Llun o ddwylo yn gafael mewn planhigyn bychan

#BangorGynaliadwy

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn bwriadu gwneud ein Prifysgol yn gyfystyr â chynaliadwyedd.

19eg

yn y DU

yn Sgór Effaith y Times Higher Education a aseswyd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, 2024

77ain

yn y byd

yn Sgór Effaith y Times Higher Education a aseswyd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, 2024

18fed

yn y DU

Cynghrair Prifysgol People & Planet, 2023/24

14eg

yn y byd : treuliant a chynhyrchu cyfrifol

Cynghrair Effaith Addysg Uwch y Times, 2024

Datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Y Cenhedloedd Unedig ar Gynaliadwyedd
Llun o gaeau gwyrdd gyda choed yn y cefndir ac awyr las uwchben
Credit:Lars_Nissen Pixabay

Prifysgol Bangor: Grym er Daioni

Ein nod yw ysbrydoli ein cymuned academaidd, ein timau yn y Gwasanaethau Proffesiynol, a'n myfyrwyr i greu byd mwy cynaliadwy sy'n cyd-fynd â'n gweledigaeth i sbarduno llwyddiant trwy ymchwil ac addysgu trawsnewidiol, arloesol sy'n cael eu sbarduno gan effaith.

Credwn fod gan y brifysgol hon ran i'w chwarae mewn cymdeithas, gan adeiladu y ffocws sydd gennym ar ddarganfod, cynaliadwyedd, diogelu'r amgylchedd, a hyrwyddo ffyniant yr economi, cymdeithas, dwyieithrwydd a diwylliant. Fel Prifysgol dan arweiniad ymchwil ac fel unigolion sy'n poeni'n fawr am y byd yr ydym yn byw ynddo, rydym am gyfrannu at ddatrys heriau'r byd, megis newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldebau iechyd, a datblygu'r gweithlu.

Rydym yn angerddol am hyrwyddo diwylliant ac ysgolheictod o stiwardiaeth amgylcheddol, gan fyw mewn cytgord, a gofalu am y byd mewn ffyrdd sy'n diwallu ein hanghenion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Byddwn, gyda’n hymchwil blaenllaw yn sylfaen i ni, yn cefnogi datblygiad Cymru fel gwlad ddwyieithog sy’n dysgu, lle ceir economi a sbardunir gan wybodaeth er budd y byd a chenedlaethau'r dyfodol.

Strategaeth 2030

Y pedwar egwyddor Cynaliadwyedd yn strategaeth Prifysgol Bangor.

[0:00] Prifysgol Bangor,                            

[0:03] yn bwerdy ymchwil                              

[0:06] sy'n ysgogi newid.                                 

[0:08] Mae ein darganfyddiadau yn llunio'r byd heddiw gyda ffocws ar

[0:11] gynaliadwyedd,                                   

[0:13] diogelu'r amgylchedd,                      

[0:17] adfywio iechyd cymdeithas ar ôl y pandemig,   

[0:19] a hyrwyddo bywiogrwydd economaidd, cymdeithasol, dwyieithog a diwylliannol.

[ 0:28] O wella iechyd a lles,                             

[0:32] i ddatblygu'er economi 5G byd-eang.       

[0:34] a chanfod atebion ynni i'r dyfodol.         

[0:37] Gweithio mewn partneriaeth â llunwyr polisi, diwydiant, busnesau a chymunedau

[0:42] datblygu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru         

[0:45] i hyfforddi meddygon yfory         

[ 0:48] Cefnogi'r sector Gwyddorau Bywyd     

[0:52] ac ymchwil perfformiad dynol mewn Gwyddorau Chwaraeon

[0:55] Mae ymchwil Covid-19 Bangor yn llywio penderfyniadau polisi Iechyd Cyhoeddus.

[0:59] yn sefydlu rhwydwaith epidemioleg dwr gwastraff cyntaf y DU i olrhain cyfraddau heintiau.

[ 1:02] a pharatoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol.         

[1:09] Mae Bangor yn datblygu technolegau a gwytnwch ym maes ynni niwclear a meddygaeth,

[1:13] trwy ein Sefydliad Dyfodol Niwclear blaenllaw.   

[ 1:18] Mynd i'r afael â newid Hinsawdd         

[1:19] gydag ymchwil i ynni carbon isel.       

[1:22] Ymdrin ag un o faterion amylcheddol mwyaf y blaned       

[ 1:25] gwastraff plastig a gorddefnyddio plastigau untro      

[1:29] a gwarchod yr amrywiaeth o rywogaethau ac ecosystemau       

[1:32] trwy ymchwil cadwraeth bioamrywiaeth.       

[1:37] Mae ein hymchwil ar Gymru, y Gymraeg a sgiliau ieithyddol        

[1:40] yn ysbrydoli cenedl ddwyieithog fywiog.    

[1:45] Mae ein darganfyddiadau yn llywio addysgu       

[ 1:49] gan alluogi myfyrwyr i ddysgu am ymchwil mewn amser real

[ 1:53] Mae ein hymchwilwyr yn rhannu ethos sy'n croesawu      

[1:55] dewrder        

[1:56] uniondeb        

[1:57] cydweithio        

[ 1:58] hyder      

[ 1:59] ac ymddiriedaeth     

[2:01] gydag agwedd fyd-eang        

[2:03] sy'n ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.      

[2:06] Ymchwil       

[2:07] wrth wraidd ein gwaith       

[2:08] Ers 1884       

Mwy na'r amgylchedd

Mae bod yn brifysgol wirioneddol gynaliadwy yn golygu nid yn unig edrych ar ôl ein hadnoddau naturiol a’r amgylchedd – mae’n golygu gofalu am ein cymunedau, ein diwylliant a’n hadnoddau economaidd. Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn bwriadu gwneud ein prifysgol yn gyfystyr â chynaliadwyedd..

Mae cynaliadwyedd yn fwy na’r amgylchedd, ac mae’n fwy na gwaith un adran - mae ym mhopeth a wnawn. Gan weithio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru 2015, a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ymrwymwn i unioni’r heriau y mae’r gymuned fyd-eang yn eu hwynebu.

Dr Christian Dunn,  Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd
image of Dr Christian Dunn (white man, with dark hair and facial hair)

Sustainability at Bangor

O’n modiwlau israddedig i’n prosiect ymchwil, mae popeth a wnawn yn cael ei fapio ar 17 Nod Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig a defnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru

Nod Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig

Caeau gwyrdd ar dir uchel yn Uganda

Rhywfaint o’n heffaith hyd yma... Dim Newyn

Amcangyfrifir bod 30-40% o ffrwythau a llysiau Uganda yn cael eu gwastraffu cyn cyrraedd y farchnad. Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Makerere yn Uganda i ddatblygu dulliau amgen o becynnu bwyd yn gynaliadwy.

Llun agos o fowlen ffrwythau

Rhywfaint o’n heffaith hyd yma... Gwastraff Bwyd

Project bwyd o dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Bangor yw’r Ddraig Lwglyd (Hungry Dragon), ac mae’n arbed bwyd sydd dros ben ym Mangor. Yn ddiweddar, mewn partneriaeth â Chaffi Pris Teg Bangor, maent yn troi ffrwythau a llysiau dros ben o archfarchnadoedd lleol yn gyffeithiau ac yn brydau bwyd.

Panel solar wrth ymyl tyrau foltedd uchel

Rhywfaint o’n heffaith hyd yma... Ynni Glân

Fel Prifysgol, rydym yn deall bod ein defnydd o ynni sy'n deillio o danwydd ffosil yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd byd-eang. Yn 2019, fe ddatganon ni Argyfwng yr Hinsawdd a chyhoeddi bod 100% o'n trydan bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig. Mae gennym arbenigedd mewn ynni adnewyddadwy morol (gan gynnwys lliniaru'r effeithiau ar fywyd gwyllt y môr) ac ynni niwclear, sy'n hanfodol i barhau i ddatgarboneiddio’r modd yr ydym yn cynhyrchu trydan, ac sy'n sail i ostwng allyriadau mewn sectorau eraill. Mae gogledd Cymru mewn lle da’n ddaearyddol i arwain ar dechnolegau amgylcheddol.

illustration of the earth surrounded by the recycling symbol.

Ychydig o'n heffaith hyd yma... Defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol

Yn 2019/20 llwyddodd y Brifysgol i beidio ag anfon 100% o'i gwastraff i safleoedd tirlenwi. O'r gwastraff a gyfeiriwyd i lefydd eraill, cafodd 2% ei ailddefnyddio, cafodd 59% ei ailgylchu ac adferwyd 39%. Cynhyrchwyd 617T o wastraff, gostyngiad o 196T (24%) ar y flwyddyn flaenorol. Ein nod yw ailddefnyddio/ailgylchu 70% o'n gwastraff erbyn Gorffennaf 2025, fel y nodir yn strategaeth wastraff gyffredinol Cymru - Tuag at Ddyfodol Di-wastraff.

Pobl yn sefyll wrth wal llawn o syniadau wedi eu hysgrifennu ar ddarnau papur

Beth ydyn ni'n gweithio arno

Rydym yn gweithio ar lawer o eitemau i wella ein perfformiad amgylcheddol a moesegol, mewn meysydd fel addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy, ymgysylltu â staff a myfyrwyr, a chyllid a chaffael

Llun agos o ddyn yn arwyddo dogfen gyda beiro
Person signing document

Polisïau, Strategaethau ac Adroddiadau

Mae ein polisïau a'n strategaethau yn siapio dyfodol y Brifysgol yn ogystal â chanolbwyntio ar faterion sy'n wynebu staff a myfyrwyr presennol. Ac mae ein Hadroddiadau yn tystio i'n hymdrechion hyd yn hyn.

People holding hands

Cwrdd â’r Tîm

Mae pawb sy'n ymwneud â Chynaliadwyedd ym Mangor yn rhannu'r un weledigaeth a gwerthoedd er eu bod yn dod ag arbenigedd a phrofiadau gwahanol iddo. O ran tîm credwn fod y cyfan yn fwy na chyfanswm ei rannau - ond os hoffech bori trwy'r enwau gwiriwch y rhestr isod.

Cysylltwch

 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor e-bostiwch sustainability@bangor.ac.uk

#BangorGynaliadwy

 Dilynwch a defnyddiwch yr hashnod #BangorGynaliadwy ar gyfer popeth cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor ar gyfryngau cymdeithasol.