Tudur Owen
Ers dyddia cynta’r Brifysgol bron i 150 o flynyddoedd yn ôl, ma’r cysylltiad hefo’r ardal leol wedi bod yn bwysig iawn. 
A mi oedd gweithio hefo’r gymuned i godi dyheadau ac ansawdd bywyd yn bwysig iawn, a mae o dal i fod wrth wraidd gwaith y Brifysgol hyd heddiw.
Ma gallu y Brifysgol i gyfrannu at lesiant economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol yn bwysig, ac yn werthfawr iawn.
A dyma pam mai cenhadaeth ddinesig y Brifysgol ydy hyn: i flaenoriaethu llesiant ein cymunedau a’r ardal. 
Trwy gydweithio gyda’n partneriaid cymunedol, gall Prifysgol Bangor helpu greu budd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, yma yng ngogledd Cymru.
Ymunwch a ni wrth i ni wrando ar rai o’r rheini sydd wedi elwa o’r genhadaeth yma.
Ma’r ffilm yma am eu storïau, a’u lleisiau.
Aaron Pleming
Aaron Pleming di fy enw i, a dwi’n gwirfoddoli yma yn Pontio, a dwi’n byw hefo cerebral palsy. 
Ma Pontio jyst fatha teulu mawr, a da ni’n gyd yn nabod ein gilydd. 
Da chi medru fynd i weld petha yn y sinema a theatr, a ma stiwdants yn medru dod yma i socialisio, ma jyst fatha teulu mawr yma yn Pontio rili.
Dwi di cael cefnogaeth massive gan y criw yma yn Pontio. Ma nhw ddim yn gweld fi fatha Aaron hefo cerebral palsy, ma nhw’n gweld fi fatha Aaron, does na ddim barrier yna basically.
Rhian Parry Jones
Rhian Parry Jones dwi i, Pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, a dwi yn gyfrifol am yr ysgol yma, sy’n ysgol uwchradd sy’n gwasanaethu ardal Penygroes.
Ma’r gefnogaeth da ni’n gael gan y Brifysgol a gan partneriaethau gwahanol sy’n cael ei trefnu drwy’r Prifysgol yn galluogi ni i ehangu gorwelion ein disgyblion ni yma.
Ma’n galluogi nhw i weld be di’r cyfleoedd eraill sydd yna ar gael iddyn nhw tu allan i’r ysgol, ac efallai gwneud i nhw ystyried gyrfaoedd mewn gwahanol gyrfaoedd STEM er enghraifft, falle byse nhw ddim wedi cysidro, cyn iddyn nhw gael y profiadau gwahanol ma nhw’n gael.
Huw Evans
So da ni wedi bod yn cydweithio hefo’r Brifysgol ers dipyn o flynyddoedd ar nifer fawr o brosiectau, cychwyn ffwrdd hefo Ehangu Mynediad, a hwnna di mynd yn nol i cyn 2018. 
Da ni wedyn di bod yn cydweithio ar brosiectau eraill hefo Ymestyn yn Ehangach hefo’r Brifysgol, a cydweithio hefo nhw ar nifer fawr o brosiectau STEM, a gwahanol brosiectau eraill, a hefyd da ni wedi bod yn cydweithio hefo M-SParc yn Gaerwen.
So heddiw ma gyno ni focus ar gwyddoniaeth, so da ni’n edrych ar brosiectau STEM. 
So da ni’n edrych ar egni lleol yn gynta, wedyn ma gyno ni cwmni Explore yn dod i fewn, a ma gyno ni 2 grŵp yn neud prosiectau, un ar y bydysawd ac astro-ffiseg ac edrych ar rocedi, a wedyn ma gyno ni grŵp arall wedyn yn edrych ar ceir sydd yn gyrru heb gyrwyr.
Alaw
Y peth gora genai i yw da ni’n cael fel cyfleoedd o pethau gwahanol, i gweld, jyst i cael blas o pethau gwahanol.
Efa
Dwi wedi mwynhau dysgu pethau newydd yn yr ysgol, a cael y profiadau i neud o. 
Yn fy marn i yr un gorau dwi di neud ydy’r World of Work oherwydd ma na llawer o gyflogwyr wedi dod i fewn i’r ysgol a dysgu petha gwahanol i ni.
Huw
Yn y gorffennol da ni wedi cael lot fawr o brosiectau o STEM, cymhwysedd digidol, gyrfaoedd, cael pobl i fewn o gwahanol gwmnïau, i roi yr arlwy disgyblion o be sydd ar gael i nhw yn y dyfodol a’r potensial i ehangu eu gorwelion nhw ar gyfer pa fath o swyddi sydd yn y byd STEM neu sydd yn y byd gwaith ehangach tu allan yn lleol.
Wel ma’r gefnogaeth da ni wedi ei gael gan y Brifysgol wedi helpu ni fel staff a’r disgyblion. O ran y disgyblion, ma nhw’n cael sgiliau meddal, ma nhw’n cael profiadau bythgofiadwy, ma’r disgyblion wastad yn sôn am y profiadau ma nhw’n cael hefo’r sesiynau da ni’n neud yn yr ysgol hefo’r Brifysgol. 
Ma’r staff hefyd yn elwa achos bod nhw’n gallu gweld y potensial yn y disgyblion, a gweld ongl gwahanol i’r disgyblion pan ma nhw yn cael mynediad at y math yma o weithgaredd.
Guto Hughes
Fy enw i yw Guto Wyn Hughes, dwi’n astudio PhD yma ym Mangor, yn edrych ar gweithrediad pwysau gwaed mewn pobl. 
Ges i fy ngeni a magu yma ym Mangor, a wedi bod yn dod i Canolfan Brailsford, neu fel oedd o ers talwm, Maesglas, ers i mi fod yn ysgol gynradd. Odd na glybiau addysg gorfforol a ballu yn digwydd yma, a hefyd pan on i’n ysgol uwchradd ddos i yma ar gyfer wythnos o brofiad gwaith.
So dwi’n astudio PhD yma ym Mangor ar hyn o bryd, wedi i mi astudio gwyddorau chwaraeon lawr yng Nghaerdydd, a wedi hynna rodd na brosiect PhD perffaith i mi yma ym Mangor, ag oedd o’n teimlo fel y peth iawn i neud i ddod nol adra i astudio’n ymhellach.
Dwi’n mwynhau ymarfer yma yn Brailsford, yn arbennig oherwydd ma na gymuned unigryw yma sydd ddim yn digwydd yn unlla arall. 
Ti’n cael yr ochr mwy elite a’r pobl sy’n cystadlu yn yr lefelau top sy na, a hefyd da ni’n cael pobl sydd jyst yn dod fewn o’r gymuned, sydd jyst yma i neud ymarfer corff, ond hefyd yn gweld be da ni’n neud ac yn meddwl ei fod yn edrych yn diddorol a isio cymryd rhan yn y math yna o beth. 
A felly da ni’n cychwyn pigo fyny pobl o bob ochr nes bod gyno ni’r gymuned unigryw iawn yma yn Brailsford.
So ar hyn o bryd ma gyno ni paratoadau yn mynd ymlaen ar gyfer Pencampwriaeth Codi Pwysau Prifysgolion Prydain yma ym Mangor am y tro cynta, y tro cynta tu allan i Llundain o gwbl. 
Ma gyno ni gyfleusterau unigryw iawn yma, o ran bod y lle da ni’n cynhesu i fyny ac yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth yn cyfleusterau arbennig o dda a hefyd reit yn ymyl lle ma’r gystadleuaeth yn digwydd. 
Yn aml iawn da ni fel arfer gorfod cerdded lawr rhyw coridors hir i gyrraedd lle ma’r gystadleuaeth. Yma, da ni’n syth allan o’r stafell cynhesu i fyny, a syth ar y platfform cystadlu. Mae o’n berffaith. 
Dwi’n argymell i unrhyw berson sydd hefo diddordeb mewn chwaraeon neu jyst ymarfer corff, dim bwys be fath, i ddod i Brailsford. 
Ma na gymuned i bob grŵp, a dim bwys be fath o chwaraeon da chi’n edrych am, da chi wastad yn gallu ffeindio eich grŵp chi.
Lowri Morris
Fy enw i ydy Lowri Morris, a dwi yn gweithio i Wild Elements, a da ni’n cwmni gymdeithasol di-elw, a mi da ni’n gwneud llawer iawn o weithgareddau, dwi fy hun yn gweithio mewn sesiynau yn yr awyr agored, a mi fyddai’n gwneud digwyddiadau awyr agored, fel sydd yma heddiw, a hefyd mi fyddai i yn bersonol mi fyddai i yn mynd i fewn i ysgolion i gyflwyno sesiynau hefo ysgolion lleol a hefyd mi fydd yr ysgolion yn dod atom ni yn Treborth hefyd i gael sesiynau yn yr gardd fotaneg Treborth a yn yr ysgol goedwig hefyd.
Heddiw ma gyno ni Draig Beats yn mynd ymlaen yma, a da ni fel Elfennau Gwyllt yn cymryd rhan yn y diwrnod yma. Ma gyno ni stall ein hunain yma, yn gwerthu nwyddau sydd gyno ni yn ein siop eco ym Mangor, a hefyd da ni’n cynnal digwyddiadau i blant, celf a chrefft, a ma gyno ni hefyd saethyddiaeth a da ni’n neud smores i blant hefyd a pobl yn yr ysgol goedwig.
Pwynt cyswllt cynta fi fy hun hefo Prifysgol Cymru Bangor odd pan wnes i ddechrau chwilio am cyrsiau i neud yn y Brifysgol ar ôl Lefel A, a be on i isio bod oedd athrawes cynradd, felly ar y pryd mi oedd na gwrs i athrawon cynradd i hyfforddi fel athrawon cynradd yn Bangor ar safle Normal, felly fana es i yno i neud fy gradd mewn addysg i 7 i 11, yn arbenigo mewn addysg mewn gwyddoniaeth.
Mi da ni’n gweithio yn agos iawn hefo ysgolion lleol yn yr ardal. Ar hyn o bryd da ni’n gwneud sesiynau ar prosiect ar thema o cemeg. A felly da ni wedi bod i naw ysgol lleol yn yr ardal, a ma sesiynau yn seiliedig hefyd i atgyfnerthu y cwricwlwm yng Nghymru.
Y manteision o weithio hefo Gardd Fotaneg Treborth efo ni yw da ni’n cael defnyddio fel da chi’n gwybod yr ardal ei hun fel yr ysgol goedwig sydd gyno ni fama ond hefyd da ni’n cael defnyddio da chi’n gwybod, ma’r arbenigedd yma i ni gael holi beth sydd yn tyfu yma, y datblygiadau sydd yn digwydd yma fel bod ni’n gallu hefyd defnyddio hynna yn ein sesiynau ni hefo’r plant a’r cyhoedd.
Anna Roberts
Anna Roberts dwi i, fi di Prif Weithredwr a sylfaenydd Explorage.com, a rydym wedi ein lleoli yma yn M-SParc ar Ynys Môn. 
Prifysgol Bangor yw ein prifysgol lleol, mae ar ein stepen drws, felly da ni wastad bod yn gyfarwydd hefo fo, ond fy ymgysylltu personol cynta hefo hi oedd cwrs Arweinyddiaeth ION Lefel 5, a rodd yn rhywbeth nad oeddwn wedi ei hystyried tan i mi wneud gwaith gyda chwmni arall, a wedyn wnes i feddwl ma gen i fy nghymwysterau proffesiynol, rŵan dwi angen rhywbeth i gadarnhau fy ngalluoedd arweinyddiaeth. 
A dyma pam wnes i edrych ar y cwrs Arweinyddiaeth ION, ond actually canlyniadau’r cwrs ION, a’r cynnwys a’r cysylltiadau dwi wedi ei wneud wedi mynd yn bell tu hwnt i fy nisgwyliadau. 
So rodd hynna’n grêt, a tu hwnt i hyn ma nhw wedi bod yn gefnogol tra bod ni wedi lleoli yma yn M-SParc, yn nhermau siarad gyda amryw o arweinwyr cyfadran am cydweithio posibl gyda myfyrwyr medrwn ei wneud gyda Explorage wrth i ni barhau i arloesi a thyfu. 
Da chi’n rhan mawr o hwb o weithgaredd neu rydych chi’n gwybod be sy’n digwydd ar lawr gwlad. 
Rydym wedi gweithio yn uniongyrchol gyda sawl tenant arall yn yr adeilad, felly rydym yn defnyddio eu gwasanaethau, a gofyn am eu cyngor ar bethau hefyd! 
Rydym wedi cael lleoliad Academi Sgiliau o ganlyniad i M-SParc, a felly ma hyn wedi datblygu i fewn i weithiwr llawn amser a bellach yn aelod o’n tîm, rydym hefyd wedi cael person profiad gwaith. 
Os na fuasem di cael y cefnogaeth o M-SParc a Phrifysgol Bangor da ni wedi ei dderbyn, mi fyse wedi bod yn fynydd llawer anoddach i’w ddringo, a byse di cymryd llawer yn hirach i gyrraedd lle ydym ni. 
Ma’r cefnogaeth di neud ni teimlo fel rhan o rhywbeth a helpu ni i gadw’r momentwm i fynd, a ma di agor drysau i ni lle ffordd arall buasem wedi bod yn cnocio ein pennau ar wal o frics! Felly rydym yn ddiolchgar iawn amdano.
Tudur
Hyn, stori’r unigolion sy’n gysylltiedig gyda’r Brifysgol mewn amryw o wahanol ffyrdd. Yma i weithio gyda chi, ac i gefnogi chi. 
Prifysgol Bangor: Eich Prifysgol, Eich Cymuned.
 

Gyda diolch i'n partneriaid Aaron Pleming, Pontio; Rhian Parry Jones a Huw Evans Ysgol Dyffryn Nantlle; Guto Wyn Hughes, Canolfan Brailsford; Lowri Morris, Elfennau Gwyllt; Anna Roberts, Explorage a roddodd eu hamser i gefnogi'r fideo yma. 

Amdanom Ni

Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o weithio gyda'r gymuned leol i godi dyheadau a gwella ansawdd bywyd. Os hoffech weithio gyda ni, boed fel unigolyn, grŵp, ysgol, neu sefydliad, cysylltwch â ni trwy cymuned@bangor.ac.uk neu llenwch y ffurflen ymholiadau hon.

Mae ein Strategaeth Ymgysylltiad Dinesig newydd yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda'n cymunedau. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn dod o dan dair thema ymbarél.

  • Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ (e.e. iechyd, hinsawdd, yr iaith Gymraeg, tai, tlodi, poblogaeth sy'n heneiddio)
  • Galluogi arloesi a chyfleoedd economaidd
  • Gwella ansawdd bywyd a rhannu gwybodaeth trwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus

Trwy bartneriaethau a chydweithio, ceisiwn gyfrannu at les economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol ein hardal. Edrychwch ar enghreifftiau o'r gwaith hwn isod.

[00:00]
Helo, Yr Athro Andrew Edwards ydw i, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltiad Dinesig ym Mhrifysgol Bangor.

[00:07]
Mae’n bleser gen i gyflwyno ein strategaeth Ymgysylltiad Dinesig, a gafodd ei lansio mis yma.

[00:13]
Yn y bôn, mae’r strategaeth yn sôn am ddatblygu, cryfhau ac ehangu’r cysylltiadau rhwng y brifysgol a’r gymuned. 

[00:21]
Pwrpas y strategaeth yw sicrhau cyfeiriad a statws i’n gwaith yn y maes pwysig hwn. 

[00:28]
Mae gan y Brifysgol gyfoeth o sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth rydyn ni’n dymuno eu rhannu gyda’n cymunedau ni. 

[00:36]
Rydym eisiau cydweithio er mwyn gwella ansawdd bywyd a llesiant pobl o bob oedran. 

[00:43]
Nid yw hyn yn rhywbeth newydd chwaith. Ers i ni sefydlu yn 1884...

[00:48]
Mae gweithio gyda chymunedau i godi uchelgais addysgol, diwylliannol ac economaidd yn rhan annatod o’n gwaith ni, fel Prifysgol.

[00:58]
Drwy’r strategaeth hon a’n cynllun strategol sefydliadol, Strategaeth 2030...

[01:03]
Rydyn ni’n cyflwyno ein hymrwymiad i gefnogi cyfoeth o amcanion i gryfhau ein cenhadaeth ddinesig yn rhanbarthol, 

[01:11]
yn genedlaethol ac hefyd yn rhyngwladol.

[01:14]
Dyma strategaeth sydd yn clymu myfyrwyr a staff y Brifysgol ynghyd â chymunedau ledled gogledd Cymru a thu hwnt. 

[01:23]
Mae gennym dîm Ymgysylltiad Dinesig penodedig erbyn hyn,

[01:26]
er mwyn helpu i ddatblygu a chynnal y cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’n cymunedau ni. 

[01:32]
Felly os ydych eisoes mewn cyswllt gyda’r Brifysgol trwy ddosbarthiadau neu gyrsiau, 

[01:38]
yn defnyddio ein cyfleusterau o’r ansawdd uchaf yn Pontio, M-SParc, Canolfan Brailsford neu Gerddi Treborth...

[01:45]
Neu ella yn gweithio ar brosiect penodol gyda’n staff, rydym am adeiladau ar y cysylltiadau yma...

[01:50]
A sicrhau fod yna fwy o gyd-weithio rhyngom a’n bod yn meithrin cysylltiadau newydd er budd yr ardal. 

[01:57]
Gobeithio y gewch gyfle i fwrw golwg dros y strategaeth, a pheidiwch ag oedi i gysylltu gyda ni ar:

[02:04]
cymuned@bangor.ac.uk er mwyn trafod syniadau newydd a ffyrdd o gydweithio. 

[02:11]
Dwi fawr iawn yn edrych ymlaen at gydweithio gyda chi, dros y blynyddoedd nesaf, Diolch yn fawr iawn.

Gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’

(e.e. iechyd, hinsawdd, y Gymraeg, tai, tlodi, poblogaeth sy'n heneiddio)

Cwad Mewnol ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Bwrdd Cymunedol Prifysgol Bangor:

Yn 2022, sefydlwyd y Bwrdd Cymunedol. Mae'r Bwrdd yn disodli'r hen Grŵp Cyswllt Prifysgol Bangor (BULG), ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau, sefydliadau a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus ym Mangor ac ar draws gogledd orllewin Cymru. Mae’r Bwrdd yn ffordd bwysig o gysylltu’r Brifysgol â’n cymunedau, i drafod meysydd ar gyfer cydweithio ac i gydweithio ar faterion o ddiddordeb cyffredin.

Arm holding waste water sample

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ RHAGLEN MONITRO DŴR YN YSBYTAI A MONITRO Y TU HWNT I COVID-19

Datblygodd gwyddonwyr o Brifysgol Bangor y broses o brofi dŵr gwastraff ar gyfer COVID-19 i ddechrau, a defnyddiwyd y gwaith hwn, a wnaed mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, i ganfod yn gynnar y don Omicron ar draws Cymru. Mae’r tim bellach yn cydweithio ag ysbytai ac wedi ychwanegu glefydau trosglwyddadwy i’w alluoedd.

Mae’r rhaglen yn darparu data hanfodol ar nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y gymuned a bydd ychwanegu’r safleoedd allweddol hyn a chlefydau trosglwyddadwy ychwanegol at y gwaith monitro sydd eisoes ar waith ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol Cymru er mwyn dyfnhau’r mewnwelediad a’r wybodaeth leol sydd ei angen wrth wneud penderfyniadau iechyd cyhoeddus. Mae astudiaeth fwy diweddar wedi ymchwilio i weld a allai defnyddio profion dŵr gwastraff fel ffordd o fonitro iechyd cyffredinol teithwyr ar awyrennau sy'n dod i'r wlad yn y dyfodol.

Gweithiwr Cymdeithasol yn gwenu ar ddyn oedrannus, yn eistedd ar soffa

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ M.A. Gwaith Cymdeithasol

Sefydlwyd y rhaglen M.A. Gwaith Cymdeithasol yn 2012 er mwyn sicrhau cyflenwad o weithwyr cymdeithasol dwyieithog, sydd yn bennaf ddiwallu anghenion y gweithlu gwaith cymdeithasol lleol. Mae hyn mewn partneriaeth gyda Chynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy sydd yn darparu lleoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr sydd o gwmpas 50% o’u hyfforddiant proffesiynol.  

Drwy addysgu’r boblogaeth leol i wasanaethu’r boblogaeth leol mae’r rhaglen yn gweithio gydag unigolion i sefydlu eu canlyniadau llesiant ac yn cydweithio gydag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill megis yr heddlu, gweithwyr iechyd, y sector addysg a ‘r sector tai, er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn gwella ansawdd bywyd, diogelu rhag niwed a chamdriniaeth, a gwella rhagolygon i allu byw bywyd mor llawn â phosib.

Dyn mewn oed yn eistedd wrth y bwrdd yn bwyta sglodion a sgodyn efo plentyn ifanc
Credit:Darlun TV

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia

Mae’r Brifysgol yn cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, eu partneriaid, teuluoedd a gofalwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys Grŵp Caban, Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru, a gweithio tuag at ddod yn Brifysgol sy’n Deall Dementia. Datblygir ymchwil ochr yn ochr â phobl y mae dementia yn effeithio arnynt.

Llun o'r 'dyn tun' wrth gefn golygfa Pen Llyn

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Ecoamgueddfa Pen Llŷn

Ecoamgueddfa Pen Llŷn - Partneriaeth sy’n hyrwyddo Pen Llŷn fel cartref yn ogystal â chyrchfan neu faes chwarae i ymwelwyr.  

Yn syml, ‘amgueddfa’ neu gydweitho sy’n datblygu ar y cyd i adlewyrchu lle neu ardal, ei phobl a’i chymunedau – dyna yw Ecoamgueddfa. O Ffrainc y daeth y syniad yn wreiddiol ac yno, yn 1971 y cafodd y gair ei fathu. Mae’r ‘eco’ yn dalfyriad o ‘ecoleg’ ond yn cyferio yn benodol at syniad newydd o ddehongli treftadeth ddiwylliannol yn ei holl goniant, yn hytrach na thrwy ganolbwyntio ar greiriau penodol neu gyfnod hanesyddol fel sy’n tueddu i ddigwydd mewn amgueddfa draddodiadol. 

Ein nôd ers 2015 pan sefydlwyd yr ecoamgueddfa yw sicrhau fod cymunedau heddiw a chymunedau’r dyfodol yn gallu ffynnu yn eu milltir sgwar eu hunain ar eu telerau eu hunain a thrwy wneud hynny, cyfoethogi profiad yr ymwelydd, a symud oddi wrth dwristiaeth sy’n echdynu’n unig tuag at economi ymwelwyr adfywiol. 

Ariannwyd gan Lywodraeth y DU, ac wedi'i yrru gan Ffyniant Bro Cyngor Gwynedd.

Merch yn eistedd wrth ei desg gyda masg Covid

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Covid-19: Archwilio dylanwad negeseuon yn y cyfryngau ar ddewisiadau gwisgo masgiau

Arweiniodd y Brifysgol ar ymchwil newydd yn 2021 i archwilio dylanwad negeseuon yn y cyfryngau ar ddewisiadau gwisgo masgiau pobl yn ystod pandemig Covid-19.

Siop ‘Priental Stores’ teulu Gubay
Siop ‘Priental Stores’ teulu Gubay.

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Dathlu Hanes Iddewig Llandudno

Yn 2020, cwblhawyd map yn dangos hanes Iddewig Llandudno. Mae'r map yn dathlu presenoldeb Iddewon yn Llandudno o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Mae'n cyd-fynd â'r map cynharach o hanes Iddewig Bangor.

Llyfr agored ar fwrdd mewn llyfrgell

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Project Addysgu Iaith a Llythrennedd o Bell (RILL):

Mae’r prosiect wedi’i ddylunio a’i redeg gan ymchwilwyr yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, a Chanolfan Dyslecsia Miles yn y Brifysgol. Mae'n cynnwys rhaglen iaith a llythrennedd fer ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2, ac fe'i lansiwyd mewn ymateb i bandemig Covid-19 a'r cyfyngiadau symud cenedlaethol o ganlyniad ym mis Ebrill 2020. Mae'r prosiect bellach yn rhedeg mewn tua 100 o ysgolion yng Nghymru a Lloegr ac wedi cyrraedd drosodd. 1,000 o blant. Y genhadaeth yw sicrhau bod plant - yn enwedig y rhai sy'n cael trafferth darllen ac ysgrifennu - yn cael y cyfarwyddyd llythrennedd gorau posibl. 

Poster yn dangos logo "Dewch yn ôl" gan MSParc

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Dewch yn ôl

Ymgyrch a ddechreuwyd er mwyn annog pobl sydd wedi symud allan o Gymru i ddychwelyd i fyw a gweithio yma. Hyd yn hyn mae pump o bobl wedi dychwelyd, un bellach wedi ei leoli yn M-SParc, ac yn dod o lefydd mor bell â Lerpwl, Llundain, a Texas! Mae'r ymgyrch yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Llwyddo'n Lleol, ac eraill.

Grŵp o fyfyrwyr yn astudio a siarad yn y llyfrgell

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Myfyrwyr yn Cefnogi gwasanaethau Iechyd Meddwl ar draws gogledd Cymru

Mewn cydweithrediad unigryw â’r GIG, mae rhwng 16-20 o fyfyrwyr MSc Cwnsela Prifysgol Bangor yn cynnig 2000 neu fwy o oriau cymorth cwnsela'r flwyddyn o fewn Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r math hwn o gydweithio ar leoliad yn unigryw i Brifysgol Bangor ac roedd yn ganlyniad i fwy o alw gan y cyhoedd am wasanaeth y GIG, a diffyg myfyrwyr 'parod i ymdrin â chleientiaid' yn gadael y brifysgol. 

Myfyriwr yn gweithio yn Llyfrgell Prifysgol Bangor

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Clinig y Gyfraith Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae Clinig y Gyfraith Gogledd a Chanolbarth Cymru yn bartneriaeth o saith cangen Cyngor ar Bopeth Lleol ac Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol sy’n darparu gwasanaeth i gefnogi Ymgyfreithwyr wyneb yn wyneb ar bob cam o’u taith. Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cael eu hyfforddi mewn meysydd allweddol megis cyfraith teulu, gofal cymunedol a chyfraith cyflogaeth ac yn cael cynnig y cyfle i ddatblygu a defnyddio eu gwybodaeth gyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn.

Ap Geiriaduron Canolfan Bedwyr

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Uned Technolegau Iaith

Mae’r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal ymchwil i sut y gall pobl gyfathrebu â’i gilydd yn Gymraeg drwy gymorth cyfrifiaduron newydd a dyfeisiau clyfar a datblygu technoleg sy’n adnabod yr hyn y mae pobl yn ei ddweud yn Gymraeg, yna’i deipio neu ateb cwestiynau yn Gymraeg.

Cysgliad

Mae eu rhaglen Cysgliad, sy'n cynnwys Cysill (gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg), a Cysgeir (casgliad o eiriaduron electronig Cymraeg) ar gael yn rhad ac am ddim trwy haelioni Llywodraeth Cymru.

Termau Cymraeg

Mae’r Uned hefyd yn gyfrifol am safoni termau Cymraeg ar gyfer addysg yng Nghymru, gan gynnwys Y Termiadur Addysg a Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

SU roundtable discussion

Nodi a mynd i’r afael â ‘heriau mawr’ Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor

Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor yn trefnu llu o weithgareddau i drigolion lleol, yn cynnwys te partis (sydd wedi bod yn rhedeg ers 1952), teithiau undydd i bobl hŷn, tripiau i gael te prynhawn a hyd yn oed ymweliadau â gwarchodfa boblogaidd i fulod yn Eryri.

Mae myfyrwyr yn gwirfoddoli'n rheolaidd mewn cartrefi gofal lleol ac yn helpu i drefnu llu o weithgareddau yn ogystal â bod yn glust i wrando ar drigolion sydd eisiau dim byd ond sgwrs. Yn yr un modd, mae Caffi’r Hafan yng nghanol dinas Bangor yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli mewn canolfan gymunedol sy’n hybu lles a byw’n annibynnol ac yn cynnig lle i aelodau o’r gymuned leol gael paned a chymdeithasu.

Gweithio gyda rhanddeiliaid i alluogi arloesi a chyfleoedd economaidd

Criw o blant ar ddiwedd perfformiad ar y llwyfan yn Pontio
Credit:Iolo Penri

Arloesi a chyfleoedd economaidd BLAS

Ariennir BLAS gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phlant mewn Angen, ac yn brosiect sy’n darparu cyfleoedd artistig i bobl ifanc ym Mangor gan Pontio.

person mewn labordy
Dr Simon Middleburgh o Brifysgol Bangor

Arloesi a chyfleoedd economaidd Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS 2)

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn ymgyrch fawr Cymru gyfan a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru. Mae KESS 2 yn cysylltu cwmnïau a sefydliadau sydd ag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i hwyluso projectau ymchwil cydweithredol, sy’n gweithio tuag at gymhwyster PhD neu Feistr Ymchwil.

Criw o gyfrannwyr i'r rhaglen ION yn sefyll o flaen baner marchnata y project

Rhaglenni Twf Busnes Rhaglen Arweinyddiaeth ION

Cefnogir project arweinyddiaeth ION gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac fe'i harweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Mae’r project yn fenter strategol bwysig a luniwyd i ddatblygu a gwella sgiliau arwain perchnogion, rheolwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol i fusnesau ledled Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Proffesiynol sy'n gweithio wrth ddesg gyda gliniadur, cyfrifiannell a phapurau

Rhaglenni Twf Busnes Rhaglen Twf Busnes 20Twenty

Mae gan Raglen Arweinyddiaeth a Thwf Busnes Cymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol Bangor, enw da am gyflwyno sgiliau arwain a rheoli rhagorol a thwf busnes cynaliadwy yng Nghymru.

Cwpwl yn sefyll tu ôl i'r cownter mewn caffi

Rhaglenni Twf Busnes Helpu i Dyfu - cyrsiau rheolaeth

Cwrs datblygu gweithredol unigryw ym maes arwain a rheoli wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i dyfu eich busnes

Adeilad M-SParc yn y cyfnos

Rhaglenni Twf Busnes Hwb Menter

Er mwyn cefnogi busnesau y tu allan i’r sectorau carbon isel, ynni a’r amgylchedd, digidol a gwyddorau bywyd, mae M-SParc a Menter Môn wedi partneru ar yr Hwb Menter. Wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, mae’r Hwb yn caniatáu i M-SParc gefnogi busnesau newydd mewn unrhyw sector drwy ddarparu gofod swyddfa wedi’i ariannu’n llawn, digwyddiadau, a chefnogaeth i fusnesau.

Myfyrwyr yn edrych ar liniadur

Rhaglenni Twf Busnes Gwasanaeth Cyflogadwyedd

Mae’r Gwasanaeth Cyflogadwyedd yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion trwy ystod o wasanaethau gan gynnwys cefnogaeth un i un, gweithdai, cyngor hunangyflogaeth, menter ac arloesi, meithrin uchelgais, cyflwyniadau gan gyflogwyr, interniaethau a lleoliadau gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o adnoddau ar-lein. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr o bob maint, yn enwedig cwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a datblygu. Gall pob sefydliad gofrestru gyda'n gwasanaeth ar-lein i weithio gydag unrhyw un o’n timau neu brojectau a hysbysebu swyddi, lleoliadau, interniaethau a chyfleoedd gwirfoddoli addas. Mae graddedigion Prifysgol Bangor yn gymwys i gael mynediad i’n gwasanaethau am dair blynedd ar ôl graddio, a gallant hefyd fod yn gymwys i gael profiad gwaith a hyfforddiant wedi’i ariannu drwy’r Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion

Llon Ymchwil Y Prince Madog ym Mhorthaethwy

Rhaglenni Twf Busnes Gwasanaeth Cefnogi Effaith ac Ymchwil Integredig (IRIS):

Rôl Gwasanaeth IRIS yw cefnogi rhagoriaeth ymchwil a gweithgareddau effaith yn y Brifysgol ac mae'r tîm yn ganolog i gyflawni Strategaeth 2030 newydd y brifysgol: Strategaeth Ymchwil ac Effaith. Mae IRIS yn gweithio gydag ymchwilwyr i feithrin perthnasoedd cynaliadwy gyda phartneriaid busnes lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol eraill a nodwyd fel darpar gydweithwyr a/neu fuddiolwyr ein hymchwil. Yn ogystal â chefnogi ymchwilwyr i sicrhau cyllid ymchwil, mae IRIS hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn ymarferion adrodd ac asesu, megis y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) a HE-BCI 

Gwella ansawdd bywyd a rhannu gwybodaeth drwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus

Ein Partneriaid Strategol

Tŷ Gwyrddfai Logo

Mae Prifysgol Bangor ac Adra, darparwr tai cymdeithasol mwyaf Gogledd Cymru, wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) i ddatblygu sgiliau ac ymchwil i ddatgarboneiddio stoc tai.

Rhagor o wybodaeth am y cydweithio rhwng y Brifysgol ac Adra


 

Cyfarfod y tîm a chysylltu

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith, cysylltwch â ni:

Yr Athro Andrew Edwards

Llun o'r Athro Andrew Edwards

Yr Athro Andrew Edwards yw’r Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltiad Dinesig a’r Gymraeg. Y mae hefyd yn Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth y Coleg ym mis Mai 2020, ar ôl bod yn Ddeon y Coleg ers 2012.

Dr Lowri Angharad Hughes

Dr Lowri Angharad Hughes

Dr Lowri Angharad Hughes yw Pennaeth Polisi a Datblygu Canolfan Bedwyr, a hi yw’r Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol (Ymgysylltiad Dinesig).

Iwan Williams

Iwan Williams, Uwch Swyddog Cenhadaeth Ddinesig

Iwan Williams yw’r Uwch Swyddog Ymgysylltiad Dinesig. Dechreuodd Iwan yn ei swydd ym mis Ionawr 2022. Mae swyddi blaenorol Iwan yn cynnwys gweithio i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Cynghorau Gwynedd/Ynys Môn a Chyngor Dinas Bangor.

 iwan.marc.williams@bangor.ac.uk

Kathryn Caine

Headshot of Kathryn Caine, Civic Mission Officer

Kathryn Caine yw’r Swyddog Ymgysylltiad Dinesig. Dechreuodd Kathryn yn ei swydd ym mis Tachwedd 2021 yn dilyn swyddi amrywiol yn y Brifysgol gan gynnwys Gwasanaethau Campws, Pontio ac yn fwyaf diweddar, IRIS. Cyn ymuno â'r Brifysgol, treuliodd Kathryn 10 mlynedd yn gweithio yn y sector Gwasanaethau Ariannol. Kathryn hefyd yw’r Hyrwyddwr Lles ar gyfer Swyddfa’r Is-ganghellor, IRIS, Tim Llywodraethu a Chydymffurfiaeth a Cynllunio a Phrosiectau Strategol.

 kathryn.caine@bangor.ac.uk

Dilynwch ni

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?