Diwrnod Cynefino Myfyrwyr Cartref

A fyddwch yn byw gartref yn ystod eich astudiaethau?

Os felly ac os ydych eisiau:

  • cwrdd â myfyrwyr newydd eraill
  • dysgu mwy am beth i’w ddisgwyl fel myfyriwr
  • cyfarfod â staff a myfyrwyr
  • cael taith o amgylch y brifysgol

Beth am ddod i’n diwrnod cynefino i fyfyrwyr cartref? Mae hon yn rhaglen cyn cyrraedd sy’n arbennig i fyfyrwyr israddedig newydd o ogledd Cymru fydd yn byw gartref yn ystod eu hastudiaethau ac yn teithio i’r brifysgol bob dydd.

Nod y diwrnod yw eich helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth i chi ddechrau ar eich astudiaethau. Mae’n rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol ar ffurf cyflwyniadau staff a myfyrwyr yn ogystal â gweithgareddau grŵp a digon o gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Dyddiad: Dydd Iau, 14 Medi
Amser: 10:00 - 14:00
Lleoliad: I'w Gadarnhau (ar campws Bangor) 

Cliciwch ar y botwm 'Cadwch Eich Lle Yma' isod i sicrhau eich lle. Byddwn yn cysylltu â chi yn nes at ddyddiad y digwyddiad gyda manylion yr union leoliad, ac agenda ar gyfer y diwrnod. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â studentsupport@bangor.ac.uk.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?