Bangor University Main Arts

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol ac ymroddedig sydd wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni eich potensial o ran gyrfa yn ystod eich cwrs ac ar ôl graddio.

Boed yn archwilio eich opsiynau gyrfa, yn chwilio am brofiad gwaith, dod o hyd i swydd i raddedigion, neu sefydlu eich busnes eich hun, rydym yma i'ch helpu i ddatblygu eich cyflogadwyedd a gwireddu eich uchelgeisiau gyrfa.

Cysylltu â ni

Llawr Gwaelod Isaf, Neuadd Rathbone, College Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF

BLE RYDYM NI

Gweler y cyfarwyddiadau manwl isod ar sut i ddod o hyd i ni os gwelwch yn dda.

Llawr Gwaelod Isaf, Neuadd Rathbone, College Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF

Mae yna ddau fynediad i'n swyddfeydd yn Neuadd Rathbone: 

Mynedfa Ffordd y Coleg: (what3words - ////gweinyddu.deddf.mesur)

 

  • Defnyddio'r Lifft: ewch i mewn trwy'r drysau gwydr awtomatig ar ochr chwith bellaf Neuadd Rathbone a dilynwch y coridor at y lifft. Rydym ar y llawr “-1” (sef y llawr isaf). Ewch allan o'r lifft, dilynwch y coridor, ewch drwy'r ystafell aros a thrwy'r drysau dwbl i'r dderbynfa.
  • Dilynwch y llwybr troed wrth ymyl y drws gwydr awtomatig ar ochr chwith bellaf Neuadd Rathbone i Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ac ewch i lawr y grisiau ac o amgylch yr adeilad. Yna byddwch yn cyrraedd y grisiau/ramp at y brif fynedfa.

Mynedfa Lôn Cariadon:  (what3words - ///anelwch.blendio.rhwyfwr)

  • Gallwch gyrraedd mynedfa 2 trwy'r gatiau ger Lôn Gariadon a defnyddio'r ramp, gan osgoi'r grisiau.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?