Digwyddiadau
Gweithdai 'Edrych ar ôl dy Ffrind' Fel rhan o'n Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd dan Arweiniad Myfyrwyr, bydd y Brifysol yn darparu hyfforddiant ar gyfer gweithdai gofalu am eich ffrind i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol. Mae gennym ddeg aelod achrededig o staff y Brifysgol o gefndiroedd gwahanol a fydd yn cyflwyno’r hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn. Nod y gweithdy yw cefnogi a grymuso myfyrwyr sy'n cefnogi ffrindiau neu gyd-letywyr sy'n profi problemau iechyd meddwl. Ein nod yw cynghori myfyrwyr ar:
25 Ebrill 2024 2.00yp - 4.00yh
Lleoliad: Ystafell Cyfarfod 2, Llawr Gwaelod, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg. Os yr hoffech fwy o wybodaeth, cliciwch yma neu i neilltuo lle, cysylltwch gyda ni ar: wellbeingservices@bangor.ac.uk gyda'ch rhif cyfeirnod myfyriwr neu rhowch ganiad i ni ar: 01248 388520 |
|
Gweithdy Sgiliau Rheolaeth Emosiynol 15 Mai 2024 2.30yp-4.30yh Ystafell Cyfarfod 1, Neuadd Rathbone. Nod y gweithdy:
Manylion llawn ar gael yma. I neilltuo lle, cysylltwch â ni ar wellbeingservices@bangor.ac.uk gyda'ch rhif cyfeirnod myfyriwr, enw a rhif ffon cyswllt neu cysylltwch gyda ni dros y ffon i 01248 388520. |
08.04.2024:***Mae'r gweithdai Celf Myfyriol bellach wedi'u harchebu'n llawn. Cysylltwch â ni os hoffech i'ch enw gael ei ychwanegu at y rhestr wrth gefn a byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd gofod yn dod ar gael. Diolch.***
Gweithdai Celf Myfyriol Gweithdai celf myfyriol wythnosol i’w cynnal mewn awyrgylch croesawgar, cyfle i hunanfyfyrio a cefnogi’ch llesiant. Mae pob gweithdy awr a hanner yn cynnig gweithgaredd celf unigol. Gall cyfranogwyr fynychu pob un o'r chwe gweithdy yn y gyfres, neu archebu lle ar gyfer sesiynnau unigol sydd o ddiddordeb Gweler rhaglen yma Bydd deunyddiau celf ar gael ond os oes gennych rai deunyddiau personol yr ydych yn mwynhau eu defnyddio mae croeso cynnes i chi ddod â nhw gyda chi. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o wneud celf, croeso cynnes i bawb. Dyddiau Gwener, 9:30-11yb, Ystafell Gyfarfod 1, Neuadd Rathbone rhwng 19/4/24 a 24/5/24 Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â ni gan yrru e-bost at: wellbeingservices@bangor.ac.uk gan roi eich enw, cyfeiriad e-bost prifysgol a rhif adnabod myfyriwr |