrwy benodi cynrychiolwyr myfyrwyr, rydym yn ymgorffori barn ein myfyrwyr wrth ddatblygu a chefnogi ein cyrsiau.

Nid oes ar seicoleg ofn mynd i'r afael â'r materion mawr y mae'r hil ddynol yn eu hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, efallai mai gradd Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yw’r radd i chi!

Graddau achrededig Cymdeithas Seicoleg Prydain (BPS)

Os ydych eisiau bod yn seicolegydd proffesiynol, bydd rhaid i chi gofrestru fel aelod graddedig o Gymdeithas Seicoleg Prydain ac er mwyn gallu gwneud hyn, mae’n rhaid i’ch gradd fod wedi ei hachredu gan Gymdeithas Seicoleg Prydain. Mae gan bob un o'r graddau anrhydedd sengl israddedig seicoleg ym Mangor yr achrediad hwn, sy'n golygu y byddwch yn astudio'r holl gynnwys sydd ei angen ar gyfer aelodaeth i raddedigion.

 

Mae achrediad gan Gymdeithas Seicoleg Prydain yn sicrhau safon uchel o addysgu. Mae’n sicrhau bod ein dulliau asesu yn deg ac yn dryloyw a bod gennym strategaethau ar waith ar gyfer asesu cynhwysol. Yn ychwanegol, mae achrediad yn gosod cyfyngiadau ar y gymhareb staff i fyfyrwyr, gan sicrhau bod gennych fynediad at staff darlithio o ansawdd uchel sy'n cael eu harwain gan ymchwil.  Rhaid i radd sy’n achrededig gan Gymdeithas Seicoleg Prydain gynnwys holl feysydd craidd seicoleg a rhaid iddi ddarparu graddedigion â sgiliau pwnc-benodol. Gwneir hyn drwy'r modiwlau craidd a dewisol sydd ar gael ar raddau Seicoleg Bangor. Rhaid i bob myfyriwr sy’n dilyn gradd sy’n achrededig gan Gymdeithas Seicoleg Prydain wneud astudiaethau empirig gan gasglu a gwerthuso eu data eu hunain, yn unol ag ymchwil weithredol yn yr ysgol. 

Ymdrinnir â phob un o’r canlynol yn ein cwricwla er mwyn sicrhau sail am aelodaeth siartredig i raddedigion:

  • Seicoleg Fiolegol – sail niwroseicolegol a biolegol gweithrediad ac ymddygiad yr ymennydd.
  • Seicoleg Wybyddol – astudio sut rydym yn meddwl, yn dysgu, yn cyfathrebu â'n gilydd ac yn y blaen.
  • Seicoleg Ddatblygiadol – datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol trwy gydol oes, rhwng babandod a henaint.
  • Gwahaniaethau unigol – pwnc eang sy’n ymdrin â sut a pham rydym yn wahanol i’n gilydd o ran deallusrwydd, personoliaeth, emosiwn ac iechyd meddwl.
  • Seicoleg Gymdeithasol – pob agwedd ar ryngweithio dynol, o ddeinameg grŵp i arddulliau arwain a sut a pham y gall pobl gydymffurfio ag awdurdod.
  • Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg – astudiaeth o seicoleg fel gwyddor, gan gynnwys patrymau a methodolegau hanesyddol a thrafodaeth ar faterion gwleidyddol a moesegol ym maes seicoleg.
  • Dulliau ymchwil – sgiliau casglu a dadansoddi data sy’n caniatáu cymhwyso safbwyntiau lluosog i gwestiynau ym maes seicoleg
  • Project empirig – darn sylweddol o ymchwil sy’n cynnwys casglu a dadansoddi data gwreiddiol.
Myfyrwyr yn cynnal arbrawf yn y labordy Ysgogi Magnetig Transcranial

Pam Astudio Seicoleg?

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn falch o'n cryfderau ym maes addysgu, dysgu ac ymchwil, a bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn dysgu am wyddoniaeth a chymhwyso seicoleg gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf. Yn ystod ein cyrsiau, efallai y cewch gyfle i weld dyraniadau ymennydd dynol, rhedeg marathon neu wynebu ymosodiad gan sombïaid, i gyd yn enw gwyddoniaeth!

Cyfleoedd gyrfa mewn Seicoleg

Fel myfyriwr graddedig gyda gradd dda mewn seicoleg o Fangor, bydd amrywiaeth o yrfaoedd ar gael i chi. 

Mae gradd seicoleg yn hanfodol ar gyfer rhai gyrfaoedd (gyda Sylfaen Graddedigion ar gyfer Aelodaeth Siartredig) ac mae Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn rhoi statws siartredig yn y meysydd canlynol:

  • Seicolegwyr clinigol
  • Seicolegwyr cwnsela
  • Seicolegwyr addysgol
  • Seicolegwyr fforensig
  • Seicolegwyr iechyd
  • Niwroseicolegwyr
  • Seicolegwyr galwedigaethol
  • Seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer
  • Athrawon ac ymchwilwyr seicoleg

Mae seicoleg hefyd yn darparu sylfaen ddefnyddiol i yrfaoedd eraill, er enghraifft:

  • gyrfaoedd mewn hyfforddiant rheoli
  • cyfrifeg
  • dysgu
  • nyrsio,
  • gwaith cymdeithasol
  • yr heddlu
  • lluoedd arfog

Mae cyflogwyr hefyd yn gwerthfawrogi'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu, megis rhifedd, llythrennedd a sgiliau rhyngbersonol, yn ogystal â'ch dealltwriaeth o ymddygiad dynol. Fel myfyriwr graddedig o Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, Prifysgol Bangor, bydd gennych gyfuniad unigryw o'r rhain.

85%

yn mynd i weithio/astudio o fewn 15 mis ar ôl y cwrs

Discover Uni

28

allan o 118 am ragolygon graddedigion

Complete University Guide 2024

Taith Rithiol Seicoleg Prifysgol Bangor

Adeilad Brigantia

Mae Adeilad Brigantia ar Ffordd y Coleg yn gartref i swyddfeydd academaidd a gweinyddol ar gyfer Seicoleg. Bydd israddedigion Seicoleg yn ymweld â Brigantia pan fydd angen iddynt gwrdd â thiwtoriaid personol a goruchwylwyr prosiect, yn ogystal â phan fyddant yn tueddu i wahanol agweddau gweinyddol ar fywyd myfyriwr.

Uned Ddelweddu Bangor

Mae gan yr Adran Seicoleg ei chyfleuster ymchwil MRI/fMRI ei hun yn adeilad Brigantia. Mae’r cyfleusterau yn Uned Ddelweddu Bangor yn cynnwys sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig 3 Tesla pwrpasol ar gyfer ymchwil ac addysgu, EEG sy’n gydnaws â MRI, ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS), systemau cyflwyno ysgogiad, a systemau olrhain llygaid. Yn ogystal â MRI anatomegol a swyddogaethol, mae’r sganiwr wedi’i gyfarparu ar gyfer delweddu cardiaidd, tensor tryledol (DTI) a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (MRS).

Canolfan Dyslecsia Miles

Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn darparu cefnogaeth ac asesu addysgu iaith a llythrennedd i blant ac oedolion. Mae’r Ganolfan hefyd yn gwneud ymchwil i sail niwrowybyddol ac ymddygiadol darllen ac ysgrifennu. Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn cynnwys tîm o ymchwilwyr ac ymarferwyr addysgol sy’n datblygu arferion gorau o ran addysgu ac asesu, ynghyd ag ymchwil wyddonol flaengar.

Adeilad Lloyd

Mae Adeilad Lloyd ar Ffordd y Coleg yn gartref i nifer o wahanol labordai ymchwil a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr Adran Seicoleg Prifysgol Bangor.

Labordy Tracio Llygaid

Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau tracio llygaid mynediad agored yn adeilad Lloyd. Mae cyfleusterau yn y labordy Tracio Llygaid Mynediad Agored yn cynnwys traciwr llygaid o bell Eyelink 1000 plus, monitorau HD LCD, Microffon Lleisiol Cardioid Dynamig Ultravoice, cymysgydd sain, a chlustffonau dros y glust.

Mae tracwyr llygaid yn gweithio trwy ddefnyddio golau isgoch i dracio safle’r llygaid. Yn y labordy hwn, mae crud i orffwys gên hefyd ar gael i helpu i sefydlogi pen y cyfranogwr ac i sicrhau bod eu llygaid ar y pellter cywir o’r traciwr llygaid.

Labordy Seicoleg Electroffisioleg a Thopograffeg (Labordy POET)

Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau electroffisioleg a thopograffeg mynediad agored yn adeilad Lloyd. Mae cyfleusterau yn y Labordy Electroffisioleg a Thopograffeg Mynediad Agored (POET) Seicoleg yn cynnwys system mesur biopotensial cydraniad uchel aml-sianel ActiveTwo gan BioSemi, electrodau gweithredol math pin, capiau pen EEG. Mae’r labordy hefyd yn cynnwys traciwr llygaid o bell Eyelink 1000 plus ar gyfer mesuriadau EEG gyda thracio llygaid ar yr un pryd.

Yn y labordy POET, mae cyfranogwyr yn cael eu profi y tu mewn i gaets Faraday a warchodir yn electronig lle caiff seiniau eu lleihau. Defnyddir caetsys Faraday i wella ansawdd data EEG trwy rwystro ymyrraeth signal electromagnetig o’r ystafell fesur.

Yn y labordy hwn, mae yna hefyd gamerâu a system intercom ar gael i ymchwilwyr wirio’r cyfranogwyr yn rheolaidd yn ystod y sesiwn brofi. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r cyfranogwyr yn teimlo’n rhy ynysig o’r byd tu allan tra byddant yn yr ystafell brofi.

Yn yr ystafell reoli, mae tri chyfrifiadur bwrdd gwaith wedi’u neilltuo i ddadansoddi data.

Labordy Dal Symudiad

Mae gan yr Adran Seicoleg labordy golwg 3-D a swyddogaeth llaw sy’n cynnwys system dal symudiad Qualisys Miqus i fesur symudiadau llaw yn fanwl gywir, yn ogystal ag amrywiol ddarnau pwrpasol o offer, gan gynnwys arddangosfeydd gweledol ar gyfer cyflwyno ysgogiadau gweledol 3-D rhithiol, ac offer a phrosthesis ffug ar gyfer astudio’r defnydd o ddyfeisiau mecanyddol.

Adeilad Wheldon

Mae’r lolfa yn Adeilad Wheldon yn cynnwys argraffydd, peiriant gwerthu, ac opsiynau eistedd cyfforddus, lle gall myfyrwyr eistedd a sgwrsio â’u cyfoedion cyn eu dosbarthiadau, neu astudio mewn awyrgylch hamddenol.

Labordy Cyfrifiaduron

Mae labordy cyfrifiaduron Adeilad Wheldon yn gyfleuster amlbwrpas sy’n cynnwys 80 o gyfrifiaduron. Mae’r labordy hwn yn cefnogi ystod o sesiynau ymarferol, megis ystadegau ac ysgrifennu academaidd.

Pontio

Pontio yw canolfan gelfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Mae rhai o’r modiwlau a gynigir gan yr Adran Seicoleg yn cael eu cyflwyno ar Lefel 5 Pontio, darlithfa fawr sydd â lle i hyd at 450 o fyfyrwyr.

Sganiwr MRI

Wrth ddefnyddio’r sganiwr MRI i dynnu delweddau o’r ymennydd, mae’n hollbwysig bod cyfranogwyr yn cadw eu pen (a’u corff) mor llonydd â phosibl. Mae adeilad Brigantia yn gartref i ffug-sganiwr o’r radd flaenaf sydd â system sain i chwarae synau sganiwr, a MoTrak, meddalwedd sy’n caniatáu tracio symudiadau pen manwl. Mae’r ffug-sganiwr wedi’i gynllunio i ymgyfarwyddo cyfranogwyr, yn enwedig plant, â bod yn amgylchedd y sganiwr.

Labordy Arddangos Stereeosgopig Aml-Ganolbwynt

Mae’r labordy hwn yn cynnwys arddangosfa stereosgopig 3-D prototeip unigryw a gynlluniwyd i ymchwilio i sut rydym yn gweld mewn 3-D ac yn arbennig i archwilio atebion i broblemau amrywiol a brofir wrth ddefnyddio cyfryngau megis systemau VR, ffilmiau 3-D ac ati. Yn ogystal â mesurau canfyddiadol o ganfyddiad dyfnder, gall y system fesur ble mae’r llygaid yn edrych, a’r pellter y mae lens y llygad yn canolbwyntio arno. Mae’r arbrofion yn ei gwneud yn ofynnol mai dim ond yr ysgogiadau arbrofol sy’n weladwy, ac felly mae’r ystafell yn cael ei duo pan fydd yn cael ei defnyddio.

Lab Tîm Electroffisioleg Iaith Prifysgol Bangor

Mae adeilad Brigantia yn gartref i labordy EEG o’r radd flaenaf sy’n cynnwys dau fwth profi, gan gynnwys systemau BioSemi ar gyfer mesur bio-botensial cydraniad uchel, a monitorau CRT ar gyfer arddangos ysgogiadau gweledol yn ystod sesiynau profi. Mae gan y labordy hefyd nifer o gapiau EEG. Mae’r bythau profi wedi’u cynllunio i ddarparu amgylchedd tawel a rheoledig ar gyfer casglu data. Gall ymchwilwyr hefyd fonitro cyfranogwyr yn ystod sesiynau profi gan ddefnyddio camerâu a system intercom i sicrhau eu diogelwch a’u cysur.

Cyn fyfyriwr Will Osborn, yn gwisgo crys gwyn

Proffil Cyn-fyfyriwr Will Osborn

Cyfarwyddwr Gwasanaeth a Dylunio Sefydliadol yn Frog

"Fel rhywun â dyslecsia ac ADHD, roedd gwaith cwrs bob amser yn rhywbeth roeddwn i'n cael trafferth ag ef, ac roedd yr adran yn hynod amyneddgar a chefnogol wrth fy helpu."

Graddedig Louis Naylor, yn gwisgo sbectol a chôt, yn edrych i fyny i'r awyr

Proffil Cyn-fyfyriwr Louis Naylor

Rheolwr Datrysiadau Cleient yn TikTok

"Mae seicoleg yn rhan bwysig o’m swydd gan fod angen i ni ddysgu beth sy'n sbarduno ymddygiadau defnyddwyr, er enghraifft, pam fod pobl yn gwylio fideos penodol neu pam fod tueddiadau penodol yn digwydd, neu pam fod pobl yn ymgysylltu â brandiau penodol".

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Seicoleg. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Seicoleg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Seicoleg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Secioleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Dilynwch ni

Darllenwch y diweddaraf gan Seicoleg Bangor a Phrifysgol Bangor.

Seicoleg Bangor ar X/Twitter

Prifysgol Bangor ar X/Twitter

Ein hymchwil o fewn Seicoleg

Mae ein hymchwil yn adlewyrchu dau ddull allweddol. Y cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran hŷn. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda’r ysgol pan gafodd ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ymchwil heddiw.

Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?