Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Swyddfa Tai Myfyrwyr

Delwedd yn dangos tai ym Mangor

Mae'r Swyddfa Tai Myfyrwyr yn delio â Llety wedi'u Rhentu'n Breifat i fyfyrwyr. Gellwch weld y wybodaeth hon yn y Swyddfa Tai Myfyrwyr ei hun, lle mae staff ar gael i roi cymorth a chyngor. Mae'r rhan fwyaf o'r eiddo, os nad y cwbl ohono, hefyd wedi'i hysbysebu yma ar ein gwefan, lle gellwch chwilio ein cronfa ddata am eich eiddo delfrydol i'w rentu. Gellwch hefyd lawrlwytho, neu gasglu o'r swyddfa, Arweinlyfr Myfyrwyr i Lety Preifat, y bwriedir iddo eich helpu pan fyddwch yn chwilio am eich ty cyntaf yn y sector preifat ar rent, gan nodi'r pethau i edrych amdanynt, ynghyd â'ch hawliau fel tenant.

Cewch hyd i'r Swyddfa Tai Myfyrwyr ar llawr gyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF.

Rydym ar agor bob dydd, Llun - Gwener, rhwng 10 a 4.

Ffôn: 01248 382034
E-bost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk