Swyddfa'r Is-Ganghellor
Mae Swyddfa’r Is-Ganghellor wedi’i staffio gan Miss Bethan Nelson (Cynorthwyydd Personol yr Is-Ganghellor). Gellir cyfeirio ymholiadau ynghylch y dyddiadur, ymholiadau cyffredinol ac ymholiadau’n ymwneud â gwaith Pwyllgor yr Athrawon a’r Darllenyddion at Miss Bethan Nelson.
Mae staff yn Swyddfa’r Is-Ganghellor o 8.45am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r Swyddfa wedi ei lleoli ar lawr cyntaf Prif Adeilad y Celfyddydau, drws nesaf i Ystafell y Cyngor.
Os ydych chi’n ymweld â Swyddfa’r Is-Ganghellor, ac mae arnoch angen trwydded parcio undydd, cysylltwch â ni.
Os oes arnoch angen map o Fangor, cliciwch ar y cyswllt isod: Llwytho i lawr Fap o Brifysgol Bangor (PDF)