Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r radd hon yn berffaith i chi os oes gennych ddiddordeb yn fertebratau'r môr. Byddwch yn dysgu am organebau'r môr a'u cynefinoedd, ac egwyddorion cyffredinol bioleg y môr, ecoleg, cadwraeth, ffisioleg ac ymddygiad. Mae pynciau mwy arbenigol sy'n canolbwyntio ar ecoleg a chadwraeth fertebratau môr mwy o faint, gan gynnwys siarcod a mamaliaid môr, a swyddogaeth y prif ysglyfaethwyr hynny yn ecosystem y môr. Bydd cyfleoedd hefyd i ystyried agweddau cymhwysol ar sŵoleg, megis pysgodfeydd, dyframaeth, bioleg cadwraeth ac ecodwristiaeth.
Ar y cwrs unigryw hwn byddwch yn astudio organebau’r môr, eu cynefinoedd a'r we fwyd sy'n cynnal yr ysglyfaethwyr gorau, gan gynnwys mamaliaid morol, pysgod, adar y môr, ac ymlusgiaid. Bydd y cwrs gradd yn bwrw golwg dros egwyddorion cyffredinol bioleg, bioleg y môr a gwyddorau'r môr, ynghyd â thacsonomeg, ffisioleg, ymddygiad ac ecoleg fertebratau'r môr. Byddwch yn dysgu am elfennau cymhwysol sŵoleg fel pysgodfeydd, dyframaeth, bioleg cadwraeth ac ecodwristiaeth. Trwy gydol y radd rydym yn manteisio ar ein lleoliad, ac mae pwyslais mawr ar waith maes, gan gynnwys profiad ar y môr. Ym mlwyddyn 3, byddwch yn dysgu am ecoleg siarcod ac ecoleg mamaliaid y môr, dulliau adnabod a chynnal arolygon, a fydd yn cynnwys gwaith maes ar long ac/neu ar y tir.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae ein lleoliad unigryw yn hwylus iawn ar gyfer gwneud gwaith maes ar arfordir Ynys Môn ac ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
- Mae arfordir Ynys Môn yn cynnig cyfleoedd gwych i astudio adar y môr, morloi a dolffiniaid.
- Ymhlith y cyfleusterau mae llong ymchwil, acwaria môr trofannol a thymherus, ac Amgueddfa Sŵoleg.
- Astudio ar Ynys ar gyrion Afon Menai, dyfroedd llanwol hyfryd sy'n gwahanu Ynys Môn, o'r tir mawr.
- Mae eich darlithwyr yn gwneud ymchwil ledled y byd, o riffiau cwrel trofannol i foroedd rhewedig y pegynau.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r cwrs yn cynnwys hyd at 25-35 awr yr wythnos o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol yn y labordy a gwaith maes, astudio preifat, tiwtorialau a gwaith prosiect. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn ogystal â darlithoedd a sesiynau ymarferol bydd tiwtorialau rheolaidd mewn grwpiau bach (tua 8 myfyriwr), ac yn y rheini byddwn yn datblygu eich sgiliau gwerthuso beirniadol a chyfathrebu gwyddoniaeth. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn gwneud traethawd hir o dan oruchwyliaeth unigol ar bwnc o'ch dewis. Asesir trwy gyfuniad o arholi ffurfiol ac asesu parhaus.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
Ecoleg ac Esblygiad
Mae’r modiwl hwn ynghylch deall y newidiadau dynamig mewn unigolion, poblogaethau, cymunedau ac ecosystemau mewn perthynas â’i gilydd ac â’r amgylchedd ffisegol. Mae dealltwriaeth o sut mae organebau'n addasu ac yn rhyngweithio â'i gilydd a'u hamgylchedd biotig ac anfiotig yn hanfodol felly, yn ogystal â dealltwriaeth o sylfaen ymddygiadol a genetig y newidiadau hynny. Mewn cyd-destun cymhwysol, mae deall effeithiau bodau dynol ar ecosystemau yn gofyn am ddealltwriaeth sylfaenol o natur a chanlyniadau rhyngweithiadau troffig rhwng rhywogaethau (gweoedd bwyd), swyddogaeth yr amgylchedd anfiotig a'r ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd a gwytnwch ecosystemau. Mae hyn yn darparu’r sylfeini ar gyfer rheoli systemau naturiol a lled-naturiol yn gynaliadwy.
Hanfodion Eigioneg
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno ffiseg a chemeg y cefnforoedd. Cewch eich cyflwyno i’r egwyddorion sylfaenol sy’n ymwneud â sut mae'r cefnfor yn gweithio fel system ffisegol a dangosir i chi natur y cysylltiad agos rhwng ffiseg y cefnfor â hinsawdd. Mae hefyd yn ystyried dylanwad gweithgaredd biolegol a chylchrediad y cefnfor ar gemeg y cefnforoedd. Atgyfnerthir agweddau damcaniaethol â gwaith ymarferol, sydd wedi'i gynllunio i gyflwyno technegau dadansoddol a'u cymhwyso i broblemau sy'n berthnasol i'r amgylchedd.
Bioleg Môr Ymarferol 1
Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i dair elfen bwysig o Fioleg Môr: Gwyddoniaeth Maes, Gwyddoniaeth Labordy a Chyfathrebu Gwyddoniaeth. Byddwch yn cael profiad o ystod eang o bynciau ymchwil gweithredol ac yn defnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau a gymhwysir yn rheolaidd gan Fiolegwyr Môr gan gynnwys: dyrannu; microsgopeg; cynllunio arbrofion; adnabod rhywogaethau; casglu data; a dadansoddi data. Byddwch yn dysgu sgiliau labordy a sgiliau maes da drwy gydol y modiwl, a byddwch yn cael profiad o amrywiaeth eang o rywogaethau a chynefinoedd.
Amrywiaeth Organebau
Yn y modiwl hwn cyflwynir golwg cyffredinol ar ddosbarthiad, ffurf a swyddogaeth y prif grwpiau o organebau byw. Adolygir yr holl brif grwpiau o organebau byw, o feirysau, bacteria, protistau, algâu ac uwch blanhigion at anifeiliaid, yn infertebratau a fertebratau. Astudir tacsonomeg gyffredinol, ffurf y corff, ffisioleg a hanes bywyd i roi gwerthfawrogiad o agweddau lluosog bioamrywiaeth.
Data a Dadansoddi Amgylcheddol
Mae’r modiwl hwn yn dysgu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar wyddonwyr naturiol i ateb cwestiynau gwyddonol gyda data amgylcheddol. Rhoddir theori ar waith trwy gyfrwng sesiynau cyfrifiadurol, i gymhwyso ystod o dechnegau dadansoddi data at ddata amgylcheddol. Yn y semester cyntaf byddwn yn cyflwyno'r dull gwyddonol, sut i ddisgrifio samplau yn rhifiadol ac yn raffigol, a sut i brofi damcaniaethau'n ystadegol i nodi gwahaniaethau a chysylltiadau rhwng newidynnau. Yn yr ail semester, yn ogystal â sesiynau theori ystadegol a sesiynau ymarferol ychwanegol, cymhwysir sgiliau mewn project pwnc-benodol. Yn y project hwn, mae myfyrwyr yn cynnal ymchwiliad gwyddonol, gan gynnwys casglu a dadansoddi data; cyflwynir canlyniadau'r dadansoddiad data hwn trwy gyfrwng adroddiad gwyddonol.
Tiwtorial Sgiliau Gwyddoniaeth
Cynhelir y modiwl hwn gan eich tiwtor personol mewn lleoliad grŵp bach, yn ystod eich blwyddyn gyntaf. Mae'n cyflwyno ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gradd mewn gwyddor môr ac yn annog darllen ehangach ym maes gwyddor môr. Mae’r modiwl yn cynnwys darllen cyfeiriedig ac ymarfer mewn cyflwyno gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig. Cynhelir tiwtorialau rheolaidd (8 i 10 myfyriwr ym mhob grŵp) trwy gydol y flwyddyn lle trafodir sgiliau ysgrifennu traethodau, sgiliau cyflwyno llafar a chrynhoi gwybodaeth o lenyddiaeth wyddonol. Mae'r sgiliau a ddatblygir yn y modiwl hwn yn allweddol ar gyfer pob modiwl arall ac at eich gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes gwyddor môr.
Blwyddyn 2
Bioleg Môr Ymarferol II
Mae'r modiwl hwn yn barhad o'r flwyddyn gyntaf. Byddwch yn datblygu ac yn hogi eich sgiliau mewn dulliau a ddefnyddir yn rheolaidd gan Fiolegwyr Môr gan gynnwys dyrannu, microsgopeg, adnabod rhywogaethau, casglu data, a dadansoddi data. Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylech fod wedi datblygu nifer o sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer eich astudiaethau a meithrin sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu cymhwyso ar draws disgyblaethau pwnc.
Ecoleg Môr
Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i roi sylfaen gadarn i chi mewn theori ecolegol fel y mae'n berthnasol i ecosystemau morol. Addysgir pynciau trwy gyfeirio at ecosystemau astudiaethau achos a gymerir o ranbarthau tymherus a rhanbarthau trofannol megis:
- Riffiau cwrel
- Coedwigoedd gwymon
- Glannau creigiog, a
- Mangrofau.
Byddwch hefyd yn dysgu am ddulliau maes ar gyfer astudio cylchfäedd yn yr amgylchedd morol gan ddefnyddio ecosystemau glannau creigiog Ynys Môn fel astudiaeth achos enghreifftiol. Byddwch yn cael sesiwn ymarferol cyfrifiadurol lle cewch y cyfle i ddadansoddi data o ecosystem riff cwrel i archwilio am dystiolaeth o batrymau rhagweladwy mewn strwythur cymunedol benthig ar draws dyfnderoedd ac ystyried sut y gallent fod yn gysylltiedig â gyrwyr amgylcheddol a biolegol - sgiliau a gwybodaeth sy'n ofynnol wrth astudio'r ecosystemau cymhleth hyn.
Ffisioleg ac Ymddygiad Morol
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i ecoleg ffisiolegol ac ymddygiadol organebau môr. Bydd yn ymdrin â ffisioleg algâu môr a ffisioleg gymharol ac ecoleg ymddygiadol anifeiliaid môr. Byddwch yn astudio'r ymatebion ffisiolegol sy'n caniatáu i organebau môr addasu i newidiadau amgylcheddol; y paramedrau a swyddogaethau ymddygiad sy’n galluogi anifeiliaid i ryngweithio â'i gilydd ac addasu i'w cilfachau ecolegol.
Cwrs maes ar long
Cynllunnir y modiwl i gynnig profiad o waith maes amlddisgyblaethol ar y môr, ar fwrdd llong arolygu. Byddwch fel rheol yn treulio un diwrnod ar y môr, yn casglu data ac yn graddnodi offer. Yna byddwch yn prosesu'r set ddata hon mewn cyfres o sesiynau labordy a chyfrifiadur, gan archwilio cysylltiadau rhwng newidynnau.
Prosesau Morydau a Moroedd Silff
Mae David Attenborough wedi disgrifio’r moroedd tymhorol fel rhai o’r mwyaf cynhyrchiol ar y blaned. Ond mae'r moroedd hyn a'r aberoedd sy'n eu porthi dan lefelau uchel o bwysau dynol sy'n golygu bod angen offer rheoli rhagfynegol i sicrhau nad yw gweithgareddau dynol yn cyfaddawdu eu systemau. Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu am y prosesau ffisegol, cemegol a biolegol allweddol sy'n gweithredu yn yr ecosystemau pwysig hyn, a sut y cânt eu cynrychioli mewn modelau cyfrifiadurol y gellir eu defnyddio i'w hefelychu er mwyn cynorthwyo i’w rheoli. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae'r systemau hyn wedi esblygu dros amser ac yn archwilio astudiaethau achos o effeithiau gweithgareddau dynol ar y systemau hyn.
Egwyddorion Cadwraeth
Rydym ar ymyl y dibyn o ran difodiant rhywogaethau lluosog. Dyma gyfle i ddeall y berthynas gywrain rhwng gweoedd cymhleth rhywogaethau a'r posibilrwydd o sefydlogi a gwrthdroi’r broses o golli rhywogaethau. Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar egwyddorion allweddol, sylfaenol cadwraeth. Mae'n ymchwilio i brif yrwyr dirywiad rhywogaethau, megis colli cynefinoedd, gor-gynaeafu, rhywogaethau ymledol, newid hinsawdd. Rydym hefyd yn archwilio atebion posibl i'r problemau niferus, felly nid yw'n ofid calon i gyd! Mae'r addysgu'n cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd wyneb yn wyneb a theithiau maes sy'n bwrw golwg fanwl ar nifer o elfennau allweddol dirywiad rhywogaethau a mesurau lliniarol posibl rhag colledion pellach. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o ddiraddio ecosystemau a'i rôl ganolog o ran darparu planed a all gynnal bodau dynol a phob ffurf arall ar fywyd yn y biosffer. Erbyn diwedd y modiwl bydd eich gweledigaeth o’r amgylchedd wedi ei gweddnewid.
Y Llanw, Tonnau, Ynni Morol
Mae amgylchedd y cefnfor yn cael ei ddylanwadu gan nifer o yrwyr gan gynnwys ymwthiad cyfnodol gan y llanw a'r tonnau. Mae deall beth sy'n gyrru'r ffenomenau hollbresennol hyn a sut y maent yn effeithio ar geryntau yn yr amgylchedd morol yn gefndir hanfodol i unrhyw wyddonydd môr. Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r ffiseg sylfaenol y tu ôl i'r ffenomenau hyn, sut y gellir eu hadnabod o ddata morol go iawn sydd â chyfuniad o signalau’n bresennol, a sut y gellir defnyddio llanw a thonnau fel ffynonellau ynni adnewyddadwy. Wrth ddysgu, byddwch yn meithrin sgiliau rhifiadol, dadansoddol a rhaglennu, ac yn datblygu greddf am eigioneg ffisegol.
Bioleg Fertebratau
Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i ddeall strwythur a swyddogaeth y pum dosbarth o fertebratau, h.y. y Pysgod a'r Tetrapodau (Amffibiaid, Ymlusgiaid, Adar a Mamaliaid). Caiff ei addysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd ac mae'n cynnwys gwreiddiau ac esblygiad y prif grwpiau, ynghyd â chysyniadau a gwybodaeth am eu strategaethau atgenhedlu ac ymsymud. Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r fioleg greiddiol gyffredinol sydd ei hangen cyn mynd ymlaen i arbenigo yng ngwahanol ddosbarthiadau’r fertebratau.
Cyfathrebu Gwyddoniaeth
Mae’r modiwl hwn yn dechrau trwy ymdrin â hanes ac esblygiad gwyddoniaeth sy’n eich cyflwyno i elfennau uwch y dull gwyddonol a sefydlwyd ym Mlwyddyn 1. Y nod yma yw eich helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol.
Byddwch yn dysgu sut i asesu grym y dystiolaeth ar bwnc penodedig mewn gwyddor môr, a’r enghraifft gyntaf fydd wrth ystyried y dystiolaeth dros fywyd rhywle arall yng nghysawd yr haul. Yna byddwch yn dewis pwnc penodol y byddwch yn gwneud ymchwil annibynnol arno.
Blwyddyn 3
Bioleg Pysgod ac Ecoleg
Bydd y modiwl hwn yn darparu cyflwyniad manwl i esblygiad, tacsonomeg ac amrywiaeth pysgod teleostaidd, crynodeb o'r amrywiadau mewn cylch bywyd, dynameg poblogaeth ac ecoleg ac adolygiad o'r bygythiadau anthropogenig sy'n wynebu'r grŵp amrywiol a gwasgaredig hwn o fertebratau.
Byddwch yn edrych ar y pynciau canlynol:
- esblygiad ac amrywiaeth
- ymbelydredd addasol a sŵddaearyddiaeth
- cylchoedd bywyd a deinameg poblogaeth
- ecoleg ymddygiadol
- ecoleg cadwraeth
- effeithiau anthropogenig
Project Maes Rhynglanwol
Mae'r modiwl hwn yn rhoi profiad ymarferol i chi o gynnal arbrofion ecolegol yn y byd go iawn. Cewch eich cyflwyno i egwyddorion datblygu arolwg maes o’r cam cyntaf un, ac wedyn byddwch yn gweithio mewn grwpiau bach i ddatblygu eich cwestiynau ymchwil a’ch arolwg eich hun yn seiliedig ar amgylchedd glannau creigiog naturiol Ynys Môn. Cefnogir pob grŵp trwy gydol y modiwl gan aelod staff sy'n cynorthwyo trwy gyfrwng cyfres o weithdai gyda datblygu syniadau, eu rhoi ar waith ac yna dadansoddiad a llunio adroddiad.
Arsylwi Mamaliaid Môr
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar dechnegau arolygu mamaliaid môr. Rhennir yr addysgu yn ddarlithoedd, gwaith maes a gweithdai. Cewch eich cyflwyno i faterion cadwraeth, gofynion data a thechnegau arolygu. Bydd gwaith maes yn rhoi profiad i chi o arolygon o gwch ac o’r glannau; yn gwneud arsylwadau gan ddefnyddio techneg systematig, yn cofnodi'r arsylwadau hyn ar ffurflenni safonol, ac yn prosesu'r arsylwadau ar gyfer dadansoddiadau. Bydd arsylwyr profiadol o’r Sea Watch Foundation yn eich helpu i adnabod rhywogaethau, amcangyfrif maint grwpiau, gwahaniaethu rhwng dosbarthiadau oedran, pennu ymddygiad, ac asesu amodau’r môr. Cynhelir yr arolygon yng ngogledd Ynys Môn fel rheol; ardal a gysylltir ag achosion mynych o weld dolffiniaid trwynbwl, morloi llwyd, llamhidyddion a dolffiniaid Rissos trwy gydol y flwyddyn. Yn ei gyfanrwydd, bydd y modiwl hwn yn eich arfogi ag amrywiaeth eang iawn o sgiliau y mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Gwyddor Mamaliaid Môr
Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad o famaliaid môr a'r heriau rheoli a chadwraeth a wynebir â’r anifeiliaid hyn. Cyflawnir hyn trwy eich addysgu am eu hesblygiad a'u haddasiadau i amgylchedd y môr, y swyddogaethau ecolegol pwysig y maent yn eu cyflawni yn ogystal â'r heriau sylweddol a wynebwn wrth astudio'r anifeiliaid hyn. Byddwch yn dysgu ynglŷn â sut mae nodweddion hanes eu bywyd yn arwain at gyfraddau twf araf yn y boblogaeth ac mewn rhai achosion at ddifodiant, yn ogystal â phynciau cyfamserol trwy gyfrwng datblygiadau technolegol sy’n ein helpu i ddysgu mwy am eu hecoleg gan gynnwys astudiaethau tracio a bioacwsteg. Un o nodau allweddol y modiwl yw datblygu sgiliau meintiol gan eu bod yn bwysig ar gyfer gyrfaoedd yn y maes hwn. Cyflawnir hyn trwy asesiadau sy'n cynnwys modelu poblogaethau â matrics a dadansoddi a mapio data tracio.
Siarcod a'u Perthnasau
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dod i wybod mwy am siarcod - gan ddechrau trwy ymchwilio i'w hanes esblygiadol. Byddwch yn dysgu am y gwahaniaethau rhwng yr ysglyfaethwyr apig hyn a'u perthnasau megis cathod môr. Ar ôl dysgu am eu galluoedd synhwyraidd soffistigedig, byddwch yn mynd ymlaen i ganfod sut y byddwn yn defnyddio technoleg fodern i'w tracio. Trwy gyfrwng sesiynau ymarferol, byddwch yn dysgu am eu ffisioleg ac, mewn darlithoedd, byddwch yn dysgu am ecoleg poblogaethau. Mae siarcod yn dioddef gwasgedd amgylcheddol sylweddol, y rhan fwyaf ohono’n deillio o weithgaredd dynol. Felly rydym hefyd yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â'r effeithiau anthropogenig hyn megis sgil-ddaliadau, canfod siarcod, llygredd, a dinistrio cynefinoedd.
Gwarchod ac Ecsbloetio’r Môr
Gellid dweud bod cadwraeth y môr ynghyd â’i ecsbloetio mewn modd reoledig ymysg meysydd pwnc pwysicaf gwyddor y môr. Daw’r modiwl hwn â gwyddoniaeth i ddehongli’r ddwy her fyd-eang yma. Yn y modiwl cynhwysfawr hwn, cewch gyflwyniad i faterion sy'n ymwneud â bioamrywiaeth forol, cynefinoedd hanfodol a bygythiadau amgylcheddol, ecsbloetio pysgodfeydd a'i effaith ar rywogaethau targed a’u hecosystemau, rheoli parthau arfordirol ac ardaloedd morol gwarchodedig, yn ogystal â dyframaethu a gwella stoc.
Erbyn diwedd y modiwl, bydd gennych ddealltwriaeth dda o'r angen am gadwraeth forol a datblygu cynaliadwy; byddwch yn gallu gwerthuso bygythiadau i rywogaethau, cynefinoedd a phrosesau ecosystemau; a byddwch yn gallu gwerthuso'n feirniadol effeithiolrwydd technegau ac offer diogelu. O ran ecsbloetio, byddwch yn dod i wybod am bysgota a thueddiadau cyfredol mewn pysgodfeydd yn fyd-eang; byddwch yn gwerthuso effeithiau pysgota ar rywogaethau targed ac ar lefel yr ecosystem; a byddwch yn dod i ddeall y gwahanol ddulliau o reoli stoc pysgod a'r gwrthdaro rhwng ecsbloetio a chadwraeth. Yn olaf, trafodir dyframaeth fel dull o gynhyrchu bwyd morol, gan gwmpasu egwyddorion cyffredinol, ffermio grwpiau o’r prif rywogaethau, yn ogystal ag ystyried materion amgylcheddol a chynaliadwyedd.
Ecosystemau a Phrosesau Morol
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cipolwg cyffrous i chi ar bwysigrwydd systemau arfordirol a dŵr agored i'r blaned. Ein ffocws yma yw’r hyn sy'n gwneud i ecosystemau weithio a’r hyn sy'n gwneud iddynt fethu. Byddwch yn dysgu pa mor hanfodol yw bioamrywiaeth i weithrediad a gwytnwch ecosystemau naturiol ac i'r buddion a gawn o'r môr, megis rheoleiddio’r hinsawdd yn naturiol a bwyd. Cewch y cyfle i ystyried sut mae anifeiliaid a phlanhigion yn addasu neu'n rhyngweithio â'u hamgylchedd. Byddwn yn archwilio sut mae twrio am fwyd gan adar môr yn cael ei reoli gan dirweddau gwely’r môr a cheryntau a byddwn yn gweld sut mae plancton yn y cefnfor deheuol yn gysylltiedig â hinsawdd fyd-eang a’r cylchred carbon. Mewn cyfres o bedair sesiwn ymarferol, byddwch yn defnyddio set ddata fawr i archwilio p’un a fo cannu riffiau cwrel yn cymedroli poblogaethau pysgod. Byddwch yn cynhyrchu allbynnau graffigol a dadansoddol o'r gwaith hwn i lunio eich poster gwyddonol eich hun, a byddwch yn ei gyflwyno yn y pen draw mewn 'cynhadledd fach posteri'.
Traethawd hir
Mae eich traethawd hir yn un project mawr hunan-gyfeiriedig. Byddwch yn defnyddio data sydd eisoes ar gael. Byddwn yn hwyluso eich project trwy diwtorialau un-i-un, sesiynau ymarferol, darlithoedd, a swmp o ddeunydd wedi'i recordio a fydd ar gael ar-lein. Bydd gofyn i chi wneud gwaith sylweddol yn annibynnol, ond gall y project fod yn un sy’n adlewyrchu eich diddordebau personol chi. Dyma gyfle i ddefnyddio’ch holl sgiliau mewn maes sydd o ddiddordeb i chi, ac yn y pen draw feddu ar ddogfen gaboledig y gallech ei dangos i ddarpar gyflogwyr.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cadwraeth Fertebratau'r Môr BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Mae gennym gyfleusterau rhagorol gan gynnwys acwaria môr trofannol a môr tymherus, labordai dadansoddi, efelychwyr cludo gronynnau a llif a systemau cyfrifiadurol o'r safon uchaf.
- Mae’r cefnfor wrth law ac mae mynediad heb ei ail ato a nifer o gynefinoedd rhynglanwol i wneud gwaith arbrofol, gan gynnwys glannau creigiog, glannau tywod a morfeydd heli. Mae nifer o gytrefi adar y môr o amgylch arfordir Môn yn ogystal â digonedd o famaliaid y môr gan gynnwys dolffiniaid trwyn potel, dolffiniaid Risso, llamhidyddion, morloi llwyd a rhywogaethau eraill y môr.
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar.
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig.
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.
- Ystafelloedd trychfilod.
- Coetiroedd.
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.
- Cyfleusterau delweddu.
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.
Cyfleusterau Gwyddorau Eigion
- Mae ein cyfleusterau dysgu rhagorol yn cynnwys labordai geoffisegol a chafnau tonnau, yn ogystal ag uwch systemau cyfrifiadurol.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai o fewn geoparc GeoMôn UNESCO. Rydym hefyd yn agos at amgylchedd rhewlifol clasurol Eryri ac felly yn y lle perffaith i astudio geowyddorau gydag amrywiaeth eang o amgylcheddau ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m sy'n mynd ar y môr yn ogystal â sawl cwch arolygu llai sydd â'r offer arolygu cefnfor diweddaraf.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymhwyster Lefel 3*. Er enghraifft:
- Lefel A**: Yn cynnwys dau bwnc gwyddoniaeth (Bioleg, Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddor/Astudiaethau'r Amgylchedd, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol.**
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City (1080) Guilds mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd**: MMM – DDM.
- Mynediad i Wyddoniaeth AU.**
- Lefelau T: fesul achos.
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbyniwn.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos. Cysylltwch â ni am wybodaeth.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 112-128 pwynt tariff o gymhwyster Lefel 3*. Er enghraifft:
- Lefel A**: Yn cynnwys dau bwnc gwyddoniaeth (Bioleg, Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddor/Astudiaethau'r Amgylchedd, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol.**
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City (1080) Guilds mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd**: MMM – DDM.
- Mynediad i Wyddoniaeth AU.**
- Lefelau T: fesul achos.
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbyniwn.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos. Cysylltwch â ni am wybodaeth.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol).
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs yn baratoad delfrydol ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil, rheoli adnoddau môr, cadwraeth, asesu effaith amgylcheddol, pysgodfeydd, awdurdodau arfordirol, cyrff cynghori'r llywodraeth, y cyfryngau gwyddonol, ecodwristiaeth a diwydiannau hamdden eraill a grwpiau dwyn pwysau.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Bioleg Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.