Myfyrwyr yn y Cwad, Prif Adeilad y Brifysgol

Prifysgol Bangor wedi neidio fyny yn y tablau cynghrair

Mae Prifysgol Bangor wedi llamu dros 100 safle yn y QS World University Rankings gan sicrhau ei lle ymhlith prifysgolion blaenllaw drwy’r byd. O ran safleoedd yn y Deyrnas Unedig, mae Bangor hefyd wedi ei gosod ymhlith y 50 prifysgol orau yn ôl yr ugeinfed rifyn o restrau prifysgolion y cyfeirir atynt fwyaf yn y byd.

Yn rhifyn 2024 o’r QS World University Rankings, a ryddhawyd heddiw gan y dadansoddwr addysg uwch byd-eang QS Quacquarelli Symonds, mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y 500 (#481) uchaf yn y byd allan o 1499 ac yn safle 48 yn y Deyrnas Unedig.

Mae safle gwell Bangor yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd ac yn arbennig ymchwil, fel y dangosir yn y dyfyniadau fesul dangosydd cyfadran.

Mae'r brifysgol yn croesawu cynnwys cynaliadwyedd yn y tablau QS, sy'n cyd-fynd â phrif thema cynllun strategol y brifysgol - Strategaeth 2030: byd cynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol - ac sy'n adlewyrchu blaenoriaethau myfyrwyr a chymdeithas sydd wedi newid yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf.  Yn benodol, mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad clir i gynaliadwyedd gyda Phrifysgol Bangor yn safle 20 yn y Deyrnas Unedig a safle 108 yn y byd ar gyfer y metrig cynaliadwyedd.

Croesawyd y canlyniadau gan yr Athro Paul van Gardingen FRSA, Dirprwy Is-ganghellor (Ymgysylltu Byd-eang) gan ddweud,

“Fel prifysgol, rydym wedi dewis blaenoriaethu cynaliadwyedd ein gweithgareddau yn ein holl bolisïau ac mae'n galonogol gweld y tabl hwn yn cynnwys cynaliadwyedd fel elfen bwysig i fyfyrwyr sy’n gwneud cais heddiw, boed yn Mhrydain neu’n fyd-eang. Mae tablau cynghrair yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i ddarpar fyfyrwyr, ac mae’n dda bod y tabl cynghrair 20 oed hwn yn newid i adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’r genhedlaeth bresennol. Gyda'r canlyniad hwn rydym bellach yn sefydliad 500 uchaf dwbl, gan ein bod hefyd wedi’n rhestru fel aelod o'r grŵp 401-500 yng nghynghrair byd-eang y Times Higher Education.  Mae hyn yn brawf pellach ein bod yn sefydliad sy'n arwain y byd o ran addysg, ymchwil ac effaith gymdeithasol.”

Mae metrig dyfyniadau'r tabl, sy'n asesu pa mor aml y dyfynnir papurau ymchwil gwyddoniaeth y brifysgol fel ffynhonnell mewn papurau ymchwil eraill, yn farc o ansawdd ymchwil y brifysgol. Mae'r mesur hwn yn gosod y brifysgol yn safle 35 yn y Deyrnas Unedig a safle 346 yn y byd.

Dywedodd yr Athro Paul Spencer,  Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil),

“Mae ein perfformiad gwell yn y metrig dyfyniadau, yn codi 89 o leoedd, yn dyst pellach i gyrhaeddiad ac effaith ymchwil blaenllaw Bangor. Mae hefyd yn adlewyrchu canlyniad asesiad ansawdd ymchwil diweddar y DU (REF-21) a welodd y Brifysgol yn gwella ei pherfformiad a chael ei gosod yn 30ain yn y DU ar gyfer effaith ymchwil."

Mae tablau’r QS World University Rankings yn fwy nag erioed eleni, gyda 1,500 o brifysgolion ar draws 104 o leoliadau, wedi codi o 1418 y llynedd. Mae’r canlyniadau’n cyfrif am ddosbarthiad a pherfformiad 17.5 miliwn o bapurau academaidd a gyhoeddwyd rhwng 2017 a 2021 a’r 141.6 miliwn o ddyfyniadau a gafodd y papurau hynny; maent hefyd yn cyfrif am farn arbenigol dros 144,000 o gyfadrannau academaidd a thros 98,000 o gyflogwyr ledled y byd.

Dywedodd Uwch Is-lywydd QS, Ben Sowter,

“Mae’r QS World University Rankings 2024 yn gam mawr yn esblygiad yr ymarfer, gan nodi’r arloesedd mwyaf arwyddocaol yn ei baradeim methodolegol ers ei sefydlu dau ddegawd yn ôl. Mae’n cyd-fynd yn fwy nag erioed â blaenoriaethau Gen Z ac Alpha, gan roi safbwynt unigryw i sefydliadau asesu eu perfformiad mewn meysydd sy’n hollbwysig i lunio dyfodol mwy disglair i genedlaethau i ddod.”

 Myfyrwyr yn ymlacio a chymdeithasu gyda'i gilydd yn Barlows, St Mary's

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?