Astudio Drwy Gyfrwng y Gymraeg

  

Student in Welsh Football top

Os mai astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yw eich bwriad a byw mewn cymuned wirioneddol ddwyieithog, Prifysgol Bangor yw’r lle i chi. 

•  Mae Prifysgol Bangor yn cynnig mwy o fodiwlau a chyrsiau cyfrwng Cymraeg nag unrhyw brifysgol arall. 

•  Wrth astudio drwy'r Gymraeg, gallwch gael gwell cysylltiad â’ch darlithwyr â’ch cydfyfyrwyr. 

•  Mae maint y dosbarthiadau yn tueddu i fod yn llai ac o ganlyniad yn caniatáu ichi gael mwy o gyfleoedd i gyfrannu. 

•  Mae modiwlau dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg ar gael ym mhob ysgol.

Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol declyn canfod cyrsiau sy’n nodi faint o’ch cwrs sydd ar gael yn Gymraeg. 

PAM ASTUDIO DRWY'R GYMRAEG?

•  Mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi 

•  Mae gofyn mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweinyddu’n ddwyieithog 

•  Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd uwch 

•  Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y brifysgol yn rhoi Sylfaen ardderchog I’ch gyrfa 

ARIAN YN EICH POCED

Oeddech chi’n gwybod bod cefnogaeth ariannol ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg? Wrth gofrestru i ddilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg, efallai y byddwch yn gymwyd i dderbyn y canlynol:  

£1000

Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - £1,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd pan fyddwch yn astudio 80 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

£500

Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - £500 y flwyddyn am hyd at dair blynedd os ydych yn astudio 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

£250

Bwrsariaeth Cymraeg- £250 y flwyddyn os ydych yn astudio 40 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae modd derbyn y fwrsariaeth hon yn ychwanegol at ysgoloriaethau’r CCC.

GWASANAETHAU MYFYRWYR

Mae llawer mwy i fywyd prifysgol na darlithoedd a chymdeithasu, wrth gwrs. I’ch cefnogi yn ystod eich amser yma, mae holl ystod gwasanaethau myfyrwyr y Brifysgol – o gyngor ar gyllid i gymorth cwnsela – ar gael drwy’r Gymraeg.

DARGANFOD MWY

Undeb Staff and Student

UNDEB BANGOR

Undeb Bangor yw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae Undeb Myfyrwyr Cymru Bangor (UMCB) yn rhan o Undeb Bangor. Os hoffech gymdeithasu neu hamddena gyda siaradwyr Cymraeg eraill, rydych chi yn y lle iawn.

Mae gan UMCB lywydd sy’n gweithio i gefnogi myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’r Cymric yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn. Hefyd, mae gennym gorau Cymraeg, cymdeithas lenyddol, clybiau chwaraeon a gorsaf radio myfyrwyr, ac os hoffech sefydlu clwb cyfrwng Cymraeg newydd, mae cefnogaeth ar gael i wneud hynny. 

 

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

LLETY PENODOL I SIARADWYR CYMRAEG

Beth am wneud Neuadd John Morris-Jones yn gartref oddi cartref? Neuadd yw hon yn bennaf ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, ac ynddi mae ystafelloedd en-suite a gofodau cymunedol – rhowch y tegell ymlaen i gael paned a sgwrs mewn awyrgylch Gymraeg naturiol.

Cefnogaeth sgiliau Cymraeg

Canolfan Bedwyr Logo

CEFNOGAETH SGILIAU CYMRAEG CANOLFAN BEDWYR

Os mai dysgwr Cymraeg ydych chi neu os hoffech chi wella’ch Cymraeg llafar neu ysgrifenedig, does unman gwell i ymarfer. Manteisiwch ar y gefnogaeth arbenigol sydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg gan staff Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol.

Gallwch ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd a sgiliau cyflwyno a chewch gefnogaeth i sefyll arholiad Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd gwella eich sgiliau iaith yn eich helpu gyda’ch astudiaethau academaidd ac wrth i chi ddilyn eich gyrfa.

Am fwy o wybodaeth am astudio yn y Gymraeg, ewch i'r tudalennau Iaith Gymraeg.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?