Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau

Gwobrau'r Brifysgol

MSc trwy Ymchwil wedi ei gyllidio yn llawn i gychwyn 1 Hydref ar sail llawn amser. Bydd y cyllid yn talu am ffioedd, tâl o £16,000, a ffi mainc am ymchwil/hyfforddiant ayyb o hyd at £5,000. Mae'n agored i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch Dr Emma Green fydd yn rheoli'r broses ymgeisio. 

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Rhaid i'r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig ymchwil yn y Celfyddydau neu'r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ffurflen gais.

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth...

Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...

Gall myfyrwyr DU (gan eithrio myfyrwyr o Gymru*) fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o'r canlynol tra'n fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academiaeth 2021-22 neu'n ddi-waith cyn cychwyn cwrs ol-radd yn Brifysgol Bangor.

  • Grant Cynhaliaeth 
  • Benthyciad Cynhaliaeth 
  • Bwrsariaeth Foyer 
  • Bwrsariaeth i Bobl sy'n Gadael Gofal 
  • Gymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith,/ Credyd Cynhwysol

Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.

Dyfernir bwrsariaeth o £500 i:

  • fyfyrwyr oedd yn derbyn cyllid myfyrwyr mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion yn ystod 2021-22.
  • fyfyrwyr oedd yn ddi-waith yn union cyn cychwyn eu cwrs ôl-radd

Dyfernir bwrsari o £250 i:

  • fyfyrwyr oedd yn israddedigion yn 2012/22 ac yn derbyn cyllid myfyrywyr rhannol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol.

*Mae gan fyfyriwr o Gymru hawl i grant o leiaf £1,000 gan Lywodraeth Cymru

Mae'r bwrsariaethau yma wedi eu hanelu'n benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan-amser. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae nifer o ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o rai grwpiau. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg. 

Beth mae'n ei gynnwys?

 Taliad tuag at ffioedd dysgu cwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil am un flwyddyn (neu am ddwy flynedd os yr astudir y cwrs yn rhan amser). Bydd terfyn uchaf o £9,500.  

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â athenaswan@bangor.ac.uk

Mae cynllun Ysgoloriaeth Chwaraeon Bangor yn bwriadu cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon. Nid yw'r Ysgoloriaethau, sy'n werth £3,000 y flwyddyn, wedi'u cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol nac i fyfyrwyr ar unrhyw gyrsiau penodol.

Mwy o wybodaeth

Ariannu Strwythurol

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth PhD ac Ymchwil Meistr wedi'i gyllido mewn cydweithrediad â busnes neu bartner gwmni gweithredol. Fe'i hariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, a arweinir gan Brifysgol Bangor.

Ysgoloriaethau ar gael yma.

Allanol

Bwrsariaeth Newydd ar gyfer Ôl-raddedigion yng Nghymru

Nod y Cynllun Bwrsariaeth Cymhelliant Graddau Meistr Ôl-radd yw cynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy'n aros yng Nghymru, neu'n dychwelyd i Gymru, i astudio gradd meistr ôl-raddedig.

Bydd y bwrsariaethau Master’s hyn yn parhau i fod ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23:

•    Bwrsari STEMM gwerth £2,000 ar gyfer graddedigion o bob oed sy’n astudio gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, y cyfeirir ati’n aml fel pynciau ‘STEMM’.
•    Bwrsari Gyfrwng Cymraeg £1,000 ar gyfer ôl-raddedigion cyfrwng Cymraeg hefyd yn bwysig i ddatblygiad parhaus y gweithlu Cymraeg, sy'n hanfodol er mwyn cyflawni ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Nid yw'r Bwrsariaethau hyn ar gael i fyfyrwyr Ôl-raddedig sy'n derbyn cyllid gan
•    Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
•    Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon
•    Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban
•    Cyngor Gofal Cymru.
Neu
•    Graddau Doethur Ôl-raddedig;
•    Graddau Meistr yr ymgymerir â nhw’n rhan o Radd Doethur Ôl-raddedig;
•    Tystysgrif Ôl-raddedig (PgCert) neu Ddiploma Ôl-raddedig (PgDip);
•    Cyrsiau ôl-raddedig a gaiff eu cyllido gan gyllid myfyrwyr i israddedigion, megis Addysg Gychwynnol i Athrawon, neu Raddau Meistr Integredig;
•    Cyrsiau Ymarfer Cyfreithiol.
 
Cais

Does DIM ffurflen cais: Bydd y Brifysgol yn cysylltu'n uniongyrchol â'r holl fyfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer y bwrsariaethau hyn ar ôl cofrestru yn y flwyddyn academaidd newydd, gyda'r fwrsariaeth i'w defnyddio i leihau cost eich ffi ddysgu yn y rhan fwyaf o achosion.
 
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol: cymorthariannol@bangor.ac.uk

Bwrsariaeth Newydd ar gyfer Ôl-raddedigion dros 60 oed

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu bwrsariaeth newydd o £4,000 ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig 60+.

•    Bwrsari o £ 4,000 i bobl dros 60 oed. Nod y grant yw darparu cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr dros 60 oed, nad ydyn nhw'n gallu deilwng i'r un cymorth ariannol â myfyrwyr iau ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Trysorlys. 
Mae bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhan amser gyda myfyrwyr rhan amser a fydd yn derbyn eu bwrsariaethau mewn rhandaliadau cyfartal bob blwyddyn o'u cwrs.

Nid yw'r Bwrsariaethau hyn ar gael i fyfyrwyr Ôl-raddedig sy'n derbyn cyllid gan
•    Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
•    Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon
•    Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban
•    Cyngor Gofal Cymru.
Neu
•    Graddau Doethur Ôl-raddedig;
•    Graddau Meistr yr ymgymerir â nhw’n rhan o Radd Doethur Ôl-raddedig;
•    Tystysgrif Ôl-raddedig (PgCert) neu Ddiploma Ôl-raddedig (PgDip);
•    Cyrsiau ôl-raddedig a gaiff eu cyllido gan gyllid myfyrwyr i israddedigion, megis Addysg Gychwynnol i Athrawon, neu Raddau Meistr Integredig;
•    Cyrsiau Ymarfer Cyfreithiol.
 
Cais

Does DIM ffurflen cais: Bydd y Brifysgol yn cysylltu'n uniongyrchol â'r holl fyfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer y bwrsariaethau hyn ar ôl cofrestru yn y flwyddyn academaidd newydd, gyda'r fwrsariaeth i'w defnyddio i leihau cost eich ffi ddysgu yn y rhan fwyaf o achosion.
 Am wybodaeth bellach cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol : cymorthariannol@bangor.ac.uk

Bwrsariaeth 'Leverhulme Trade Charities Trust'

Mwy o wybodaeth ar gael yma

FindaMasters.com Ysgoloriaeth

Mae FindaMasters.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaMasters.com. Cofrestrwch yma.

FindaPhD.com Ysgoloriaeth

Mae FindaPhD.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaPhD.com. Cofrestrwch yma.

Ymholiadau am Astudio Ol-radd ym Mangor

Cyrsiau Wedi'u Hariannu

Mae nifer o gyfleoedd ariannu ar gael. Cysylltwch â'r ysgol academaidd i wybod mwy am y cyllid sydd ar gael.

Cofiwch bod rhai ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eu pynciau. Ewch i'r dudalen ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau neu dudalennau'r ysgolion academaidd i gael mwy o wybodaeth.

Ysgoloriaethau a Gwaddoliadau

Benthyciadau

Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd

Mae'r Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllid - yn enwedig elusennau - a all ddyfarnu cyllid (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag a fo ei (d)dinasyddiaeth. 

Mae'r Arweiniad Amgen Ar-lein â chronfa ddata enfawr o gyfleoedd i gael cyllid, arweiniad cynhwysfawr ac offer niferus i'ch helpu i baratoi cais sy'n mynd i ennill grant ichi. I gynorthwyo ein myfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi prynu trwydded ar gyfer yr Arweiniad, fel ei fod am ddim i holl fyfyrwyr a staff Bangor ei ddefnyddio! Mewngofnodwch Yn Awr! 

Os ydych yn ddarpar-fyfyriwr ac wedi gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor, anfonwch e-bost er mwyn cael PIN mynediad.

PostgraduateStudentships.co.uk

  • Gwefan yw PostgraduateStudentships.co.uk sy'n dod â'r holl wahanol fathau o gyllid sydd ar gael i ddarpar ôlraddedigion at ei gilydd mewn un lle. Felly, gellwch weld beth sydd ar gael o ffynonellau cyffredinol, yn ogystal â chyfleoedd a chyllid o'r brifysgol ei hun.

Busnes

Ailadeiladu rheoli gwybodaeth: Moderneiddio radical o ran modelu risg gwariant cyfalaf a chynnal a chadw ar gyfer Gorsaf Bŵer Dŵr Gogledd Cymru

Prifysgol Bangor - Ysgol Busnes Bangor

Mae Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn gwahodd ceisiadau am astudiaeth PhD wedi'i chyllido. Mae'r efrydiaeth penodol hwn, a elwir yn 'efrydiaeth cydweithredol', yn golygu cysylltu â sefydliad anacademaidd, Cwmni First Hydro (Safleoedd Pŵer Dŵr Ffestiniog a Dinorwig) yn aml yn ystod camau allweddol y rhaglen ymchwil. Bydd yr astudiaeth yn dechrau ym mis Hydref 2023 mewn Rheolaeth a Busnes, gan archwilio “Ailadeiladu rheoli gwybodaeth: Moderneiddio radical o ran modelu risg gwariant cyfalaf a chynnal a chadw ar gyfer Gorsaf Bŵer Dŵr Gogledd Cymru”

Mae modelau presennol y diwydiant ar gyfer dal a blaenoriaethu risgiau busnes strategol a gweithredol cyfreithlon yn hen ffasiwn, yn aneffeithlon ac yn broblematig. Mae angen iddynt ymgorffori ffactorau risg sy'n mynd i'r afael â chynaliadwyedd, seiberddiogelwch, iechyd a diogelwch ac ansawdd. O'r rhai sy'n gwneud hynny, mae'n ymddangos bod rhai yn ymarferion ticio blychau rhagweithredol a biwrocrataidd sydd wedi dod yn elfen hanfodol o arferion gwaith a chydwybod sefydliadol; yr hyn a elwir yn 'gwyrddgalchu' ac ‘esgus cefnogi seiberddiogelwch'. Mae angen newid. Gan hynny, mae'r project ymchwil arloesol hwn, y mae mawr ei angen ac sy'n amserol, yn dadadeiladu arferion technoddiwylliannol moderneiddio modelu risg fel ymarfer cynaliadwy drwy lens rheoli gwybodaeth, tra'n cyfrannu at Garbon Sero Net 2050 Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy ailddiffinio cynaliadwyedd yn epistemig mewn modelu risg diwydiant.

Mae dau safle storio trydan dŵr First Hydro yn Ninorwig a Ffestiniog (Eryri) yn hanfodol i Isadeiledd Cenedlaethol a lefel cyflogaeth yn yr ardal leol.. Mae'r safleoedd hyn yn darparu pŵer ymateb cyflym i'r Grid Cenedlaethol ar adegau o straen ar y system neu gyflenwad pŵer ysbeidiol; er enghraifft, pan fydd newid cyflymder gwynt yn effeithio ar allbwn ffermydd gwynt. Mae rhaglen adnewyddu gwerth £50 miliwn ar y gweill i uwchraddio gorsaf bŵer Ffestiniog, gan wella ei chyflymder ymateb, dibynadwyedd ac effeithlonrwydd.

Fel rhan o'r uwchraddio hwn, bydd yr ymgeisydd PhD llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda First Hydro ar wahanol gamau o'r project ymchwil a bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ailddiffinio ac ailgynllunio modelu arloesol sy'n wydn, yn addas i'r diben ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â chwblhau PhD yn llwyddiannus, gall yr ymgeisydd gael effaith drwy gyfrannu at alwad Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn y ffordd y mae sefydliadau’n gweithredu polisïau ac arferion, yn ogystal â moderneiddio modelau risg First Hydro fel eu bod wedi eu halinio o fewn targedau sero net 2050 Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Ysgol Busnes Bangor yn enwog am ei rhagoriaeth ymchwil. Caiff yr ysgol ei gosod yn gyson ymysg y 25 sefydliad uchaf yn y byd am ymchwil ym maes bancio (RePEc, Tachwedd 2021) a chawsom sgôr GPA o 2.81 yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2014), gyda 68% o'n cynnyrch ymchwil yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion 3* neu 4*.  Mae Ysgol Busnes Bangor hefyd yn safle 26 yn y Deyrnas Unedig o ran canlyniadau GPA wedi’u pwysoli yn ôl dwyster ymchwil (REF 2014), sy'n adlewyrchu'r gyfran uchel o staff sy’n cynhyrchu  ymchwil yn yr ysgol. Mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-radd (PhD) wedi ein gosod yn uchel iawn yn yr Arolwg Profiad Ôl-raddedigion Ymchwil (PRES) 2022 diweddar, gan adrodd am oruchwyliaeth ragorol a phrofiadau a gafwyd yn Ysgol Busnes Bangor.  

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu radd ail ddosbarth uwch da iawn, neu radd Meistr briodol. Mae'r brifysgol a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac rydym yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, waeth beth fo oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol yr ymgeiswyr.  Yn unol â'n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i gynyddu recriwtio ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, mae ceisiadau gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Prydeinig Asiaidd, ethnigrwydd lleiafrifol Prydain a hil gymysg yn cael eu hannog a'u croesawu yn arbennig.  Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n llawn-amser a rhan-amser, ac mae efrydiaethau ar gael fel naill ai '1 + 3' (h.y. un flwyddyn lawn-amser o hyfforddiant ymchwil meistr ac yna tair blynedd o astudio llawn-amser am ddoethuriaeth, neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan-amser), neu '+3' (h.y. tair blynedd o astudio'n llawn-amser am ddoethuriaeth neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan-amser), yn dibynnu ar anghenion yr ymgeisydd.

Cysylltwch â Dr Sara Closs-Davies (s.closs-davies@bangor.ac.uk) os oes gennych unrhyw ymholiadau.
 
Croesewir ceisiadau erbyn 3 Chwefror 2023 (12:00pm GMT).

Manylion pellach am efrydiaeth gydweithredol DTP ESRC Cymru

Mae'r efrydiaeth hon yn grant 'cydweithredol'. Dylai ymgeiswyr ystyried teitl gwaith a disgrifiad o'r project yn ofalus, ac efallai yr hoffent gysylltu â'r aelod staff a enwir i gael trafodaeth cyn gwneud cais.

•    Dr Clair Doloriert, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth, clair.doloriert@bangor.ac.uk
•     Dr Sara Closs-Davies, Darlithydd mewn Cyfrifeg, s.closs-davies@bangor.ac.uk

Beth sydd wedi ei gynnwys yn yr efrydiaeth

Mae'r efrydiaeth yn dechrau ym mis Hydref 2023 a bydd yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£17,668 y flwyddyn ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn-amser yn 2022/23 - caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn); ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cefnogi Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol (RTSG). Fodd bynnag, gall elfen o'r gronfa olaf hon gael ei 'chrynhoi' a bydd angen ceisiadau ar wahân amdani o 2023 ymlaen.  Mae cyfleoedd a buddion eraill ar gael i ddeiliaid efrydiaeth, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd interniaeth, ymweliadau â sefydliadau tramor a grantiau bach eraill.

Cymhwysedd

Mae cystadleuaeth fawr am efrydiaethau ESRC. Dylai fod gan ymgeiswyr gefndir academaidd rhagorol mewn gwyddorau cymdeithas, gyda gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch da iawn. Ystyrir ceisiadau hefyd gan rai sydd â gradd Meistr berthnasol mewn hyfforddiant ymchwil (neu gefndir cyfatebol mewn hyfforddiant ymchwil) ar gyfer grant +3.  Mae efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol (gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop).  Bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael dyfarniad llawn sy'n cynnwys tâl cynhaliaeth  a ffioedd dysgu ar gyfradd sefydliad ymchwil y Deyrnas Unedig.  Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion mynediad yr efrydiaeth. Am ragor o fanylion gweler gwefan yr UKRI.  Bydd ymgeiswyr rhyngwladol llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a gyllidir yn llawn ac ni chodir arnynt y gwahaniaeth ffioedd rhwng y Deyrnas Unedig a chyfradd ryngwladol.

1+3 neu +3?

Ac eithrio efrydiaethau yn y llwybr Economeg, mae grantiau ar gael naill ai ar sail 1+3 neu +3. Mae efrydiaeth 1+3 yn rhoi cyllid am bedair blynedd (neu gyfwerth rhan-amser), gan gwblhau hyfforddiant ymchwil Meistr yn y flwyddyn 1af, ac yna cyllid ymchwil 3 blynedd ar gyfer PhD. Mae efrydiaeth +3 yn rhoi cyllid ar gyfer yr astudiaeth ymchwil PhD dair blynedd yn unig (neu gyfwerth rhan-amser).

Asesu

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 12.00pm GMT, ddydd Gwener 3 Chwefror 2023. Bydd ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ddiwedd Chwefror/dechrau Mawrth 2023.  Ar ôl y cyfweliad, bydd rhestr fer derfynol o ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno i banel a gynullir gan Grŵp Rheoli DTP ESRC Cymru lle bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud o ran dyfarnu efrydiaethau. Gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl clywed yn ystod mis Ebrill 2023.

Sut i wneud cais

Rhaid cyflwyno ffurflen gais wedi ei llenwi i gael mynediad i astudio doethuriaeth yn Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, erbyn y dyddiad cau, sef 12:00pm GMT ar 3 Chwefror 2023, drwy'r ddolen ganlynol: https://www.bangor.ac.uk/study/postgraduate-research/apply

Dan y tab Rhaglenni, dewiswch 'Efrydiaethau a Hysbysebwyd ym Mhrifysgol Bangor...'

Yna dewiswch ‘Efrydiaethau Cydweithredol DTP ESRC Cymru: Busnes a Rheolaeth, gan wneud yn siŵr eich bod yn ychwanegu'r Athro Yener Altunbas i'r blwch' Cyswllt Academaidd'. Cliciwch Ychwanegu.

Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn neu geisiadau a ddaw i law ar ôl yr amser a nodir.

Rhaid i'r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

1. Llythyr atodol: Wedi ei gyfeirio at Dr Sara Closs-Davies. Rhaid i'r llythyr atodol enwi'r efrydiaeth gydweithredol y gwneir cais amdani.  Rhaid iddo amlinellu eich rhesymau a'ch cymhelliant dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Bangor, a'r llwybr Busnes a Rheolaeth; eich dealltwriaeth a'ch disgwyliadau o astudiaethau doethurol; a'ch diddordebau academaidd yn gyffredinol, ac yn arbennig sut mae'r rhain yn gysylltiedig â'r disgrifiad o'r project a ddarparwyd.  Ni ddylai'r llythyr atodol fod yn hwy na dwy dudalen. Nodwch hefyd a ydych yn dymuno gwneud cais ar sail 1+3 neu +3.

2. Cymwysterau academaidd / proffesiynol: Lle bo'n briodol, dylai hyn hefyd gynnwys tystiolaeth o Gymhwysedd Iaith Saesneg (gweler y gofynion mynediad sefydliadol).

3. Geirdaon: Mae angen dau eirda academaidd i gefnogi pob cais. Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr eu hunain a chynnwys y geirdaon gyda'u cais.

4. Curriculum Vitae: Ni ddylai hwn fod yn hwy na dwy dudalen.

5. Cynnig ymchwil: Yn achos efrydiaethau cydweithredol, dylai'r cynnig adeiladu'n uniongyrchol ar y disgrifiad amlinellol a ddarparwyd.  Dylai'r cynnig fod hyd at uchafswm o 1,000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaethol. Awgrymwn eich bod yn defnyddio'r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil:
•    Eich barn ynglŷn â theitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil;
•    Trosolwg ar rywfaint o'r llenyddiaeth ymchwil allweddol sy’n berthnasol i'r astudiaeth;
•    Eich cynigion i ddatblygu cynllun a dulliau'r astudiaeth;  
•    Disgrifiad o ganlyniadau posibl y project o ran dealltwriaeth, gwybodaeth, polisi ac ymarfer (fel bo'n briodol i'r pwnc);
•    Cyfeiriadau Llyfryddiaeth

Mae Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn gwahodd ceisiadau am astudiaeth PhD, gyda'r posibilrwydd o gael Efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi'i chyllido'n llawn a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2023. Disgwyliwn ddyfarnu efrydiaeth ddoethurol ym maes Rheolaeth a Busnes.

Mae Ysgol Busnes Bangor yn enw sy'n gyfystyr â rhagoriaeth mewn ymchwil.  Rydym yn cael ein gosod yn gyson ymysg y 25 sefydliad uchaf yn y byd am ymchwil ym maes bancio (RePEc, Tachwedd 2021) a chawsom sgôr GPA o 2.92 yn y   Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021), gyda 79.6% o'n hallbynnau ymchwil yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion 3* neu 4*. Rydym hefyd yn safle 48 yn y Deyrnas Unedig o ran canlyniadau GPA wedi’u pwysoli yn ôl allbynnau ymchwil (REF 2021), sy'n adlewyrchu'r gyfran uchel o staff sy’n cynhyrchu gwaith ymchwil yn yr ysgol. 

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol gyda gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch da iawn, neu radd Meistr briodol. Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, waeth beth yw oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol yr ymgeiswyr. Yn unol â'n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i gynyddu recriwtio ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, mae ceisiadau gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Prydeinig Asiaidd, o ethnigrwydd lleiafrifol Prydeinig a hil gymysg Prydeinig yn cael eu hannog a'u croesawu’n arbennig. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n llawn-amser a rhan-amser, ac mae’r efrydiaeth ar gael fel naill ai 1+3 (h.y. un flwyddyn lawn-amser o hyfforddiant ymchwil Meistr ac yna tair blynedd o astudio llawn-amser am ddoethuriaeth, neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan-amser), neu '+3' (h.y. tair blynedd o astudio'n llawn-amser am ddoethuriaeth neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan-amser), yn dibynnu ar anghenion yr ymgeisydd. 

Cysylltwch â Dr Sara Closs-Davies (s.closs-davies@bangor.ac.uk) os oes gennych unrhyw ymholiadau.
 
Croesewir ceisiadau erbyn 12.00pm GMT 3 Chwefror 2023
 
Manylion pellach am Efrydiaeth Gyffredinol Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru

Mae'r efrydiaeth hon yn grant 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried mynd at ddarpar oruchwyliwr cyn cyflwyno eu cais i gadarnhau bod darpariaeth oruchwylio briodol ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff i'w cael ar dudalennau gwe’r Brifysgol. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig ar gael ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru. Efallai y bydd cynullydd y llwybr Rheolaeth a Busnes yn gallu rhoi cyngor i chi. Dr Sara Closs-Davies (s.closs-davies@bangor.ac.uk) yw cynullydd y llwybr hwn. 

BETH FYDD YR EFRYDIAETH YN TALU AMDANO

Bydd yr Efrydiaeth yn dechrau ym mis Hydref 2023 a bydd yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£17,668 y flwyddyn ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn-amser yn 2022/23, caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn); ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cefnogi Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol (RTSG). Fodd bynnag, gall elfen o'r gronfa olaf hon gael ei 'chrynhoi' a bydd angen gwneud ceisiadau ar wahân o 2023 ymlaen. Mae cyfleoedd a manteision eraill ar gael i’r sawl sy’n cael efrydiaeth, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd interniaeth, ymweliadau â sefydliadau tramor a grantiau bach eraill. 

CYMHWYSEDD

Mae efrydiaethau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn hynod gystadleuol. Dylai fod gan ymgeiswyr gefndir academaidd rhagorol mewn gwyddorau cymdeithas, gyda gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch da iawn. Ystyrir ceisiadau hefyd gan rai sydd â gradd Meistr berthnasol mewn hyfforddiant ymchwil (neu gefndir cyfatebol mewn hyfforddiant ymchwil) ar gyfer grant +3. Mae efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol (gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop). Bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael grant llawn sy'n cynnwys tâl cynhaliaeth  a ffioedd dysgu ar y gyfradd i sefydliadau ymchwil y Deyrnas Unedig. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion mynediad yr efrydiaeth. Am ragor o fanylion gweler gwefan yr UKRI. Bydd ymgeiswyr rhyngwladol llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a gyllidir yn llawn ac ni chodir arnynt am y gwahaniaeth ffioedd rhwng y Deyrnas Unedig a’r gyfradd ryngwladol. 

1+3 NEU +3?

Ac eithrio efrydiaethau yn y llwybr Economeg, mae grantiau ar gael naill ai ar sail 1+3 neu +3. Mae efrydiaeth 1+3 yn rhoi cyllid am bedair blynedd (neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan-amser), gan gwblhau hyfforddiant ymchwil Meistr yn y flwyddyn 1af, ac yna cyllid ymchwil 3 blynedd ar gyfer PhD. Mae efrydiaeth +3 yn rhoi cyllid ar gyfer yr astudiaeth ymchwil PhD dair blynedd yn unig (neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan-amser).

ASESU

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00pm GMT, ddydd Gwener 3 Chwefror 2023. Bydd ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ddiwedd Chwefror/ddechrau Mawrth 2023. Ar ôl y cyfweliad, bydd rhestr fer derfynol o ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno i banel a gynullir gan Grŵp Rheoli Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru, lle bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud o ran dyfarnu’r efrydiaeth. Gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl clywed erbyn dechrau Ebrill 2023. 
 
SUT I WNEUD CAIS

Gellir gwneud cais yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/study/postgraduate-research/apply 
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 12.00pm GMT, ddydd Gwener 3 Chwefror 2023. Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn neu geisiadau a ddaw i law ar ôl yr amser a nodir.  

Rhaid i'r cais gynnwys y dogfennau canlynol: 

  1. Llythyr atodol: Wedi ei gyfeirio at Dr Sara Closs-Davies. Rhaid i'r llythyr atodol nodi eich rhesymau a'ch cymhelliant dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Bangor a'r llwybr Rheolaeth a Busnes; eich dealltwriaeth a’ch disgwyliadau o astudiaethau doethurol; a’ch diddordebau academaidd cyffredinol, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â’ch ymchwil arfaethedig. Ni ddylai'r llythyr atodol fod yn hwy na dwy dudalen. Nodwch hefyd pa lwybr y byddwch yn gwneud cais iddo ac a ydych yn dymuno gwneud cais ar sail +3 neu 1+3.
  2. Cymwysterau Proffesiynol / Academaidd: Lle bo'n briodol, dylai hyn hefyd gynnwys prawf o gymhwysedd yn Saesneg (7.0 IELTS fel isafswm).  
  3. Geirdaon: Mae angen cyflwyno dau eirda academaidd i gefnogi pob cais. Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â’u canolwyr eu hunain a chynnwys y geirdaon gyda'u cais. 
  4. Curriculum Vitae: dim mwy na dwy dudalen. 
  5.  Cynnig Ymchwil: Mi ddylai'r cynnig fod yn hwy na 1000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaethol. Awgrymwn eich bod yn defnyddio'r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil: 
    •  Teitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil;
    •  Trosolwg ar y llenyddiaeth academaidd sy'n berthnasol i'ch maes;
    • Cynllun/dulliau arfaethedig; 
    •  Cyfraniadau academaidd eich ymchwil.
    • Cyfeiriadau Llyfryddiaethol

Wrth gyflwyno eich cais, dan y tab Rhaglenni, dewiswch ‘Ysgoloriaethau a Hysbysebwyd ym Mhrifysgol Bangor…’. Yna dewiswch 'Efrydiaeth Gyffredinol DTP ESRC Cymru: Rheolaeth a Busnes', gan wneud yn siŵr eich bod yn ychwanegu Dr Sara Closs-Davies i'r blwch ‘Cyswllt Academaidd'. Cliciwch Ychwanegu.

Mae Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn gwahodd ceisiadau am astudiaeth PhD, gyda'r posibilrwydd o gael Efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi'i chyllido'n llawn a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2023. Disgwyliwn ddyfarnu efrydiaeth ddoethurol ym maes Economeg.

Mae Ysgol Busnes Bangor yn enw sy'n gyfystyr â rhagoriaeth mewn ymchwil.  Rydym yn cael ein gosod yn gyson ymysg y 25 sefydliad uchaf yn y byd am ymchwil ym maes bancio (RePEc, Tachwedd 2021) a chawsom sgôr GPA o 2.92 yn y   Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021), gyda 79.6% o'n hallbynnau ymchwil yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion 3* neu 4*. Rydym hefyd yn safle 48 yn y Deyrnas Unedig o ran canlyniadau GPA wedi’u pwysoli yn ôl allbynnau ymchwil (REF 2021), sy'n adlewyrchu'r gyfran uchel o staff sy’n cynhyrchu gwaith ymchwil yn yr ysgol. 

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol gyda gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch da iawn, neu radd Meistr briodol. Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, waeth beth yw oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol yr ymgeiswyr. Yn unol â'n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i gynyddu recriwtio ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, mae ceisiadau gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Prydeinig Asiaidd, o ethnigrwydd lleiafrifol Prydeinig a hil gymysg Prydeinig yn cael eu hannog a'u croesawu’n arbennig. 
Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n llawn-amser ac yn rhan-amser, ac mae efrydiaeth ar gael fel naill ai ‘1+1+2’ (h.y. blwyddyn lawn-amser i wneud gradd meistr Economeg ac yna blwyddyn i wneud MRes mewn economeg uwch ac yna dwy flynedd o astudio llawn-amser am ddoethuriaeth, neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan-amser), neu '1+2' (h.y. blwyddyn o wneud MRes mewn Economeg Uwch ac yna dwy flynedd o astudio'n llawn-amser am ddoethuriaeth, neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny'n rhan-amser), yn dibynnu ar anghenion yr ymgeisydd.

Cysylltwch â'r Athro Yener Altunbas (abs011@bangor.ac.uk) gydag unrhyw ymholiadau.
 
Croesewir ceisiadau erbyn 12.00pm GMT 3 Chwefror 2023
 
Manylion pellach am Efrydiaeth Gyffredinol Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru

Mae'r efrydiaeth hon yn grant 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried mynd at ddarpar oruchwyliwr cyn cyflwyno eu cais i gadarnhau bod darpariaeth oruchwylio briodol ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff i'w cael ar dudalennau gwe’r Brifysgol. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig ar gael ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru. Efallai y bydd cynullydd y llwybr Economeg yn gallu rhoi cyngor i chi. Yr Athro Yener Altunbas (abs011@bangor.ac.uk) yw cynullydd y llwybr hwn. 

BETH FYDD YR EFRYDIAETH YN TALU AMDANO
Bydd yr Efrydiaeth yn dechrau ym mis Hydref 2023 a bydd yn talu am eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth (£17,668 y flwyddyn ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn-amser yn 2022/23, caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn); ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cefnogi Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol (RTSG). Fodd bynnag, gall elfen o'r gronfa olaf hon gael ei 'chrynhoi' a bydd angen gwneud ceisiadau ar wahân o 2023 ymlaen. Mae cyfleoedd a manteision eraill ar gael i’r sawl sy’n cael efrydiaeth, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd interniaeth, ymweliadau â sefydliadau tramor a grantiau bach eraill. 

CYMHWYSEDD
Mae efrydiaethau y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn hynod gystadleuol. Dylai fod gan ymgeiswyr gefndir academaidd rhagorol mewn gwyddorau cymdeithas, gyda gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch da iawn. Ystyrir ceisiadau hefyd gan rai sydd â gradd Meistr berthnasol mewn hyfforddiant ymchwil (neu gefndir cyfatebol mewn hyfforddiant ymchwil) ar gyfer grant 1+2. Mae efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol (gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop). Bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael grant llawn sy'n cynnwys tâl cynhaliaeth  a ffioedd dysgu ar y gyfradd i sefydliadau ymchwil y Deyrnas Unedig. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion mynediad yr efrydiaeth. Am ragor o fanylion gweler gwefan yr UKRI. Bydd ymgeiswyr rhyngwladol llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a gyllidir yn llawn ac ni chodir arnynt am y gwahaniaeth ffioedd rhwng y Deyrnas Unedig a’r gyfradd ryngwladol.  

1+1+2 NEU 1+2?
Mae efrydiaeth 1+1+2 yn darparu cyllid am bedair blynedd, gan gwblhau gradd Meistr mewn Economeg yn y flwyddyn gyntaf, yna MRes blwyddyn o hyd mewn Economeg Uwch, ac yna dwy flynedd o ymchwil doethuriaeth. Mae efrydiaeth 1+2 yn darparu cyllid am dair blynedd, gan gwblhau MRes blwyddyn o hyd mewn Economeg Uwch, ac yna dwy flynedd o ymchwil doethuriaeth.

ASESU
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 12.00pm GMT, ddydd Gwener 3 Chwefror 2023. Bydd ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ddiwedd Chwefror/ddechrau Mawrth 2023. Ar ôl y cyfweliad, bydd rhestr fer derfynol o ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno i banel a gynullir gan Grŵp Rheoli Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru, lle bydd penderfyniad terfynol yn cael ei gwneud o ran dyfarnu’r efrydiaeth. Gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl clywed erbyn dechrau Ebrill 2023. 
 
SUT I WNEUD CAIS
Gellir gwneud cais yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/study/postgraduate-research/apply 
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00pm GMT, ddydd Gwener 3 Chwefror 2023. Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn neu geisiadau a ddaw i law ar ôl yr amser a nodir.  

Rhaid i'r cais gynnwys y dogfennau canlynol: 

  1.  Llythyr atodol: Wedi ei gyfeirio at yr Athro Yener Altunbas. Rhaid i'r llythyr atodol amlinellu eich rhesymau a'ch cymhelliant dros wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Bangor, a'r llwybr Economeg; eich dealltwriaeth a'ch disgwyliadau o astudiaethau doethurol; a'ch diddordebau academaidd yn gyffredinol, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â'ch ymchwil arfaethedig. Ni ddylai'r llythyr atodol fod yn hwy na dwy dudalen. Nodwch hefyd pa lwybr y byddwch yn gwneud cais iddo ac a ydych yn dymuno gwneud cais ar sail 1+2 neu 1+1+2.
  2.  Cymwysterau Proffesiynol / Academaidd: Lle bo'n briodol, dylai hyn hefyd gynnwys prawf o gymhwysedd yn Saesneg (7.0 IELTS fel isafswm).  
  3.  Geirdaon: Mae angen cyflwyno dau eirda academaidd i gefnogi pob cais. Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â’u canolwyr eu hunain a chynnwys y geirdaon gyda'u cais. 
  4.  Curriculum Vitae: dim mwy na dwy dudalen. 
  5.  Cynnig Ymchwil: Ni ddylai'r cynnig fod yn hwy na 1000 o eiriau, heb gynnwys cyfeiriadau llyfryddiaethol. Awgrymwn eich bod yn defnyddio'r pum pennawd canlynol yn eich cynnig ymchwil: 
    • Teitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil;
    • Trosolwg ar y llenyddiaeth academaidd sy'n berthnasol i'ch maes;
    • Cynllun/dulliau arfaethedig; 
    • Cyfraniadau academaidd eich ymchwil.
    • Cyfeiriadau Llyfryddiaethol

Wrth gyflwyno eich cais, dan y tab Rhaglenni, dewiswch ‘Ysgoloriaethau a Hysbysebwyd ym Mhrifysgol Bangor…’. Yna dewiswch 'Efrydiaeth Gyffredinol DTP ESRC Cymru: Economeg', gan wneud yn siŵr eich bod yn ychwanegu yr Athro Yener Altunbas i'r blwch ‘Cyswllt Academaidd'. Cliciwch Ychwanegu.

Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

Gwyddorau Addysgol

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r cynllun yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau â blaenoriaeth) fel eu bod yn cael manteisio ar y cymhelliant hwn. O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid i unigolyn fod â gradd 2.2 neu’n uwch, ac mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc y mae’n ei astudio neu mai un o’r rhain y mae’n ei astudio’n bennaf:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Cymraeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Ffiseg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Mathemateg
  • Technoleg Gwybodaeth

Am fwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/cymhelliant-addysg-gychwynnol-athrawon-ar-gyfer-pynciau-blaenoriaeth-canllawiau-i-fyfyrwyr-2022-i

Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn gymhelliant a delir i bobl gymwys sy'n cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig yng Nghymru sy'n eu galluogi i ddysgu trwy gyfrwng Cymraeg neu ddysgu Cymraeg fel pwnc.

Cyfanswm o £5000 ar gyfer athrawon dan hyfforddiant cymwys mewn dau randaliad:

i. £2,500 i bobl gymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC;

ii. £2,500 i bobl gymwys ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol uwchradd Gymraeg neu ddwyieithog neu ddysgu Cymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd yng Nghymru.

Am fanylion llawn: https://llyw.cymru/cynllun-cymhelliant-iaith-athrawon-yfory-arweiniad-i-fyfyrwyr-html

Mae’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Ddwyieithrwydd ac Adrannau Seicoleg, Ieithyddiaeth, ac Addysg ym Mhrifysgol Bangor, a’r Ganolfan Ymchwil Iaith ac Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, trwy gefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Ddoethurol Cymru (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD, gyda’r posibilrwydd o dderbyn ysgoloriaeth ymchwil ESRC DTP llawn, i gychwyn ym mis Hydref 2023. Rydym yn bwriadu cynnig ysgoloriaethau ymchwil ym maes rhyngddisgyblaethol Dwyieithrwydd.

Dyddiad dechrau: Hydref 2023

Lleoliad: Bangor

Yn agored i: Myfyrwyr y DU, Myfyrwyr yr UE, Myfyrwyr Rhyngwladol

Swm cyllid: Efrydiaeth PhD 3 blynedd (neu 4 blynedd 1+3) wedi'i hariannu'n llawn ar gael.

Oriau: Llawn amser; Rhan amser:

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 (12pm GMT)

Gwybodaeth bellach

Mwy o wybodaeth 
 
Efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru 2023: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Mae’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau (Prifysgol Bangor), gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), ac mewn cydweithrediad â Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaeth ddoethurol wedi ei hariannu o fewn y Llwybr Dwyieithrwydd, i gychwyn mis Hydref 2023, ar y pwnc: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Gwybodaeth bellach: cahb.pg@bangor.ac.uk
 
Gwyddorau Iechyd

Hanes, Treftadaeth ac Archaeoleg

.

Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth

Gwybodaeth bellach: 

mwy o wybodaeth 
 
Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor ac Amgueddfa Cymru gyhoeddi bod Efrydiaeth Ddoethurol Gydweithredol wedi’i hariannu’n llawn ar gael o fis Hydref 2023 o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) yr AHRC. Bydd y project yn cael ei oruchwylio ar y cyd gan Dr Sarah Pogoda (Prifysgol Bangor) a Nicholas Thornton (Amgueddfa Cymru), gyda chefnogaeth Consortium Cohort Development Programme y CDP. 

Dyddiad dechrau: Hydref 2023

Hyd: Mae grantiau hyfforddiant doethurol CDP yn ariannu ysgoloriaethau ymchwil llawn amser am 45 mis (3.75 mlynedd) neu gyfwerth rhan-amser.

Lleoliad: Fel grant cydweithredol, disgwylir i fyfyrwyr dreulio amser yn y Brifysgol ac Amgueddfa Cymru.

Cyllid ar gyfer/Agored i: Ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol

Swm cyllid: Mae'r grant yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y gyfradd gartref llawn amser UKRI ar gyfer graddau PhD. Lefel ddynodol y ffioedd Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig ar gyfer 2022/2023 yw £4,596. Mae'r grant yn talu cynhaliaeth lawn i'r holl fyfyrwyr, yn fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Isafswm Tâl Doethurol Cenedlaethol UKRI ar gyfer 2022/2023 yw £17,668, ynghyd â thaliad cynhaliaeth CDP o £550 y flwyddyn.

Oriau: Gellir ymgymryd â'r project ar sail llawn-amser neu ran-amser.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 5 Mehefin 2023, 17:00pm

Mae angen bod yn rhugl yn y Gymraeg.

Gwybodaeth bellach

Y Gyfraith

Efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru 2023: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Mae’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau (Prifysgol Bangor), gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), ac mewn cydweithrediad â Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaeth ddoethurol wedi ei hariannu o fewn y Llwybr Dwyieithrwydd, i gychwyn mis Hydref 2023, ar y pwnc: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Dyddiad dechrau: Hydref 2023

Lleoliad: Bangor

Yn agored i: Myfyrwyr y DU, Myfyrwyr yr UE, Myfyrwyr Rhyngwladol

Swm cyllid: Efrydiaeth PhD 3 blynedd (neu 4 blynedd 1+3) wedi'i hariannu'n llawn ar gael.

Oriau: Llawn amser; Rhan amser:

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 (12pm GMT)

Gwybodaeth bellach: cahb.pg@bangor.ac.uk
 
Cyfryngau

Gall myfyrwyr ôl-raddedig MPhil a PhD yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau fod â hawl i wneud cais am fwrsariaeth deithio tra byddant yn gofrestredig, er mwyn mynd i gynhadledd academaidd neu ymweld ag archif/ llyfrgell academaidd berthnasol.

Asesir pob cais ar ei deilyngdod ei hun, ac ni fydd cyfanswm y fwrsariaeth/ bwrsariaethau a ddyfernir i unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig unigol yn uwch na £150 o fewn unrhyw flwyddyn academaidd. Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau at weinyddwr y Coleg dros faterion ôl-radd.

Gwyddorau Meddygol

Cerddoriaeth

Gwyddorau Naturiol

Gwyddorau Eigion

2 ar gael yn 2022/23

2 ar gael yn 2023/24

Mae Rhaglenni Efrydiaethau Ôl-raddedig a Addysgir gan yr Athro Craig Kensler, yn talu ffioedd Dysgu (Llawn Amser, Cyfradd Gartref) i fyfyrwyr ar y rhaglenni MSc a addysgir am flwyddyn mewn Bioleg Forol, Diogelu'r Amgylchedd Morol, Geowyddorau Môr Cymhwysol, Ynni Adnewyddadwy Morol, Eigioneg Ffisegol.

Mae ymgeiswyr sydd wedi cael cynnig lle neu sy'n cyflwyno cais yn gymwys i wneud cais am yr Efrydiaethau. Cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol 1 dudalen yn nodi'r rhaglen ymchwil y gwnaed cais amdani a statws y cais, i Ysgrifennydd yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Laura Brandish Jones l.brandish@bangor.ac.uk erbyn 31.07.22.
Fe'ch cynghorir i gysylltu â Chyfarwyddwr Cwrs priodol y cwrs MSc y gwnaed cais amdano, neu'r Goruchwylydd ar gyfer MSc drwy Ymchwil gan nodi eich bod yn bwriadu gwneud cais am yr ysgoloriaeth ymchwil a'r flwyddyn astudio.

2 ar gael yn 2022/23

2 ar gael yn 2023/24

Mae Ysgoloriaethau Ymchwil yr Athro Craig Kensler ar gyfer Meistr Ôl-raddedig Ymchwil yn cynnwys ffioedd Dysgu (Llawn Amser, Cyfradd Gartref) ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgymryd â MSc drwy Ymchwil yn 2022/23 neu 2023/24.

Mae ymgeiswyr sydd wedi cael cynnig lle neu sy'n cyflwyno cais yn gymwys i wneud cais am yr Efrydiaethau. Cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol 1 dudalen yn nodi'r rhaglen ymchwil y gwnaed cais amdani a statws y cais, i Ysgrifennydd yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Laura Brandish Jones l.brandish@bangor.ac.uk erbyn 31.07.22.

Fe'ch cynghorir i gysylltu â Chyfarwyddwr Cwrs priodol y cwrs MSc y gwnaed cais amdano, neu'r Goruchwylydd ar gyfer MSc drwy Ymchwil gan nodi eich bod yn bwriadu gwneud cais am yr ysgoloriaeth ymchwil a'r flwyddyn astudio.

Seicoleg

Mae’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Ddwyieithrwydd ac Adrannau Seicoleg, Ieithyddiaeth, ac Addysg ym Mhrifysgol Bangor, a’r Ganolfan Ymchwil Iaith ac Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, trwy gefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Ddoethurol Cymru (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD, gyda’r posibilrwydd o dderbyn ysgoloriaeth ymchwil ESRC DTP llawn, i gychwyn ym mis Hydref 2023. Rydym yn bwriadu cynnig ysgoloriaethau ymchwil ym maes rhyngddisgyblaethol Dwyieithrwydd.

Dyddiad dechrau: Hydref 2023
Lleoliad: Bangor
Yn agored i: Myfyrwyr y DU, Myfyrwyr yr UE, Myfyrwyr Rhyngwladol
Swm cyllid: Efrydiaeth PhD 3 blynedd (neu 4 blynedd 1+3) wedi'i hariannu'n llawn ar gael.
Oriau: Llawn amser; Rhan amser:
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 (12pm GMT)

Gwybodaeth bellach

Efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru 2023: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Mae’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau (Prifysgol Bangor), gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), ac mewn cydweithrediad â Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaeth ddoethurol wedi ei hariannu o fewn y Llwybr Dwyieithrwydd, i gychwyn mis Hydref 2023, ar y pwnc: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Dyddiad dechrau: Hydref 2023

Lleoliad: Bangor

Yn agored i: Myfyrwyr y DU, Myfyrwyr yr UE, Myfyrwyr Rhyngwladol

Swm cyllid: Efrydiaeth PhD 3 blynedd (neu 4 blynedd 1+3) wedi'i hariannu'n llawn ar gael.

Oriau: Llawn amser; Rhan amser:

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 (12pm GMT)

Gwybodaeth bellach: cahb.pg@bangor.ac.uk
 
Efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru 2023: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Mae’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau (Prifysgol Bangor), gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), ac mewn cydweithrediad â Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaeth ddoethurol wedi ei hariannu o fewn y Llwybr Dwyieithrwydd, i gychwyn mis Hydref 2023, ar y pwnc: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Dyddiad dechrau: Hydref 2023

Lleoliad: Bangor

Yn agored i: Myfyrwyr y DU, Myfyrwyr yr UE, Myfyrwyr Rhyngwladol

Swm cyllid: Efrydiaeth PhD 3 blynedd (neu 4 blynedd 1+3) wedi'i hariannu'n llawn ar gael.

Oriau: Llawn amser; Rhan amser:

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 (12pm GMT)

Gwybodaeth bellach: cahb.pg@bangor.ac.uk

mwy o wybodaeth

Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi ei chyllido’n llawn

Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol; Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: 9 Mehefin 2023

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD tair blynedd yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor.  Caiff yr efrydiaeth ei chyllido gan yr ALPHAcademi gan dalu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, tâl cynhaliaeth am dair blynedd (tua £17,668 y flwyddyn) yn ogystal â lwfans ymchwil hael. Disgwylir i'r ysgoloriaeth ddechrau ym mis Hydref 2023.

Goruchwyliwr

Dr Julian Owen, a’r Athro Paul Mullins (Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol), mewn cydweithrediad â Jonathan Flynn (Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd), Dr Leanne Rowlands (Prifysgol Arden), Dr Craig Roberts (Gwasanaeth Anaf i’r Ymennydd Gogledd Cymru), Dr Rudi Coetzer (Yr Ymddiriedolaeth Anabledd) a'r Academi Dysgu Cymhwysol ar gyfer Iechyd Ataliol (ALPHAcademi).

Project

Mae trawma i’r ymennydd sy'n gysylltiedig â chwaraeon yn digwydd mewn chwaraeon cyswllt a chwaraeon digyswllt ac mae ymhlith yr anaf a adroddir amlaf mewn chwaraeon plant a phobl ifanc. Gall trawma arwain at broblemau cof hir ymysg pobl iau (Field et al., 2003). Yn y tymor hir, mae tystiolaeth hefyd yn dod i'r amlwg o risg uwch sy'n gysylltiedig â hanes o drawma cyson i’r ymennydd a datblygiad clefyd niwroddirywiol yn ddiweddarach mewn bywyd.

Roedd adroddiad diweddar gan y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gleifion sydd wedi cael Niwed i’r Ymennydd (Amser Am Newid, 2021) yn galw ar weithredu i helpu i wella strategaethau ataliol a thriniaeth ar gyfer anaf i’r ymennydd, gyda phwyslais ar blant a phobl ifanc. Bydd y project hwn yn defnyddio dull ansoddol yn bennaf i ymdrin ag argymhellion allweddol yn yr adroddiad hwn gan ganolbwyntio ar atal trawma i’r ymennydd sy’n gysylltiedig â chwaraeon mewn lleoliad addysgol.

Gofynion personol

Gofynion hanfodol:

  • Gradd israddedig Dosbarth Cyntaf neu Ail Ddosbarth Uwch mewn pwnc perthnasol (e.e. seicoleg, gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, meddygaeth neu ddisgyblaethau cytras).
  • Ymroddedig a gallu cymell ei hun
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf.

Nodweddion dymunol:

  • Gradd meistr mewn pwnc perthnasol.
  • Profiad o ddulliau ymchwil ansoddol

Amgylchedd Ymchwil

Yn ddiweddar, rhoddodd pwyllgor REF-2021 sgôr o 100% i’n hymchwil fel ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol, gan ein gosod ymhlith y 5 sefydliad ymchwil gorau yn y Deyrnas Unedig ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn ysgol newydd a chyffrous a ffurfiwyd yn ddiweddar drwy uno dwy ysgol eithriadol sy’n canolbwyntio ar ymchwil. Yr Ysgol Seicoleg a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Caiff ein hymchwil ei ddiffinio gan bedwar sefydliad ymchwil, y bydd croeso i’r myfyriwr PhD ymuno â nhw: Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP), Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol (IAHP), Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol (ICN), Sefydliad Ymchwil Llesiant (IWR). Mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd ymchwil rhagorol i ymchwilwyr ôl-radd, gyda chymuned fawr o fyfyrwyr PhD a staff sy’n cynhyrchu gwaith ymchwil, cyfarfodydd labordy rheolaidd, seminarau, cynadleddau myfyrwyr a siaradwyr gwadd, a digwyddiadau wedi eu targedu at ddatblygiad proffesiynol ehangach. Mae cyfleusterau helaeth a staff technegol penodol i gynnal ymchwil ymddygiadol, biomecanyddol, a seicoffisiolegol.

            Mae Prifysgol Bangor wedi ei lleoli yn harddwch gogledd Cymru. Mae Bangor yn ddinas brifysgol gyfeillgar a fforddiadwy, a saif ar lannau Môr Iwerddon a’i chefn at Barc Cenedlaethol Eryri. Mae mynyddoedd, llynnoedd, afonydd a thraethau hardd o fewn cyrraedd hawdd, a cheir cysylltiadau cludiant da â rhai o ddinasoedd mwyaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Manceinion, Lerpwl, Birmingham a Llundain.  Mae Prifysgol Bangor yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o blith boblogaethau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Datblygwyd yr Academi Dysgu Cymhwysol ar gyfer Iechyd Ataliol (ALPHAcademi) mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, caiff ei arwain gan Brifysgol Bangor a’i gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn rhan o rwydwaith o academïau dysgu dwys, sef canolfannau i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd, rhannu gwybodaeth a throsi ymchwil yn ganlyniadau.

Symudedd rhyngwladol

Bydd y myfyriwr PhD yn cael ei annog i dreulio peth amser mewn sefydliad ymchwil dramor wedi ei gyllido gan “Taith”— sef rhaglen sy’n unigryw i Gymru sydd newydd ei datblygu ar gyfer dysgu rhyngwladol (cyswllt: https://www.taith.cymru/)—a “Chynllun Turing” sef rhaglen ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer symudedd rhyngwladol (cyswllt: https://www.turing-scheme.org.uk/).

Gofynion preswylio

Mae'r efrydiaeth hon yn cynnwys yn llawn y ffioedd dysgu ar gyfer dinasyddion Prydeinig a gwladolion eraill nad oes angen fisa arnynt (e.e. Ewropeaid â statws preswylydd sefydlog, Gwyddelig). Mae croeso mawr i ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais; fodd bynnag, mae angen iddynt gysylltu â Dr Julian Owen i drafod y posibilrwydd o hepgor ffioedd.

Gwybodaeth gyffredinol

Bydd y penodiad cychwynnol am gyfnod o flwyddyn, gydag estyniad o ddwy flynedd ar ôl gwerthusiad cadarnhaol o allu a chydnawsedd. Rhaid i'r penodiad arwain at gwblhau traethawd PhD. Bydd myfyrwyr PhD hefyd yn cael y cyfle i gyfrannu at addysgu. Mae'r ysgol yn darparu hyfforddiant rhagorol mewn addysgu ac mae llawer o fyfyrwyr yn cyflawni cymwysterau AAU (Yr Academi Addysg Uwch) wrth gwblhau eu doethuriaeth

Gwybodaeth bellach

Dylid cyfeirio cwestiynau anffurfiol am yr efrydiaeth a gofyn am fwy o arweiniad os ydych am baratoi cynnig manylach at Dr Julian Owen, e-bost: j.owen@bangor.ac.uk

Sut i wneud cais: 

Rhaid cyflwyno pob cais trwy ein system ymgeisio ar-lein erbyn hanner nos ar 9 Mehefin 2023: https://apps.bangor.ac.uk/applicant/

Rhaid i’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

  1. Curriculum Vitae. Ni ddylai fod yn hwy na dwy dudalen.
  2. Llythyr eglurhaol. Eich cymhelliant dros wneud cais am yr ysgoloriaeth ymchwil hon, eich dyheadau y tu hwnt i wneud doethuriaeth, sut rydych yn ateb y meini prawf hanfodol a dymunol, ac unrhyw resymau pam rydych yn teimlo eich bod yn arbennig o addas i'r project hwn.
  3. Llythyrau geirda. Dylid cynnwys dau lythyr gan staff academaidd i'w cyflwyno i gefnogi'r cais penodol hwn. Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon gysylltu â chanolwyr eu hunain a chynnwys geirdaon gyda'u ceisiadau.
  4. Cynnig ymchwil: pedair tudalen yn cynnwys adolygiad cryno o’r llenyddiaeth, disgrifiad o’r cwestiynau ymchwil posibl, damcaniaethau, y dull o gasglu a dadansoddi data, amserlen arfaethedig ar gyfer pob elfen o’r ymchwil a’r ysgrifennu, a rhestr gyfeirio (nid yw’r rhestr gyfeirio yn gynwysedig yn y nifer tudalennau). Nid yw'r cynnig yn eich ymrwymo: gall yr ymgeisydd a’r goruchwyliwr wneud newidiadau yn ystod y PhD.
  5. Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu os nad ydych wedi cwblhau addysg brifysgol mewn sefydliad Saesneg ei iaith, darparwch brawf o hyfedredd Saesneg fel IELTS (o leiaf 7.0 yn gyffredinol) neu ardystiad cyfwerth.

Ymholiadau cyffredinol: I gael cyngor cyffredinol ar sut i wneud cais a chymhwysedd, ewch i wefan Ysgol Ddoethurol Bangor.

Efrydiaeth PhD dair blynedd wedi ei chyllido’n llawn

Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol

Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: 12 Mehefin 2023

Goruchwyliwr: Dr Lara Maister (l.maister@bangor.ac.uk)

Trosolwg

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD dair blynedd wedi ei chyllido’n llawn yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor.  Mae'r efrydiaeth yn cynnwys hepgoriad ffioedd dysgu a chyflog o tua £17,668 y flwyddyn am dair blynedd, yn ogystal â lwfans ymchwil hael. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Awst 2023 a mis Ionawr 2024 ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol.

Sail resymegol y project a disgrifiad:

Bydd y project yn ymwneud â hunan-gynrychiolaeth gorfforol. Gan ddibynnu ar ddiddordebau ac arbenigedd yr ymgeisydd, gallai'r project ganolbwyntio'n fwy penodol ar un o ddau bwnc posibl, a grynhoir isod. Mae'r cyntaf yn canolbwyntio ar ein hunan corfforol 'o'r tu allan', trwy ymchwilio i sut rydym ni’n cynrychioli ein hymddangosiad corfforol ein hunain, a'r ail yn canolbwyntio ar yr hunan corfforol 'o'r tu mewn', gan ymchwilio i ymwybyddiaeth gorfforol mewnganfyddiadol mewn babanod ifanc.

1) Hunan-bortreadau: Delweddu Hunan-Gynrychiolaeth Corfforol

Ers canrifoedd lawer, bu gan y ddynoliaeth ddiddordeb ysol yn y ffordd y mae pobl yn darlunio eu hunain, fel y dangosir gan yr arfer hirsefydlog o greu hunanbortreadau. Yn ddiddorol, deallwyd ers tro bod hunanbortreadau nid yn unig yn cynrychioli ymddangosiad corfforol gwirioneddol yr artist, ond hefyd yn archwiliad o hunaniaeth, emosiynau a chredoau'r artist. Efallai y bydd y ffordd y gwelwn ein hunain “yn llygad ein meddwl” felly yn rhoi cipolwg unigryw i ni ar natur gymhleth, aml-ddimensiwn yr hunan-gynrychiolaeth. Mewn ymchwil ddiweddar, gan ddefnyddio techneg cydberthynas o chwith seiliedig ar ddata, gallasom gynhyrchu delweddiadau anghyfyngedig, hynod fanwl o hunan-gynrychioliadau corfforol, gan adlewyrchu lluniau meddyliol y cyfranogwyr o ymddangosiad eu hwyneb eu hunain. Mae’r “hunanbortreadau” personoledig hyn yn rhoi cipolwg unigryw i ni ar strwythur hunan-gynrychiolaeth. Bydd y project hwn yn parhau â'r trywydd hwn o ymchwil, ac mae ganddo dri nod craidd. Yn gyntaf, bydd yn archwilio a datblygu ffyrdd newydd o ddelweddu hunan-gynrychiolaeth gorfforol yn fanylach, gan ddefnyddio cydberthynas o chwith a thechnegau ail-greu delwedd wyneb 3D. Yn ail, bydd yn defnyddio'r delweddau personol hyn i ymchwilio i strwythur yr hunan, gan ddefnyddio dulliau ymddygiadol a niwrowyddonol (gan gynnwys EEG a fMRI). Yn olaf, gallai ymchwilio i wahaniaethau unigol mewn hunanbortreadau o ran eu cywirdeb a phatrymau ystumio, a chan gyfuno’r rhain o bosib ag anhwylderau o’r hunan (e.e. dysmorphia'r corff, dadbersonoli).

2) Curiadau babanod: Mewnganfyddiad cardiaidd mewn babandod

Mae i fewnganfyddiad, sef y sensitifrwydd i synwyriadau gweledol, ran bwysig mewn homeostasis ac o ran cymell ymddygiad penodol mewn oedolion. Ystyrir hefyd ei fod yn sylfaenol i hunanymwybyddiaeth gorfforol, a phrofiad emosiynol. Er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae gwreiddiau datblygiadol sensitifrwydd mewnganfyddiadol yn parhau i fod yn ddirgelwch. Mewn gwaith blaenorol, datblygasom dasg newydd i fesur sensitifrwydd babanod i'w synhwyrau cardiaidd eu hunain, a darparu'r dystiolaeth gyntaf ar gyfer sensitifrwydd mewnganfyddiadol hyblyg sydd ymhlyg mewn babanod 5 mis oed, o ddata ymddygiad a chofnodion EEG. Mae hyn bellach wedi braenaru’r tir ar gyfer ymchwiliad cyffrous pellach i rolau a swyddogaethau anhysbys mewnganfyddiad hyd yn hyn. Bydd y project hwn yn archwilio llwybr datblygiadol mewnganfyddiad trwy gydol babandod, sut a pham y mae'n amrywio o ennyd i ennyd, a beth yw rhan gwahaniaethau unigol mewn mewnganfyddiad yn natblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol hunanreoleiddio, hunanymwybyddiaeth a galluoedd emosiynol-gymdeithasol. Bydd yn defnyddio cyfuniad o baradeimau ymddygiadol olrhain llygaid, cofnodion ffisiolegol, a dulliau EEG gyda babanod rhwng 2 a 12 mis oed.

Goruchwyliaeth

Mae ymchwil Dr. Lara Maister yn archwilio hunan-gynrychiolaeth, hunanymwybyddiaeth ac ymgorfforiad. Mae ei gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar gynrychioli ein cyrff ein hunain o ddau safbwynt ategol; yn gyntaf, o'r tu allan, o ran ein hymddangosiad corfforol, ac yn ail, o'r tu mewn, o ran ein sensitifrwydd mewnganfyddiadol i synwyriadau corfforol mewnol. Agwedd bwysig ar ei gwaith yw deall sut y cynrychiolir yr hunan mewn perthynas ag eraill, a sut mae hyn yn pennu'r ffordd yr ydym yn 'rhannu' profiadau ymgorfforedig pobl eraill, megis yn ystod empathi at boen, dynwared echddygol neu heintio emosiynol. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn y modd y mae sut rydym ni’n cynrychioli ein hunain yn gorfforol yn rhyngweithio â hunangredoau mwy haniaethol, cysyniadol i ddarparu profiad cyfoethog, amlfodd a chydlynol o'r hunan.

Gofynion:

Gofynion hanfodol:

  • Gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn seicoleg, niwrowyddoniaeth, seineg neu bwnc cytras.
  • Sgiliau ysgrifennu gwyddonol rhagorol
  • Sgiliau dadansoddi rhagorol, gyda phrofiad o becynnau meddalwedd ystadegol (e.e. SPSS, R)
  • Diddordeb brwd ym mhwnc(pynciau) y project arfaethedig
  • Brwdfrydig a chreadigol
  • Trefnus, annibynnol, a medrau rheoli amser ardderchog.

Nodweddion dymunol:

  • Cymhwyster lefel Meistr mewn seicoleg, niwrowyddoniaeth neu bwnc cytras.
  • Profiad gyda thechnegau niwrowyddoniaeth ddynol (yn enwedig fMRI a/neu EEG)
  • Profiad o raglennu cyfrifiadurol (e.e. gyda phecynnau cyflwyno ysgogiad seicolegol yn rhan o Matlab, ePrime neu Presentation)
  • Profiad o fesuriadau seicoffisiolegol, gan gynnwys mesur cardiaidd (ar gyfer Testun Project 2)
  • Profiad o wneud gwaith ymchwil gyda babanod (ar gyfer Testun Project 2)

Amgylchedd Ymchwil

Mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn cynnig amgylchedd ymchwil rhagorol, gyda chymuned fawr o fyfyrwyr PhD a staff sy’n weithgar o ran ymchwil, cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol, a chyfleusterau blaengar gan gynnwys canolfan MRI 3T bwrpasol ar gyfer ymchwil, ystafell Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS) a labordy EEG. Mae'r ysgol yn cynnwys myfyrwyr a staff o dros 20 o wledydd, ac rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd amrywiol a chyfeillgar i deuluoedd. Mae Prifysgol Bangor wedi’i lleoli rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a’r arfordir, sy’n ei gwneud yn ddewis delfrydol i ymgeiswyr sydd am gyfuno ymchwil uwch â chariad at yr awyr agored. Yn ogystal â mynediad uniongyrchol at rai o fynyddoedd a thraethau harddaf y byd - ynghyd â choetiroedd, cestyll, safleoedd cynhanesyddol, a threfi glan môr hardd - mae gan Fangor gysylltiadau trafnidiaeth agos â rhai o ddinasoedd mwyaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Manceinion, Lerpwl a Llundain.

Gwybodaeth bellach

Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol am yr efrydiaeth neu am yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol at Dr Lara Maister (l.maister@bangor.ac.uk). Am wybodaeth gyffredinol ynglŷn â chymhwystra a sut mae gwneud cais, ewch i wefan Ysgol Ddoethurol Bangor (https://www.bangor.ac.uk/cy/yydd).

Anelir yr efrydiaeth yn bennaf at fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, dylai darpar ymgeiswyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig gysylltu â  Dr Lara Maister i drafod amodau ariannu posibl.

Disgwylir i fyfyrwyr PhD gyfrannu at addysgu yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol. Mae'r ysgol yn darparu hyfforddiant rhagorol i athrawon, ac mae llawer o fyfyrwyr yn cyflawni cymhwyster addysgu proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gwblhau eu doethuriaeth. Bydd y penodiad cychwynnol am gyfnod o flwyddyn, gydag estyniad o ddwy flynedd ar ôl gwerthusiad cadarnhaol o allu a chyfaddasrwydd. Rhaid i'r penodiad arwain at gwblhau traethawd PhD.

Sut i wneud cais

Rhaid cyflwyno pob cais trwy ein system ymgeisio ar-lein: https://apps.bangor.ac.uk/applicant/.

Y dogfennau sydd eu hangen

  1. Llythyr eglurhaol: Rhaid i hyn gynnwys datganiad yn esbonio eich cymhelliant i wneud cais am yr efrydiaeth hon, eich dyheadau y tu hwnt i gwblhau PhD, a pham rydych chi'n credu y byddai eich sgiliau a'ch profiad yn eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd. Ni ddylai fod yn hwy na dwy dudalen.
  2. Tystlythyrau: Mae angen dau eirda academaidd i gefnogi pob cais. Rhaid i’r ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr drostynt eu hunain a chynnwys y geirdaon gyda'u ceisiadau.
  3. Curriculum Vitae: Ni ddylai fod yn hwy na dwy dudalen. Lle bo'n briodol, dylai gynnwys prawf o Gymhwysedd mewn Saesneg (7.0 IELTS fel isafswm).
  4. Cynnig Ymchwil:  Dylai fod rhwng tair a phedair tudalen (12pwynt, bylchau llinell ddwbl). Dylai gyfeirio'n fras at y naill neu'r llall o'r ddau broject posibl uchod, ond mae lle i hyblygrwydd fel y gall gynnwys syniadau cysylltiedig eraill. Rhaid iddo gynnwys (i) eich myfyrdodau ar amcanion a diben yr ymchwil, a pha agweddau sydd o ddiddordeb arbennig i chi; (ii) eich cynigion ar gyfer cwestiynau ymchwil penodol, datblygu dyluniadau a dulliau'r project; (iii) eich syniadau o ran canlyniadau posibl, a'u heffaith ar ein dealltwriaeth; ac (iv) astudiaethau dilynol posibl. Gweler y dudalen we ganlynol am arweiniad ar sut i baratoi cynnig: https://www.bangor.ac.uk/pgapplied/proposal-advice.php.cy)

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Mae cyllid efrydiaeth PhD, gyda chefnogaeth gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol a'r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC yng Nghymru ar gael i fyfyrwyr rhagorol y drydedd flwyddyn neu myfyrwyr MSc (gan ddechrau ym mlwyddyn academaidd 2023-24).

I fod yn gymwys, rhaid bod gennych radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu radd ail ddosbarth uwch gref, neu radd MSc briodol. Bydd angen i chi hefyd enwi eich goruchwyliwr arfaethedig. Cysylltwch â'r goruchwyliwr rydych chi am weithio gydag ef cyn cychwyn eich cais.

Dyddiad cychwyn: Hydref 2023

Lleoliad: Bangor

Ar agor i:  Rydym yn annog ceisiadau gan unrhyw un yn y gymuned - ond rydym yn arbennig o awyddus i weld ceisiadau gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, Prydeinig o leiafrif ethnig, neu Brydeinig o hil gymysg (ac wrth ddweud Prydeinig, rydym yn golygu myfyrwyr cartref, beth bynnag eu cenedligrwydd).

Swm y cyllid: Mae efrydiaethau yn gystadleuol ac yn cael eu cynnig naill ai ar sail 1 +3 neu +3 (h.y. gan gynnwys blwyddyn MSc hyfforddedig, neu heb wneud hynny).

Oriau: Llawn amser; Rhan amser

Dyddiad cau i ymgeiswyr: dydd Gwener 3ydd Chwefror 2023 (12pm GMT)

Gwybodaeth bellach:
Dwyieithrwydd, Gary Oppenheim (g.m.oppenheim@bangor.ac.uk)
Seicoleg, Kami Koldewyn (k.koldewyn@bangor.ac.uk)
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Ross Roberts (ross.roberts@bangor.ac.uk)

Mwy o fanylion yma

Dr Charlotte Wiltshire

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 12 Mai

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser am dair blynedd wedi ei chyllido’n llawn gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r efrydiaeth yn talu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, ynghyd â tâl cynhaliaeth (tua £17,668 y flwyddyn am 3 blynedd) yn ogystal â lwfans ymchwil hael. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Awst 2023 a mis Ionawr 2024, ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol i ni.

Project:

Cynhyrchu lleferydd yw un o'r prosesau mwyaf cymhleth y mae bodau dynol yn eu gwneud. Mewn dim ond un eiliad o leferydd, gallwn gynhyrchu tua deg sain lleferydd sy'n gofyn am gydlyniad manwl gywir dros 100 o gyhyrau. Fodd bynnag, nid yw cynhyrchu lleferydd rhugl bob amser yn hawdd. Nod ymchwil Dr Wiltshire yw deall sut mae'r ymennydd yn rheoli cynhyrchu lleferydd mewn poblogaethau nodweddiadol ac amrywiol o siaradwyr. Mae ei hymchwil yn mynd i'r afael â'r system cynhyrchu lleferydd gyfan, o'r ymennydd i'r llwybr lleisiol. I wneud hyn, mae hi'n defnyddio dull gweithredu rhyngddisgyblaethol, yn aml yn cyfuno dulliau o niwrowyddoniaeth wybyddol (MRI ymennydd, ysgogi’r ymennydd) a seineg (MRI llwybr llais, mesur organau lleisiol drwy electromagneteg (electromagnetic articulography), acwsteg). Er enghraifft, fe wnaeth project diweddar gyfuno Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS) â thechnegau sy'n cofnodi symudiad yr organau lleisiol/cynanwyr (gwefusau, tafod, felwm) i ddeall rôl y Rhan Echddygol Atodol mewn cynhyrchu lleferydd rhythmig mewn pobl sydd ag atal dweud a phobl nad oes ganddynt atal dweud (Wiltshire & Hoole, 2022; rhagargraffiad ar gael yma: https://osf.io/umcnb/).

Bydd yr union broject PhD yn cael ei ddatblygu gan ddeiliad y swydd dan arweiniad Dr. Wiltshire. Anogir ymgeiswyr i gysylltu â Dr. Wiltshire cyn gwneud cais i drafod syniadau a phynciau ymchwil. Dylai fod gan yr ymgeisydd ddiddordeb mewn mynd ar ôl cwestiynau’n ymwneud â chynhyrchu lleferydd gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain):

  • Pa briodweddau corfforol symudiadau lleferydd sy'n nodweddu amhariadau ar leferydd (er enghraifft, cyfnodau o amharu ar atal dweud datblygiadol neu niwrolegol a chlefyd Parkinson)?
    •  Beth all hyn ei ddweud wrthym ynghylch pam mae amhariad yn dechrau, yn parhau ac yn dod i ben?
  • Sut mae'r ymennydd yn cydlynu'r gweithredoedd sy'n gysylltiedig â chynhyrchu lleferydd?
    • Sut mae’r ymennydd yn rhoi arwyddion i “ddechrau” a “stopio” symudiadau lleferydd?
  • Beth yw rôl rhythm ac amseru mewn cynhyrchu lleferydd?
  • Pa sgiliau sy'n gysylltiedig ag atal dweud datblygiadol (e.e. defnydd hyblyg o eirfa, sgiliau monitro ac addasu cynhyrchu lleferydd)?

Goruchwyliaeth:

Derbyniodd Dr Charlotte (Charlie) Wiltshire ei gradd doethur mewn niwrowyddoniaeth wybyddol o Brifysgol Rhydychen yn 2020. Aeth ymlaen wedyn i gwblhau cymrodoriaeth ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Seineg a Phrosesu Lleferydd ym Mhrifysgol Ludwig-Maximilians ym Munich. Mae ei hymchwil yn cyfuno syniadau o niwrowyddoniaeth wybyddol, seineg a pheirianneg i ddeall sut mae'r ymennydd yn rheoli cynhyrchu lleferydd. I gael rhagor o wybodaeth ac i weld cyhoeddiadau diweddar, gweler www.charlottewiltshire.com

Y Gofynion:

Gofynion hanfodol:

  • Dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn seicoleg, niwrowyddoniaeth, seineg neu bwnc cytras.

Nodweddion dymunol:

  • Cymhwyster lefel meistr mewn seicoleg, niwrowyddoniaeth, seineg neu bwnc cytras a/neu brofiad estynedig o weithio mewn labordy ymchwil (h.y. blwyddyn ar leoliad neu swydd cynorthwyydd ymchwil).
  • Profiad o gynnal astudiaethau ymchwil gydag oedolion.
  • Diddordeb mewn gweithio gyda'r cyhoedd a grwpiau cyfranogwyr (e.e. pobl sydd ag atal dweud, pobl â Chlefyd Parkinson, pobl sydd wedi cael strôc) i ddatblygu a chynnal gweithgareddau ymchwil, ac adrodd arnynt.

Yr Amgylchedd Ymchwil:

Sefydlwyd yr ysgol yn 1963, ac mae ganddi garfan fawr o fyfyrwyr nawr a naws gosmopolitaidd oherwydd presenoldeb staff a myfyrwyr o dros 20 o wahanol wledydd. Yn fwy eang, mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd ymchwil rhagorol i ymchwilwyr ôl-radd, gyda chymuned fawr o fyfyrwyr PhD a chyfadran sy’n weithgar o ran ymchwil, cyfarfodydd labordy rheolaidd, seminarau, a siaradwyr gwadd, a digwyddiadau wedi'u targedu at ddatblygiad proffesiynol ehangach. Mae cyfleusterau helaeth ar gyfer astudiaethau ymddygiadol a ffisiolegol, a niwrowyddonol, gan gynnwys canolfan MRI 3T newydd sbon at ddibenion ymchwil ac ystafell TMS gysylltiedig, a labordy EEG.

Mae Prifysgol Bangor wedi ei lleoli yn harddwch gogledd Cymru.  Mae Bangor yn ddinas brifysgol gyfeillgar a fforddiadwy, a saif ar lannau Môr Iwerddon a’i chefn at Barc Cenedlaethol Eryri. Ceir mynediad hawdd at fynyddoedd, llynnoedd, afonydd a thraethau hardd, a chysylltiadau cludiant da â rhai o ddinasoedd mwy y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Manceinion a Llundain.

Gofynion preswylio: Bwriedir yr efrydiaeth yn bennaf ar gyfer myfyrwyr y Deyrnas Unedig. Ond dylai rhai sydd â diddordeb, ond sy'n dod o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, gysylltu â Dr Wiltshire i drafod yr amodau ar gyfer ariannu myfyrwyr rhyngwladol.

Gwybodaeth gyffredinol: Disgwylir i fyfyrwyr PhD gyfrannu at addysgu yn yr ysgol.  Mae'r ysgol yn darparu hyfforddiant rhagorol mewn addysgu ac mae llawer o fyfyrwyr yn cyflawni cymhwyster addysgu proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gwblhau eu doethuriaeth. Bydd y penodiad cychwynnol am gyfnod o flwyddyn, gydag estyniad o 2 neu 3 blynedd ar ôl gwerthuso gallu a chyfaddasrwydd yn gadarnhaol. Rhaid i'r penodiad arwain at gwblhau traethawd PhD.

Gwybodaeth bellach: Dylid cyfeirio cwestiynau anffurfiol am yr efrydiaeth a gofyn am fwy o arweiniad os ydych am baratoi cynnig manylach at: c.wiltshire@bangor.ac.uk.

Sut i wneud cais:

Rhaid cyflwyno pob cais trwy ein system ymgeisio ar-lein: https://apps.bangor.ac.uk/applicant/

Rhaid i’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

1.    Llythyr eglurhaol: Eich cymhelliant dros wneud cais am yr ysgoloriaeth ymchwil hon, eich dyheadau y tu hwnt i wneud doethuriaeth, ac unrhyw resymau pam rydych yn teimlo eich bod yn arbennig o addas i'r project hwn.

2.    Cyfeiriadau: Mae angen dau eirda academaidd i gefnogi pob cais. Rhaid i’r ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr drostynt eu hunain a chynnwys y geirdaon gyda'u ceisiadau.

3.    Curriculum Vitae: Ni ddylai fod yn hwy na dwy dudalen. Lle bo'n briodol, dylai gynnwys prawf o Gymhwysedd mewn Saesneg (7.0 IELTS fel isafswm).

4.    Cynnig ymchwil: tair neu bedair tudalen yn cynnwys disgrifiad clir o’r cwestiynau ymchwil, damcaniaethau, y dull o gasglu a dadansoddi data, ac amserlen arfaethedig ar gyfer pob elfen o’r ymchwil a’r ysgrifennu. 

Ymholiadau cyffredinol: Am gyngor cyffredinol ynglŷn â sut mae gwneud cais a chymhwysedd, ewch i wefan Ysgol Ddoethurol Bangor

Goruchwyliwr: Dr Vicky Gottwald

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 12 Mai

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser am dair blynedd wedi ei chyllido’n llawn gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r efrydiaeth yn talu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, ynghyd â thâl cynnal (tua £17,668 y flwyddyn am 3 blynedd) yn ogystal â lwfans ymchwil hael. Y dyddiad dechrau a ffefrir i’r efrydiaeth yw 1 Hydref, 2023.

Project

Mae llenyddiaeth gadarn bellach sy'n dangos manteision ffocysu sylw’n allanol er cywirdeb a chynildeb echddygol, wrth berfformio gweithredoedd sy'n canolbwyntio ar darged neu sy'n cynnwys effaith symud amlwg. Serch hynny, mae Gottwald et al. (2020) yn cynnig tystiolaeth sy’n awgrymu y gall ffocws mewnol neu 'ymwybyddiaeth somaesthetig' hwyluso perfformiad pan fo gwybodaeth afferol berthnasol ar gyfer llwyddo mewn tasg yn bropriodderbyniol ei natur ac felly’n gyson â ffocws sylwol. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol ym meysydd chwaraeon, adferiad a meddygaeth lle gall natur cyfarwyddiadau a roddir i athletwyr neu gleifion ddylanwadu ar berfformiad, meddygaeth ataliol a / neu fetrigau adferiad. Nod y gyfres arfaethedig o astudiaethau yw a) profi canfyddiadau Gottwald et al. (2020) mewn lleoliad sy’n ecolegol ddilys; b) defnyddio offer soffistigedig, rhyngddisgyblaethol i ddeall y mecanweithiau ffisiolegol a niwroffisiolegol sy'n sail i'r gwahaniaethau ffocws sylwol hyn; ac c) defnyddio dulliau cymysg meintiol ac ansoddol i feithrin gwell dealltwriaeth o agweddau 'beth, pam, pryd a sut' cyfarwyddiadau ar gyfer dysgu a pherfformiad echddygol.

Goruchwyliaeth

Mae Vicky Gottwald yn ymchwilydd caffael sgiliau ac yn aelod o’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP) ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei diddordebau ymchwil yn cydweddu’n dda â'i hangerdd dros hyfforddi chwaraeon, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfarwyddyd hyfforddi. Yn fwy penodol, yn y ffordd y gall cyfarwyddiadau llafar gyfeirio sylw athletwyr a thrwy hynny naill ai wella neu rwystro dysgu a pherfformiad echddygol. Yn yr un modd, mae gan Vicky ddiddordeb mewn adnabod a datblygu talent; yn benodol, mewn gwella'r amgylchedd ymarfer i sicrhau’r perfformiad gorau posibl. Vicky yw arweinydd Adnabod a Throsglwyddo Talent Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru (WIPS): https://www.swansea.ac.uk/sports-science/astem/wips/); partneriaeth dair ffordd rhwng Chwaraeon Cymru, prif wyddonwyr chwaraeon academaidd Cymru a phartneriaid perthnasol yn y diwydiant sy’n cefnogi projectau gwyddor perfformiad cymhwysol, amlddisgyblaethol a chyda’r gorau yn y byd sy’n gwella perfformiad athletwyr a busnesau Cymru.

Gofynion

Gofynion Hanfodol

  • Gradd lefel Meistr mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, gwyddor wybyddol (neu niwrowyddoniaeth), seicoleg, neu ddisgyblaethau cytras. Byddwn hefyd yn ystyried myfyrwyr sydd â graddau israddedig eithriadol (Anrhydedd Dosbarth 1af).
  • Uchelgais

Nodweddion Dymunol

  • Profiad o ddadansoddi data meintiol ac ansoddol.
  • Sgiliau codio ac ystadegol (mewn ieithoedd megis Python, MATLAB, neu R)

Amgylchedd Ymchwil

Yn ddiweddar, rhoddodd pwyllgor REF-2021 sgôr o 100% i’n hymchwil fel ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol, gan ein gosod ymhlith y 5 sefydliad ymchwil gorau yn y Deyrnas Unedig ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn ysgol newydd a chyffrous a ffurfiwyd yn ddiweddar drwy uno dwy ysgol eithriadol sef yr  Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer a'r Ysgol Seicoleg. Caiff ein hymchwil ei ddiffinio gan bedwar sefydliad ymchwil (dolen), y bydd croeso i’r myfyriwr PhD ymuno â nhw: Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP), Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol (IAHP), Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol (ICN), Sefydliad Datblygiad Dynol a Llesiant (IHDW). Mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd ymchwil rhagorol i ymchwilwyr ôl-radd, gyda chymuned fawr o fyfyrwyr PhD a staff sy’n weithgar mewn ymchwil, cyfarfodydd labordy rheolaidd, seminarau, cynadleddau myfyrwyr a siaradwyr gwadd, a digwyddiadau wedi eu targedu at ddatblygiad proffesiynol ehangach. Mae gan yr ysgol adnoddau helaeth a staff technegol ymroddedig i gynnal ymchwil ymddygiadol a seicoffisiolegol.

Saif Prifysgol Bangor yng nghanol tirwedd ysblennydd gogledd Cymru. Mae Bangor yn ddinas brifysgol gyfeillgar a fforddiadwy, a saif ar lannau Môr Iwerddon a’i chefn at Barc Cenedlaethol Eryri. Mae mynyddoedd, llynnoedd, afonydd a thraethau hardd ar ei rhiniog, a chysylltiadau cludiant da â rhai o ddinasoedd mwyaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Manceinion, Lerpwl, Birmingham a Llundain. Mae Prifysgol Bangor yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o blith boblogaethau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gofynion preswylio

Anelir yr efrydiaeth yn bennaf at fyfyrwyr y Deyrnas Unedig. Ond dylai rhai sydd â diddordeb, ond sy'n dod o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, gysylltu â Dr Vicky Gottwald i drafod yr amodau ar gyfer ariannu myfyrwyr rhyngwladol.

Gwybodaeth gyffredinol

Disgwylir i fyfyrwyr PhD gyfrannu at addysgu yn yr ysgol. Mae'r ysgol yn darparu hyfforddiant rhagorol mewn addysgu ac mae llawer o fyfyrwyr yn cyflawni cymhwyster addysgu proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gwblhau eu doethuriaeth. Bydd y penodiad cychwynnol am gyfnod o flwyddyn, gydag estyniad o 2 neu 3 blynedd ar ôl gwerthusiad cadarnhaol o allu a chydnawsedd. Rhaid i'r penodiad arwain at gwblhau traethawd PhD.

Gwybodaeth bellach: Dylid cyfeirio cwestiynau anffurfiol am yr efrydiaeth a gofyn i Vicky Gottwald am fwy o arweiniad os ydych am baratoi cynnig manylach.

Sut i Wneud Cais

Rhaid cyflwyno pob cais trwy ein system ymgeisio ar-lein.

Rhaid i’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

1.     Llythyr eglurhaol: Eich cymhelliant dros wneud cais am yr ysgoloriaeth ymchwil hon, eich dyheadau y tu hwnt i wneud doethuriaeth, ac unrhyw resymau pam rydych yn teimlo eich bod yn arbennig o addas i'r project hwn.

2.     Geirda: Mae angen dau eirda academaidd i gefnogi pob cais. Rhaid i’r ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr drostynt eu hunain a chynnwys y geirdaon gyda'u ceisiadau.

3.     Curriculum Vitae: Ni ddylai fod yn hwy na dwy dudalen. Lle bo'n briodol, dylai gynnwys prawf o Gymhwysedd mewn Saesneg (7.0 IELTS fel isafswm).

4.     Cynnig Ymchwil: ~2-3 tudalen yn cynnwys disgrifiad clir o’r cwestiynau ymchwil, damcaniaethau, y dull o gasglu a dadansoddi data, ac amserlen arfaethedig ar gyfer pob elfen o’r ymchwil a’r ysgrifennu.

Ymholiadau cyffredinol: Am gyngor cyffredinol ynglŷn â sut mae gwneud cais a chymhwysedd, ewch i wefan Ysgol Ddoethurol Bangor.

Goruchwyliwr: Sam Jones 

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 12 Mai

Trosolwg

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD tair blynedd wedi ei chyllido’n llawn gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor.  Mae'r efrydiaeth yn cynnwys hepgoriad ffioedd dysgu a chyflog o tua £17,668 y flwyddyn am dair blynedd, yn ogystal â lwfans ymchwil hael. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Awst 2023 a mis Ionawr 2024 ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol.

Y Project

Mae sgiliau cyfathrebu, lleferydd a iaith yn hanfodol i les dynol. Bydd y project hwn yn archwilio ffactorau sy'n cyfrannu at amrywiad yn y sgiliau hyn yn ystod plentyndod. Bydd y project yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda'r ymgeisydd llwyddiannus ond dylai gynnwys elfennau damcaniaethol a chymhwysol. Gall cwestiynau damcaniaethol o ddiddordeb gynnwys rôl canfyddiad clywedol, sylw, cof gweithredol, prosesu rhagfynegol, dysgu ystadegol, gwobrwyo, neu ymwybyddiaeth fetawybyddol mewn lleferydd, iaith, a sgiliau cyfathrebu (er enghraifft, mewn dysgu geiriau neu ddeall brawddegau). Gall elfen gymhwysol y project hwn gynnwys datblygu offeryn i fesur neu wella sgiliau cyfathrebu, lleferydd, a iaith, er enghraifft sgriniwr gallu ieithyddol, holiadur rhieni ac athrawon, neu adnodd ymyrraeth. Y nod yw defnyddio'r mewnwelediad damcaniaethol a ddatblygwn i adeiladu rhywbeth cadarn sy'n datrys problem yn y byd go iawn.

Mae disgwyl defnyddio nifer o ddulliau cydgyfeiriol yn ystod yr efrydiaeth hon. Gallai hyn gynnwys asesu ymddygiad (er enghraifft, tasg ailadrodd ffugeiriau), tracio llygaid, dadansoddi corpws, recordio a chodio fideo, adroddiadau rhieni ac athrawon, neu fodelu cyfrifiannol. Rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu sgiliau gwyddor data'r ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn rhoi paratoad da i ddeiliad y swydd barhau mewn gyrfa yn y byd academaidd neu symud i mewn i ddiwydiant.

Y Gofynion 

Meini prawf hanfodol

  • Gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn seicoleg datblygiad neu ddisgyblaeth gysylltiedig, neu brofiad ymchwil sylweddol.

Meini prawf dymunol

  • Gradd Meistr mewn seicoleg datblygiad neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
  • Profiad o ddefnyddio ieithoedd rhaglennu megis R neu Python ar gyfer gwyddor data.
  • Profiad o gynnal arbrofion ymddygiadol gyda phlant.
  • Hyfedredd yn y Gymraeg, a phrofiad o ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun ymchwil (er enghraifft, gweithio gyda data dwyieithog neu brofi plant Cymraeg eu hiaith).

Amgylchedd Ymchwil

Mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn cynnig amgylchedd ymchwil rhagorol, gyda chymuned fawr o fyfyrwyr PhD a staff sy’n weithgar o ran ymchwil, cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol, a chyfleusterau blaengar gan gynnwys canolfan MRI 3T bwrpasol ar gyfer ymchwil, ystafell Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS) a labordy EEG. Mae'r ysgol yn cynnwys myfyrwyr a staff o dros 20 o wledydd, ac rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd amrywiol a chyfeillgar i deuluoedd. Mae Prifysgol Bangor wedi’i lleoli rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a’r arfordir, sy’n ei gwneud yn ddewis delfrydol i ymgeiswyr sydd am gyfuno ymchwil uwch â chariad at yr awyr agored. Yn ogystal â mynediad uniongyrchol at rai o fynyddoedd a thraethau harddaf y byd - ynghyd â choetiroedd, cestyll, safleoedd cynhanesyddol, a threfi glan môr hardd - mae gan Fangor gysylltiadau trafnidiaeth agos â rhai o ddinasoedd mwyaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Manceinion, Lerpwl a Llundain.

Gwybodaeth bellach

Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol am yr efrydiaeth neu am yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol at Sam Jones. Cysylltwch os hoffech drafod syniadau posibl y gellir eu datblygu ar y cyd cyn gwneud cais. 

Am wybodaeth gyffredinol ynglŷn â chymhwystra a sut mae gwneud cais, ewch i wefan Ysgol Ddoethurol Bangor. Anelir yr efrydiaeth yn bennaf at fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, dylai darpar ymgeiswyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig gysylltu â Sam Jones i drafod amodau posibl ar gyfer ariannu.

Disgwylir i fyfyrwyr PhD gyfrannu at addysgu yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol. Mae'r ysgol yn darparu hyfforddiant rhagorol i athrawon, ac mae llawer o fyfyrwyr yn cyflawni cymhwyster addysgu proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gwblhau eu doethuriaeth. Bydd y penodiad cychwynnol am gyfnod o flwyddyn, gydag estyniad o ddwy flynedd ar ôl gwerthusiad cadarnhaol o allu a chyfaddasrwydd. Rhaid i'r penodiad arwain at gwblhau traethawd PhD.

Sut i wneud cais

Rhaid cyflwyno pob cais trwy ein system ymgeisio ar-lein.

Y dogfennau sydd eu hangen

1.     Llythyr eglurhaol. Disgrifiwch (i) eich cymhelliant dros wneud cais am yr efrydiaeth hon, (ii) pam eich bod yn addas iawn ar gyfer y project hwn, a (iii) eich uchelgais y tu hwnt i wneud PhD.

2.     Cyfeiriadau. Mae angen dau eirda academaidd gyda phob cais. Rhaid i’r ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr drostynt eu hunain a chynnwys y geirdaon gyda'u ceisiadau.

3.     Curriculum vitae Ni ddylai fod yn hwy na dwy dudalen. Lle bo'n briodol, dylai gynnwys prawf o gymhwysedd mewn Saesneg (7.0 IELTS fel isafswm).

4.     Cynnig Ymchwil. Tair i bedair tudalen yn cynnwys gwybodaeth gefndir angenrheidiol am y cynnig, y cwestiynau ymchwil a’r damcaniaethau, y dulliau posibl ar gyfer pob astudiaeth a gynllunnir, disgrifiad clir o'r hyn y mae'r project yn ei gyfrannu at y sylfaen wybodaeth bresennol, a llinell amser y project. Rhowch sylw arbennig i sut y byddwch yn diogelu'r data sydd ei angen arnoch. Er enghraifft, trwy ddefnyddio rhwydweithiau sefydledig neu baneli cyfranogwyr, recriwtio gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhedeg arbrofion neu holiaduron ar-lein (e.e., trwy Gorilla), neu drwy ymgorffori ffynonellau data presennol (e.e., gweler 'data science tools' yma.

Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi ei chyllido’n llawn

Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol; Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: 9 Mehefin 2023

Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD tair blynedd yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor.  Caiff yr efrydiaeth ei chyllido gan yr ALPHAcademi gan dalu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, tâl cynhaliaeth am dair blynedd (tua £17,668 y flwyddyn) yn ogystal â lwfans ymchwil hael. Disgwylir i'r ysgoloriaeth ddechrau ym mis Hydref 2023.

Goruchwyliwr

Dr Julian Owen, a’r Athro Paul Mullins (Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol), mewn cydweithrediad â Jonathan Flynn (Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd), Dr Leanne Rowlands (Prifysgol Arden), Dr Craig Roberts (Gwasanaeth Anaf i’r Ymennydd Gogledd Cymru), Dr Rudi Coetzer (Yr Ymddiriedolaeth Anabledd) a'r Academi Dysgu Cymhwysol ar gyfer Iechyd Ataliol (ALPHAcademi).

Project

Mae trawma i’r ymennydd sy'n gysylltiedig â chwaraeon yn digwydd mewn chwaraeon cyswllt a chwaraeon digyswllt ac mae ymhlith yr anaf a adroddir amlaf mewn chwaraeon plant a phobl ifanc. Gall trawma arwain at broblemau cof hir ymysg pobl iau (Field et al., 2003). Yn y tymor hir, mae tystiolaeth hefyd yn dod i'r amlwg o risg uwch sy'n gysylltiedig â hanes o drawma cyson i’r ymennydd a datblygiad clefyd niwroddirywiol yn ddiweddarach mewn bywyd.

Roedd adroddiad diweddar gan y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gleifion sydd wedi cael Niwed i’r Ymennydd (Amser Am Newid, 2021) yn galw ar weithredu i helpu i wella strategaethau ataliol a thriniaeth ar gyfer anaf i’r ymennydd, gyda phwyslais ar blant a phobl ifanc. Bydd y project hwn yn defnyddio dull ansoddol yn bennaf i ymdrin ag argymhellion allweddol yn yr adroddiad hwn gan ganolbwyntio ar atal trawma i’r ymennydd sy’n gysylltiedig â chwaraeon mewn lleoliad addysgol.

Gofynion personol

Gofynion hanfodol:

  • Gradd israddedig Dosbarth Cyntaf neu Ail Ddosbarth Uwch mewn pwnc perthnasol (e.e. seicoleg, gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, meddygaeth neu ddisgyblaethau cytras).
  • Ymroddedig a gallu cymell ei hun
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf.

Nodweddion dymunol:

  • Gradd meistr mewn pwnc perthnasol.
  • Profiad o ddulliau ymchwil ansoddol

Amgylchedd Ymchwil

Yn ddiweddar, rhoddodd pwyllgor REF-2021 sgôr o 100% i’n hymchwil fel ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol, gan ein gosod ymhlith y 5 sefydliad ymchwil gorau yn y Deyrnas Unedig ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn ysgol newydd a chyffrous a ffurfiwyd yn ddiweddar drwy uno dwy ysgol eithriadol sy’n canolbwyntio ar ymchwil. Yr Ysgol Seicoleg a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Caiff ein hymchwil ei ddiffinio gan bedwar sefydliad ymchwil, y bydd croeso i’r myfyriwr PhD ymuno â nhw: Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP), Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol (IAHP), Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol (ICN), Sefydliad Ymchwil Llesiant (IWR). Mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd ymchwil rhagorol i ymchwilwyr ôl-radd, gyda chymuned fawr o fyfyrwyr PhD a staff sy’n cynhyrchu gwaith ymchwil, cyfarfodydd labordy rheolaidd, seminarau, cynadleddau myfyrwyr a siaradwyr gwadd, a digwyddiadau wedi eu targedu at ddatblygiad proffesiynol ehangach. Mae cyfleusterau helaeth a staff technegol penodol i gynnal ymchwil ymddygiadol, biomecanyddol, a seicoffisiolegol.

            Mae Prifysgol Bangor wedi ei lleoli yn harddwch gogledd Cymru. Mae Bangor yn ddinas brifysgol gyfeillgar a fforddiadwy, a saif ar lannau Môr Iwerddon a’i chefn at Barc Cenedlaethol Eryri. Mae mynyddoedd, llynnoedd, afonydd a thraethau hardd o fewn cyrraedd hawdd, a cheir cysylltiadau cludiant da â rhai o ddinasoedd mwyaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Manceinion, Lerpwl, Birmingham a Llundain.  Mae Prifysgol Bangor yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o blith boblogaethau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Datblygwyd yr Academi Dysgu Cymhwysol ar gyfer Iechyd Ataliol (ALPHAcademi) mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, caiff ei arwain gan Brifysgol Bangor a’i gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn rhan o rwydwaith o academïau dysgu dwys, sef canolfannau i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd, rhannu gwybodaeth a throsi ymchwil yn ganlyniadau.

Symudedd rhyngwladol

Bydd y myfyriwr PhD yn cael ei annog i dreulio peth amser mewn sefydliad ymchwil dramor wedi ei gyllido gan “Taith”— sef rhaglen sy’n unigryw i Gymru sydd newydd ei datblygu ar gyfer dysgu rhyngwladol (cyswllt: https://www.taith.cymru/)—a “Chynllun Turing” sef rhaglen ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer symudedd rhyngwladol (cyswllt: https://www.turing-scheme.org.uk/).

Gofynion preswylio

Mae'r efrydiaeth hon yn cynnwys yn llawn y ffioedd dysgu ar gyfer dinasyddion Prydeinig a gwladolion eraill nad oes angen fisa arnynt (e.e. Ewropeaid â statws preswylydd sefydlog, Gwyddelig). Mae croeso mawr i ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais; fodd bynnag, mae angen iddynt gysylltu â Dr Julian Owen i drafod y posibilrwydd o hepgor ffioedd.

Gwybodaeth gyffredinol

Bydd y penodiad cychwynnol am gyfnod o flwyddyn, gydag estyniad o ddwy flynedd ar ôl gwerthusiad cadarnhaol o allu a chydnawsedd. Rhaid i'r penodiad arwain at gwblhau traethawd PhD. Bydd myfyrwyr PhD hefyd yn cael y cyfle i gyfrannu at addysgu. Mae'r ysgol yn darparu hyfforddiant rhagorol mewn addysgu ac mae llawer o fyfyrwyr yn cyflawni cymwysterau AAU (Yr Academi Addysg Uwch) wrth gwblhau eu doethuriaeth

Gwybodaeth bellach

Dylid cyfeirio cwestiynau anffurfiol am yr efrydiaeth a gofyn am fwy o arweiniad os ydych am baratoi cynnig manylach at Dr Julian Owen, e-bost: j.owen@bangor.ac.uk

Sut i wneud cais: 

Rhaid cyflwyno pob cais trwy ein system ymgeisio ar-lein erbyn hanner nos ar 9 Mehefin 2023: https://apps.bangor.ac.uk/applicant/

Rhaid i’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

  1. Curriculum Vitae. Ni ddylai fod yn hwy na dwy dudalen.
  2. Llythyr eglurhaol. Eich cymhelliant dros wneud cais am yr ysgoloriaeth ymchwil hon, eich dyheadau y tu hwnt i wneud doethuriaeth, sut rydych yn ateb y meini prawf hanfodol a dymunol, ac unrhyw resymau pam rydych yn teimlo eich bod yn arbennig o addas i'r project hwn.
  3. Llythyrau geirda. Dylid cynnwys dau lythyr gan staff academaidd i'w cyflwyno i gefnogi'r cais penodol hwn. Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon gysylltu â chanolwyr eu hunain a chynnwys geirdaon gyda'u ceisiadau.
  4. Cynnig ymchwil: pedair tudalen yn cynnwys adolygiad cryno o’r llenyddiaeth, disgrifiad o’r cwestiynau ymchwil posibl, damcaniaethau, y dull o gasglu a dadansoddi data, amserlen arfaethedig ar gyfer pob elfen o’r ymchwil a’r ysgrifennu, a rhestr gyfeirio (nid yw’r rhestr gyfeirio yn gynwysedig yn y nifer tudalennau). Nid yw'r cynnig yn eich ymrwymo: gall yr ymgeisydd a’r goruchwyliwr wneud newidiadau yn ystod y PhD.
  5. Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu os nad ydych wedi cwblhau addysg brifysgol mewn sefydliad Saesneg ei iaith, darparwch brawf o hyfedredd Saesneg fel IELTS (o leiaf 7.0 yn gyffredinol) neu ardystiad cyfwerth.

Ymholiadau cyffredinol: I gael cyngor cyffredinol ar sut i wneud cais a chymhwysedd, ewch i wefan Ysgol Ddoethurol Bangor.

Cymraeg ac Astudiaethau Celtiadd

Mae’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Ddwyieithrwydd ac Adrannau Seicoleg, Ieithyddiaeth, ac Addysg ym Mhrifysgol Bangor, a’r Ganolfan Ymchwil Iaith ac Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, trwy gefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Ddoethurol Cymru (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD, gyda’r posibilrwydd o dderbyn ysgoloriaeth ymchwil ESRC DTP llawn, i gychwyn ym mis Hydref 2023. Rydym yn bwriadu cynnig ysgoloriaethau ymchwil ym maes rhyngddisgyblaethol Dwyieithrwydd.

Dyddiad dechrau: Hydref 2023
Lleoliad: Bangor
Yn agored i: Myfyrwyr y DU, Myfyrwyr yr UE, Myfyrwyr Rhyngwladol
Swm cyllid: Efrydiaeth PhD 3 blynedd (neu 4 blynedd 1+3) wedi'i hariannu'n llawn ar gael.
Oriau: Llawn amser; Rhan amser:
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 (12pm GMT)
 
Gwybodaeth bellach
 
It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?