Cregyn gleision, Bae Conwy

Môr Ni Gwynedd

Cefnogi cymuned pysgod cregyn ac acwafeithrin gynaliadwy.

GALL Y project YMA EICH HELPU? CYSYLLTWCH Â NI 

Mor Ni Gwynedd Logo- No background for white backgrounds

Ein Project Amdanom ni

Bydd Môr Ni Gwynedd yn cefnogi pysgodfeydd, acwafeithrin, a'r sector bwyd môr yng Ngwynedd, gyda'r nod o wella bywoliaethau a swyddi trwy gynnydd glas cynaliadwy.

 

Cefndir y project

Mae pysgodfeydd pysgod cregyn, acwafeithrin, a'r diwydiant bwyd môr ehangach yn bwysig i economi Gwynedd ac i gynaladwyedd cymunedau arfordirol.  

Bydd Môr Ni yn cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint yn y sector pysgod cregyn, acwafeithrin a bwyd môr yng Ngwynedd i ddod i ddeall yn well yr heriau sy'n eu hwynebu mewn perthynas â chynnydd glas cynaliadwy. Trwy ddod â'r gymuned ynghyd, byddem yn canfod datrysiadau posib. 

Mae'r project yn rhan o strategaeth hirdymor i wella a chefnogi pysgodfeydd a gweithgaredd acwafeithrin yng Ngogledd Cymru, ac i hyrwyddo cynnydd glas a gwella'r economi las trwy gynaladwyedd. 

Project 15 mis yw hwn, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chyngor Gwynedd.

Bydd cysylltu yn uniongyrchol â physgodfeydd yng Ngwynedd, cynhyrchwyr acwafeithrin, y sector bwyd môr ehangach a'r gymuned leol yn rhan allweddol o'r project i glywed eu barn a dod i wybod am eu dyheadau am ddyfodol cynaliadwy.  

Bydd y project yn creu cynllun dichonolrwydd, fydd wedi ei greu trwy gysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau. Bydd y cynllun yn amlinellu gofynion y sector a'r gymuned i ddarparu cyfleoedd ac i ymateb i'r heriau presennol sy'n wynebu cynnydd a chynaladwyedd glas.

Digwyddiadau

Cysylltu â ni

Os ydych yn meddwl gall y project hwn fod o fudd i'ch busnes neu eich cymuned, byddem wrth ein bodd clywed gennych.

CYSYLLTU Â NI

DILYNWCH NI AR X

DILYNWCH NI AR Instagram

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?