Croeso gan Ddeon yr Ysgol
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn ysgol fusnes o fri sy’n rhoi pwyslais ar addysgu ac ymchwil. Rydym yn cynnig rhaglenni gradd ar draws ystod lawn o ddisgyblaethau academaidd o lefel israddedig ac ôl-raddedig hyd at lefel doethuriaeth.
Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn eu meysydd ac y mae eu hymchwil yn cyfrannu at ddatblygiadau polisi, at ddatblygiad eu disgyblaeth, a hyd yn oed at well dealltwriaeth o fusnes ei hun. Maen nhw’n academyddion o safon ryngwladol ac mae eu hymchwil yn llywio’r hyn y byddan nhw’n ei addysgu i chi, gan sicrhau y byddwch wedi cael eich paratoi’n llawn i lwyddo ym myd esblygol busnes byd-eang.
Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay rydym yn canolbwyntio ar eich helpu i wella’ch cyflogadwyedd trwy roi cyfleoedd i chi ymgysylltu â busnesau, ymgymryd â lleoliadau gwaith ac interniaethau a chymryd rhan mewn sefyllfaoedd sy’n adlewyrchu’r byd go iawn. Byddwch hefyd yn elwa ar yr amrywiaeth eang o achrediadau sy’n cael eu cynnig fel rhan o’n rhaglenni.
Tra byddwch yma gyda ni, fe gewch gyfle i fireinio eich sgiliau technegol a’ch sgiliau arwain. Mae busnesau modern yn chwilio am raddedigion sydd â sgiliau technegol ac sy'n gwybod sut i gyfathrebu, dylanwadu a thrafod. Byddwch yn dysgu'r sgiliau hyn a llawer mwy yn Ysgol Fusnes Albert Gubay.
Dyma eich gwahodd felly i ymuno â'r gymuned gyffrous a bywiog sydd i’w chael yn Ysgol Fusnes Albert Gubay. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i ddatblygu eich gyrfa yn y dyfodol.
Yr Athro Andrew Thomas, Deon yr Ysgol