A hithau wedi'i gwreiddio yn nhirweddau, iaith a chymunedau gogledd Cymru, mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o gael ei chefnogi drwy haelioni pobl sy'n credu ym mhŵer addysg a darganfod.
Heddiw, mae eich cefnogaeth chi yn newid bywydau. Mae'n grymuso ein myfyrwyr i ffynnu drwy agor y drysau at gyfleoedd, cyfoethogi eu profiad, a'u helpu i gyflawni eu potensial. Mae eich cefnogaeth hefyd yn sbarduno ymchwil arloesol ac iddo gyrhaeddiad byd-eang, sydd wedi'i seilio ar gryfderau a threftadaeth unigryw Cymru.
Diolch am eich cefnogaeth!
Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth; boed yn cefnogi myfyrwyr heddiw, yn llunio'r dyfodol trwy gymynrodd, neu drwy roi rhodd nawr.
Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth; boed yn cefnogi myfyrwyr heddiw, yn llunio'r dyfodol trwy gymynrodd, neu drwy roi rhodd nawr.
Mae pob rhodd a wnewch, o unrhyw faint, yn helpu i greu cyfleoedd, ysbrydoli darganfyddiadau, ac adeiladu dyfodol mwy disglair.
Os hoffech drafod eich rhodd neu archwilio sut allwch chi wneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Cysylltwch â'n Swyddog Datblygu, Persida Chung.
Eich Effaith: Straeon a Diweddariadau!
Gweld MwyMae eich haelioni yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud y mentrau hyn yn bosibl. O'ch herwydd chi, mae unigolion o bob cefndir yn gallu cael mynediad at gyfleoedd sy'n newid bywydau – gan gefnogi eu hastudiaethau, gwella eu llesiant, a'u galluogi i gyflawni eu llawn botensial. Drwy eich cefnogaeth, mae ymchwil arloesol yn parhau i ffynnu, gan fynd i'r afael â heriau byd-eang a chael effaith ystyrlon ar gymunedau yng Nghymru a thu hwnt.