Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Newyddion a Digwyddiadau Tai

A ydych yn meddwl rhentu yn y sector preifat y flwyddyn nesaf?

Ni fydd y Swyddfa Tai Myfyrwyr yn dechrau hysbysebu llety ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf tan ddydd Llun 24 Ionawr 2011 er mwyn osgoi arholiadau’r myfyrwyr. Os hoffech fyw mewn tŷ neu fflat yn y flwyddyn academaidd nesaf, ewch i’r Swyddfa Tai Myfyrwyr ar ôl y dyddiad hwn am gyngor a chymorth i chwilio am rywle i fyw. 

 

Byddwch hefyd yn gallu gweld rhestr lety 2011/2012 ar ein gwefan:

www.bangor.ac.uk ewch i ADRANNAU GWASANAETH ac yna GWASANAETHAU CEFNOGI MYFYRWYR ac yna cliciwch ar SWYDDFA TAI MYFYRWYR a gallwch chwilio am lety yno. Rydym yn eich cynghori i BEIDIO ag arwyddo unrhyw gytundebau/contractau tenantiaeth nes i chi weld yr eiddo a gwneud yn siŵr ei fod yn addas ar eich cyfer.

 

Os byddwch angen cysylltu â ni, gallwch ffonio 01248 382034 neu anfon e-bost i taimyfyrwyr@bangor.ac.uk  Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y flwyddyn newydd!

 

 

Arolwg Diogelu Blaendal Tenantiaid

Faint rydych yn ei wybod am Ddiogelu Blaendal Tenantiaid?

O 6 Ebrill 2007, pan fydd landlord neu asiant gosod tŷ’n cymryd blaendal gan denant, rhaid diogelu’r blaendal mewn Cynllun Diogelu Blaendaliadau Tenantiaid dan awdurdod y Llywodraeth.  Mae’r rheol hwn yn berthnasol os yw’r denantiaeth yn denantiaeth fyr-ddaliadol sicr

Mae Dr Gary Jones o Brifysgol Winchester wedi gwneud ymchwil gyda landlordiaid yn ddiweddar ac erbyn hyn mae’n canolbwyntio ei ymchwil ar ganfyddiadau myfyrwyr o’r Cynllun Diogelu Blaendaliadau. Os hoffech gymryd rhan yn yr arolwg, cliciwch yma. Mae’r NUS hefyd yn hyrwyddo’r arolwg hwn ar eu gwefan a gallwch weld yr erthygl yma. Mae'r arolwg yn fyw tan y 3ydd o Ragfyr 2010.