Myfyriwr yn dadansoddi deunydd

Archeoleg a Threftadaeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Archeoleg a Threftadaeth

Pam Astudio Archeoleg a Threftadaeth?

Ym Mangor, ceir cymuned ymchwil ôl-radd fywiog sy'n tyfu a byddwch yn rhan o awyrgylch dysgu clos a chefnogol. Byddwch yn:

  • Cael cyfle i wneud project ymchwil helaeth o'ch dewis dan arweiniad agos ac arbenigol.
  • Ehangu a dyfnhau eich ymdriniaeth feirniadol â hanes a hanesyddiaeth.
  • Rhan o gymuned ymchwil gref sydd â mynediad at wybodaeth arbenigol.
  • Datblygu sgiliau a gwybodaeth allweddol a dod yn ymchwilydd annibynnol.
  • Gallu mynd i seminarau ymchwil rheolaidd ar hanes ac archaeoleg gydag ysgolheigion blaenllaw mewn amrywiaeth o feysydd ym Mangor a thu hwnt.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Archeoleg a Threftadaeth

Gallwch ddilyn gyrfa academaidd mewn Hanes / Hanes Cymru. Caiff y sgiliau dadansoddi ac ymchwil ar lefel uchel a ddatblygir yn ystod y radd hon eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn meysydd fel cyfathrebu, y cyfryngau, amgueddfeydd a diwydiannau treftadaeth, dysgu, cyhoeddi, yn ogystal â swyddi mewn ymchwil a datblygu.

Ein Hymchwil o fewn Archeoleg a Threftadaeth

Mae staff academaidd Archaeoleg a Threftadaeth yn arbenigwyr mewn amrywiaeth eang o feysydd.  Ein strategaeth ymchwil ym maes Archaeoleg yw defnyddio tirweddau archeolegol eithriadol gyfoethog Cymru fel canolbwynt naturiol i'n hymchwil, gan ddadansoddi cymdeithasau'r gorffennol, eu haneddiadau a'u diwylliant materol o ddiwedd y cyfnod Mesolithig hyd at y cyfnod modern cynnar.  Mae ein strategaeth ymchwil ym maes Treftadaeth yn canolbwyntio ar ragweld a chynllunio gallu, cyfranogiad y cyhoedd a gwyddoniaeth dinasyddion, a chyfraith, polisi ac arfer rheoli treftadaeth (archeolegol yn bennaf) mewn cyd-destun Cymraeg a rhyngwladol.

Mae cryfderau ymchwil Archaeoleg a Threftadaeth yn cynnwys:

  • Cynhanes Cynnar: Tirweddau a Morluniau; Marwolaeth a Chladdedigaeth.
  • Cynhanes a Hanes Rhufeinig Diweddarach: Tirweddau, Anheddu a Chladdu; Archaeoleg Gymdeithasol; Archaeoleg Geltaidd.
  • Yr Oesoedd Canol Cynnar: Celf a Cherflunwaith, Anheddiad; Archaeoleg Gymdeithasol; Archaeoleg Geltaidd.
  • Rheoli Treftadaeth: Cenedlaethol a Rhyngwladol; Archaeoleg Gyhoeddus.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?