Mae dechrau cwrs newydd yn her gyffrous, ond mae unrhyw newid mawr hefyd yn ffynhonnell straen aruthrol. Mae addasu i amgylcheddau a phrofiadau anghyfarwydd (er cymaint yr edrychwn ymlaen atynt) yn rhoi pwysau arnom yn anochel, ac yn aml, mae’n frawychus, yn ddryslyd ac yn flinedig iawn!
Gall ffactorau fel newid corfforol neu amgylcheddol, straen maith, profiad trawmatig, neu hunanhyder isel achosi salwch meddwl. Gellir effeithio ar unigolion heb ddim hanes blaenorol o anawsterau iechyd meddwl os bydd eu hamgylchiadau’n newid. Efallai y bydd eraill, sydd wedi cael problemau iechyd meddwl blaenorol, yn cael ail bwl wrth gael eu rhoi mewn sefyllfaoedd newydd lle ceir dipyn o straen.
Amcangyfrifir y bydd un mewn pedwar oedolyn ym Mhrydain yn cael trafferthion iechyd meddwl rhyw bryd yn eu bywyd, a bydd un mewn hanner cant yn dioddef salwch meddwl difrifol. Gall gymryd amser hir i wella weithiau, ac efallai y bydd unigolion yn dueddol o gael cyfnodau o salwch meddwl drachefn, neu fod angen triniaeth tymor hir, ond gall pobl wella’n gyfan gwbl o’r rhan fwyaf o fathau o salwch meddwl, ac maen nhw yn gwella’n aml.
Ein polisi yw hyrwyddo trefn gadarnhaol i ddarparu’r adnoddau, yr amgylchedd a’r cyfleoedd dysgu sy’n briodol i rai ag anghenion ychwanegol o ganlyniad i fod â thrafferthion iechyd meddwl. Mae’r Brifysgol hefyd wedi ymrwymo i ehangu mynediad i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli mewn Addysg Uwch, a all gynnwys unigolion sydd ag anawsterau iechyd meddwl, neu sydd wedi cael hynny yn y gorffennol.
Pan fo rhywun yn teimlo dan straen neu’n ofidus, gall mynd at rywun i ofyn am gymorth fod yn ofnadwy o anodd yn aml.
Mae ffynonellau cymorth yn y Brifysgol yn cynnwys:
Cynghorwyr Iechyd Meddwl, y Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr (i gyd wedi’u lleoli yn Neuadd Rathbone), Wardeiniaid Neuaddau, Tiwtoriaid Personol, Caplaniaid y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, Nawdd Nos (Nightline) (a gynhelir gan fyfyrwyr), a Gwasanaeth Iechyd Myfyrwyr (yng Nghanolfan Feddygol Bodnant).
Y tu allan i’r Brifysgol, ceir:
Meddygon teulu, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Ysbyty Gwynedd, sefydliadau gwirfoddol (fel Llinell Gymorth CALL), a grwpiau hunan-gymorth.
Cysylltwch â’r Cynghorwyr Iechyd Meddwl am fwy o wybodaeth.