Gwybodaeth ar gyfer Graddedigion
Mae graddio yn garreg filltir gyffrous a phwysig i bob un ohonom – mae’r cyfnod yn dilyn graddio yn gyfnod o newid mawr, ac fe all hefyd fod yn gyfnod heriol wrth ichi ystyried eich camau nesaf a chystadlu am swyddi a chyfleoedd eraill.
Mae'r Gwasanaeth Cyflogadwyedd yn gwbl ymroddedig i'ch helpu i lwyddo wrth drawsnewid i yrfa raddedig.
Sut y gallwn ni helpu
Gall holl raddedigion Prifysgol Bangor fanteisio ar gyfrif 'am oes' ar ein llwyfan cysylltu TARGET, lle gallwch chwilio am swyddi a chyfleoedd eraill, a chael mynediad at amrywiaeth o offer ac adnoddau defnyddiol. Ymhellach, cewch hefyd fynediad at becyn o gefnogaeth ac adnoddau wedi'u teilwra’n arbennig i chi am dair blynedd ar ôl graddio.
Mae ein cefnogaeth tair blynedd yn cynnwys:
- Cymorth ac adborth ar gyfer CV a gwneud ceisiadau
- Paratoi at Gyfweliad
- Cynorthwyo graddedigion ansicr / pryderus ‘beth i’w wneud nesaf’
- Gwella’r chwilio am swyddi / cyfleoedd
- Rhoi cynnig ar ddulliau newydd os bu graddedigion yn aflwyddiannus gyda’u ceisiadau
- Archwilio ffyrdd o ennill profiad a sefydlu/gwella eu rhwydweithiau
Os ydych chi wedi graddio o Brifysgol Bangor - Croeso! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud i barhau / ailgysylltu â'n Gwasanaeth yw actifadu eich cyfrif Graddio trwy osod cyfrinair. Cliciwch ar y cyswllt a rhowch y cyfeiriad e-bost personol a roesoch i Brifysgol Bangor cyn i chi raddio.
Gweithredwch eich Cyfrif Graddio
Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Ydych chi wedi graddio, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau chwilio am swydd? Oes gennych chi ddiffyg hyder wrth wneud cais am swyddi neu fynd i gyfweliadau? Neu efallai eich bod yn gweld y farchnad swyddi yn rhy gystadleuol o ganlyniad i bandemig Covid-19? Gall ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion helpu!
E-bostiwch cefnogigraddedigion@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth.
Facebook & Twitter: @PBcyflogadwyedd / @BUemployability
Twitter:
@PBcyflogadwyedd / @BUemployability
Instagram: @pbcyflogadwyedd / @buemployability
LinkedIn: Cyflogadwyedd Prifysgol Bangor / Bangor University Employability
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych a’ch cefnogi yn eich dyheadau am yrfa.
Wedi'i ddiweddaru Hydref 2022