LLun tanddwr o bysgod mewn riff

Bioleg Môr

Mae Bioleg Môr wedi cael ei ddysgu yma ers bron i 100 mlynedd. Rydym yn unigryw am ein bod yn cynnwys astudiaeth o bob elfen o amgylchedd môr y byd, o aberoedd ac arfordiroedd i ddyfnderoedd y cefnfor.  

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Ar y dudadeln yma:
Ein Cyrsiau Bioleg Môr

 

 

Ein cyrsiau Bioleg Môr

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Bangor; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweld 

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon, 

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir! 

[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiol 

[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig. 

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar.  

[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanod 

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor. 

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn. 

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud Bangor y lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu... 

[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod. 

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudio 

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Bydd ein cyfleusterau yn dod â'r hyn rydych wedi ei ddysgu yn fyw

Fel rhan o'ch gradd, efallai byddwch yn gwneud defnydd o rai o'r cyfleusterau ardderchog, sy'n cynnwys:

  • llong ymchwil morwrol 35 metr - Prince Madog.
  • nifer o longau bychain i wneud ymchwil gyda’r glannau
  • labordai ymchwil mawr, modern
  • cyflenwad dŵr môr wedi'i hidlo yn uniongyrchol o’r Fenai ac acwaria môr dŵr oer a throfannol
  • rhwydwaith cyfrifiadurol ardal leol ar gyfrifiaduron personol, i weithfannau pwerus prosesu rhifau a ddefnyddir wrth fodelu’r cefnforoedd yn rhifiadol.
Myfyriwr yn sefyll ar flaen llong y Prince Madog, yn gwenu ar y camera

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Bioleg Môr. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Bioleg Môr llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Bioleg Môr ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Bioleg Môr ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Bioleg Môr

Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ymchwil Bioleg Môr sy'n ymestyn yn ôl dros 100 mlynedd. Mae ein hymchwil yn cynnwys parth llawn y môr, yn amrywio o gynefinoedd lled-ddaearol fel morfeydd heli, i'r môr dwfn, ac o'r pegynau i'r trofannau. Ar hyn o bryd mae gennym brojectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ffiordydd yr Antarctig a riffiau cwrel Cefnfor yr India.

Mae elfen bwysig o ymchwil Bioleg Môr yma ym Mangor yn canolbwyntio ar gadwraeth a rheoli adnoddau môr. Mae ein hymchwil yn edrych ar sut mae cynnwrf anthropogenig megis ecsbloetiaeth, rhywogaethau ymledol a newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ecosystemau'r môr, ac ar y dulliau gorau o reoli ac amddiffyn yr ecosystemau hyn.

Mae ein hymchwil yn sail i ddiwydiant pysgod o’r gwyllt a dyframaeth cynaliadwy. Mae hefyd yn ymdrin ag effeithiau ehangach pysgodfeydd a dyframaethu ar ecosystem y môr, a sut y gallant effeithio ar rywogaethau dalfeydd (pysgod eraill, adar môr, mamaliaid môr, organebau gwely'r môr) a chynefinoedd (e.e. riffiau, gwelyau morwellt). Mae hefyd yn sail i'n datblygiad o ddeorfeydd pysgod trofannol cynaliadwy.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?