Mae twf a llwyddiant eithriadol yr Ysgol Seicoleg i’w priodoli i raddau helaeth i strategaeth gydlynol ar ymchwil yn cynnwys partneriaethau mewn iechyd a diwydiant. Rydym wedi ymrwymo i ymchwil sylfaenol ac i roi’r ymchwil honno ar waith yn ymarferol mewn sefyllfaoedd o fywyd real sy’n cyfrannu at iechyd, lles a chyfoeth cymdeithas. O ganlyniad, mae llawer o’n hymdrechion mewn ymchwil yn digwydd mewn meysydd sydd â chyswllt agos â blaenoriaethau Rhagwelediad Technoleg, yn benodol heneiddio, niwrowyddoniaeth, a’r gwyddorau gwybyddol. Mae ein pwyslais ar greu gwybodaeth wyddonol sylfaenol a hefyd ei rhoi i ddefnyddwyr ar draws cymdeithas wedi arwain at gydweithrediad â’r Gwasanaeth Iechyd a diwydiant sydd wedi dod â budd i bob ochr. Bu’r cysylltiadau hyn, yn cynnwys nifer o benodiadau ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd a Phartneriaeth Strategol â Unilever, yn allweddol o ran sicrhau perthnasedd ymchwil yr Ysgol y tu allan i’r byd academaidd.
Rhestr o Ganolfannau: