Creu Cyfle, Newid Bywydau drwy Ddyngarwch
Gyda’ch rhoddion chi, rydyn ni’n creu cyfleoedd, yn ysbrydoli darganfyddiadau, ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol. O gefnogi myfyrwyr talentog a gwella'r profiad dysgu i hyrwyddo ymchwil o'r radd flaenaf ac ymgysylltu cymunedol, mae eich haelioni yn cael effaith ar bob agwedd ar Brifysgol Bangor. Mae eich cefnogaeth yn trawsnewid bywydau, yn ehangu gwybodaeth ac yn creu newid cadarnhaol sy'n cael effaith ymhell y tu hwnt i'r campws ac i gymunedau ledled Cymru a thu hwnt.