Gwirfoddolwr yn cymryd rhan mewn arbrawf ar weithgaredd yr ymennydd

Seicoleg

 MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Seicoleg

Pam Astudio Seicoleg?

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn falch o'n cryfderau o ran addysgu a dysgu ac o ran ymchwil. Bydd y cryfderau hynny'n sicrhau y byddwch chi'n dysgu am wyddor seicoleg a'i chymhwysiad gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf.

  • Mae'r adran Seicoleg ym Mangor yn adran fawr a chosmopolitan gyda staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd
  • 85% o'r cynnyrch ymchwil naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)
  • Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DU
  • Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol

Os hoffech wneud PhD mewn seicoleg, mae ein MSc mewn Ymchwil Seicolegol wedi ei chydnabod gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel cymhwyster sy'n darparu'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol i ymchwilio i wyddorau cymdeithas. Os nad oes gennych gefndir seicoleg, gallech ystyried yr MA mewn Seicoleg neu edrych ar rai o'n graddau meistr mewn seicoleg gymhwysol.

Mae'r rhaglenni ôl-radd mewn seicoleg a seicoleg gymhwysol y gallwch eu hastudio ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyfuniad o amrywiaeth, ansawdd a phrofiad dysgu nad ydynt ar gael yn unman arall; wedi eu cyflwyno mewn adran fawr, amlieithog a chosmopolitaidd. Byddem wrth ein boddau pe baech yn ymuno â ni.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Seicoleg

Ar ôl graddio gyda gradd meistr mewn seicoleg bydd nifer o opsiynau gyrfa ar gael i chi gan gynnwys:  

  • Seicoleg Fforensig
  • Seicoleg Addysg
  • Seicoleg Gyfundrefnol / Busnes
  • Seicoleg Glinigol
  • Seicoleg Chwaraeon
  • Seicoleg Iechyd
  • Cwnsela
  • Seicoleg Defnyddwyr  

Ar wahân i yrfaoedd fel y rhain sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r pwnc mae'r sgiliau allweddol sy'n cael eu haddysgu ar lefel meistr yn ddeniadol i amrywiaeth o gyflogwyr. Ar ôl graddio bydd gennych wybodaeth ddadansoddol ac ystadegol ddatblygedig iawn, ynghyd â'r sgiliau i roi cyflwyniadau llafar a llunio adroddiadau ysgrifenedig. Gallwch hefyd ddefnyddio eich gradd meistr mewn seicoleg  i symud ymlaen i astudio am PhD neu ddoethuriaethau proffesiynol eraill.  

Mae angen cynyddol am ddeall a rhagfynegi ymddygiad dynol ac angen cynyddol felly am seicolegwyr, sy'n golygu fod nifer fawr o gyflogwyr yn chwilio am y sgiliau a'r ddealltwriaeth y byddwch chi yn meddu arnynt. 

Roedd ehangder y cwrs MSc Cwnsela ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig llawer mwy nag astudio theori seicotherapiwtig. Galluogodd fi i ystyried sut y gallwn gyflwyno fy hun i'r byd y tu allan ac i ddarpar gleientiaid.

Ein Hymchwil o fewn Seicoleg

Ymchwil ac Effaith yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol

Rydym yn ymchwilio yn defnyddio dau ddull allweddol. Y dull cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran hŷn. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda’r ysgol pan gafodd ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ymchwil hyd heddiw.

Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?