Yr Is-Ganghellor sy’n cadeirio Bwrdd Gweithredu y Brifysgol. Mae'r tîm yn cynnwys:
Yr Athro Edmund Burke
Is-Ganghellor
Prifysgol Bangor
Mae’r Athro Burke wedi treulio ei holl yrfa ym maes addysg uwch ar drywydd rhagoriaeth academaidd. Mae wedi dal swyddi uwch ym Mhrifysgol Nottingham, Prifysgol Stirling, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain yn ogystal, yn fwyaf diweddar, ag ym Mhrifysgol Caerlŷr. Mae ganddo broffil ymchwil rhyngwladol nodedig mewn Ymchwil Weithredol. Mae ei ymchwil yn ymwneud â methodolegau cefnogi penderfyniadau deallus mewn amgylcheddau cymhleth ar y rhyngwyneb rhwng cyfrifiadureg a mathemateg. Mae'n Gymrawd o'r Academi Beirianneg Frenhinol ac yn Llywydd y Gymdeithas Ymchwil Weithredol.
Fel arweinydd sefydliadol, mae wedi dangos gweledigaeth strategol ac effeithiolrwydd gweithredol drwy sbarduno mentrau newydd, rheoli rhaglenni newid cymhleth a chreu twf sylweddol a chynaliadwy.
Dirprwy Is-Ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd)
Prifysgol Bangor
Dirprwy i’r Is-ganghellor a Phrofost: Yr Athro Andrew Edwards
Fel Dirprwy i’r Is-ganghellor a Phrofost, yr Athro Andrew Edwards yw dirprwy sefydlog yr Is-ganghellor a'r Llywydd, gan ddarparu arweinyddiaeth academaidd strategol ar draws tri choleg y Brifysgol.
Mae'n gyfrifol am broses gynllunio academaidd y Brifysgol gan gynnwys dyrannu adnoddau a chynllunio cyfalaf.
Mae gan y Dirprwy i’r Is-ganghellor hefyd gyfrifoldeb cyffredinol am berfformiad academaidd y Brifysgol trwy reolaeth llinell tri Dirprwy Is-ganghellor, tri Phennaeth Coleg ac Is-Brofostiaid. Mae'n dirprwyo dros yr Is-ganghellor pan fo angen.
Fel Cadeirydd Grŵp Cynllunio a Thrawsnewid y Brifysgol, mae'r Athro Edwards yn gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Gweithredu, y Prif Swyddog Cyllid, y Prif Swyddog Cynllunio a'r Prif Swyddog Pobl i ddarparu arweinyddiaeth ar berfformiad strategol a gweithredol y Brifysgol.
Yn 2025, yr Athro Edwards oedd yr arweinydd ar ran y Bwrdd Gweithredol a’r Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Project Adolygu ac Ailstrwythuro Academaidd y Brifysgol. Ef yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer ymgysylltu ag undebau llafur y campws.
Yr Athro Edwards hefyd yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer strategaeth fyd-eang y Brifysgol.
Mae'r Dirprwy i’r Is-ganghellor a Phrofost yn aelod o Fwrdd Gweithredol, Senedd a Chyngor y Brifysgol.
Cyn ei benodiad yn Ddirprwy i’r Is-ganghellor, roedd yr Athro Edwards yn Ddirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, Ymgysylltu Dinesig, Partneriaethau Strategol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2020-24), ar ôl bod yn Ddeon a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes (2012-20). Yn y swyddogaethau hynny, dangosodd allu eithriadol i reoli portffolios amrywiol a chymhleth, gan fod yn llysgennad cadarnhaol ar ran y Brifysgol ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Fel hanesydd, mae ymchwil yr Athro Edwards yn canolbwyntio ar newid gwleidyddol yng Nghymru a Phrydain ar ôl 1945, hanes datganoli yng Nghymru a newid cymdeithasol ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Dechreuodd ei yrfa academaidd fel cynorthwyydd ymchwil ar broject ymchwil mawr a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar Ddatganoli a Newid Cyfansoddiadol (2002-04), cyn cael ei benodi i Ddarlithyddiaeth mewn Hanes Modern. Dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo yn 2015. Mae’r Athro Edwards yn gymrawd o’r Royal Historical Society a’r Academi Addysg Uwch.
Ganwyd a magwyd yr Athro Edwards yng Nghaernarfon ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae hefyd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, ar ôl cwblhau ei BA (1997), MA (1998) a PhD (2002) yn y Brifysgol.
Mr Michael Flanagan
Prid Swyddog Gweithredu
Prifysgol Bangor
Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Bangor yw Mr Michael Flanagan
Mae gan Michael gyfrifoldeb strategol am arwain gwasanaeth proffesiynol cydlynol (gan gynnwys Canolfan Bedwyr, Gwasanaethau Digidol, Gwasanaethau Campws ac Ystadau, Adnoddau Dynol, Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu a Gwasanaethau Myfyrwyr), yn ogystal â chyfrifoldeb dros iechyd, diogelwch a rheoli argyfyngau a goruchwylio trwyddedau allweddol y Brifysgol.
Cymhwysodd Michael yn wreiddiol fel syrfëwr a bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Caerlŷr cyn symud i Fangor. Cyn hynny, bu'n aelod o dîm Gweithredol Prifysgol Greenwich, a chyn hynny’n gyfarwyddwr ac ymgynghorydd i’r London Legacy Development Corporation mewn perthynas â phrif gynllunio a hyfywedd ar gyfer blaenoriaethau adfywio maer Llundain. Bu’n arwain ar reoli ystadau a chyfleusterau Parc Olympaidd y Frenhines Elisabeth a’r stadiwm Olympaidd ac mae wedi arwain gwaith isadeiledd a digidol integredig gyda dau gyngor yn Llundain.
Mr Martyn Riddleston
Prif Swyddog Ariannol
Prifysgol Bangor
Mr Martyn Riddleston yw’r Prif Swyddog Ariannol ac mae ganddo gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar berfformiad, cynllunio a rheolaeth ariannol, datblygiad strategaeth ariannol y Brifysgol, goruchwylio’r strategaeth pensiynau, cynrychioli’r Brifysgol fel y cyflogwr mewn perthynas â Chynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Bangor, y berthynas a banciau a rhoddwyr benthyg, goruchwylio’r strategaeth gaffael ac is-gwmnïau a chwmnïau cyd-fentro’r Brifysgol.
Cyn ymuno a Phrifysgol Bangor, bu Martyn mewn swyddi uwch ym Mhrifysgol Caerlŷr lle roedd yn Brif Swyddog Cyllid ac yn Brif Swyddog Gweithredu.
Mae'n gyfrifydd siartredig a dechreuodd ei yrfa gyda KPMG yn gweithio gyda chleientiaid archwilio ac ar drafodion corfforaethol yn y DU ac Ewrop. Mae wedi gweithio yn y sector Addysg Uwch am dros 20 mlynedd.
Proffil Yr Athro Nichola Callow
Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr)
Prifysgol Bangor
Yr Athro Nichola Callow yw’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr).
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros addysgu a dysgu, y profiad myfyrwyr, cyflogadwyedd myfyrwyr, gwneud cyfraniad academaidd i faes recriwtio myfyrwyr. Ar hyn o bryd mae hi'n aelod o Fwrdd yr ASA ac yn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Strategol ASA Cymru.
Graddiodd gyda gradd BSc mewn Addysg Gorfforol a Seicoleg, TAR mewn Gweithgareddau Awyr Agored a Gwyddoniaeth a PhD mewn Seicoleg Chwaraeon o Brifysgol Bangor yn 1991, 1992 a 2000. Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2012.
Mae Nichola yn Seicolegydd Siartredig Cymdeithas Seicoleg Prydain ac yn aelod gweithgar a chyfrannol i Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad.Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei hymchwil yn ymwneud â delweddaeth a pherfformiad chwaraeon, ac mae hefyd yn gwneud ymchwil ym meysydd arweinyddiaeth, dynameg grŵp a gwytnwch. Mae gwedd drawsfudol i'w hymchwil (theori i ymarfer) ar lefel elît a phroffesiynol.
Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil)
Prifysgol Bangor
Yr Athro Paul Spencer yw’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil).
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae gan Paul gyfrifoldeb strategol dros wella ansawdd ymchwil a pharatoi ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf, cynyddu incwm grantiau ymchwil a grantiau diwydiannol, cynnal ac adeiladu rhwydwaith ymchwil ddiwydiannol y Brifysgol, cynnal ac adeiladu rhwydweithiau partneriaethau ymchwil, portffolio arloesi’r Brifysgol, a Bargen Twf y Gogledd.
Derbyniodd Paul radd B.Sc. mewn Ffiseg Gymhwysol a gradd Ph.D. mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Caerfaddon yn 1990 a 1994. Bu'n gynorthwyydd ymchwil ar nifer o brosiectau ymchwil ag ariannwyd gan EPSRC ym Mhrifysgol Caerfaddon cyn symud i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn 1996. Daeth yn Uwch Ddarlithydd yn 2003 a Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2006. Yn 2007 fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig, swydd a ddaliodd am saith mlynedd. Yn 2009 fe’i penodwyd yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol ac yn 2017 fe’i penodwyd yn Ddeon Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg.
Prif ddiddordebau ymchwil Paul yw deinameg laser lled-ddargludyddion, effeithiau adborth optegol, lluosogi curiadau, a phriodweddau tonnau optegol dyfeisiau optoelectroneg. Mae wedi bod yn awdur ar fwy na 100 o bapurau cyfnodolion a 140 o bapurau cynhadledd ac mae’n adolygwr rheolaidd o gyfnodolion archifol. Yn 2000 enillodd wobr peirianneg orau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET) ac mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.
Yr Athro Enlli Thomas
Dirprwy Is-ganghellor (Yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a’r Rhanbarth) / Pennaeth y Coleg (y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol)
Prifysgol Bangor
Mae'r Athro Enlli Thomas yn flaenllaw ym maes ymchwil i'r Gymraeg, dwyieithrwydd ac addysg, ac ar hyn o bryd hi yw’r Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant a'r Rhanbarth a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.
Mae hi'n Athro Ymchwil Addysg, ac yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Umeå, Sweden. Ar hyn o bryd mae hi'n brif ymchwilydd ar brosiect ymchwil gwerth £761,000 a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n edrych ar weithredu'r prosiect Ein Llais Ni , sef prosiect gweithredu seiliedig ar ddylunio, fel rhaglen Dysgu Proffesiynol Cydweithredol i athrawon ledled Cymru.
Bu ganddi sawl swyddogaeth allweddol ym Mhrifysgol Bangor. Symudodd o’r Ysgol Seicoleg i’r Ysgol Addysg yn 2007, ac yn ddiweddarach daeth yn Bennaeth yr Ysgol (Addysg a Datblygiad Dynol) yn 2014-2018. Mae hi hefyd wedi dal swyddi fel Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Addysgu a Dysgu (Cyfrwng Cymraeg) a Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg cyn ymgymryd â'i swyddogaeth bresennol.
Y tu allan i'r brifysgol, mae hi ar hyn o bryd yn eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn Gadeirydd Bwrdd Academaidd y Coleg. Mae hi hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Cynghori Arbenigol i'r Gweinidog Addysg, ar ôl gwasanaethu hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth Y Gymraeg Llywodraeth Cymru – bwrdd cynghori arbenigol sy'n rhoi cyngor ac adborth i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
Enillodd wobr fawreddog Medal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2019 am ymchwil addysgol ragorol yng Nghymru, a daeth yn Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2023.
Mrs Tracy Hibbert
Prif Swyddog Pobl
Prifysgol Bangor
Tracy Hibbert yw'r Prif Swyddog Pobl, ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol am ddarparu cyngor, arweiniad ac arweinyddiaeth ar draws y brifysgol ar bob maes allweddol o fewn Adnoddau Dynol, gweithrediadau pobl, lles, datblygu sefydliadol, recriwtio a dal gafael ar staff, a darparu cyngor ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae Tracy yn aelod o Universities Human Resources (UHR) Cymru, sef y sefydliad proffesiynol i ymarferwyr Adnoddau Dynol yn y sector addysg uwch, ac mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd Gweithredol cenedlaethol UHR. Tracy hefyd yw Cadeirydd yr Universities Advertising Group (consortiwm o brifysgolion sy’n gweithio gyda’i gilydd i gaffael hysbysebion recriwtio cost effeithiol ar gyfer y sector) ac mae’n aelod o Grŵp Mewnwelediadau yr Educational Competencies Consortium (ECC) – sef fforwm anffurfiol sy'n helpu i lunio sut mae ECC yn meddwl am wobrwyo, gwerthuso rolau, a heriau'r gweithlu Addysg Uwch/Addysg Bellach.
Mae gan Tracy brofiad helaeth o weithio yn y sector addysg uwch, a chyn hynny, bu’n gweithio i’r Swyddfa Gartref. Mae Tracy yn Gymrawd o'r CIPD (sef y corff proffesiynol ar gyfer Adnoddau Dynol)
Mrs Gwenan Hine
Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol Bangor
Uwch Gymhorthydd Gweithredol i’r Dirprwy Is-Ganghellor ac Ysgrifennydd y Brifysgol / Swyddog Llywodraethu: Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk
Gwenan Hine yw Ysgrifennydd y Brifysgol ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar lywodraethiant y Brifysgol, gan gynnwys darparu cyngor, cefnogaeth a throsolwg strategol i’r Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol ac Is-bwyllgorau’r Cyngor (Y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, Y Pwyllgor Archwilio a Risg, Y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu, Pwyllgor Materion y Gymraeg a’r Pwyllgor Pobl a Diwylliant)
Yn ogystal, mae Gwenan yn goruchwylio'r Gyfarwyddiaeth Llywodraethu, Cyfreithiol a Dinesig, sy'n cynnwys yr Archifau a Chasgliadau’r Amgueddfa, Canolfan Bedwyr, y Swyddfa Weithredol, Llywodraethu a Risg, Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio a Chelfyddydau Pontio ac Ymgysylltu Cymunedol. Mae Gwenan yn goruchwylio proses Graddau er Anrhydedd y Brifysgol, a'r Pwyllgor Enwebu Anrhydeddau Cenedlaethol.