Mae Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn anrhydedd tra phwysig y gall y Brifysgol ei rhoi yn flynyddol i unigolion amlwg sydd â chysylltiad â’r Brifysgol, neu â Chymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu gwahanol feysydd. Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd wedi cael eu cyflwyno dros yr 20 mlynedd ddiwethaf yn y Seremonïau Graddio bob blwyddyn, ac mae dros 150 o bobl wedi cael eu hanrhydeddu yn y ffordd hon. Mae’r Brifysgol yn cadw mewn cysylltiad â’i Chymrodyr er Anrhydedd, ac mae Cinio Blynyddol y Cymrodyr er Anrhydedd yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yn y Brifysgol.

GRADDAU ER ANRHYDEDD ENWAU CYFARWYDD
Dyma rhai engreifftiau o'r nifer o enwau cyfarwydd sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor:
- Chris Coleman
- Osian Roberts
- Elin Manahan-Thomas
- Gruff Rhys
- Huw Stephens
- Huw Edwards
- George North
- John Sessions
- Duffy

GRADDAU ER ANRHYDEDD ENWAU CYFARWYDD
Dyma rhai engreifftiau o'r nifer o enwau cyfarwydd sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor :
- Sian Lloyd
- Iolo Williams
- Frances Barber
- Catrin Finch
- Tim Haines
- Mark Hughes
- Aled Jones
- Matthew Maynard
- Philip Pullman
- Bryn Terfel
- Carol Vorderman

Graddau Er Anrhydedd
I ddathlu canrif a chwarter ers ei sefydlu, penderfynodd Prifysgol Bangor roi doethuriaethau er anrhydedd i bedwar o bobl tra adnabyddus yr ystyriwyd bod eu cyfraniadau dros gyfnod maith o bwysigrwydd rhyngwladol sylweddol. Cynhaliwyd y seremoni arbennig i gyflwyno’r Doethuriaethau er Anrhydedd ar 10 Mehefin 2009.