Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Iechyd Meddwl

Image of students outside halls

Ymdrin ag Argyfwng Iechyd Meddwl

Os bydd y myfyriwr YN derbyn cymorth, dyma’r opsiynau iddynt:

1. Gweld meddyg teulu (meddyg teulu’r myfyriwr ei hun neu Feddygfa Bodnant) am apwyntiad brys. Gellwch chi neu’r myfyriwr wneud yr apwyntiad fel sy’n briodol.

2. Gweld Cynghorwr Iechyd Meddwl (01248 382032) neu Gynghorwr Myfyrwyr (01248 388520).  Gellwch chi neu’r myfyriwr wneud yr apwyntiad fel sy’n briodol.

3. Cysylltwch â Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Arfon, 26 Ffordd y Coleg, Bangor (01248 370137).

4. Ewch i Adran Argyfyngau a Damweiniau Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor.

Os yw’r sefyllfa’n un BRYS, ac NA fydd y myfyriwr yn derbyn cymorth:

Yn ystod oriau swyddfa, cysylltwch ag un o’r canlynol:

1. Cynghorwyr Iechyd Meddwl: 01248 388649

2. Meddygfa Bodnant: 01248 364492

3. Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Arfon: 01248 370137

4. Y Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr: 01248 388520

5. Y Gwasanaeth Anabledd: 01248 382032

 

Y tu allan i oriau swyddfa arferol, cysylltwch â’r canlynol:

 

1. Gwasanaeth Meddygon Teulu Gogledd Cymru y Tu Allan i Oriau Arferol: 0300 123 5566

2. Swyddog ar Ddyletswydd y Gwasanaethau Cymdeithasol: 01286 675502

3. Adran Argyfyngau a Damweiniau Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor (01248   384384)

4. Llinell Gymorth C.A.L.L.: 0800 132 737

5. Galw Iechyd Cymru (NHS Direct): 0845 4647

 

Wardeniaid fyfyrwyr – cysylltwch â’ch uwch warden bob amser

Os bydd y sefyllfa’n gwaethygu, ac mae perygl difrifol o niwed naill ai i’r myfyriwr neu eraill:

Cysylltwch â: Swyddogion Diogelwch y Brifysgol (3475 neu 2795) neu’r gwasanaeth brys priodol (heddlu/ambiwlans).

Awgrymiadau defnyddiol:

  • Siaradwch yn araf ac yn ddigynnwrf.
  • Gwrandewch yn astud.
  • Cadwch bellter cyfforddus.
  • Cysylltwch â chydweithiwr cyn gynted ag sy’n bosibl .
  • Cadwch gofnod o’r prif faterion.
  • Siaradwch â’ch rheolwr llinell, uwch warden, neu diwtor personol, ac, os yw’n bosibl, Cynghorwr Iechyd Meddwl neu Gynghorwr Myfyrwyr, wedyn.