UWB Crest

Ysgol Busnes Bangor

Newyddion

4ydd Cynhadledd Ryngwladol IFABS ar Ail-feddwl Bancio a Chyllid: Arian, Marchnadoedd a Modelau

Trefnwyd sesiynau arbennig gan yr Athro Shahid Ebrahim a Dr Thanos Verousis yn 4ydd Cynhadledd Ryngwladol IFABS (International Finance and Banking Society) ar Ail-feddwl Bancio a Chyllid, sydd yn cael ei chynnal yn Valencia ym Mehefin.

Dyddiad Cyhoeddi: 30/04/2012

Mwy......


Darlith gyhoeddus na ddylid ei cholli: “Research for Business and the Business of Research”

Mae George Buckley, Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank, a raddiodd ym Mangor, i’w weld, fel rheol, yn rhoi cyfweliadau ar y radio, y teledu a’r wasg genedlaethol. Ac yntau ei hun wedi graddio yn Ysgol Busnes Bangor, daw George yn awr â’i brofiad personol a’i syniadau ynghylch swyddogaeth ymchwil ar gyfer busnes, gwerth addysg prifysgol a chyflogadwyedd, i Adeilad y George ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 26/04/2012

Mwy......


O ble ddaeth y syniad o gymdeithas nad yw’n defnyddio arian parod?

Mae’r syniad o  "gymdeithas nad yw’n defnyddio arian parod" yn cael sylw cynyddol erbyn hyn wrth i wledydd fel Sweden geisio symud oddi wrth arian papur a darnau arian ond yn y DU methodd y banciau â chael gwared â sieciau papur. Mewn Papur Gwaith gan Ysgol Busnes Bangor, mae Bernardo Bátiz-Lazo, o’r Ysgol Busnes, ynghyd â Thomas Haigh o Brifysgol Wisconsin, Milwaukee; The Haigh Group a David Stearns, o Brifysgol Seattle Pacific yn cofnodi bod y syniad o beidio â defnyddio arian parod wedi dechrau’n wreiddiol ym myd busnes ac wedi symud yn ddiweddarach i fyd ffuglen. 

Dyddiad Cyhoeddi: 02/04/2012

Mwy......


Ai’r hyn rydych yn ei weld fyddwch chi’n ei gael? Academyddion Bangor yn ymchwilio i reoli argraffiadau gan sefydliadau busnes

Bydd ‘rheoli argraffiadau’, neu sut mae sefydliadau yn rheoli’r ffordd cânt eu gweld gan y cyhoedd, yn ganolbwynt ymchwil blaengar gan ganolfan newydd ym Mhrifysgol Bangor. 

Dyddiad Cyhoeddi: 27/03/2012

Mwy......


Papurau newydd busnes blaenllaw yn yr Almaen yn rhoi sylw i ymchwil gan academydd o Fangor

Mae’r erthygl “Does it pay to have friends? Social ties and executive appointments in banking”, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Dr Klaus Schaeck o Ysgol Busnes Bangor a’i gydweithwyr Allen Berger (Prifysgol South Carolina), Thomas Kick (Deutsche Bundesbank), a Michael Koetter (Prifysgol Groningen), wedi cael sylw mawr yn y cyfryngau gan ddau bapur newydd busnes blaenllaw yn yr Almaen, Handelsblatt a Wirtschaftswoche.

Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2012

Mwy......


Ymweliad Llundain

Yn ddiweddar, aeth grŵp o is-raddedigion o Flwyddyn 2, sy'n dilyn gwahanol gyrsiau yn Ysgol Busnes Bangor, i Lundain am 3 diwrnod fel rhan o fodiwl yr ‘Ymweliad Astudio â Llundain’.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012

Mwy......


Lansio Elevate Cymru

Daeth dros 60 o fusnesau i lansiad hynod lwyddiannus y project arloesol Elevate Cymru a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. (Dydd Iau, 1 Mawrth).

Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2012

Mwy......


Staff y Brifysgol i ddringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer elusen

Mae dwy aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer taith unwaith mewn oes i gofio am fachgen lleol a laddwyd mewn damwain ffordd.   

Bydd Emma Wynne-Hughes o Ysgol Busnes Bangor a Hazel Frost o’r Ysgol Seicoleg yn dringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer Tŷ Gobaith a Chronfa Goffa Darren Rhys.

Dyddiad Cyhoeddi: 06/03/2012

Mwy......


Myfyrwyr yn drawsnewid i farchnatwyr ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol

Yr wythnos diwethaf, bu myfyrwyr Ffion Haf Jones, Megan Jones ac Aysha Khalid yn cynrychioli Ysgol Busnes Bangor yn ‘Brolio/The Pitch’, cystadleuaeth i fyfyrwyr a drefnwyd gan y Llywodraeth Cymraeg a Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM).

Dyddiad Cyhoeddi: 02/03/2012

Mwy......


Bangor yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd mewn steil

Ymunodd cannoedd o fyfyrwyr Tsieineaidd ag Ysgol Busnes Bangor i ddathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd mewn ffordd drawiadol.

Trefnwyd y dathliad mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Myfyrwyr Tsieineaidd, a daeth myfyrwyr a’u teuluoedd ynghyd i ddathlu’r dyddiad pwysicaf yn y calendr Tsieineaidd sydd eleni yn dynodi Blwyddyn y Ddraig Aur.    

Dyddiad Cyhoeddi: 08/02/2012

Mwy......


Academydd o Fangor yn ennill grant i ymchwilio i’r farchnad cyfrifon cyfredol

Bydd gwir gost gwasanaethau bancio ‘am ddim’ i gyfrifon cyfredol yn cael ei archwilio’n fanwl mewn astudiaeth ymchwil gan Ysgol Busnes Bangor.  Mae Dr John Ashton, uwch ddarlithydd mewn bancio, wedi cael grant o £25,000 gan y Friends Provident Charitable Foundation i weld beth yw costau defnyddio cyfrifon cyfredol ‘am ddim’, yn arbennig i gwsmeriaid a ystyrir yn rhai mwy bregus neu sydd ag ychydig o wybodaeth am wasanaethau ariannol.  Mae’r project i gael ei wneud mewn cydweithrediad ag Undeb Credyd Gogledd Cymru.   

Dyddiad Cyhoeddi: 04/02/2012

Mwy......


O Fangor i Frwsel: Myfyrwyr y Gyfraith a Busnes yn uno ar daith i Ewrop

Unodd myfyrwyr o Ysgol Busnes Bangor ac Ysgol y Gyfraith, Bangor ar gyfer taith astudio i sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop, dan nawdd Jill Evans, ASE, a brofodd yn agoriad llygaid iddynt.

Dyddiad Cyhoeddi: 24/01/2012

Mwy......


Dau dîm i gynrychioli Bangor yn rownd gynderfynol yr IBM Universities Business Challenge

Mae dau dîm o fyfyrwyr yn Ysgol Busnes Bangor wedi llwyddo i fynd drwodd i rownd gynderfynol yr IBM Universities Business Challenge 2012.

Mae’r IBM Universities Business Challenge yn gystadleuaeth o bwys lle mae israddedigion o brifysgolion ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan mewn cyfres o sefyllfaoedd busnes realistig ond ffug.

Dyddiad Cyhoeddi: 21/01/2012

Mwy......


Academydd ym Mangor yn gyd awdur erthygl a ddewiswyd fel un o’r papurau cyllid corfforaethol gorau

Yr erthygl “Who disciplines bank managers?" gyda Dr Klaus Schaeck o Ysgol Busnes Bangor yn un o’r cyd awduron yw’r erthygl flaen mewn rhith rifyn o’r papurau llywodraethu corfforaethol gorau a gyhoeddwyd yn y Review of Finance, un o’r pum cyfnodolyn cyllid gorau.

Dyddiad Cyhoeddi: 14/01/2012

Mwy......


Y modiwl Rheoli Chwaraeon Proffesiynol mor boblogaidd ag erioed

Bob blwyddyn, bydd myfyrwyr yr ail flwyddyn sy’n dewis y modiwl Rheoli Chwaraeon Proffesiynol yn cymryd rhan mewn ymweliad astudio dau ddiwrnod â Norwich City FC fel y gallant weld sut mae defnyddio'r ddamcaniaeth a gyflwynir iddynt yn y darlithoedd mewn sefyllfaoedd go iawn.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/01/2012

Mwy......


Darlithydd ym Mangor yn ennill gwobr am bapur economaidd

Mae darlithydd yn Ysgol Busnes Bangor wedi ennill gwobr am bapur a gyflwynwyd mewn prif gynhadledd  bancio a chyllid yn yr Eidal.

Dyddiad Cyhoeddi: 10/01/2012

Mwy......


Academydd o Fangor yn cynnig ateb posibl i gam-werthu gwasanaethau ariannol

Mewn wythnos lle rydym wedi gweld achos arall o gam-werthu gwasanaethau ariannol, a oes yna unrhyw atebion i’r broblem gyson hon yn ymwneud â rheolaeth ariannol?  Tra gall y camau diweddar i ddiddymu comisiwn wrth werthu buddsoddiadau manwerthu gynorthwyo i ddatrys y broblem hon, mae erthygl a gyhoeddwyd y mis yma yn y cylchgrawn Financial Services Focus, gan Gyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, yn awgrymu bod angen newid mwy sylfaenol i’r ffordd rydym yn rheoli datblygiad cynhyrchion gwasanaethau ariannol.

Dyddiad Cyhoeddi: 05/01/2012

Mwy......


Athro ym Mangor yn arwain siaradwyr mewn cynhadledd ryngwladol

Bu i Bernardo Batiz-Lazo, Athro mewn Hanes Busnes a Rheolaeth Banciau yn Ysgol Busnes Bangor, gyflwyno’r prif anerchiad yn y gynhadledd ryngwladol gyntaf a drefnwyd gan y Tolani Institute of Management Studies (TIMS) yn Gandhidham, Gujarat (India). Mae’r dref yn dwyn enw sefydlwr India oherwydd mai cyhoeddi’r penderfyniad i gartrefu cymuned y Sindhi (grŵp o bobl a adleoliwyd ar ôl iddynt gael eu gwahanu) yn yr ardal honno oedd gweithred olaf Gandhi ar y diwrnod y lladdwyd ef. Mae’r Sefydliad ei hun yn rhan o grŵp addysgiadol sy’n addysgu dros 8,000 o fyfyrwyr diolch i ymdrech, cefnogaeth ariannol a gweledigaeth K. B. Tolani (1893-1988).

Dyddiad Cyhoeddi: 16/12/2011

Mwy......


Darlithoedd yn dod i fyw ar daith addysgol i Gaerdydd

Bu myfyrwyr ail-flwyddyn Ysgol Busnes Bangor yn ymgymryd â thaith addysgol i Gaerdydd am fewnwelediad unigryw i mewn i lywodraethau datganoledig ac effaith ‘newid’.

Dyddiad Cyhoeddi: 14/12/2011

Mwy......


Ymchwil i Gredyd-Raddio yn Ysgol Busnes Bangor

Ar 5 Rhagfyr 2011, bu’r asiantaeth gredyd-raddio Standard a Poor (S a P) ym mhenawdau’r newyddion wrth iddi osod statws credyd 15 o wledydd yr ewro-barth dan arolygiad o ran eu hisraddio. Gan ddefnyddio cyfres ddata 15-mlynedd, canfu ymchwilwyr yn Ysgol Busnes Bangor fod S a P wedi tueddu i weithredu’n gynt nag asiantaethau eraill wrth osod cyfraddau llywodraethau sofran dan arolygiad o ran eu hisraddio

Dyddiad Cyhoeddi: 09/12/2011

Mwy......


Darlithydd Ysgol Busnes Bangor yn ennill grant i hybu addysg gyfrwng Cymraeg

Mae Dr Sara Parry, Darlithydd ym Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, wedi ennill grant i ddatblygu ffilm ddigidol sy’n hyrwyddo manteision astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyddiad Cyhoeddi: 12/11/2011

Mwy......


Ysgol Busnes Bangor yn mynd i bartneriaeth newydd â Guru Nanak

Mae Prifysgol Bangor wedi llofnodi cytundeb â Guru Nanak Institute of Management and Information Technology yn India. Dan y cytundeb hwn bydd myfyrwyr Guru Nanak yn gallu trosglwyddo eu hastudiaethau i Ysgol Busnes Bangor, un o Ysgolion Busnes gorau Ewrop.  

Dyddiad Cyhoeddi: 26/10/2011

Mwy......


Is-ganghellor i gynnal lansiad prosiect ‘Economi Werdd’ Ysgol Busnes Bangor

Ar Ddydd Llun, Hydref y 17eg 2011, cynhelir lansiad prosiect GIFT Ysgol Busnes Bangor. Prosiect yw GIFT sydd yn gyfrwng sefydlu fforwm draws ffiniol i helpu twf a chynhaliaeth “economi werdd” mewn rhyngbarthau penodol yng Nghymru ac Iwerddon.

Partneriaeth yw GIFT rhwng Prifysgol Bangor, Sefydliad Technolegol Waterford yn Iwerddon, a Choleg Prifysgol Dulyn. Bwriad y prosiect yw i gyfoethogi sgiliau busnesau, mentrau cymdeithasol a’r sector gyhoeddus yng Nghymru ac Iwerddon. Ariannwyd Project GIFT gan y Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) trwy raglen Iwerddon Cymru (INTERREG4A).

Dyddiad Cyhoeddi: 13/10/2011

Mwy......


Cwmnïau Bach a Chanolig yng Ngogledd Cymru yn hybu eu medrau rheoli ac arwain diolch i raglen Ysgol Busnes Bangor

Tri ar hugain o berchnogion busnesau yw’r cynrychiolwyr cyntaf i raddio â marciau uchel yn rhaglen gyntaf LEAD ym Mhrifysgol Bangor.  Cynhaliwyd y seremoni raddio gyntaf ar gyfer Cwmnïau Bach a Chanolig ar Raglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2011.  Amcan y rhaglen yw rhoi’r adnoddau  a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar berchnogion-reolwyr er mwyn harneisio medrau ac egni eu staff yn llwyr, adnabod cyfleoedd ar gyfer mwy o effeithlonrwydd a manteisio ar y cyfleoedd hynny, a chreu sylfaen gadarn ar gyfer twf.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/08/2011

Mwy......


Seremoni Graddio Ysgol Busnes Bangor 2011

Bu dros 300 o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor yn dathlu eu graddio mewn heulwen fendigedig ar Ddydd Sadwrn, 9fed o Orffennaf 2011.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/08/2011

Mwy......


Darllenwch rifyn diweddaraf cylchlythyr Ysgol Busnes Bangor

Cliciwch yma i ddarllen y newyddion a digwyddiadau diweddaraf yng nghylchlythyr Ysgol Busnes Bangor, 'Busnes ym Mangor'.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/08/2011

Mwy......


Myfyriwr graddedig lleol yn ennill gwobr fawr

Mae gwaith caled myfyriwr lleol wedi  talu ar ei ganfed wrth iddo ennill  un o brif Wobrwyon Prifysgol Bangor, sydd werth dros £1000.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/07/2011

Mwy......


Mae’r Brifysgol yn lansio Project £3.2 miliwn i Hybu Twf Economaidd

Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi cynnal lansiad swyddogol project £3.2 miliwn i hybu twf economaidd yng Nghymru ac Iwerddon.

Dyddiad Cyhoeddi: 18/07/2011

Mwy......


Ysgolion ar draws y rhanbarth yn cael blas ar fasnachu wrth iddynt gymryd rhan mewn sialens sgiliau unigryw

Cafodd disgyblion o bob cwr o Ogledd Cymru y cyfle i brofi cyffro a chynnwrf gwerthu ar lawr masnachu byw diolch i fenter ‘Sialens y Farchnad Stoc’ Prifysgol Bangor.  

Dyddiad Cyhoeddi: 07/07/2011

Mwy......


Canolfan Bangor yn Llundain yn Cyhoeddi Graddau MSc

Cyhoeddwyd triawd o gyrsiau Meistr fydd yn cael eu cynnig o ganolfan Llundain Ysgol Busnes Bangor o fis Medi ymlaen.

Dyddiad Cyhoeddi: 27/06/2011

Mwy......


Myfyrwyr Marchnata yn Cyfleu’r Neges gydag Ymgyrch Ailgylchu

Cynhaliwyd ymgyrch i fynd i’r afael â phroblem gwastraff diwedd y tymor ym Mangor gan y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru.

Y myfyrwyr eu hunain oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch tafod yn y boch, dan arweiniad aelodau o Gymdeithas Farchnata’r Brifysgol – myfyrwyr Marchnata Emma-Louise Jones, Ffion Haf Jones a Yueun Chung.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/06/2011

Mwy......


Bangor i Gynnal Cynhadledd Bwysig i’r Sector Ariannol

Bydd arbenigwyr ariannol o ar draws y byd yn mynychu cynhadledd bwysig yn Ysgol Busnes Bangor yr wythnos nesaf.

Dyddiad Cyhoeddi: 14/06/2011

Mwy......


Dewch i Ymweld â Chanolfan Llundain Ysgol Busnes Bangor

Mae Canolfan Llundain Ysgol Busnes Bangor wedi cyhoeddi dyddiadau ei Diwrnodau Agored cyntaf erioed.

Dyddiad Cyhoeddi: 09/06/2011

Mwy......


Nawdd Unigryw i Fyfyriwr PhD Ysgol Busnes Bangor

Bydd 5 o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor yn graddio gyda PhD eleni, ond mae rhywbeth arbennig amdan PhD Anahita Baregheh.

Mewn partneriaeth unigryw gydag Ysgol Busnes Bangor, noddwyd astudiaethau Anahita gan BIC Innovation, ymgynghoriaeth busnes a leolwyd ym Mangor, ac i bwy fu Anahita yn gweithio’n rhan amser yn ystod y flwyddyn derfynol o’i hastudiaethau.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/06/2011

Mwy......


Ysgol Busnes Bangor yn Penodi Pennaeth Newydd

Penodwyd yr Athro John Thornton, Athro Cyllid Byd-eang, fel Pennaeth newydd Ysgol Busnes Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/06/2011

Mwy......


Myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor yn ymweld â China

Aeth 16 o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor ar ymweliad cyntaf myfyrwyr o’r Ysgol â China yn ddiweddar.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2011

Mwy......


Modiwl Newydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethau yn Llwyddiant

Bu myfyrwyr blwyddyn olaf yn treulio deuddydd llwyddiannus yng Nghlwb Pêl-droed Burnley yn ddiweddar, fel rhan o fodiwl newydd Ysgol Busnes Bangor, Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethau, ag arweiniwyd gan Neil Doncaster, Prif Weithredwr yr Uwch Gynghrair Albanaidd, a’r Athro John Goddard, Dirprwy Pennaeth Ysgol Busnes Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 28/04/2011

Mwy......


Mynd ag Arbenigedd Busnes Bangor i Ddinas Llundain

Prifysgol Bangor yw’r unig sefydliad addysg uwch yng Nghymru i ‘allforio’ ei haddysg i Lundain . Mae’r Ysgol Busnes, sydd ar y brig o ran ansawdd yr ymchwil mewn Cyfrifeg a Chyllid ymhlith sefydliadau yn y DU, yn lansio lleoliad dysgu newydd yn y Ddinas.

Dyddiad Cyhoeddi: 28/04/2011

Mwy......


Prif Economegydd Prydain yn ymweld â’r Ysgol Busnes

Daeth cyn fyfyriwr Ysgol Busnes Bangor, sydd bellach yn gweithio fel Prif Economegydd y DU i Deutsche Bank yn Llundain, un o brif ddarparwyr gwasanaethau ariannol y byd, draw i’r Ysgol Busnes yn ddiweddar i roi sgwrs i’n myfyrwyr.

Dyddiad Cyhoeddi: 28/04/2011

Mwy......


Ehangwch eich Sgiliau

Fel y bydd mwy a mwy o bobl yn graddio bob blwyddyn gyda graddau, ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai’n gwneud i’ch cais chi am swydd sefyll allan yng nghanol pentwr o ffurflenni cais?

Dyddiad Cyhoeddi: 28/04/2011

Mwy......


Ysgoloriaethau PhD Ysgol Busnes Bangor

Gwahoddir ceisiadau am Fwrsariaethau Ymchwil Ysgol Busnes Bangor i ddechrau ym mis Hydref 2011. Bydd y rhain yn darparu tair blynedd o gefnogaeth ariannol ar gyfer astudiaethau llawn amser ar lefel PhD.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2011

Mwy......


Lansio Cynllun Gwobrau One in Se7en i entrepreneuriaid ifanc yn Ysgol Busnes Bangor

Ar Ddiwrnod Byd-eang Entrepreneuriaid fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ac Ysgol Busnes Bangor nodi’r achlysur trwy lansio One in Se7en. Cynllun gwobrau newydd yw hwn i entrepreneuriaid ifainc o ysgolion a cholegau yng Ngogledd Cymru.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2011

Mwy......


Rhaglen The One Show yn cofio ymweliad The Beatles â Bangor

Cofiwch wylio rhaglen The One Show ar BBC 1 am 7.00 nos Fawrth 23 Tachwedd i glywed am ymweliad y Beatles â Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/11/2010

Mwy......