Myfyriwr yn gweithio yn Llyfrgell Prifysgol Bangor

Y Gyfraith

Darganfyddwch ein Cyfleoedd Ôl-raddedig Trwy Ymchwil 

Dod o hyd i gwrs

Pam Astudio'r Gyfraith?

Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn cynnig goruchwyliaeth arbenigol i raddau PhD a MPhil mewn amrywiaeth o feysydd cyfreithiol.

Caiff pob myfyriwr ymchwil oruchwyliwr sydd â diddordeb ymchwil yn y pwnc astudio a ddewiswyd ganddynt.  Bydd eich goruchwyliwr yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd i chi ar eich dewis o bwnc; cyngor ar y llenyddiaeth yn eich maes a sut i fynd ati; dulliau ymchwil;  fframwaith, cynnwys a chyflwyno traethawd ymchwil; gwerthuso drafftiau o'ch traethawd ymchwil yn feirniadol; ac, yn achos myfyrwyr PhD, cyngor ar baratoi at eich arholiad llafar.

Ym Mhrifysgol Bangor cyfoethogir y profiad academaidd gan gyfres o weithgareddau all-gwricwlaidd a chyd-gwricwlaidd sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i wella'ch rhagolygon gyrfa. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun lleoliad gwaith, ffug ddadleuon cyfreithiol a ffair yrfaoedd flynyddol. Un o nodweddion amlwg ein cyrsiau yw dosbarthiadau bychain lle mae myfyrwyr yn gallu ymwneud yn rhwydd â staff academaidd.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Y Gyfraith

Bydd gan raddedigion gyda graddau ôl-raddedig o Ysgol y Gyfraith Bangor ragolygon rhagorol i gael gwaith mewn amrywiaeth o swyddi mewn cwmnïau cyfreithiol, llywodraeth leol, y gwasanaeth sifil, diwydiant, rheolaeth, sefydliadau rhyngwladol a mwy. Mae llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i gyfleoedd astudio ymchwil pellach.

Ein Hymchwil o fewn Y Gyfraith

Yma yn Ysgol Y Gyfraith Bangor mae staff academaidd yn cymryd rhan amlwg mewn ymchwil. Mae llawer o staff yr Ysgol hefyd wedi gweithio o'r blaen fel gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith mewn swyddi fel barnwyr, cyfreithwyr ac ynadon.  Golyga hyn bod y wybodaeth ddiweddaraf am eu meysydd pwnc ar flaenau bysedd y rhai sy'n addysgu.  Pam mae hyn yn bwysig? Mae'n ein galluogi i ddod ag addysgu'n fyw a rhoi'r wybodaeth a'r dulliau diweddaraf o feddwl yn y maes i chi yn y dosbarth.

Ynghyd â'r cyfuniad cyfoethog hwn o gefndiroedd, mae ymchwil aelodau staff yn adlewyrchu diddordebau ac arbenigedd mewn meysydd sy'n cynnwys Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Cyllid Corfforaethol, Cyfraith Forwrol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Weinyddol, Cyfraith Plant a Theuluoedd a Chyfraith Eiddo Deallusol. 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?