Myfyrwyr hanes yn edrych ar ddogfennau hanesyddol

Hanes a Hanes Cymru

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Hanes a Hanes Cymru

Pam Astudio Hanes a Hanes Cymru?

Ym Mangor fe gewch gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog sy'n ehangu a byddwch yn rhan o awyrgylch dysgu clos a chefnogol. Byddwch yn:

  • Cael cyfle i wneud project ymchwil helaeth o'ch dewis dan arweiniad agos ac arbenigol.
  • Ehangu a dyfnhau eich ymdriniaeth feirniadol â hanes a hanesyddiaeth.
  • Bod yn rhan o gymuned ymchwil gyfoethog sydd â mynediad at wybodaeth arbenigol.
  • Datblygu sgiliau a gwybodaeth allweddol a dod yn ymchwilydd annibynnol.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Hanes a Hanes Cymru

Gallech ddilyn gyrfa academaidd mewn Hanes / Hanes Cymru. Caiff y sgiliau dadansoddi ac ymchwil ar lefel uchel a gânt eu datblygu yn ystod y radd hon eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn meysydd fel cyfathrebu, y cyfryngau, amgueddfeydd a diwydiannau treftadaeth, addysgu, cyhoeddi, yn ogystal â swyddi mewn ymchwil a datblygu.

Ein Hymchwil o fewn Hanes a Hanes Cymru

Mae staff academaidd yn yr Ysgol Hanes a Hanes Cymru yn arbenigwyr mewn ystod eang o feysydd. Ym maes Hanes Modern a Chyfoes, mae'r rhain yn cynnwys hanes defnyddio, protest, llunio polisi, teithio, rhywioldeb, rhyfel a chenedlaetholdeb, yn Ewrop a Gogledd America. Ym maes Hanes Canoloesol a Modern Cynnar, mae'r cryfderau'n cynnwys hanes gwleidyddol, gweinyddol a rhywedd Lloegr a Normandi yn yr oesoedd canol, a hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol Prydain yn y cyfnod modern cynnar.

Mae llawer o ysgolheigion yn yr Ysgol yn canolbwyntio ar ymchwil i hanes Cymru, a hynny o'r cyfnod ôl-Rufeinig i'r unfed ganrif ar hugain, gan osod hanes Cymru yn ei chyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol ehangach.

Mae cryfderau ymchwil arbennig ym meysydd Hanes a Hanes Cymru yn cynnwys:

  • Yr Oesoedd Canol: y byd Eingl-Normanaidd; hanes menywod yn yr Oesoedd Canol; seliau a sigilograffeg; crefydd; hunaniaeth genedlaethol; hanesyddiaeth; cymdeithas a diwylliant.
  • Y cyfnod Modern Cynnar: crefydd, hunaniaeth genedlaethol a rhethreg wleidyddol yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod diweddar y Stiwartiaid.
  • Hanes Modern a Chyfoes: cenedlaetholdeb; y mudiad llafur; prynwriaeth; datganoli; canol y ddinas; tlodi; polisi llywodraeth.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.