Pam byw mewn neuadd?

What Uni Awards 2023 bronze award for halls and student accommodation

Mae byw mewn neuaddau preswyl yn ffordd wych o gael y gorau o'ch profiad prifysgol - cyfle i wneud ffrindiau newydd, ac i chi ymlacio wrth i chi fyw oddi cartref. Mae ein holl llety o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r Brifysgol, siopau, caffis, bariau, canolfannau ffitrwydd, golchiadau ac ystafelloedd cyffredin, felly ni fydd yn rhaid i chi grwydro'n bell. 

Llety yn y 3 uchaf 

Mae ein llety yn fodern ac yn gyfforddus ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol. Nid yw'n syndod felly ein bod wedi ein gosod yn 3ydd am ein Neuaddau a Llety yng Ngwobrau What Uni 2023. 

Llety o ansawdd da

 Logo Côd Ymarfer Llety

Mae ein Llety yn cydymffurfio gyda Chôd Ymarfer Universities UK er mwyn Rheoli Llety Myfyrwyr. Mae'r Brifysgol wedi tanysgrifio i Gôd Llety Myfyrwyr Universities UK sydd wedi ei lunio i amddiffyn eich hawl i lety diogel o ansawdd da, lle bynnag yr ydych yn astudio, ac i wneud yn siŵr eich bod yn cael y defnydd gorau posib o'ch amser yn byw mewn llety Prifysgol neu goleg.

Cyfleusterau da a chyfleus i'r Brifysgol

Mae ein holl lety yn hunanarlwyo, ac mae gan y mwyafrif ystafelloedd ymolchi preifat, gyda chyfleusterau cegin a rennir. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gennym rai o'r llety myfyrwyr gorau yn y DU!

Mae Neuadd John Morris-Jones (JMJ) ym Mhentref Ffriddoedd yn gartref i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr sydd eisiau byw mewn awyrgylch Gymreig. Gwyliwch y fideo i wybod mwy am fywyd yno.

Llety Fforddiadwy

Rydym yn falch o allu cynnig opsiwn llety fforddiadwy. Bydd y llety fforddiadwy yma ym Mryn Eithin, ym Mhentref Santes Fair gyda chyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi a rennir.

Bydd y llety hwn ar gael am gontract 42 wythnos (IR) neu gontract 51 wythnos (OR), gyda chegin a rennir rhwng 8 o bobl ac ystafell ymolchi a rennir rhwng 4 o bobl.

Fideo - Bywyd yn Neuadd John Morris-Jones

Sicrwydd o lety yn y flwyddyn gyntaf

Os mai ni yw eich Dewis Cadarn, (neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ac wedi derbyn llythyr cynnig gan y Brifysgol), rydym yn sicrhau ystafell ar eich gyfer yn ystod y flwyddyn gyntaf o'ch gradd israddedig, cyn belled â'ch bod ar gampws Bangor, yn astudio cwrs sy'n cychwyn fis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddwn yn anfon e-bost atoch pan ddaw'n amser ymgeisio a byddwch yn gallu dewis yr ystafell rydych chi am fyw ynddi trwy ein system archebu ar-lein.

Mae ein holl lety'n hunanarlwyo ac mae gan y mwyafrif o'n hystafelloedd ystafelloedd ymolchi preifat en-suite. Mae ein holl neuaddau preswyl o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.

Cymerwch gip ar ein map campws i weld lle mae ein llety.

Beth sydd yn gynwysiedig?

Mae pob preswylfa ar y campws yn cynnwys:

  • Wi-fi a chysylltiad i'r rhyngrwyd gyda gwifren
  • Holl filiau (rhyngrwyd, dŵr, gwres, trydan) wedi'i gynnwys gyda rhent
  • Aelodaeth o'r gampfa a Campws Byw

Sut i wneud cais

Ymgeiswyr cartref (y DU/Iwerddon ): Mae'r system archebu llety yn agor ar 31 Ionawr 2024, ac os mai ni yw eich Dewis Cadarn drwy UCAS byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch gwahodd i wneud cais am ystafell mewn neuaddau. Rhaid i chi wneud cais cyn 31 Gorffennaf i gael sicrwydd o ystafell.

Ymgeiswyr rhyngwladol : Os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol, bydd y warant yn dibynnu ar eich bod yn dal llythyr cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Ewch i'n tudalen we am lety i fyfyrwyr rhyngwladol am fwy o fanylion.

Aelodaeth o'r gampfa a Champws Byw yn gynwysiedig

Mae aelodaeth o'r gampfa a Champws Byw wedi'i gynnwys ar gyfer pob myfyriwr sy'n byw yn llety'r Brifysgol. Gallwch ddefnyddio'r brif ganolfan chwaraeon ym Mhentref Ffriddoedd, Canolfan Brailsford, neu'r ystafell ffitrwydd ym Mhentref y Santes Fair.

Mae Campws Byw yn rhaglen o ddigwyddiadau sy'n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau ffilm, cwisiau, tripiau a gweithgareddau awyr agored.

Mae'n ddrwg gennym nad yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw ar Gampws Wrecsam, ac mae ffioedd neuaddau yn Wrecsam yn cael eu haddasu yn unol â hynny.

Mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sy'n astudio yn Wrecsam.

 

Pentrefi Llety

Mae gennym ddau bentref llety, Ffriddoedd a Santes Fair. Mae'r ddau o fewn pellter cerdded o brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.

Myfyrwyr yn cerdded ger Neuaddau Preswyl Ffriddoedd

Pentref Ffriddoedd

Wedi'i leoli ym Mangor Uchaf, tua 5 munud o gerdded o Brif Adeilad y Brifysgol, mae gan Bentref Ffriddoedd oddeutu 2,000 o ystafelloedd, ac mae gan y mwyafrif ohonynt ystafelloedd ymolchi preifat. Ar y safle mae siop, bar caffi Bar Uno, canolfan chwaraeon Brailsford, golchdai ac ystafelloedd cyffredin.

Neuaddau Preswyl ym Mhentref y Santes Fair

Pentref Santes Fair

Wedi'i leoli yn agos at ganol y ddinas, mewn safle uchel, mae oddeutu 600 o ystafelloedd ar y safle. Mae yna gymysgedd o fathau o lety, gan gynnwys ystafelloedd gydag ystafelloedd ymolchi preifat, stiwdios, tai tref ac ystafelloedd rhatach. Ar y safle mae siop / caffi, ystafell ffitrwydd, golchdy, ystafell TG ac ystafelloedd cyffredin.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?